Rhan 2: Sefydlu a Phrif Nodau Cymwysterau Cymru
Adran 2: Sefydlu Cymwysterau Cymru
11.Mae’r adran hon yn sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff corfforaethol. Mae’n cyflwyno Atodlen 1 sy’n darparu manylion pellach am ei sefydlu ac Atodlen 2 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru drosglwyddo staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o Weinidogion Cymru i Gymwysterau Cymru.
Adran 3: Prif nodau Cymwysterau Cymru
12.Mae’r adran hon yn nodi prif nodau Cymwysterau Cymru: bydd y rhain yn sail i’r holl waith y bydd Cymwysterau Cymru yn ei wneud - a bydd angen i Gymwysterau Cymru sicrhau bob amser fod ei gamau yn gydnaws â’r nodau hyn. Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru, wrth arfer unrhyw swyddogaeth, weithredu mewn ffordd y mae’n ystyried ei bod yn briodol at ddiben cyflawni’r prif nodau.
13.Mae’r prif nod cyntaf yn rhoi’r cyfrifoldeb i Gymwysterau Cymru am sicrhau effeithiolrwydd cymwysterau i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru. Mae ystyr cymhwyster wedi ei ddiffinio yn adran 56. Er bod y prif nod hwn yn eang ei gwmpas, mae Rhan 4 o’r Ddeddf (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau) yn darparu ar gyfer rhoi blaenoriaeth i rai cymwysterau, fel y caiff Cymwysterau Cymru ganolbwyntio ar gymeradwyo cymwysterau. Bydd Cymwysterau Cymru yn gallu dynodi ffurfiau eraill ar gymwysterau o dan Ran 5 fel rhai sy’n gymwys i gael eu cyllido ar raglenni dysgu penodol a rheoleiddio’r broses o ddyfarnu’r cymwysterau hynny a chymwysterau eraill yng Nghymru gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig drwy amodau cydnabod o dan Ran 3 (gweler adran 36). Mae’r prif nod hwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru gymryd cyfrifoldeb am effeithiolrwydd y system gymwysterau yng Nghymru (sef, y system gyfan y dyfernir cymwysterau drwyddi i bersonau a asesir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ar gyfer y cymwysterau hynny, fel y’u diffinnir yn adran 3(3)). Y ‘system’ yw’r seilwaith sy’n sail i’r gwaith o gyflenwi cymwysterau ac sy’n galluogi i hynny gael ei wneud – mae’n cynnwys y ffordd y mae cymwysterau yn cael eu datblygu, eu cyflenwi a’u dyfarnu ynghyd â beth sy’n cael ei ddatblygu, ei gyflenwi a’i ddyfarnu.
14.Mae’r ail brif nod yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hybu hyder y cyhoedd yn y cymwysterau a’r system ategol. Er mwyn i’r cymwysterau a’r system fod yn wirioneddol effeithiol, gyda’i gilydd rhaid iddynt ysbrydoli hyder y cyhoedd. Gallai asesiad o hyder y cyhoedd gynnwys, er enghraifft, lefel hyder cyflogwyr, darparwyr dysgu, dysgwyr, rhieni a gofalwyr yng ngwerth cymharol y cymwysterau a ddilynir yng Nghymru o’u cymharu â’r rheini a ddilynir, er enghraifft, yn Lloegr.
15.Mae is-adran 2 yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r materion y mae rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw iddynt wrth benderfynu ar yr hyn sy’n briodol at ddiben cyflawni ei brif nodau. Er bod y rhan fwyaf o’r materion hyn yn hunanesboniadol, caiff nodiadau ychwanegol eu darparu yma i roi cyd-destun a/neu enghreifftiau i egluro rhai o’r termau:
Mae gweithlu medrus yn ffactor pwysig yn nhwf economi Cymru – ac mae cymwysterau yn ddangosydd o sgiliau darpar weithwyr newydd ac yn ffon fesur ar gyfer datblygu sgiliau’r gweithlu presennol (paragraff (a)).
Bydd angen i Gymwysterau Cymru ystyried yn benodol y ddarpariaeth o asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ac, er enghraifft, y ddarpariaeth o gymwysterau sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu neu ddefnyddio’r Gymraeg (paragraff (b)).
Mae ‘trefniadau asesu’ wedi ei ddiffinio yn adran 57(3) a’i ystyr yw “trefniadau ar gyfer asesu’r sgiliau perthnasol, yr wybodaeth berthnasol a’r ddealltwriaeth berthnasol mewn perthynas â’r cymhwyster”. Gall ystyriaethau gynnwys natur yr asesiad a gyflawnir gan ddysgwyr (er enghraifft, ystyried ansawdd papur arholiad) ynghyd ag, er enghraifft, y trefniadau diogelwch mewn perthynas â storio cofnodion asesu (paragraff (c)).
Gallai gofynion rhesymol cyflogwyr gael eu hystyried, er enghraifft, mewn perthynas â’r angen i roi i ddysgwyr yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n berthnasol i gyflogaeth gyffredinol a phenodol. Gall fod angen i sefydliadau addysg uwch fod wedi eu bodloni, er enghraifft, fod y cymwysterau a ddyfernir i ddysgwyr yng Nghymru yn gwahaniaethu’n ddigonol rhwng lefelau gwahanol o allu ac yn eu paratoi’n ddigonol ar gyfer astudiaeth bellach. Nid yw’r ‘proffesiynau’ wedi eu cyfyngu i unrhyw restr gyfyngedig o broffesiynau ond gellir cymryd eu bod yn cynnwys, er enghraifft, safbwyntiau cynrychiolwyr ac arbenigwyr proffesiynol perthnasol (paragraff (d)).
Rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i gynnwys cymwysterau, yn benodol y graddau y maent yn gyfredol ac yn adlewyrchu arferion gorau, er enghraifft, wrth gyflawni tasgau (paragraff (e)).
Gall ‘lefel o gyrhaeddiad sy’n gyson’, er enghraifft, ymwneud â chysondeb dros amser, rhwng cenhedloedd gwahanol (gan gynnwys y rheini yn Ewrop), rhwng pynciau neu rhwng cymwysterau a ddilynir gan grŵp oedran penodol. Yn y cyd-destun hwn, gallai cyrhaeddiad gyfeirio, er enghraifft, at y graddau y mae dysgwyr wedi caffael (neu y mae’n ofynnol iddynt gaffael) y lefel ofynnol o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy’n ymwneud â’r cymhwyster (paragraff (f)).
Nid yw ystyried a yw cymwysterau yn cael eu cyflenwi yn ‘effeithlon’ wedi ei gyfyngu i ystyriaethau ariannol neu economaidd yn unig ond caiff gynnwys, er enghraifft, ystyriaeth o effaith nifer ac ansawdd y rhyngweithiadau rhwng cyrff ac unigolion gwahanol ar effeithiolrwydd a hyder y cyhoedd (paragraff (g)).
Wrth ystyried effeithiolrwydd y system, bydd angen i Gymwysterau Cymru ystyried rolau a chyfrifoldebau’r gwahanol gyrff yn y system honno, gan gynnwys, er enghraifft, ei rôl ei hun yn y system (paragraff (h)).