Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Troseddau sy’n gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

 Help about opening options

No versions valid at: 03/07/2017

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/07/2017. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) croes bennawd yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Close

Statws

 Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Croes Bennawd: Troseddau sy’n gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 11 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Valid from 01/02/2018

Troseddau sy’n gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corffLL+C

95Y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentynLL+C

(1)Mae’n drosedd i berson yng Nghymru—

(a)rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person sydd o dan 18 oed, neu

(b)gwneud trefniadau i roi, yng Nghymru, dwll mewn rhan bersonol o gorff person penodol sydd o dan 18 oed.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(3)Pan fo person (“y cyhuddedig”) wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd ymddygiad y cyhuddedig ei hun (ac eithrio yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr)) mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig ddangos—

(a)bod y cyhuddedig yn credu bod y person y rhoddwyd y twll y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) iddo, neu y gwnaed y trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) mewn cysylltiad ag ef, yn 18 oed neu’n hŷn, a

(b)naill ai—

(i)bod y cyhuddedig wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person hwnnw, neu

(ii)na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person hwnnw fod y person o dan 18 oed.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b)(i), mae’r cyhuddedig (yn achos trosedd o dan is-adran (1)(a)) i gael ei drin fel pe bai wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran person arall—

(a)os gofynnodd y cyhuddedig i’r person hwnnw am dystiolaeth o oedran y person hwnnw, a

(b)pe bai’r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.

(5)Pan fo person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr), mae’n amddiffyniad dangos i’r person gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

96Beth yw rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff?LL+C

(1)At ddibenion adran 95, rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yw tyllu’r corff mewn rhan bersonol a restrir yn is-adran (2), pan fo’n cael ei roi ac eithrio yng nghwrs triniaeth feddygol.

(2)Y rhannau personol o’r corff yw—

(a)yr anws;

(b)y fron (gan gynnwys y deth a’r areola);

(c)y ffolen;

(d)rhych y pen ôl;

(e)y pidyn (gan gynnwys y blaengroen);

(f)y perinëwm;

(g)y mons pubis;

(h)y ceillgwd;

(i)y tafod;

(j)y fwlfa.

(3)Yn yr adran hon, mae i “tyllu’r corff” yr ystyr a roddir yn adran 94.

(4)At ddibenion yr adran hon, mae triniaeth feddygol yn driniaeth a gyflawnir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, nyrs gofrestredig neu fydwraig gofrestredig, at ddibenion y canlynol, neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)diagnosio, atal, monitro, trin neu liniaru clefyd, afiechyd, anabledd, neu annormaledd corfforol neu feddyliol arall, neu

(b)atal cenhedlu.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources