Search Legislation

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 97

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 97 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 23 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

97Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau a chyswllt â phlant sy’n derbyn gofal a phlant eraillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(b)plentyn a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond nid yw bellach yn derbyn gofal gan yr awdurdod o ganlyniad i amgylchiadau a bennwyd mewn rheoliadau;

(c)plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(2)Rhaid i reoliadau sy’n pennu categori at ddiben is-adran (1)(c) hefyd bennu’r awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan neu o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn y categori penodedig.

(3)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod person sy’n cynrychioli’r awdurdod (“cynrychiolydd”) yn ymweld â phlentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(b)trefnu bod cyngor a chymorth arall priodol ar gael i blentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(4)O ran y dyletswyddau a osodwyd gan is-adran (3)—

(a)maent i’w cyflawni yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)maent yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad sy’n gymwys i’r man lle y mae’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei letya.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon at ddibenion is-adran (4)(a) wneud darpariaeth am—

(a)amlder yr ymweliadau;

(b)yr amgylchiadau pan fo’n rhaid i gynrychiolydd ymweld â’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(c)swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun bod gan y person a ddewiswyd y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 97 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?