Search Legislation

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 193

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 193 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 23 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

193Adennill costau rhwng awdurdodau lleolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i berson sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”), a

(b)pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu naill ai—

(i)i ddiwallu anghenion brys er mwyn diogelu llesiant y person, neu

(ii)gyda chydsyniad awdurdod B.

(2)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu neu drefnu’r gofal a’r cymorth.

(3)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan adran 76(1) i blentyn a oedd (yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn) yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F1neu awdurdod lleol yn Lloegr], caiff adennill oddi wrth yr awdurdod arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu llety o dan adran 77(1) neu (2)(a) neu (b) i blentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F2neu awdurdod lleol yn Lloegr] (“awdurdod B”) ac nad yw’n cynnal y plentyn mewn—

(a)cartref cymunedol a ddarparwyd gan awdurdod A,

(b)cartref cymunedol a reolir, neu

(c)ysbyty sydd wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu unrhyw ysbyty arall a roddwyd ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, [F3GIG Lloegr] neu [F4fwrdd gofal integredig] .

(5)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(6)Ac eithrio lle y bo [F5“is-adran (7) neu (8)] yn gymwys, pan fo awdurdod lleol yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) [F6, neu o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau),] mewn perthynas â pherson nad yw’n preswylio fel arfer yn ei ardal, caiff adennill unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo mewn cysylltiad â’r person hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol [F7neu awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(7)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) gan awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson ac awdurdod B yw’r awdurdod lleol cyfrifol o fewn ystyr adran 104 ar gyfer y person hwnnw, caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

[F8(8)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau) gan awdurdod lleol yn Lloegr (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson—

(a)ac awdurdod B yw ei awdurdod cyfrifol (o fewn ystyr Rhan 3 o’r Ddeddf honno) at ddibenion adran 23B neu 23C o’r Ddeddf honno, neu

(b)y mae awdurdod B yn ei gynghori neu’n ymgyfeillio ag ef neu y mae’n rhoi cynhorthwy iddo yn rhinwedd adran 24(5)(a) o’r Ddeddf honno,

caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 o’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â’r person hwnnw.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 193 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 193 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?