Rhagolygol
PENNOD 4LL+CRHOI TYBACO ETC. I BERSONAU O DAN 18 OED
52Y drosedd o roi tybaco etc. i bersonau o dan 18 oedLL+C
(1)Mae person (“A”) yn cyflawni trosedd—
(a)os yw A, mewn cysylltiad â threfniadau o dan adran 53, yn rhoi yng Nghymru dybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed (“B”),
(b)os nad yw’r rhoi yn digwydd naill ai—
(i)yng nghwrs crefft, proffesiwn, busnes neu gyflogaeth B, neu
(ii)yng ngŵydd person arall sy’n 18 oed neu’n hŷn,
(c)os yw A, ar adeg y rhoi, yn gwybod bod tybaco neu bapurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin (pa un bynnag sy’n gymwys) yn cael eu rhoi, ac
(d)pan roddir y tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin, os nad ydynt mewn pecyn—
(i)sydd wedi ei selio, a
(ii)sydd â chyfeiriad arno, at ddiben ei ddanfon i’r cyfeiriad hwnnw yn unol â threfniadau o fewn adran 53.
(2)Ystyr “pecyn” yn is-adran (1)(d) yw pecyn yn ychwanegol at y pecyn gwreiddiol y mae’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin wedi eu cyflenwi ynddo at ddiben eu gwerthu drwy fanwerthu gan eu gwneuthurwr neu eu mewnforiwr.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(4)Pan fo person (“y cyhuddedig”) wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd ymddygiad y cyhuddedig ei hun (ac eithrio yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr)) mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig ddangos—
(a)bod y cyhuddedig yn credu, pan ddigwyddodd y rhoi, fod y person y rhoddwyd y tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin iddo, neu berson arall a oedd yn bresennol ar adeg y rhoi, yn 18 oed neu’n hŷn, a
(b)naill ai—
(i)bod y cyhuddedig wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person hwnnw, neu
(ii)na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person hwnnw fod y person o dan 18 oed.
(5)At ddibenion is-adran (4)(b), mae’r cyhuddedig i gael ei drin fel pe bai wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran person—
(a)os gofynnodd y cyhuddedig i’r person hwnnw am dystiolaeth o oedran y person hwnnw, a
(b)pe bai’r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.
(6)Pan fo person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr), mae’n amddiffyniad dangos i’r person gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “cyflogaeth” yw unrhyw gyflogaeth, pa un ai â thâl neu’n ddi-dâl, ac mae’n cynnwys—
(a)gwaith o dan gontract am wasanaethau neu fel deiliad swydd, a
(b)profiad gwaith a ddarperir yn unol â chwrs neu raglen hyfforddi neu yng nghwrs hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth.
53Trefniadau mewn cysylltiad â rhoi tybaco etc.LL+C
(1)Mae trefniadau o fewn yr adran hon os ydynt, mewn perthynas â rhoi tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin—
(a)yn drefniadau i’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin gael eu danfon i fangre yng Nghymru, a
(b)wedi eu gwneud mewn cysylltiad â gwerthu’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin o dan sylw.
(2)Mae trefniadau hefyd o fewn yr adran hon os ydynt, mewn perthynas â rhoi tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin—
(a)yn drefniadau i’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin gael eu casglu o fangre yng Nghymru, a
(b)wedi eu gwneud mewn cysylltiad â gwerthu’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin o dan sylw.
(3)Ond nid yw is-adran (2) ond yn gymwys pan fo’r gwerthiant o dan sylw yn cael ei gyflawni dros y ffôn, dros y rhyngrwyd neu drwy unrhyw fath arall o dechnoleg electronig neu dechnoleg arall.
54GorfodiLL+C
Yn adran 5 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991 (p.23) (camau gorfodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr), yn is-adran (1)(a), ar ôl “persons under 18)” mewnosoder “, and in the case of a local authority in Wales, section 52 of the Public Health (Wales) Act 2017 (offence of handing over tobacco etc. to persons under 18)”.
55Dehongli’r Bennod honLL+C
Yn y Bennod hon—
ystyr “cynnyrch nicotin” (“nicotine product”) yw cynnyrch nicotin y gwaherddir ei werthu am y tro mewn cysylltiad â’r person y’i rhoddir iddo drwy reoliadau o dan adran 92 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p.6) (gwahardd gwerthu cynhyrchion i bersonau o dan 18 oed);
mae “tybaco” (“tobacco”) yn cynnwys sigaréts, unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys tybaco ac y bwriedir ei ddefnyddio drwy’r geg neu’r trwyn, a chymysgeddau ysmygu y bwriedir eu defnyddio yn lle tybaco; ac mae “sigarét” (“cigarette”) yn cynnwys tybaco sydd wedi ei dorri ac sydd wedi ei rolio mewn papur, deilen dybaco, neu ddeunydd arall ar ffurf fel bod modd ei ddefnyddio ar unwaith i’w ysmygu.