- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn—
(a)i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon [F1(ni waeth a fyddai gan y Comisiwn y pŵer, neu y byddai’n ddarostyngedig i ddyletswydd, o dan yr amgylchiadau, i gynnal yr adolygiad ai peidio)] ,
[F2(aa)pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion i Weinidogion Cymru, i gynnal adolygiad pellach o dan y Rhan hon,
(ab)i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon,]
(b)i beidio â chynnal adolygiad o dan [F3y Rhan hon] yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,
F4(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(d)i gynnal yr adolygiadau sy’n ofynnol o dan adran 29(1) mewn trefn wahanol i’r hyn a gynigir gan y Comisiwn mewn unrhyw raglen gyfredol ar gyfer adolygiadau o drefniadau etholiadol a lunnir yn unol â’r adran honno,
(e)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.
(3)Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i brif gyngor sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(5)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—
(a)i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,
[F5(aa)i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,
(ab)i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,]
(b)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.
(6)Rhaid i brif gyngor gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4).
(7)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon ymwneud ag adolygiad penodol, math o adolygiad neu bob adolygiad.
(8)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad o brif ardal neu ei threfniadau etholiadol (neu adolygiadau o brif ardaloedd neu eu trefniadau etholiadol yn gyffredinol), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.
(9)Wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 48(2)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 164(2)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(b)
F2A. 48(2)(aa)(ab) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 164(2)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(b)
F3Geiriau yn a. 48(2)(b) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 164(2)(c), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(b)
F4A. 48(2)(c) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(c), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
F5A. 48(5)(aa)(ab) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 164(3)(c), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: