Trosolwg
2Trosolwg o’r Rhan hon
(1)Mae’r Rhan hon yn ymwneud yn bennaf â gwarchod henebion hynafol yng Nghymru. Mae’n gwneud darpariaeth—
(a)i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn gwneud newidiadau penodol i’r Gofrestr o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p.46) (“Deddf 1979”) neu ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â henebion yn y Gofrestr (adran 3);
(b)i roi gwarchodaeth statudol i heneb wrth i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gynnwys yr heneb yn y Gofrestr neu, yn achos heneb sydd eisoes wedi ei chynnwys yn y Gofrestr, i wneud diwygiadau penodol sy’n ymwneud â hi (adran 3);
(c)i Weinidogion Cymru adolygu eu penderfyniad i gynnwys heneb yn y Gofrestr neu i wneud diwygiadau penodol sy’n ymwneud â heneb yn y Gofrestr (adran 3);
(d)i ddiwygio’r weithdrefn sy’n ymwneud â chydsyniad heneb gofrestredig a’r ddarpariaeth ar gyfer digollediad am wrthod cydsyniad o’r fath (adrannau 5 i 10);
(e)i Weinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb â pherchennog heneb sydd wedi ei chynnwys yn y Gofrestr ynghylch materion megis cydsyniad i waith gael ei wneud i’r heneb (adran 11);
(f)i Weinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop dros dro, neu wneud cais i lys am waharddeb, mewn achos sy’n ymwneud â gwaith penodol i heneb sydd wedi ei chynnwys yn y Gofrestr (adrannau 12 i 14);
(g)i addasu cymhwysiad troseddau penodol, gan gynnwys drwy greu amddiffyniad diwydrwydd dyladwy (adrannau 15 i 17);
(h)ynghylch y pŵer i gael mynediad i dir y credir bod heneb hynafol arno (adran 19);
(i)ynghylch yr amgylchiadau pan fo heneb yn y môr tiriogaethol i’w thrin fel pe bai yng Nghymru (adran 20);
(j)i alluogi cyflwyno drwy gyfathrebiadau electronig hysbysiadau a dogfennau eraill y mae’n ofynnol iddynt gael eu cyflwyno o dan Ddeddf 1979 neu yr awdurdodir iddynt gael eu cyflwyno o dan y Ddeddf honno (adran 21);
(k)i ddiwygio’r diffiniad o “monument” yn Neddf 1979 (adran 22).
(2)Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol (adran 18).