Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 24/08/2024
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/06/2024.
Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, RHAN 6 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 14 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y maent o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lwyr i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â rhoi effaith lwyr i ddarpariaeth o’r fath.
(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 70 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(b)
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 47) yn arferadwy gan offeryn statudol, ac mae’n cynnwys pŵer i—
(a)gwneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi,
(b)addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon), ac
(c)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol ac ardaloedd gwahanol.
(2)Bydd offeryn statudol sy’n cynnwys—
(a)gorchymyn o dan adran 34(3)(e) neu 70(1),
(b)gorchymyn o dan adran 37(1) sy’n cynnwys darpariaeth i newid ardal prif gyngor neu sir wedi ei chadw F1..., neu
(c)rheoliadau o dan adran 41(1),
yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Er gwaethaf is-adran (2), ni fydd unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf hon sy’n cynnwys darpariaeth yn disodli, hepgor neu’n ychwanegu at unrhyw ran o destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei wneud hyd oni fydd drafft o’r gorchymyn wedi ei roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad ganddo.
(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 45 neu 75.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 71(2)(b) wedi eu hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(d), 175(1)(f)(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 71 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(c)
(1)Yn y Ddeddf hon, oni bai fod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol—
mae “addasu” mewn perthynas â deddfiad yn cynnwys diwygio neu ddiddymu,
[F2ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—
Aelod o’r Senedd;
aelod o Dŷ’r Cyffredin;
aelod o Dŷ’r Arglwyddi;
aelod o Senedd yr Alban;
aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;]
ystyr “ardal llywodraeth leol” yw cymuned neu brif ardal,
ystyr “awdurdod lleol” yw prif gyngor neu gyngor cymuned,
“cyfarfod cymunedol” yw cyfarfod o’r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer cymuned a gynullwyd o dan adran 27(1) o Ddeddf 1972,
[F2“ystyr “cynghorydd arbennig” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—
ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25), neu
ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70),
mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sydd mewn is-ddeddfwriaeth,
ystyr “Mesur 2011” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4),
[F2“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),]
ystyr “prif ardal” yw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,
ystyr “prif gyngor” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
(2)Mae Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) yn cael effaith.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 72(1) wedi eu mewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(3), 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 72 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(d)
(1)Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.
(2)Mae Atodlen 2 (sy’n cynnwys diddymiadau i deddfwriaeth) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 73 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
F3(1). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)Bydd unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 67 o Ddeddf 1972 (rheoliadau mewn cysylltiad â gweithredu argymhellion a chynigion o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno) sydd mewn grym ar ddyddiad cychwyn yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â gorchmynion o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon (gorchmynion sy’n gweithredu newidiadau yn dilyn adolygiadau) fel petai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
(4)Nid yw is-adran (3) yn cael effaith ond i’r graddau nad yw unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 41 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.
Diwygiadau Testunol
F3A. 74(1)(2) wedi ei hepgor (25.6.2024) yn rhinwedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 5(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 74 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—
(a)adran 1;
(b)adran 70;
(c)adran 71;
(d)adran 72 (ac Atodlen 3);
(e)yr adran hon;
(f)adran 76.
(2)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y mae’r Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 2;
(b)Rhan 3;
(c)Rhan 4;
(d)Adrannau 51 i 54, 59 i 62, 64 i 67, 73 (ac Atodlenni 1 a 2) ac adran 74.
(3)Mae gweddill y darpariaethau yn y Ddeddf hon yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan orchymyn a wneir gan offeryn statudol a wneir gan Weinidogion Cymru.
(4)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a
(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 75 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(e)
Teitl byr y Ddeddf hon yw [F4Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013].
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn a. 76 wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 11(3), 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 76 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(f)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: