Adran 7 – Y drosedd o roi gwybodaeth anwir ar gais
47.Mae paragraff 2(1) o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979 (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig oni bai bod tystysgrif benodedig yn dod gyda’r cais. Mae paragraff 2(2) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch ffurf tystysgrifau o’r fath a’r manylion pellach y mae rhaid eu cynnwys arnynt. Mae paragraff 2(4) yn ei gwneud yn drosedd i ddyroddi tystysgrif sy’n honni cydymffurfio â gofynion paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 1, ond sy’n cynnwys datganiad anwir neu gamarweiniol o ran manylyn arwyddocaol.
48.Mae adran 7 yn diwygio paragraff 2(4) er mwyn ei gwneud yn drosedd, yn ogystal, i ddyroddi tystysgrif sy’n honni cydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 1, ond sy’n cynnwys datganiad anwir neu gamarweiniol o ran manylyn arwyddocaol.