Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Adran 52
Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/04/2016.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 52 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 06 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
52Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwrLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth o dan adran 40, 42 neu 45.
(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i daliadau o’r fath gael eu gwneud neu ganiatáu iddynt gael eu gwneud oni chaiff amodau 1 i 4 eu cyflawni.
(3)Amod 1 yw bod y taliadau i’w gwneud i’r gofalwr y mae arno anghenion am gymorth (“C”).
(4)Amod 2 yw—
(a)pan fo C yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod gan C, neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod gan C, alluedd i gydsynio bod y taliadau yn cael eu gwneud;
(b)pan fo C yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan C ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.
(5)Amod 3 yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C, a
(b)bod gan C allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i C).
(6)Amod 4 yw bod C wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(7)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.
Back to top