Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 40

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2016

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/10/2015. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Adran 40. Help about Changes to Legislation

40Cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymunedLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i gyngor cymuned gymryd pob cam rhesymol yn ei ardal tuag at gyflawni’r amcanion lleol a gynhwysir yn y cynllun llesiant lleol sy’n cael effaith yn ei ardal.

(2)Ond nid yw cyngor cymuned yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ond os oedd, ar gyfer y tair blynedd ariannol flaenorol cyn i’r cynllun llesiant lleol ar gyfer ei ardal gael ei gyhoeddi, ei incwm gros neu ei wariant gros yn £200,000 o leiaf.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r meini prawf a bennir gan is-adran (2) ar gyfer dyfarnu a yw cyngor cymunedol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1); a chaiff y rheoliadau adlewyrchu’r ddarpariaeth a wneir am gynghorau cymunedol mewn rheoliadau o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23).

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)y cynghorau cymuned a fyddai’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) pe bai’r rheoliadau yn cael eu gwneud;

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(5)Rhaid i gyngor cymuned gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yr oedd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), adroddiad ar y cynnydd y mae wedi ei wneud yn ei ardal o ran cyflawni’r amcanion lleol sydd yn y cynllun llesiant lleol sydd mewn grym yn ei ardal.

(6)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (5) gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cynghorau cymuned sy‘n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ynghylch arfer y ddyletswydd.

(8)Wrth arfer y ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i gyngor cymuned ystyried canllawiau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)

I2A. 40(7) mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(k)

I3A. 40(8) mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(l)

Back to top

Options/Help