51Talu trethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad codi treth iddo dalu’r swm o dreth a godir gan yr hysbysiad.
(2)Rhaid talu’r dreth cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(3)Os dyroddir hysbysiadau codi treth i fwy nag person mewn cysylltiad â’r un gwarediad trethadwy, mae’r holl bersonau hynny’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y swm o dreth a godir ar y gwarediad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3