Rhan 3 – Tribiwnlys Addysg Cymru
Adran 91 - Cyfansoddiad Tribiwnlys Addysg Cymru
190.Mae adran 91 yn darparu i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru gael ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru (‘y Tribiwnlys’). Mae’r adran hon yn nodi sut y mae’n cael ei gyfansoddi, gan gynnwys bod rhaid iddo gael Llywydd, ‘panel cadeirydd cyfreithiol’ a ‘panel lleyg’, ac mae’n darparu ar gyfer eu priod benodiadau. Mae’r adran hon hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ymwneud â’r Tribiwnlys.
Adran 92 - Y Llywydd ac aelodau’r paneli
191.Mae adran 92 yn nodi’r telerau a’r gofynion y caniateir i berson gael ei benodi, ei ailbenodi neu ei ddiswyddo odanynt fel Llywydd, aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu aelod lleyg o’r Tribiwnlys. Mae’r adran hon hefyd yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gofynion ar gyfer penodi aelodau’r panel lleyg.
Adran 93 – Dirprwy Lywydd y Tribiwnlys
192.Mae adran 93 yn darparu i Lywydd y Tribiwnlys benodi Dirprwy Lywydd o blith aelodau’r panel cadeirydd cyfreithiol. Caiff y Dirprwy Lywydd arfer swyddogaethau’r Llywydd o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (5).
Adran 94 - Tâl a threuliau
193.Mae adran 94 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu am wasanaethau’r Llywydd, aelodau’r panel cadeirydd cyfreithiol ac aelodau’r panel lleyg, a threuliau’r Tribiwnlys.