Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

142Trosglwyddo ar farwolaeth cyd-ddeiliad contractLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caniateir, ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract, trosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract wrth weinyddu ei ystad.

(2)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir gwneud trosglwyddiad oni bai bod cyd-ddeiliad y contract yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill, cyn ei farwolaeth, y gwneir trosglwyddiad o’r fath.

(3)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 142 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2