Valid from 03/04/2017
Y gofrestrLL+C
80Y gofrestrLL+C
(1)Rhaid i GCC gadw cofrestr—
(a)o weithwyr cymdeithasol,
(b)o weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau,F1...
(c)o weithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol (gweler adran 90) [ , a ]
[(d)o reolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol (gweler adran 90A).]
(2)Rhaid cadw rhan ar wahân o’r gofrestr—
(a)ar gyfer gweithwyr cymdeithasol;
(b)ar gyfer pob disgrifiad o weithiwr gofal cymdeithasol a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b);
(c)ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol.
[(d)ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol.]
(3)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—
(a)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw’r “rhan gweithwyr cymdeithasol” o’r gofrestr;
(b)mae rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(b) yn “rhan ychwanegol” o’r gofrestr;
(c)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(c) yw’r “rhan [gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad]” o’r gofrestr.
[(d)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(d) yw'r “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad.]
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 80(1)(b) wedi ei hepgor (3.4.2017) yn rhinwedd The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 127(2)(a) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 80 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
81Dyletswydd i benodi cofrestryddLL+C
(1)Rhaid i GCC benodi cofrestrydd.
(2)Mae person a benodir yn gofrestrydd yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau sy’n briodol ym marn GCC; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch y lefelau tâl, pensiynau, lwfansau a threuliau sy’n daladwy i berson o’r fath neu mewn cysylltiad ag ef.
(3)Gweler paragraff 13 o Atodlen 2 am ddarpariaeth bellach ynghylch staff GCC.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)