Search Legislation

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Darpariaeth atodol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Darpariaeth atodol. Help about Changes to Legislation

Darpariaeth atodolLL+C

172Rhestr o bersonau sydd wedi eu gwaharddLL+C

(1)Rhaid i GCC sefydlu a chynnal rhestr o bersonau y mae gorchymyn gwahardd neu orchymyn gwahardd interim yn cael effaith mewn cysylltiad â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y rhestr;

(b)pa un a yw’r rhestr, neu wybodaeth benodedig o’r rhestr, i’w chyhoeddi ai peidio;

(c)rhoi’r rhestr ar gael—

(i)i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu

(ii)er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 172 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

173Safonau ymddygiadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i GCC benderfynu ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth berson sy’n cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.

(2)O ran GCC—

(a)rhaid iddo gadw’r safonau o dan adolygiad, a

(b)caiff newid neu ddisodli’r safonau.

(3)Rhaid i GCC gyhoeddi—

(a)y safonau, a

(b)os caiff y safonau eu newid neu eu disodli, y safonau sydd wedi eu newid neu’r safonau newydd.

(4)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn wrth benderfynu ar y safonau.

(5)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (4), yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch y meini prawf y penderfynir ar y safonau drwy gyfeirio atynt;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cadw’r safonau o dan adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 173 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?