Search Legislation

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 28

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, Adran 28. Help about Changes to Legislation

28Gofyniad bod rhaid i reolwr safle fod yn berson addas a phriodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaiff perchennog tir achosi na chaniatáu i unrhyw ran o’r tir gael ei defnyddio fel safle rheoleiddiedig oni bai (yn ychwanegol at yr angen i’r perchennog ddal trwydded safle) bod yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal—

(a)wedi ei fodloni bod y perchennog yn berson addas a phriodol i reoli’r safle neu (os nad y perchennog sy’n rheoli’r safle) fod person a benodwyd i wneud hynny gan y perchennog yn berson addas a phriodol i wneud hynny, neu

(b)gyda chydsyniad y perchennog, wedi penodi person ei hun i reoli’r safle.

(2)Os bydd perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer y tir yn torri is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn yn dirymu’r drwydded safle.

(3)Mae person sy’n mynd yn groes i’r gofyniad a osodir gan is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

(5)Os collfernir y perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer tir am drosedd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r tir ac os yw’r person wedi ei gollfarnu o’r trosedd mewn perthynas â’r tir ar 2 neu ragor o achlysuron blaenorol, caiff y llys ynadon y collfernir y perchennog ger ei fron, ar gais gan yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal, wneud gorchymyn sy’n dirymu trwydded safle’r perchennog ar y diwrnod a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 28 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Back to top

Options/Help