52Pŵer i wneud darpariaeth bellachLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—
(a)y gweithdrefnau ar gyfer dyroddi hysbysiadau rhagarweiniol a hysbysiadau codi treth;
(b)talu swm o dreth a godir gan hysbysiad codi treth;
(c)unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chodi swm o dreth neu dalu swm o dreth o dan y Bennod hon, neu’n deillio o hynny.
(2)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 52 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3