Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/11/2023.
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ATODLEN 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 21 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(a gyflwynir gan adrannau 11 a 12)
1Contract meddiannaeth na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
2Contract meddiannaeth sy’n ymwneud â llety â chymorth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
3(1)Contract meddiannaeth o fewn y paragraff hwn nad yw’n ymwneud â llety â chymorth.
(2)Mae contract meddiannaeth o fewn y paragraff hwn oni bai, yn union cyn y dyddiad perthnasol—
(a)bod deiliad contract oddi tano yn ddeiliad contract o dan gontract diogel, a
(b)bod y landlord o dan y contract diogel yn landlord cymunedol.
(3)Y dyddiad perthnasol—
(a)mewn perthynas â chontract a wneir â landlord cymunedol, yw’r dyddiad meddiannu, a
(b)mewn perthynas â chontract y daw landlord cymunedol yn landlord oddi tano, yw’r diwrnod y daw’n landlord.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I6Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
F14. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 3 para. 4 a croes bennawd wedi ei hepgor (1.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/803), rhlau. 1(1), 3 (fel y'i diwygwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 15)
F2 5. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 3 para. 5 wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 9(1)
6Contract meddiannaeth a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I8Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
7(1)Contract meddiannaeth—
(a)pan fo deiliad y contract wedi ei gyflogi gan gyflogwr perthnasol, a
(b)y mae’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
(2)Ystyr “cyflogwr perthnasol” yw—
(a)awdurdod lleol;
(b)corfforaeth dref newydd;
(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai;
(d)corfforaeth datblygu trefol;
(e)landlord cymdeithasol cofrestredig (ac eithrio cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol);
(f)darparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat;
(g)rheolwr sy’n cyflawni swyddogaethau rheoli awdurdod tai lleol o dan gytundeb rheoli;
(h)corff llywodraethu unrhyw un o’r ysgolion a ganlyn (gweler Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31))—
(i)ysgol wirfoddol a gynorthwyir,
(ii)ysgol sefydledig, neu
(iii)ysgol arbennig sefydledig.
(3)Ystyr “cytundeb rheoli” yw cytundeb o dan adran 27 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) ac ystyr “rheolwr” yw person y gwneir y cytundeb ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I10Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
8Contract meddiannaeth—
(a)pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I12Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
9Contract meddiannaeth—
(a)pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
(b)pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
(c)pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I14Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
10(1)Contract meddiannaeth pan fo’r hawl i feddiannu yn cael ei rhoi at ddiben galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs dynodedig mewn sefydliad addysgol [F3yn unig].
(2)Ystyr “cwrs dynodedig” yw cwrs o unrhyw fath a ragnodir at ddibenion y paragraff hwn.
(3)Ystyr “sefydliad addysgol” yw sefydliad neu brifysgol sy’n darparu addysg bellach neu addysg uwch (neu’r ddau); ac mae i “addysg bellach” ac “addysg uwch” yr un ystyron â “further education” a “higher education” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56) (gweler adrannau 2 a 579 o’r Ddeddf honno).
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 3 para. 10(1) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 10
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I16Atod. 3 para. 10(1)(3) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I17Atod. 3 para. 10(2) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
I18Atod. 3 para. 10(2) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2
11(1)Contract meddiannaeth—
(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I20Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
12Contract meddiannaeth—
(a)pan nad oedd deiliad y contract yn byw yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r annedd ynddi yn union cyn gwneud y contract,
(b)pan fo deiliad y contract wedi cael gwaith neu wedi cael cynnig gwaith yn yr ardal honno neu mewn ardal awdurdod tai lleol gyfagos cyn gwneud y contract, ac
(c)pan fo’r hawl i feddiannu wedi ei rhoi at ddiben diwallu angen deiliad y contract am lety dros dro yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r annedd ynddi neu yn ardal awdurdod tai lleol gyfagos er mwyn gweithio yno, a’i alluogi i ganfod llety parhaol yno.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I22Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
13Contract meddiannaeth—
(a)pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
(b)pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
(c)nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
(d)nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I24Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
14(1)Contract meddiannaeth—
(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I26Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
15(1)Contract meddiannaeth—
(a)pan nad oedd y rheolau dyrannu yn gymwys i wneud y contract, neu
(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract oherwydd ei fod yn weithiwr allweddol.
(2)Y rheolau dyrannu yw rheolau’r landlord ar gyfer pennu blaenoriaeth rhwng ymgeiswyr wrth ddyrannu llety tai, ac maent yn cynnwys unrhyw reol neu arfer sy’n golygu bod y landlord yn darparu llety i bersonau a enwebir gan awdurdod tai lleol.
(3)Penderfynir a yw deiliad contract yn “weithiwr allweddol” yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(4)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n nodi gweithwyr allweddol drwy gyfeirio at natur eu cyflogaeth, at bwy yw eu cyflogwr, ac at swm eu henillion.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I28Atod. 3 para. 15(1)(2) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I29Atod. 3 para. 15(3)(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
I30Atod. 3 para. 15(3)(4) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2
16Contract meddiannaeth—
(a)pan fo’r landlord cymunedol yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat,
(b)pan fo’r landlord wedi caffael neu adeiladu neu wedi datblygu’r annedd mewn ffordd arall gyda’r bwriad o’i throsglwyddo i gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, ac
(c)pan wneir y contract meddiannaeth ymlaen llaw gan ragweld trosglwyddo’r annedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I32Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
17Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I34Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
I35Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: