Rhan 2 – Anghenion Dysgu Ychwanegol
Pennod 1 – Termau Allweddol, y Cod a Chyfranogiad.
Termau allweddol
Adran 2 - Anghenion dysgu ychwanegol
12.Mae adran 2 yn diffinio’r term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ (‘ADY’) at ddibenion y Ddeddf. Mae’r diffiniad hwn yn debyg iawn i’r diffiniad o ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) o dan DDeddf 1996 ond nid yw’n gyfyngedig i blant a disgyblion cofrestredig ysgol sydd o dan 19 oed, fel yn achos y diffiniad o AAA. Mae gan berson ADY os oes ganddo “anhawster dysgu neu anabledd” (gweler is-adrannau (2) – (3) i gael ystyr hyn) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (gweler adran 3 i gael y diffiniad ohoni).
13.Mae is-adran (1) yn egluro bod anhawster dysgu neu anabledd yn gallu deillio o gyflwr meddygol, ond nid oes rhaid iddo fod wedi deillio o gyflwr meddygol. Hefyd, nid ystyrir bod gan berson ADY oherwydd bod iaith y cartref yn wahanol i’r iaith y mae’n cael ei addysgu ynddi (is-adran (4)).
Adran 3 - Darpariaeth ddysgu ychwanegol
14.Mae adran 3 yn diffinio ystyr ‘darpariaeth ddysgu ychwanegol’ sydd ynddi’i hun yn rhan o’r diffiniad o ADY yn adran 2. Mae’r diffiniad hwn yn debyg iawn i’r diffiniad o ‘darpariaeth addysgol arbennig’ a geir yn Neddf 1996 ond yn benodol mae’n ehangu’r diffiniad drwy gyfeirio at sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru (sefydliadau addysg bellach prif ffrwd) am ei fod, yn wahanol i’r diffiniad o AAA, yn gymwys mewn perthynas â phobl ifanc sy’n fyfyrwyr mewn sefydliadau o’r fath. Mae sefydliadau addysg bellach prif ffrwd wedi eu diffinio yn adran 99.
15.Mae’r diffiniad o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd wedi ei gynnwys yn y Ddeddf wedi ei wneud drwy gyfeirio at oedran plentyn, gyda diffiniad ychydig yn wahanol yn gweithredu mewn perthynas â phlant o dan dair oed (o gymharu â phlant o dan ddwy oed yn Neddf 1996). Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith nad yw’r wladwriaeth yn gwneud darpariaeth addysgol ffurfiol ar gyfer plant o dan dair oed. Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru newid y cyfeiriadau at dair oed i gyfeiriadau at oedran gwahanol.
Cod ymarfer
Adran 4 - Cod anghenion dysgu ychwanegol
16.Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi a chyhoeddi cod (‘y Cod’) ar ADY ar eu gwefan. Gall hyn gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Ddeddf, ac ynghylch materion eraill sy’n ymwneud ag ADY a rhaid iddo gynnwys canllawiau ar ddyletswydd corff llywodraethu i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgybl neu fyfyriwr tra bo CDU yn cael ei lunio ar gyfer y person hwnnw (gweler adran 47(3)). Rhaid i’r personau a restrir yn adran 4(3) roi sylw i’r cod wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag ADY. Mae hyn yn golygu y dylid glynu wrth y canllawiau yn y cod oni bai bod rheswm da dros wyro oddi wrthynt. Mae is-adran (4) yn cyfeirio at adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 sydd, fel y’i diwygir gan y Ddeddf hon (gweler Atodlen 1), yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth gyllido darparwyr addysg feithrin nas cynhelir, ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr roi sylw i ganllawiau perthnasol yn y cod.
17.Caiff y cod hefyd osod gofynion ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu sefydliadau addysg bellach mewn cysylltiad â materion penodol (gweler is-adran (5)) Caiff hefyd nodi’r hyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol ei wneud er mwyn cyflawni eu dyletswyddau yn adrannau 7(1) ac 8(1) i roi sylw dyladwy i Gonfensiynau penodol y Cenhedloedd Unedig (gweler adrannau 7(4) ac 8(4)).
18.Mae gofynion penodol ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol y mae rhaid i’r cod eu cynnwys (is-adran (6)). Rhaid iddo gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol ar gyfer CDU a’i gwneud yn ofynnol i’r ffurf briodol gael ei defnyddio. Rhaid iddo hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff hynny wneud y canlynol o fewn cyfnod amser a nodir gan y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau (y darperir ar eu cyfer yn y cod hefyd):
rhoi unrhyw hysbysiad nad oes gan blentyn neu berson ifanc ADY; a
pan fo wedi ei benderfynu bod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY, llunio’r CDU a rhoi copi ohono.
19.Caiff y cod wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7 neu 8.
20.Rhaid i’r Tribiwnlys roi sylw i’r cod pan fo’n berthnasol i unrhyw gwestiynau a gyfyd ar apêl o dan Ran 2 (is-adran (10)).
Adran 5 - Y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod
21.Mae adran 5 yn sicrhau bod ymgynghori ar y cod (neu god diwygiedig) a bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu arno cyn ei ddyroddi. Mae is-adran (1) yn rhestru’r cyrff cyhoeddus neu’r personau y mae rhaid ymgynghori â hwy ar god drafft neu god diwygiedig drafft, sy’n cynnwys unrhyw un arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol. Yna, ni ellir dyroddi cod arfaethedig na chod diwygiedig (a all fod wedi ei addasu o’r drafft yr ymgynghorwyd arno) oni bai bod y drafft wedi ei osod gerbron y Cynulliad a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad. Os caiff y drafft ei gymeradwyo, rhaid iddo gael ei ddyroddi fel y cod. Daw’r cod i rym ar y diwrnod neu’r diwrnodau a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn. Rhaid cyhoeddi’r cod ar wefan Gweinidogion Cymru (adran 4(11)).
Cyfranogiad, confensiynau’r Cenhedloedd Unedig a mynediad at wybodaeth
Adran 6 - Dyletswydd i gynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc
22.Mae adran 6 yn ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac eraill sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 2 yn rhoi plant, eu rhieni a phobl ifanc wrth galon y penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt a wneir o dan y Ddeddf, gan eu galluogi felly i gymryd rhan mewn ffordd gwbl wybodus. Mae’n gwneud hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 2 mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw i’r materion a restrir. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, er enghraifft, os yw corff llywodraethu yn llunio CDU ar gyfer plentyn o dan adran 14, y byddai angen iddo ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i’r plentyn a’i riant er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn penderfyniadau megis pa ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ADY y plentyn yn galw amdani, rhoi cyfle iddynt wneud hynny ac ystyried eu safbwyntiau, eu dymuniadau a’u teimladau.
Adrannau 7 ac 8 – Dyletswyddau i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau
23.Mae adrannau 7 ac 8 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chyrff GIG (hynny yw, Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau GIG) sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 2 i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (adran 7) ac i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (adran 8). Gweler is-adran (2) o bob adran i weld sut y mae pob Confensiwn i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith at y dibenion hyn.
24.Nid yw’r dyletswyddau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff GIG roi ystyriaeth benodol i’r Confensiynau ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer (gweler adrannau 7(3) ac 8(3)) a chaiff y cod wneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd, ac yn yr achos hwnnw, mae’r ddyletswydd i gael ei dehongli yn unol â hynny (adrannau 7(4) ac 8(4)).
Adran 9 - Cyngor a gwybodaeth
25.Mae adran 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod y rheini sydd â buddiant yng ngweithrediad y system ADY newydd (gan gynnwys plant, rhieni plant a phobl ifanc) yn cael yr wybodaeth a’r cyngor am ADY a’r system y mae’r Ddeddf yn darparu ar ei chyfer. Wrth wneud hynny, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r egwyddor y darperir yr wybodaeth a’r cyngor mewn modd diduedd. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd roi gwybod i ysgolion ac eraill fod gwasanaethau gwybodaeth a chyngor, gwasanaethau osgoi a datrys anghydfodau a gwasanaethau eirioli annibynnol ar gael. Yn eu tro, mae dyletswydd ar gyrff llywodraethu, pan roddir gwybod iddynt am y materion hyn, i wneud y materion yn hysbys i’w disgyblion, rhieni a chyfeillion achos disgyblion neu eu myfyrwyr (is-adrannau (4) a (5)). Caiff y cod ADY osod gofynion pellach sy’n ymwneud â chyngor a gwybodaeth (gweler adran 4(5)).
Pennod 2 - Cynlluniau Datblygu Unigol.
Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol
Adran 10 - Cynlluniau datblygu unigol
26.Mae adran 10 yn nodi beth yw cynllun datblygu unigol (CDU). Bydd y cynllun hwn yn sylfaen i’r system ar gyfer cynllunio a darparu darpariaeth ddysgu ychwanegol i blant a phobl ifanc ag ADY fel y’i nodir yn y Ddeddf. Yn gyffredinol, bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY CDU, sy’n wahanol i’r system o dan DDeddf 1996 nad oedd ond yn darparu ar gyfer datganiadau AAA ar gyfer y rheini ag anghenion mwy.
27.Rhaid i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ADY plentyn neu berson ifanc yn galw amdani gael ei nodi yn y CDU, yn ogystal â materion eraill y mae’n ofynnol eu cynnwys gan neu o dan Ran 2. Er enghraifft, pan fo penderfyniad y dylid darparu math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg, rhaid pennu hynny yn y CDU (adrannau 12(6), 14(5), 19(3), 21(4) a 40(6)). Mae hawl i apelio mewn cysylltiad â chynnwys penodol CDU, neu fethiant i gynnwys rhywbeth mewn CDU (adrannau 70 a 72), gan gynnwys mewn cysylltiad â’r disgrifiad o ADY y person a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir (gan gynnwys pa un a bennir y dylid darparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg). Ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac sydd ag ADY, rhaid cynnwys eu CDU yn eu cynllun addysg personol os oes un ganddynt (adran 16).
28.Rhaid i’r cod gynnwys o leiaf un CDU ar ffurf safonol a’i gwneud yn ofynnol bod y ffurf honno (neu os oes mwy nag un, y ffurf briodol) yn cael ei defnyddio (adran 4(6)). Caiff y cod gynnwys canllawiau ynghylch y broses ar gyfer llunio CDU (gweler adran 4).
Adran 11 - Dyletswydd i benderfynu: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach
29.Mae adran 11 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach, os ymddengys iddo y gall fod gan un o’i ddysgwyr (sy’n berson ifanc, yn achos sefydliad addysg bellach) ADY, neu os dygwyd hyn i’w sylw, benderfynu a oes gan y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw ADY. Fodd bynnag, nid oes rhaid i’r corff llywodraethu wneud hynny o dan amgylchiadau penodol (gweler is-adran (3)). Er enghraifft, pan na fo person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud amdano; pan fo’r corff llywodraethu wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY a’i fod wedi ei fodloni nad oes newid sylweddol wedi bod yn anghenion y plentyn neu’r person ifanc neu nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad; pan fo dysgwr (y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano) wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad (gweler is-adran (3)(d) ac adran 30(1) a (2) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu atgyfeirio’r achos i’r awdurdod lleol).
30.Pan fo’r corff llywodraethu yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY, rhaid iddo hysbysu’r plentyn a’i riant, neu’r person ifanc, am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw. Pan nad oes gan blentyn ddealltwriaeth a deallusrwydd digonol i ddeall yr hyn y mae hyn yn ei olygu, nid yw’r ddyletswydd i hysbysu’r plentyn yn gymwys (gweler adran 84). Fodd bynnag, pan fo gan blentyn gyfaill achos o dan adran 85, rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu cyfaill achos y plentyn. Bydd y cod yn nodi terfyn amser ar gyfer hysbysu am y penderfyniadau hyn, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir yn y cod (gweler adran 4(6)(a)).
31.Mae’r dyletswyddau yn yr adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc sy’n preswylio yn Lloegr pan fônt yn mynychu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach yng Nghymru, ac eithrio pan fo cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (cynllun AIG) yn cael ei gynnal ar gyfer y dysgwr gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Y rheswm dros hyn yw y bydd y cynllun hwnnw yn ymdrin â’r ddarpariaeth addysgol arbennig y mae eu hanghenion yn galw amdani.
32.Mae’r dyletswyddau yn yr adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol sy’n preswylio yn Lloegr, ond nid i blant eraill sy’n derbyn gofal (is-adran (5)). Gweler adrannau 17 i 19 am y dyletswyddau sy’n gymwys mewn achosion o’r fath.
33.Mae adran 44 yn delio â’r effaith ar y dyletswyddau yn yr adran hon os yw’r person yn dod yn ddarostyngedig i orchymyn cadw.
Adran 12 - Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach
34.Mae adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach lunio a chynnal CDU ar gyfer y dysgwyr hynny y maent wedi penderfynu bod ADY arnynt; neu yn achos corff llywodraethu ysgol a gynhelir, pan fo wedi cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan awdurdod lleol; neu yn achos corff llywodraethu sefydliad addysg bellach, pan fo wedi cytuno i gynnal cynllun a oedd yn cael ei gynnal o’r blaen gan awdurdod lleol, neu pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y dylai wneud hynny (gweler adran 36). Rhaid iddynt hefyd ystyried a ddylai unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg a phan fônt yn penderfynu felly, rhaid iddynt bennu hyn yn y CDU.
35.Bydd y cod yn gosod terfyn amser y mae rhaid i’r corff llywodraethu lunio’r cynllun ynddo a rhoi copi ohono i’r plentyn neu’r person ifanc, ac os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, i riant y plentyn (o dan adran 22), yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir yn y cod (gweler adran 4(6)(b)).
36.Fodd bynnag, o dan amgylchiadau penodol (a nodir yn is-adran (2)), nid yw’n ofynnol i gorff llywodraethu lunio a chynnal CDU ar gyfer dysgwr y mae wedi penderfynu bod arno ADY. Mae rhai o’r rhain yn cydnabod ei bod yn fwy priodol mewn rhai achosion (sy’n ymwneud yn gyffredinol ag anghenion mwy) i anghenion gael eu hystyried neu i ddarpariaeth gael ei sicrhau gan yr awdurdod lleol y mae’r person yn ei ardal. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd pan fo’r corff llywodraethu yn ystyried y gall anghenion y dysgwr alw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau. Yn yr achos hwnnw, rhaid i’r corff llywodraethu atgyfeirio’r mater i’r awdurdod lleol perthnasol er mwyn iddo benderfynu arno o dan adran 13(1).
37.Yn yr un modd, mae hefyd ddarpariaeth i’r dyletswyddau beidio â bod yn gymwys pan fo’r dysgwr yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr a bod ei anghenion yn cael eu hystyried neu yr ymdrinnir â hwy gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (is-adrannau (2)(c) a (d)). Unwaith eto, mae hyn yn debygol o fod mewn achosion o anghenion mwy pan fo awdurdod lleol yn debygol o fod mewn sefyllfa well i ddelio â’r mater.
38.Am nad yw addysg na hyfforddiant yn orfodol i bobl ifanc, mae’r dyletswyddau i lunio a chynnal CDU yn peidio â bod yn gymwys mewn cysylltiad â pherson ifanc os nad yw’r person hwnnw yn cydsynio mwyach (ar unrhyw adeg) iddo gael ei lunio neu ei gynnal (is-adran 2(b)).
39.Caiff corff llywodraethu hefyd, mewn gwirionedd, fod o dan y ddyletswydd yn yr adran hon i gynnal CDU o ganlyniad i drosglwyddo dyletswydd i gynnal CDU (gweler adran 35 a’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 37 ynghylch trosglwyddo). Er enghraifft, byddai hyn yn wir pan fo plentyn a chanddo CDU a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol yn symud i ysgol arall a gynhelir.
40.Pan fo corff llywodraethu yn cynnal CDU, rhaid iddo sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn y CDU hwnnw a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg pan fo hynny wedi ei bennu (is-adran (7)). Mae’r ddyletswydd wedi ei hamodi yn y ffordd hon oherwydd gall fod amgylchiadau pan na fo’n rhesymol bosibl ei darparu yn Gymraeg, er enghraifft yn achos gwasanaethau arbenigol pan na fo’n bosibl cael ymarferydd sy’n siarad Cymraeg er gwaethaf ymdrechion i ddod o hyd i un.
41.Gweler adran 31 am yr amgylchiadau pan fo’r dyletswyddau yn yr adran hon yn peidio â bod yn gymwys. Hefyd, mae adran 44 yn delio â’r effaith ar y dyletswyddau yn yr adran hon os yw’r person yn dod yn ddarostyngedig i orchymyn cadw.
Adran 13 - Dyletswydd i benderfynu: awdurdodau lleol
42.Mae adran 13 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY pan fo’n cael ei dwyn i’w sylw neu pan ymddengys iddo y gall fod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY. Byddai awdurdod lleol yn arfer y swyddogaethau a nodir yn yr adran hon pan fo, er enghraifft, penderfyniad ynghylch ADY plentyn neu berson ifanc wedi ei atgyfeirio gan gorff llywodraethu o dan adran 12 neu fod plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc wedi gwneud cais uniongyrchol i’r awdurdod lleol; neu fod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud atgyfeiriad o dan adran 64.
43.Fodd bynnag, mae eithriadau penodol i’r ddyletswydd i benderfynu (gweler is-adran (2)). Er enghraifft, pan na fo person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud amdano; pan fo’r awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY a’i fod wedi ei fodloni nad oes newid sylweddol wedi bod yn anghenion y plentyn neu’r person ifanc neu nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad.
44.Yn gyffredinol, os yw’r person yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad addysg bellach, y priod gorff llywodraethu fydd yn gyfrifol am benderfynu a oes gan y person ADY o dan adran 11. Yn achos disgybl, nid oes gan yr awdurdod lleol y ddyletswydd i wneud hynny os yw wedi ei fodloni bod y cwestiwn yn cael ei benderfynu gan y corff llywodraethu o dan adran 11. Yn achos myfyriwr mewn sefydliad addysg bellach, dim ond os yw’r myfyriwr wedi ei gofrestru ddwywaith (gweler adran 30(1)-(2)) neu os yw’r corff llywodraethu wedi atgyfeirio’r achos i’r awdurdod lleol o dan adran 12(2)(a) y mae’r awdurdod lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd.
45.Pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY, rhaid iddo hysbysu’r plentyn a’i riant, neu’r person ifanc, am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw (is-adran (3)). Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â’r gofyniad i hysbysu plentyn. Bydd y cod yn nodi terfyn amser ar gyfer hysbysu am y penderfyniad hwn, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir yn y cod (gweler adran 4(6)(a)).
46.Mae’r ddyletswydd i benderfynu yn yr adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â phlant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt, sef y rheini yn ei ardal (gan gynnwys os ydynt yn mynychu ysgol mewn ardal wahanol), ac eithrio plant sy’n derbyn gofal at ddibenion y Ddeddf hon (gweler y diffiniad yn adran 15 a’r dyletswyddau yn adrannau 17 a 18 sy’n gymwys yn lle hynny). Gweler hefyd adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 ac adran 44 am yr effaith ar y dyletswyddau hyn pan fo’r person y maent yn ymwneud ag ef yn ddarostyngedig i orchymyn cadw.
Adran 14 - Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: awdurdodau lleol
47.Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu bod gan blentyn neu berson ifanc ADY, mae adran 14 yn nodi’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol iddo lunio a chynnal CDU a sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn y CDU hwnnw; neu, os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn mynychu, neu os bydd yn mynychu, ysgol a gynhelir, caiff yr awdurdod lleol lunio CDU a chyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun; neu gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i lunio a chynnal cynllun.
48.Mae’r dyletswyddau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant, â phobl ifanc sy’n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir neu’n fyfyrwyr ymrestredig mewn sefydliadau addysg bellach, ac â phobl ifanc eraill pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol llunio a chynnal cynllun o dan yr adran hon er mwyn diwallu anghenion rhesymol y person am addysg neu hyfforddiant. Rhaid ystyried yr achosion pan fo hyn yn ‘angenrheidiol’ yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46.
49.Mae’r adran hefyd yn nodi materion y gall fod angen eu nodi mewn CDU y mae awdurdod lleol yn ei lunio neu’n ei gynnal, sef:
rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a ddylai unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg a phan fo’n penderfynu hynny, rhaid iddo bennu hynny yn y CDU (is-adran (5)); a,
os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni na ellir diwallu anghenion rhesymol plentyn neu berson ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai ei fod hefyd yn sicrhau lle mewn ysgol benodol neu sefydliad penodol (ar yr amod bod y person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r sefydliad yn cydsynio, oni bai ei fod yn ysgol a gynhelir yng Nghymru); a/neu fwyd a llety, rhaid disgrifio’r ‘ddarpariaeth arall’ honno yn y cynllun a rhaid i’r awdurdod lleol ei sicrhau. Pan fo hyn yn gymwys, nid yw’r awdurdod lleol yn gallu cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol a gynhelir i lunio a/neu gynnal y CDU (is-adrannau (6) – (9)).
50.Gweler adrannau 35 (a’r pŵer cysylltiedig i wneud rheoliadau yn adran 37) a 43 am sefyllfaoedd eraill pan fo awdurdod lleol, mewn gwirionedd, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn yr adran hon i gynnal CDU, er enghraifft pan fo plentyn a chanddo CDU a gynhelir gan awdurdod lleol arall yn symud i’w ardal.
51.Pan fo’r awdurdod lleol yn cynnal CDU rhaid iddo sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ac unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg pan fo hynny wedi ei bennu (is-adran 10)). Mae’r ddyletswydd i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg wedi ei hamodi yn y ffordd hon oherwydd gall fod amgylchiadau pan na fo’n rhesymol bosibl ei darparu yn Gymraeg, er enghraifft yn achos gwasanaethau neu driniaethau arbenigol pan na fo’n bosibl cael ymarferydd sy’n siarad Cymraeg er gwaethaf ymdrechion i ddod o hyd i un.
52.Mae’r dyletswyddau yn yr adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â phlant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt, sef y rheini yn ei ardal (gan gynnwys os ydynt yn mynychu ysgol mewn ardal wahanol), ac eithrio plant sy’n derbyn gofal at ddibenion y Ddeddf hon (gweler y diffiniad yn adran 15 a’r dyletswyddau yn adrannau 17 a 18 sy’n gymwys yn lle hynny). Gweler adran 31 am yr amgylchiadau pan fo’r dyletswyddau yn yr adran hon yn peidio â bod yn gymwys. Hefyd, gweler adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 ac adran 44 am yr effaith ar y dyletswyddau hyn pan fo’r person y maent yn ymwneud ag ef yn ddarostyngedig i orchymyn cadw.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
Adrannau 15 i 19 - Termau allweddol, Diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn, Dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol, Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
53.Mae adrannau 15 i 19 yn cynnwys darpariaethau ynghylch ADY sydd i fod yn gymwys yn achos plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae gan blant sy’n derbyn gofal gynlluniau gofal a chymorth sy’n cynnwys cynllun addysg personol (‘CAP’) yn rhinwedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn achos plant o’r fath (yn ddarostyngedig i eithriadau - gweler adran 15(2)), mae’r awdurdod sy’n gofalu am y plentyn i fod yn gyfrifol am unrhyw benderfyniad am ADY, cynnal CDU a’i gynnwys yn CAP y plentyn. Yn unol â hynny, nid yw’r dyletswyddau cyfatebol (yn adrannau 12 – 14) ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir y caiff y plentyn ei mynychu, ac ar yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn ei ardal, yn gymwys. O ganlyniad, mae’r gwaith cynllunio addysgol, gan gynnwys cynllunio darpariaeth ddysgu ychwanegol y plentyn sy’n derbyn gofal sydd ag ADY, yn cael ei wneud gan un corff, sef yr awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, ac mae wedi ei nodi mewn un ddogfen, yn hytrach na chael ei rannu o bosibl rhwng ddwy ddogfen ac o bosibl rhwng dau gorff hefyd. Mae’r dyletswyddau o dan y Ddeddf sy’n gymwys i bobl ifanc eraill hefyd yn gymwys i bobl ifanc sy’n derbyn gofal neu a fu gynt yn derbyn gofal.
54.Nid yw’r ddyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal ADY yn gymwys os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr (adran 18(2)(c)). Os nad yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol, er enghraifft gall plentyn fod wedi ei leoli yn yr Alban, nid oes dyletswydd i lunio a chynnal CDU (adran 19(2)). Y rheswm dros hyn yw y gall gallu awdurdod lleol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plentyn sy’n byw y tu allan i Gymru fod yn gymharol gyfyngedig mewn sawl achos. Fodd bynnag, gall y plentyn fod o fewn y system addysg leol a bod â hawlogaethau odani. Er enghraifft, os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, gall yr awdurdod hwnnw fod yn gyfrifol am y plentyn o dan adran 24 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (mae Rhan 3 o’r Ddeddf honno yn delio â phlant a phobl ifanc yn Lloegr ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau).
55.Mae adran 15 yn nodi ystyr termau allweddol a ddefnyddir yn y Ddeddf sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Nid yw person sy’n derbyn gofal at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn derbyn gofal at ddibenion y Ddeddf os yw’r person yn berson ifanc, person sy’n cael ei gadw’n gaeth (a ddiffinnir yn adran 39(1)) neu o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau.
56.Mae adran 16 yn diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel bod CAP fel arfer yn elfen o’r cynllun gofal a chymorth a lunnir ar gyfer y rheini sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan y Ddeddf honno. At hynny, mae adran 16 yn diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel bod rhaid cynnwys unrhyw CDU a gynhelir o dan adran 19 yn y CAP yn achos plant sy’n derbyn gofal ac sydd o’r oedran ysgol gorfodol ac yn iau ac sydd ag ADY.
57.Mae adran 17 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir y mae plentyn sy’n derbyn gofal yn ei mynychu, neu’r awdurdod lleol y mae plentyn sy’n derbyn gofal yn ei ardal, roi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn os daw’n ymwybodol y gall fod gan y plentyn ADY.
58.Mae adran 18 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn i benderfynu a oes gan y plentyn ADY sy’n cyfateb i’r ddyletswydd yn adran 13 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc nad ydynt yn derbyn gofal. Nid yw’r ddyletswydd hon yn gymwys os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr. Gweler adrannau 84 a 85 mewn perthynas â’r gofyniad yn is-adran (3) i hysbysu plentyn am benderfyniad nad oes gan y plentyn ADY.
59.Mae adran 19 yn gosod dyletswyddau ar yr awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn (ar yr amod bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru) i lunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol sy’n cyfateb i’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol yn adran 14(2) mewn perthynas â phlant a phobl ifanc nad ydynt yn derbyn gofal. Fodd bynnag, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal y cynllun ei hun: ni chaiff gyfarwyddo ysgol a gynhelir y mae’r plentyn sy’n derbyn gofal yn ei mynychu i wneud hynny.
60.Mae adrannau 35 (a gweler y pŵer cysylltiedig i wneud rheoliadau yn adran 37) a 43 yn nodi sefyllfaoedd eraill pan fo awdurdod lleol, mewn gwirionedd, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 19 i gynnal CDU ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal. Mae adran 31 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan fo’r dyletswyddau yn yr adran hon yn peidio â bod yn gymwys. Os daw plentyn sy’n derbyn gofal yn berson sy’n cael ei gadw’n gaeth, mae’r dyletswyddau yn yr adrannau hyn yn peidio hefyd am fod y person yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion y Ddeddf (adran 15). Ceir y dyletswyddau sy’n gymwys yn lle hynny yn adrannau 40 – 42. Mae adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 ac adran 44 yn nodi’r effaith ar ddyletswyddau awdurdodau lleol o dan adrannau 17 – 19 pan fo’r person y maent yn ymwneud ag ef yn ddarostyngedig i orchymyn cadw.
Adran 20 - Darpariaeth ddysgu ychwanegol: Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG
61.Mae adran 20 yn galluogi awdurdod lleol ac (os yw’n llunio neu’n cynnal CDU ar gyfer y person ifanc) gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach i ofyn i gorff GIG (a ddiffinnir yn adran 99(1) fel Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, ond gweler hefyd y pŵer yn adran 99(8)) a oes unrhyw driniaeth neu unrhyw wasanaeth (a ddarperir fel arfer fel rhan o’r gwasanaeth iechyd cynhwysfawr) sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag ADY plentyn neu berson ifanc. Cyn gwneud atgyfeiriad o’r fath, rhaid i’r corff atgyfeirio drafod y mater â’r plentyn, rhiant y plentyn neu’r person ifanc a bod wedi ei fodloni bod gwneud yr atgyfeiriad er lles pennaf y plentyn neu’r person ifanc (is-adran (3) ac, mewn cysylltiad â phlentyn, gweler adrannau 84 a 85). Os gwneir atgyfeiriad, rhaid i’r corff GIG ystyried y mater ac os yw’n nodi unrhyw driniaeth neu wasanaeth o’r fath, rhaid iddo sicrhau ei bod yn cael ei ddarparu neu ei fod yn cael ei ddarparu, penderfynu a ddylai’r driniaeth gael ei darparu neu a ddylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg ac os felly dylai gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y driniaeth yn cael ei darparu neu fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn Gymraeg.
62.Mae adran 21 yn delio â chamau gweithdrefnol cysylltiedig, gan gynnwys y canlyniadau o ran CDU y person.
Adran 21 - Cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG
63.Mae adran 21 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG roi gwybod i’r corff sydd wedi gwneud atgyfeiriad o dan adran 20, ac os yw’n wahanol, y corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan sylw, am ganlyniad yr atgyfeiriad (is-adrannau (1) a (2)). Rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod amser sydd i gael ei ragnodi mewn rheoliadau, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau rhagnodedig (is-adran (10)). Mewn achosion pan fo triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol wedi ei nodi, unwaith y rhoddir gwybod iddo, rhaid i’r corff sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol gynnwys y driniaeth neu’r gwasanaeth fel darpariaeth ddysgu ychwanegol yn y cynllun fel darpariaeth sydd i gael ei chyflenwi gan y corff GIG (is-adran (3)). Os penderfynwyd y dylai’r ddarpariaeth gael ei darparu yn Gymraeg, rhaid i hyn hefyd gael ei bennu yn y cynllun (is-adran (4)). Mae’r corff GIG, nid y corff llywodraethu na’r awdurdod lleol, yna o dan ddyletswydd i sicrhau’r ddarpariaeth a dim ond gyda chytundeb y corff GIG neu ar gais y corff GIG y caniateir ei newid neu ei dileu o’r cynllun ar adolygiad o dan adran 23 neu 24. Os gwneir cais felly, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais (is-adrannau (5) – (7)). Gan fod unrhyw driniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol a nodir ac a gynhwysir mewn CDU yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, yna gall fod apêl mewn perthynas â’r driniaeth neu’r gwasanaeth, neu’r ffaith nad yw’r driniaeth neu’r gwasanaeth yn y CDU (gweler adran 70).
64.Pan fo’r Tribiwnlys yn gorchymyn i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a gynhwysir yn y cynllun o dan yr adran hon gael ei diwygio, nid yw’n ofynnol i’r corff GIG sicrhau’r ddarpariaeth ddiwygiedig oni bai ei fod yn cytuno i wneud hynny (is-adran (9)). Os nad yw’n cytuno, mae’r corff sy’n cynnal y CDU o dan ddyletswydd i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir (adrannau 12(7), 14(10), 19(7)).
Gwybodaeth am gynlluniau
Adran 22 - Darparu gwybodaeth am gynlluniau datblygu unigol
65.Mae adran 22 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu sy’n llunio CDU roi copi o’r cynllun i’r plentyn, rhieni’r plentyn neu’r person ifanc ac os yw’r plentyn yn derbyn gofal, y swyddog adolygu annibynnol a benodir o dan adran 99 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Os yw awdurdod lleol neu gorff llywodraethu yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun yn lle awdurdod neu gorff arall, rhaid iddo roi gwybod i’r plentyn, rhieni’r plentyn, neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, ddarparu copi o’r cynllun i’r swyddog adolygu annibynnol.
66.Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â’r gofynion i roi copïau o’r cynllun i blentyn ac i hysbysu plentyn.
Adolygu cynlluniau
Adran 23 - Adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol
67.Mae adran 23 yn darparu ar gyfer adolygiadau o CDU ar gyfer plentyn nad yw’n derbyn gofal, oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr ac yn mynychu ysgol a gynhelir yng Nghymru, neu berson ifanc. Rhaid i adolygiad gael ei gynnal cyn diwedd pob cyfnod adolygu. Mae’r cyfnod adolygu cyntaf yn flwyddyn sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir copi o CDU o dan adran 22. Fel arfer, mae cyfnodau adolygu dilynol yn flwyddyn sy’n dechrau â’r dyddiad yn y cyfnod adolygu blaenorol (a) pan roddwyd copi o gynllun diwygiedig mewn perthynas â’r cyfnod adolygu blaenorol hwnnw, neu, (b) os na chafodd y cynllun ei ddiwygio yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol, pan roddwyd hysbysiad o benderfyniad i beidio â diwygio’r cynllun mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw. O ganlyniad, dylai’r cynllun gael ei adolygu o leiaf unwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Mae hefyd ddarpariaeth ar gyfer achosion pan na fo cynllun diwygiedig nac hysbysiad nad yw unrhyw ddiwygiad i gael ei wneud yn cael ei roi yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol (is-adran (4)). Mae is-adran (6) yn darparu i’r ddyletswydd gael ei thrin fel pe bai wedi ei bodloni mewn sefyllfaoedd pan fo corff ac eithrio’r corff sy’n cynnal y cynllun yn ei adolygu mewn gwirionedd. Bwriedir i hyn leihau’r posibilrwydd o adolygiadau cyfochrog er enghraifft, fel nad yw’n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol adolygu cynllun ar adeg pan yw diwedd y cyfnod adolygu yn nesáu ond bod y Tribiwnlys newydd ystyried yr hyn a ddylai fod yn y cynllun ac wedi gorchymyn i’r awdurdod lleol ei ddiwygio yn unol â hynny.
68.Rhaid i CDU hefyd gael ei adolygu os yw plentyn neu riant plentyn, neu berson ifanc, yn gofyn i’r cynllun gael ei adolygu oni bai bod yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes angen gwneud hynny (is-adran (8)), er enghraifft pan fo’n amlwg nad oes newidiadau sylweddol wedi bod ers y tro diwethaf i’r CDU gael ei adolygu; ac os yw corff GIG y mae’n ofynnol iddo sicrhau darpariaeth o dan adran 20 yn gofyn am adolygiad (is-adran (7)). Mae’r adran hon hefyd yn caniatáu i’r cynllun gael ei adolygu ac yna ei ddiwygio ar unrhyw adeg (is-adran (9)). Bydd hyn yn galluogi i’r CDU gael ei adolygu’n ddi-oed pan fydd amgylchiadau yn newid neu yn unol â dyddiadau adolygu a nodir yn y CDU. Os caiff y CDU ei ddiwygio o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2 neu ddeddfwriaeth a wneir odani, rhaid rhoi copi o’r cynllun diwygiedig i’r plentyn a’i riant, neu’r person ifanc (is-adran (11)). Os penderfynir peidio â diwygio’r CDU yn dilyn adolygiad o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2 neu ddeddfwriaeth a wneir odani, rhaid hysbysu’r plentyn, ei riant, neu’r person ifanc am y penderfyniad a’r rhesymau drosto (is-adran (10)). Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â chais am adolygiad gan blentyn a’r gofynion i roi copïau o’r cynllun i blentyn ac i hysbysu plentyn.
69.Mae adran 24 yn delio ag adolygiadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan yr adran hon (is-adran (12)).
Adran 24 - Adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
70.Mae adran 24 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal sy’n cyfateb i’r hyn sydd yn adran 23, oni bai bod y plentyn sy’n derbyn gofal yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr ac yn mynychu ysgol a gynhelir yng Nghymru ac yn yr achos hwnnw, mae gan y corff llywodraethu swyddogaethau adolygu o dan adran 23.
71.Yn ychwanegol at ofynion yr adran hon, mae gan awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn swyddogaethau eraill sy’n ymwneud ag adolygu CDU y plentyn. Dyma’r swyddogaethau mewn perthynas ag adolygu cynllun gofal a chymorth o dan ac yn rhinwedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (gweler adran 83 o’r Ddeddf honno fel y’i diwygir gan adran 16 o’r Ddeddf). Am fod rhaid cynnwys unrhyw CDU ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal a gynhelir o dan adran 19 mewn unrhyw gynllun addysg personol, sydd yn ei dro yn rhan o’r cynllun gofal a chymorth, mae’r swyddogaethau hynny sy’n ymwneud ag adolygiadau yn cwmpasu’r CDU.
Adran 25 - Perthynas cynlluniau datblygu unigol â dogfennau tebyg eraill
72.Mae adran 25 yn galluogi i’r prosesau o lunio, adolygu a diwygio CDUau ar gyfer plentyn neu berson ifanc gael eu halinio â’r prosesau o lunio, adolygu a diwygio dogfennau eraill ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw, megis unrhyw gynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol.
Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau a chynlluniau cyrff llywodraethu
73.Mae’r Ddeddf yn rhoi hawliau apelio i blant, eu rhieni a phobl ifanc mewn perthynas â materion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rhan 2 (gweler adrannau 70 a 72). Dim ond yn erbyn awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach, ond nid yn erbyn cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, y gellir dwyn apêl. Er mwyn i blant, eu rhieni a phobl ifanc allu herio penderfyniadau a chynlluniau cyrff llywodraethu ysgolion, mae adrannau 26, 27 a 32 yn darparu dulliau i’w penderfyniadau a’u cynlluniau gael eu hailystyried gan yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y disgybl (h.y. yr awdurdod lleol y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn ei ardal) ar lefel awdurdod lleol. Yn ei dro, mae hawliau apelio cyfatebol mewn cysylltiad â’r camau hynny gan yr awdurdod lleol (adran 70). Mae hyn yn osgoi sefyllfa pan fo’r ysgolion yn gorfod rheoli trafodion y Tribiwnlys eu hunain ac yn caniatáu i anghydfodau gael eu datrys ar lefel fwy priodol. Ar gyfer disgyblion sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, mae adrannau 14, 26, 27, 29, 32, 68 a 69 yn gymwys gydag addasiadau (gweler adran 87) – yn y bôn, mae’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol yn gyfrifol am y penderfyniadau ailystyried hyn, ond ni all gymryd drosodd ei hun y cyfrifoldeb am gynnal CDU.
Adran 26 - Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau o dan adran 11(1)
74.Mae adran 26 yn galluogi plentyn neu ei riant, neu’r person ifanc, i ofyn i awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ailystyried penderfyniad corff llywodraethu ysgol a gynhelir sef bod gan un o’i ddisgyblion ADY neu nad oes gan un o’i ddisgyblion ADY. Pan ofynnir felly, rhaid i’r awdurdod lleol wneud ei benderfyniad ei hun ynghylch y mater; bydd y penderfyniad hwnnw wedyn yn disodli penderfyniad y corff llywodraethu a bydd penderfyniad blaenorol y corff llywodraethu yn peidio â chael effaith. Cyn gwneud penderfyniad, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu. Mae’r adran hon yn darparu dull effeithiol i blant a’u rhieni, a phobl ifanc, herio penderfyniad corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru, yn absenoldeb hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y cyrff hyn. Gellir wedyn herio penderfyniad yr awdurdod lleol drwy apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 70. Mae adran 29 yn delio â’r amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn yr adran hon yn gymwys. Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â chais gan blentyn. Gweler hefyd baragraff 73 uchod i gael rhagor o wybodaeth.
75.Mae’r penderfyniad a wneir o dan yr adran hon yn cael ei drin fel pe bai’n un o dan adran 13(1) (is-adran (4)). Mae hyn yn golygu, os y penderfyniad yw nad oes gan y disgybl ADY, fod y gofyniad i hysbysu yn adran 13(3) yn gymwys ac os y penderfyniad yw bod gan y disgybl ADY, fod y ddyletswydd yn adran 14(2) ynghylch llunio a chynnal CDUau yn gymwys.
Adran 27 - Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o gynlluniau a gynhelir o dan adran 12
76.Mae adran 27 yn galluogi plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc i ofyn i awdurdod lleol (sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc) ailystyried CDU a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gyda golwg ar ei ddiwygio. Cyn penderfynu pa un ai i ddiwygio’r cynllun ai peidio, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.
77.Pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu nad yw’n ofynnol diwygio’r CDU rhaid iddo hysbysu’r plentyn a’i riant, neu’r person ifanc, am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw a rhoi copi o’r hysbysiad hwnnw i’r corff llywodraethu (is-adrannau (4) a (5)). Pan fo awdurdod lleol yn diwygio CDU, rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r corff llywodraethu (is-adran (7)) ac mae adran 23(11) yn ei gwneud yn ofynnol i gopi gael ei roi i’r plentyn, ei riant, neu’r person ifanc. Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â chais gan blentyn a’r gofynion i hysbysu plentyn neu i roi copi o CDU i blentyn.
78.Pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu ei bod yn ofynnol diwygio’r CDU, caiff gyfarwyddo’r corff llywodraethu i gynnal y CDU diwygiedig; fel arall caiff yr awdurdod lleol gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y CDU ei hun. Gall y sefyllfa gyntaf ddigwydd pan fo’r awdurdod lleol yn ystyried bod cynnwys y CDU o’r fath fel y gellir disgwyl yn rhesymol i’r corff llywodraethu gyflenwi’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ynddo; gall yr ail sefyllfa ddigwydd pan na fyddai’n ddisgwyliad rhesymol i’r corff llywodraethu.
79.Mae’r sefyllfa ynghylch diwygiadau yn gymwys yn yr un modd yn achos awdurdod lleol sy’n diwygio cynllun o ganlyniad i’r Tribiwnlys orchymyn iddo wneud hynny.
80.Mae’r adran hon yn darparu dull effeithiol i blant, eu rhieni, a phobl ifanc herio cynnwys y CDU a roddwyd yn ei le ar eu cyfer gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, yn absenoldeb yr hawl i apelio yn erbyn y cyrff hyn (gweler adran 70 sy’n rhoi hawliau apelio sy’n ymwneud â chamau awdurdod lleol). Gweler hefyd baragraff 73 uchod i gael rhagor o wybodaeth.
81.Mae adran 29 yn delio â’r amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn yr adran hon yn gymwys.
Adran 28 - Dyletswydd awdurdodau lleol i benderfynu pa un ai i gymryd drosodd gynlluniau cyrff llywodraethu ai peidio
82.Mae adran 28 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol (sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc) benderfynu a ddylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal CDU mewn ymateb i gais iddo wneud hynny. Gall y cais gael ei gyflwyno gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach – er enghraifft pan na fo’r corff llywodraethu yn credu mwyach fod cynnal y cynllun a chyflenwi’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol o fewn ei allu – neu gan blentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc – er enghraifft pan na fo’n credu bod gallu’r corff llywodraethu o ran cyflenwi’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n ofynnol gan y plentyn neu’r person ifanc wedi ei brofi. Pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am y CDU, mae’r CDU yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod o dan adran 14. Gellir herio penderfyniad yr awdurdod lleol i beidio â chymryd drosodd y cyfrifoldeb am CDU drwy apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 70.
83.Pan fo corff llywodraethu yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn, ei riant, neu’r person ifanc, a gwahodd sylwadau. Pan fo plentyn, ei riant neu berson ifanc yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu a gwahodd sylwadau. Rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu, a’r plentyn, ei riant, neu’r person ifanc, am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw. Gweler adrannau 84 a 85, mewn cysylltiad â chais gan blentyn, am y gofynion i hysbysu plentyn ac i roi gwybod iddo.
84.Mae adran 29 yn delio â’r amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn yr adran hon yn gymwys.
Adran 29 - Amgylchiadau pan nad yw’r dyletswyddau yn adrannau 26(2), 27(2) ac 28(3) yn gymwys
85.Mae adran 29 yn nodi, pan fo awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad o’r blaen o dan adran 26(2), 27(2) neu 28(3) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc a’i fod wedi ei fodloni nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod o ran anghenion y person na gwybodaeth newydd a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad, nad oes unrhyw ddyletswydd i wneud penderfyniad newydd o dan yr adran o dan sylw. Yn ogystal, nid oes unrhyw ddyletswydd yn gymwys o dan yr adrannau hyn pan fo plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal.
86.Ar gyfer plentyn sydd wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal, mae’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn yn dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun (adran 35(9) a (10)) ac mae ganddo swyddogaethau adolygu (adran 24) oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr (gweler adran 87).
87.Gweler adran 562 o DDeddf 1996 ac adran 44 am yr effaith ar y dyletswyddau hyn pan fo’r plentyn neu’r person ifanc wedi dod yn ddarostyngedig i orchymyn cadw.
Adran 30 - Cofrestru neu ymrestru mewn mwy nag un sefydliad
88.Mae adran 30, ynghyd ag adran 11(3)(d), yn sicrhau pan fo plentyn neu berson ifanc yn mynychu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach yng Nghymru ac ysgol neu sefydliad addysg bellach arall (nad oes angen iddi neu iddo fod yng Nghymru o reidrwydd) a bod awdurdod lleol yn gyfrifol am y person, yr awdurdod lleol hwnnw sy’n gyfrifol am benderfynu a oes gan y person ADY, ac am lunio a/neu gynnal cynllun ar ei gyfer ac nid yw’r dyletswyddau cyfatebol ar gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad addysg bellach yn gymwys. Rhaid i’r corff llywodraethu atgyfeirio materion o’r fath i’r awdurdod lleol.
Peidio â chynnal cynlluniau
Adran 31 - Peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol
89.Mae adran 31 yn nodi’r amgylchiadau pan fo dyletswydd benodol corff llywodraethu neu awdurdod lleol i lunio neu gynnal CDU yn peidio. Mae’r amgylchiadau hyn yn cwmpasu:
pan fo’r plentyn neu’r person ifanc yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig neu pan fo’r plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal (yn achos cyrff llywodraethu),
pan fo’r awdurdod lleol yn peidio â bod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, neu pan fo plentyn yn dod, neu’n peidio â bod, yn blentyn sy’n derbyn gofal (at ddibenion Rhan 2),
pan fo plentyn sy’n derbyn gofal yn peidio â bod yn ardal unrhyw awdurdod lleol,
pan fo’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes ADY gan y plentyn neu’r person ifanc mwyach,
yn achos person ifanc nad yw mewn ysgol a gynhelir na sefydliad addysg bellach, pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 46 nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.
90.Cyn penderfynu peidio â chynnal CDU oherwydd ei fod yn credu nad oes ADY gan y plentyn neu’r person ifanc mwyach neu, yn achos person ifanc, nad oes angen ei gynnal mwyach, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, y person ifanc ac yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, y swyddog adolygu annibynnol, am y penderfyniad arfaethedig. Rhaid iddo hefyd hysbysu’r un personau pan fydd wedi gwneud ei benderfyniad (ynghyd â’i resymau). Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir hefyd roi gwybod i’r personau hynny am eu hawl i ofyn i awdurdod lleol ailystyried y penderfyniad o dan adran 32.
91.Mae adran 35 yn delio â sefyllfaoedd pan fo dyletswydd i gynnal CDU wedi ei throsglwyddo i gorff arall (gweler hefyd y pŵer i wneud rheoliadau ynghylch trosglwyddo yn adran 37). Mae adran 562 o DDeddf 1996 ac adran 44 yn delio â’r effaith ar ddyletswyddau yn y Ddeddf (gan gynnwys dyletswyddau i gynnal CDU) pan fo plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddarostyngedig i orchymyn cadw. Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â’r gofynion i hysbysu plentyn.
Adran 32 - Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau cyrff llywodraethu o dan adran 31
92.Mae adran 32 yn galluogi plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc i ofyn i awdurdod lleol (sy’n gyfrifol am y person) ailystyried penderfyniad corff llywodraethu ysgol i beidio â chynnal CDU. Bydd y cyfnod ar gyfer gwneud y cais hwn yn cael ei nodi mewn rheoliadau. Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai’r ddyletswydd i gynnal y CDU beidio a hysbysu (gyda’i resymau) y corff llywodraethu, y plentyn a’i riant, neu’r person ifanc yn unol â hynny. Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â chais gan blentyn a’r gofynion i hysbysu plentyn.
93.Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylid cynnal y CDU, rhaid i’r corff llywodraethu barhau i’w gynnal. Pan fo’r awdurdod lleol yn cytuno y dylai’r CDU beidio â chael ei gynnal, mae modd apelio yn erbyn ei benderfyniad o dan adran 70 a rhaid penderfynu ar yr apêl neu raid bod yr amser ar gyfer dwyn apêl wedi dod i ben heb i apêl gael ei chyflwyno, cyn y gall y corff llywodraethu beidio â chynnal y CDU (gweler adran 33).
94.Gweler hefyd baragraff 73 uchod i gael rhagor o wybodaeth.
Adran 33 - Cyfyngiad ar beidio â chynnal cynlluniau er mwyn caniatáu ailystyriaeth neu apêl
95.Mae adran 33 yn sicrhau, pan fo penderfyniad wedi ei wneud y dylai CDU beidio â chael ei gynnal, ei fod yn parhau i gael ei gynnal hyd nes bod y plentyn, rhiant y plentyn neu’r person ifanc wedi cael y cyfle i ddefnyddio ei holl opsiynau ar gyfer apelio. Felly, ni chaiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal y CDU oni bai bod y cyfnod a ragnodir ar gyfergofyn am ailystyriaeth gan yr awdurdod lleol o dan adran 32 wedi dod i ben heb i gais gael ei gyflwyno. Os cyflwynir cais yn ystod y cyfnod hwnnw, ni chaiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal y CDU hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi gwneud ei benderfyniad a bod y cyfnod ar gyfer apelio yn ei erbyn wedi dod i ben, neu pan fo apêl wedi ei dwyn o fewn y cyfnod hwnnw, y penderfynwyd yn llawn arni. Yn yr un modd, ni chaiff corff llywodraethu sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol beidio â chynnal y CDU hyd nes bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn dod i ben heb i apêl gael ei dwyn neu, pan fo apêl wedi ei dwyn yn ystod y cyfnod hwnnw, y penderfynwyd yn llawn arni. Mae’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl i gael ei nodi mewn rheoliadau a wneir o dan adran 75.
Adran 34 - Cynllun datblygu unigol ar ôl pen-blwydd person ifanc yn 25 oed
96.Mae adran 34 yn sicrhau, os yw person ifanc a chanddo CDU (sy’n cael ei lunio neu ei gynnal) yn cyrraedd 25 oed, nad yw’r ddyletswydd i’w lunio neu ei gynnal yn peidio ar unwaith, ond yn hytrach ei bod yn parhau tan ddiwedd y flwyddyn academaidd fel y’i diffinnir yn is-adran (2). Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r corff sy’n gyfrifol am y CDU a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ynddo barhau i gyflenwi’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol tan ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Trosglwyddo cynlluniau
Adran 35 - Trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau
97.Mae adran 35 yn trosglwyddo’r ddyletswydd i gynnal CDU yn y sefyllfaoedd amrywiol a nodir. Yn gyffredinol, pan fo plentyn neu berson ifanc a chanddo CDU yn trosglwyddo rhwng ysgolion a gynhelir, neu rhwng ysgol a gynhelir a sefydliad addysg bellach, neu’n symud o un ardal awdurdod lleol i ardal arall, mae’r CDU yn trosglwyddo/symud gyda’r plentyn neu’r person ifanc. Yn yr un modd, mae’n delio â phlentyn a chanddo CDU ac sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu’n peidio â derbyn gofal mwyach.
Adran 36 - Cais i drosglwyddo cynllun i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach
98.Mae adran 36 yn caniatáu i awdurdod lleol ofyn i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach ddod yn gyfrifol am gynnal CDU ar gyfer person ifanc, pan fo’r person ifanc hwnnw wedi ymrestru yn y sefydliad addysg bellach a bod yr awdurdod lleol yn cynnal y CDU ar ei gyfer ar hyn o bryd. Os nad yw’r corff llywodraethu yn cytuno â’r cais o fewn y cyfnod a ragnodir mewn rheoliadau, mae adran 36 yn caniatáu i’r awdurdod lleol atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru er mwyn iddynt hwy benderfynu a ddylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun. Os yw’r corff llywodraethu yn cytuno i’r cais, neu os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylai gynnal y cynllun, yna mae o dan ddyletswydd i wneud hynny (gweler adran 12(4)).
Adran 37 - Rheoliadau ynghylch trosglwyddo cynlluniau datblygu unigol
99.Mae adran 37 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach mewn rheoliadau ar y materion a restrir yn is-adran (1) sydd oll yn ymwneud â throsglwyddo dyletswyddau i gynnal CDUau. Mae hyn yn cynnwys darparu ar gyfer trosglwyddiadau pellach (ac eithrio’r rhai yn adran 35) rhwng y cyrff a chanddynt gyfrifoldeb am CDUau o dan y Ddeddf o dan amgylchiadau penodol a darpariaeth sy’n ymwneud ag awdurdodau lleol sy’n gofyn i sefydliadau addysg bellach gymryd drosodd CDU ac atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru iddynt hwy benderfynu arno (o dan adran 36).
Pwerau i gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
Adran 38 - Pŵer awdurdod lleol i gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
100.Pan na fo awdurdod lleol yn cynnal ysgol a gynhelir, mae adran 38 yn ei atal rhag defnyddio unrhyw un neu ragor o’i bwerau i gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol honno heb ymgynghori â’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth (adrannau 39 – 45)
101.Mae adran 39 yn darparu’r diffiniadau ar gyfer yr adrannau hyn, mae adrannau 40 – 43 yn nodi dyletswyddau ar awdurdodau lleol sy’n ymwneud â “phersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth” ac mae adran 44 yn delio â chymhwyso dyletswyddau yn y Ddeddf i bersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth a’r rheini sy’n cael eu cadw’n gaeth ac eithrio mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr. Mae adran 45 yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau i gymhwyso swyddogaethau penodol gydag addasiad neu hebddo mewn cysylltiad â phlant neu bobl ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
102.Mae cymhwyso dyletswyddau yn y Ddeddf i blant neu bobl ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw yn dibynnu ble y cânt eu cadw’n gaeth. Os yw’r person yn “berson sy’n cael ei gadw’n gaeth”, hynny yw ei fod yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr (er enghraifft, mewn coleg diogel), yna mae’r dyletswyddau amrywiol ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol yn peidio â bod yn gymwys ond mae’r dyletswyddau a nodir yn adrannau 40 i 43 yn gymwys yn lle hynny. Mae’r dyletswyddau hyn yn debyg i ddyletswyddau eraill yn y Ddeddf, ond maent wedi eu haddasu yn sgil y sefyllfa cadw’n gaeth. Er enghraifft, dim ond awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am faterion ADY (nid cyrff llywodraethu) yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth a’u dyletswydd yw trefnu darpariaeth ddysgu ychwanegol briodol, yn hytrach na sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn y CDU. Mae hyn yn ystyried y posibilrwydd na allai’r awdurdod lleol sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol benodol am fod y person yn cael ei gadw’n gaeth.
103.Os yw plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety arall (er enghraifft mewn carchar), yna nid yw dyletswyddau amrywiol ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol yn gymwys yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth mewn llety o’r fath (gweler adran 562 o DDeddf 1996 ac adran 44(3)-(7)). Y rheswm dros hyn yw bod addysg mewn llety ieuenctid perthnasol yn wahanol iawn i’r addysg yn y carchar (er enghraifft, mae’n orfodol mewn llety ieuenctid perthnasol ond nid yw’n orfodol yn y carchar).
Adran 39 - Ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” a thermau allweddol eraill
104.Mae adran 39 yn diffinio “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” fel plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr (ac yn achos darpariaethau sy’n gymwys pan gaiff person ei ryddhau, mae’n cynnwys person a oedd, yn union cyn ei ryddhau, yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth). Mae’r diffiniadau o fod yn ddarostyngedig i “gorchymyn cadw” (“detention order”) a “llety ieuenctid perthnasol” (“relevant youth accommodation”) yn adran 562 o DDeddf 1996:
mae “gorchymyn cadw” (“detention order”) yn orchymyn a wneir gan lys, neu’n orchymyn adalw a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (ond nid y gorchmynion na’r awdurdodiadau a grybwyllir yn adran 562(2) a (3) o DDeddf 1996);
ystyr “llety ieuenctid perthnasol” yw llety cadw ieuenctid (o fewn yr ystyr a roddir i “youth detention accommodation” gan adran 107(1) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000), ac nid yw’n sefydliad i droseddwyr ifanc, nac yn rhan o sefydliad o’r fath, sy’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer cadw personau sy’n 18 oed ac yn hŷn yn gaeth.
105.Mae’r adran hon hefyd yn diffinio termau allweddol cysylltiedig eraill a ddefnyddir yn y Ddeddf, gan gynnwys “awdurdod cartref” (sy’n cyfeirio at y diffiniad o “home authority” yn adran 562J o DDeddf 1996). Mae awdurdod cartref yn awdurdod lleol a nodir mewn perthynas ag unigolyn yn unol â’r diffiniad.. Yn ogystal, mae’n caniatáu i reoliadau gael eu gwneud sy’n cymhwyso, gydag addasiadau, agweddau penodol ar y diffiniad o “awdurdod cartref” y darperir ar ei gyfer yn adran 562J o DDeddf 1996.
Adran 40 - Dyletswydd i lunio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth
106.Diben adran 40 yw sicrhau, pan fo’n cael ei ddwyn i sylw awdurdod cartref yng Nghymru, neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall, y gall fod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth ADY ac nad yw CDU yn cael ei gadw ar ei gyfer o dan adran 42 fod rhaid i’r awdurdod cartref benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY. Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu bod gan y person ADY, rhaid iddo benderfynu, yn unol â rheoliadau o dan adran 45, a fydd angen cynnal CDU ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw unwaith y bydd wedi ei ryddhau er mwyn diwallu ei anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.
107.Er mwyn gwneud y penderfyniad hwn, mae dyletswydd wedi ei gosod ar yr awdurdod cartref i wahodd y person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniad ac, os oes angen, i fod yn rhan o’r gwaith o lunio CDU. Rhaid rhoi copi o’r CDU i’r plentyn sy’n cael ei gadw’n gaeth a’i riant, neu’r person ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.
108.Rhaid i’r awdurdod cartref hysbysu’r plentyn sy’n cael ei gadw’n gaeth a’i riant, neu’r person ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol, os yw’n penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY neu’n penderfynu na fyddai cynnal CDU yn angenrheidiol pan fydd yn cael ei ryddhau. Rhaid i’r awdurdod cartref ddarparu esboniad o’r rhesymau dros ei benderfyniad. Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â’r gofynion i hysbysu plentyn neu i roi copïau o gynllun i blentyn.
Adran 41 - Amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys
109.Mae adran 41 yn nodi’r eithriadau i’r dyletswyddau ar awdurdodau cartref yn adran 40(2) mewn perthynas â phenderfynu a oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth ADY ac a fydd angen CDU ar gyfer y person pan fydd yn cael ei ryddhau. Nid yw’r dyletswyddau hyn yn gymwys os nad yw person ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth yn cydsynio i’r penderfyniad o ran a oes ganddo ADY gael ei wneud neu i gynllun gael ei lunio. Nid yw’r dyletswyddau hyn yn gymwys ychwaith os yw’r awdurdod cartref wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY a’i fod wedi ei fodloni nad yw anghenion y person wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, ac nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw neu’r penderfyniad na fydd angen cynnal CDU ar gyfer y person pan fydd yn cael ei ryddhau.
Adran 42 - Dyletswydd i gadw cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth
110.Os oedd gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth CDU yn union cyn iddo gael ei gadw’n gaeth, neu fod un yn cael ei lunio gan yr awdurdod cartref yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth yn barod ar gyfer ei ryddhau (o dan adran 40), oni bai bod y person yn berson ifanc nad yw’n cydsynio iddo, mae adran 42 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod cartref i gadw’r CDU tra bo’r person yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol. Mae hyn yn wahanol i’r ddyletswydd i gynnal CDU, sy’n golygu ei bod yn ofynnol, ymhlith pethau eraill, i’r corff sy’n ei gynnal sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir ynddo. Mewn cyferbyniad â hynny, mae cadw CDU yn golygu ei gadw yn unig (ond nid ei adolygu) a threfnu i ‘ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol’ gael ei darparu i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth tra bo’n cael ei gadw’n gaeth felly (is-adran (8)). Darpariaeth ddysgu ychwanegol briodol yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn y CDU, neu os nad yw hynny’n ymarferol, ddarpariaeth addysgol sy’n cyfateb mor agos â phosibl iddi, neu, pan na fo’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y cynllun yn briodol mwyach, ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r awdurdod cartref yn ystyried ei bod yn briodol (is-adran (9)).
111.Ni fydd awdurdod cartref ond yn gyfrifol am gadw CDU a gynhelid o’r blaen gan gorff neu awdurdod arall unwaith y caiff y ffaith bod CDU yn cael ei gynnal ei dwyn i sylw’r awdurdod cartref (is-adran (5)).
112.Rhaid i’r awdurdod cartref roi gwybod i’r plentyn sy’n cael ei gadw’n gaeth a’i riant, neu’r person ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth, os yw CDU yn cael ei gadw a rhoi copi o’r CDU i’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol (is-adrannau (6) – (7)). Gweler adrannau 84 a 85 mewn cysylltiad â’r gofyniad i roi gwybod i blentyn.
Adran 43 - Rhyddhau person sy’n cael ei gadw’n gaeth
113.Mae adran 43 yn sicrhau, pan fydd person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn cael ei ryddhau a bod awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ar y dyddiad rhyddhau, fod yr awdurdod lleol hwnnw yn gyfrifol am gynnal cynllun a oedd yn cael ei gadw ar gyfer y person o dan adran 42 ac am sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir ynddo. Mae’r cynllun hwn yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14. Fodd bynnag, os yw’r person sy’n cael ei ryddhau yn blentyn sy’n derbyn gofal pan gaiff ei ryddhau, rhaid i’r awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun, sy’n cael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19.
Adran 44 - Darpariaethau penodol Rhan 2 nad ydynt i fod yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth
114.Mae adran 44 yn delio â chymhwyso dyletswyddau yn y Ddeddf mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth. Mae is-adran (1) yn darparu i’r dyletswyddau ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol a restrir yn is-adran (2) beidio â bod yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n cael ei gadw’n gaeth (a ddiffinnir yn adran 39(1)) o ddechrau’r cyfnod o gadw’r person hwnnw yn gaeth.
115.Mae is-adran (3) yn darparu i’r dyletswyddau ar gyrff llywodraethu a restrir yn is-adran (4) beidio â bod yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.
116.Mae is-adrannau (5) i (7) yn delio â’r rhyngweithio rhwng Rhan 2 ac adran 562 o DDeddf 1996. Mae adran 562 yn datgymhwyso swyddogaethau awdurdod lleol o dan DDeddf 1996 mewn perthynas â phersonau penodol sy’n cael eu cadw’n gaeth. Mae Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 yn diwygio adran 562 fel nad yw’r datgymhwyso yn gymwys mwyach i’r rheini sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol. Mae adran 562 yn gymwys i’r Ddeddf (gweler adran 99(6)). Mae is-adrannau (5) i (7) yn cymhwyso adran 562 at ddibenion y Ddeddf fel pe bai’r diwygiadau a wneir iddi gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 eisoes mewn grym yn llawn o ran Cymru, ac fel pe bai’r cyfeiriad ynddi at lety ieuenctid perthnasol yn gyfeiriad at lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr. O ganlyniad, nid yw’r dyletswyddau yn Rhan 2 o’r Ddeddf ar awdurdodau cartref yn cael eu datgymhwyso mewn perthynas â’r rheini sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr, ond nid yw’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol yn Rhan 2 yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.
Adran 45 – Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
117.Mae adran 45 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i gymhwyso swyddogaethau y darperir ar eu cyfer gan Ran 2 mewn cysylltiad â phersonau sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae’r pŵer ar gael pan na fo’r swyddogaethau yn gymwys oherwydd adran 562 o DDeddf 1996 neu adran 44. Mae’r pŵer i gymhwyso’r swyddogaethau gydag addasiad neu hebddo.
Yr angen am gynlluniau
Adran 46 – Rheoliadau ynghylch penderfynu a oes angen cynllun datblygu unigol
118.Yn gyffredinol, i bobl ifanc ag ADY, os ydynt mewn ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach yng Nghymru, mae hawlogaeth ganddynt i gael CDU (gweler adrannau 11, 14 ac 31(6)(b)). Os nad yw person ifanc yn fyfyriwr o’r fath neu’n ddisgybl o’r fath neu os yw’n cael ei gadw’n gaeth, mae pa un a oes gan y person hawlogaeth i gael CDU ai peidio yn dibynnu ar benderfyniad o ran a oes angen cynnal cynllun ar gyfer y person er mwyn diwallu ei anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant (gweler adrannau 14(1)(c)(ii), 31(6)(b) a 40(2)(b), er bod union eiriad y penderfyniad ychydig yn wahanol ym mhob achos o ystyried yr amgylchiadau gwahanol o dan sylw). Mae adran 46 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch y penderfyniadau hynny, yn benodol y materion a restrir yn is-adran (2).
Pennod 3 – Swyddogaethau Atodol.
Swyddogaethau sy’n ymwneud â sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol
Adran 47 - Dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol
119.Mae adran 47(1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo plentyn neu berson ifanc sydd ag ADY yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad addysg bellach, ond nad oes CDU wedi ei gynnal ar ei gyfer, fod rhaid i’r corff llywodraethu perthnasol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ADY y person yn galw amdani. Y rheswm dros hyn yw sicrhau, er enghraifft, fod plant a phobl ifanc o’r fath yn cael cefnogaeth briodol tra canfyddir eu hanghenion neu tra llunnir cynllun ar eu cyfer. Rhaid i’r cod gynnwys canllawiau ynghylch sefyllfaoedd pan fo cynllun yn cael ei lunio ar gyfer y dysgwr (is-adran (3)). Bydd y ddyletswydd ar y cyrff llywodraethu hefyd yn gymwys mewn cysylltiad â disgyblion neu fyfyrwyr sy’n preswylio yn Lloegr ac nad oes ganddynt CDU (yn yr achos hwnnw, mae’n bosibl bod ganddynt gynllun AIG, neu mae’n bosibl bod cais wedi ei wneud i’r awdurdod lleol yn Lloegr am asesiad AIG - gweler adran 12).
120.Mae adran 47(4) a (5) yn ei gwneud yn ofynnol, pan fydd awdurdod lleol yn cynnal CDU ar gyfer plentyn neu berson ifanc sy’n mynychu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach, fod y corff llywodraethu perthnasol yn cymryd pob cam rhesymol i helpu’r awdurdod lleol i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn y CDU.
Adran 48 - Dyletswydd i dderbyn plant i ysgolion a gynhelir a enwir
121.Mae adran 48 yn gosod dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru i dderbyn plant pan fo’r ysgol honno wedi ei henwi mewn CDU at ddiben derbyn plant gan awdurdod lleol. Mae hyn yn debyg i’r sefyllfa o dan DDeddf 1996 mewn perthynas ag enwi ysgol mewn datganiad AAA. Fodd bynnag, mae’r adran hon yn cyfyngu ar yr amgylchiadau hynny pan ganiateir i ysgolion gael eu henwi i’r amgylchiadau hynny pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod lles y plentyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei gwneud yn yr ysgol honno, a’i bod yn briodol darparu’r addysg neu’r hyfforddiant i’r plentyn yno. Cyn enwi ysgol o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â chorff llywodraethu’r ysgol, ac yn achos ysgol a gynhelir pan nad yr awdurdod lleol na’i chorff llywodraethu yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol (fel y’i diffinnir gan adran 88 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998), â’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r ysgol.
122.Pan fo ysgol a gynhelir wedi ei henwi o dan yr adran hon, rhaid i’r corff llywodraethu dderbyn y plentyn hyd yn oed os byddai hyn yn arwain at fynd yn uwch nag unrhyw derfyn ar faint dosbarth babanod (gweler is-adran (5)). Nid yw’r ddyletswydd yn yr adran hon i dderbyn plentyn yn effeithio ar unrhyw bŵer i wahardd y plentyn hwnnw o’r ysgol (is-adran (6)).
Adran 49 - Dim pŵer i godi tâl am ddarpariaeth a sicrheir o dan y Rhan hon
123.Mae adran 49 yn sicrhau nad oes rhaid i blentyn, rhiant (sy’n unigolyn yn hytrach nag awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn) neu berson ifanc dalu am unrhyw ddarpariaeth y mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw o dan y Ddeddf. Mae’r adran yn diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 er mwyn sicrhau na ellir defnyddio swyddogaethau awdurdod lleol o dan y Ddeddf honno, sy’n ymwneud ag adennill cyfraniadau oddi wrth rieni plant sy’n derbyn gofal tuag at gynhaliaeth y plentyn, ar gyfer materion y mae’r awdurdod yn eu sicrhau o dan y Ddeddf.
Adran 50 - Dyletswyddau Gweinidogion Cymru i sicrhau addysg a hyfforddiant ôl-16
124.Mae’r Ddeddf yn diwygio darpariaethau yn Neddf 2000 sy’n delio â dysgwyr ôl-16 sydd ag ‘anawsterau dysgu’. Mae’r Ddeddf honno yn rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â: chynnal asesiadau ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd ag anawsterau dysgu (adran 140); sicrhau llety byrddio i ddysgwyr ôl-16 o dan amgylchiadau penodedig (adran 41); ac yn fwy cyffredinol, sicrhau cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant ôl-16 (adrannau 31, 32 a 34), ond wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i anghenion personau ag anawsterau dysgu ac i asesiadau dysgu a sgiliau (adran 41).
125.Mae adran 50 yn diwygio Deddf 2000 er mwyn dileu swyddogaethau sy’n ymwneud â sicrhau llety byrddio a chynnal asesiadau ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag anawsterau dysgu, gan fod y materion hyn yn cael eu disodli gan y system ADY y darperir ar ei chyfer yn Rhan 2, sy’n cynnwys dyletswyddau i benderfynu a oes gan berson ifanc ADY, i lunio a chynnal CDUau ac i sicrhau bwyd a llety i bobl ifanc o dan amgylchiadau penodedig.
126.Mae adran 50 hefyd yn diwygio Deddf 2000 fel bod Gweinidogion Cymru, wrth iddynt gynllunio’r ddarpariaeth o addysg neu hyfforddiant ôl-16, yn ystyried gallu’r gweithlu addysg bellach i gyflenwi darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg ac argaeledd cyfleusterau i asesu a oes gan bersonau ADY drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn diwygio’r hyn sy’n weddill o adran 41 er mwyn adlewyrchu’r derminoleg yn y Ddeddf hon. Mae paragraff 8 o Atodlen 1 yn gwneud newidiadau canlyniadol pellach i derminoleg yn Neddf 2000.
Adran 51 - Dyletswydd i ffafrio addysg i blant mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir
127.Mae adran 51 yn ei gwneud yn ofynnol, pan ddylai plentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol ac sydd ag ADY gael ei addysgu mewn ysgol, fod rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir yn is-adran (2) yn gymwys. Mae’r eithriadau hyn yn cydnabod y gallai fod yn briodol addysgu plentyn ag ADY mewn man arall ar adegau. Fodd bynnag, nid yw’r eithriad ynghylch dymuniadau rhieni yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol sicrhau addysg y plentyn ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir (is-adran (4)). Hefyd, nid yw’r gofyniad ar yr awdurdod lleol yn yr is-adran hon yn atal plentyn rhag cael ei addysgu mewn ysgol arbennig gymeradwy nas cynhelir yn Lloegr neu mewn ysgol annibynnol, os nad yw’n talu cost yr addysg honno (is-adran (5)).
Adran 52 - Plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir
128.Mae adran 52 yn ei gwneud yn ofynnol i blant ag ADY sy’n cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir gymryd rhan mewn gweithgareddau ochr yn ochr â’u cyfoedion nad oes ganddynt ADY, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol ac yn gydnaws â’r materion a restrir yn is-adran (2).Yn benodol, mae’r mater yn is-adran (2)(a) (y plentyn yn cael y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei ADY yn galw amdani) wedi ei gynnwys oherwydd gall natur ADY y plentyn neu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei hangen arno fod o’r fath fel y dylai gael ei addysgu ar wahân i’w gyfoedion am o leiaf ran o’r amser, neu fod rhaid i hynny ddigwydd hyd yn oed. Er enghraifft, gallai hyn olygu bod angen i blentyn dreulio rhan o’r diwrnod ysgol wedi ei ddyrannu i amser addysgu ystafell ddosbarth mewn uned arbennig sydd wedi ei hatodi i’r ysgol ac sy’n gallu cyflenwi darpariaeth arbenigol ar gyfer anghenion y plentyn, ond ar adegau eraill, y dylai’r plentyn allu ymuno â’r disgyblion eraill mewn gweithgareddau ysgol megis gwasanaethau, egwyliau, diwrnodau mabolgampau, gwibdeithiau a rhai gweithgareddau ystafell ddosbarth.
Adran 53 - Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mannau ac eithrio mewn ysgolion
129.Mae adran 53 yn caniatáu i awdurdod lleol sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol neu unrhyw ran ohoni a nodir mewn CDU y mae’n ei gynnal ar gyfer plentyn yn cael ei gwneud mewn man arall pan fydd wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud mewn ysgol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhai mathau o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn golygu defnyddio offer arbenigol na ellir eu rhoi ar gael mewn ysgol.
Adran 54 - Diwygiadau i ofynion cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru
130.Mae adran 54 yn diwygio Deddf Addysg 2002 fel bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o’r ysgolion sydd wedi eu cynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru. At hynny, pan fydd ysgolion annibynnol yn cofrestru â Gweinidogion Cymru, o ganlyniad i’r diwygiad yn is-adran (3) o adran 160 o Ddeddf 2002, bydd yn ofynnol iddynt, drwy reoliadau, bennu’r math(au) (os oes rhai) o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wnânt ar gyfer disgyblion ag ADY. Rhaid i’r wybodaeth hon gael ei phennu yn y gofrestr a gyhoeddir hefyd.
Adran 55 - Amodau sy’n gymwys i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn ysgolion annibynnol
131.O dan adran 55, ni chaiff awdurdod lleol leoli plentyn neu berson ifanc mewn ysgol annibynnol yng Nghymru oni bai bod yr ysgol ar y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall yr ysgol wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn CDU y person.
132.Yn yr un modd, mae awdurdod lleol wedi ei wahardd rhag lleoli plant a phobl ifanc mewn sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (fel y’u diffinnir yn Neddf Addysg a Sgiliau 2008), oni bai bod y sefydliad wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall y sefydliad wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn CDU y person.
133.Mae’r darpariaethau hyn yn disodli’r darpariaethau cymeradwyo a chysyniad unigol yn adran 347 o DDeddf 1996, a ddilëir gan adran 58.
Adran 56 - Rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
134.Mae adran 56 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal rhestr wedi ei chyhoeddi o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol (a ddiffinnir yn is-adran (6)) yng Nghymru ac yn Lloegr. Caiff perchenogion sefydliadau o’r fath (sydd wedi eu trefnu’n arbennig i ddarparu addysg a hyfforddiant ar gyfer personau ag ADY sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) wneud cais i Weinidogion Cymru i gael eu cynnwys ar y rhestr. Ni chaiff awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 i leoli plant a phobl ifanc mewn sefydliadau o’r fath nad ydynt ar y rhestr, oni bai bod eithriad a nodir mewn rheoliadau yn gymwys (is-adran (3)). Rhaid i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer y gofynion gwneud cais, a materion sy’n ymwneud â’r rhestr, gan gynnwys yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau i wrthod rhestru sefydliad neu i ddileu sefydliad o’r rhestr (is-adran (5)).
Adran 57 - Diddymu cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir yng Nghymru
135.Mae adran 57 yn diwygio Deddf 1996 i ddileu pŵer Gweinidogion Cymru i gymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir yng Nghymru. Bydd rhaid i ysgolion newydd nas cynhelir gofrestru fel ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002.
Adran 58 - Diddymu cymeradwyo ysgolion annibynnol yng Nghymru
136.Mae adran 58 yn diddymu adran 347 o DDeddf 1996 (cymeradwyo ysgolion annibynnol fel rhai sy’n addas i dderbyn plant â datganiadau AAA). Mae adrannau 54 a 55 yn darparu ar gyfer materion sy’n ymwneud â gofynion cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol ac amodau ar gyfer awdurdod lleol sy’n sicrhau addysg ar gyfer plentyn neu berson ifanc ag ADY mewn ysgol annibynnol.
Adran 59 - Darpariaeth ddysgu ychwanegol y tu allan i Gymru a Lloegr
137.Mae adran 59 yn caniatáu i awdurdod lleol drefnu bod plentyn neu berson ifanc ag ADY yn mynychu sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, pan fo’r sefydliad hwnnw wedi ei drefnu i wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn ei CDU.
Swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol
Adran 60 - Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol
138.Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (sy’n cynnwys ysgolion meithrin a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion) ac eithrio ysgolion arbennig a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach ddynodi person (neu bersonau) yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (cydlynydd ADY) i fod yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion a myfyrwyr ag ADY. Mae hefyd yn caniatáu i reoliadau roi swyddogaethau i gydlynwyr ADY sy’n ymwneud â darpariaeth ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ag ADY. Nid oes gan gydlynydd ADY sefydliad addysg bellach y swyddogaethau hyn mewn perthynas â myfyrwyr ymrestredig i’r graddau y maent yn dilyn addysg uwch a ddarperir gan y sefydliad addysg bellach (is-adran (5) ac adran 86). Caiff rheoliadau hefyd ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan gydlynwyr ADY y cymwysterau neu’r profiad (neu’r ddau) fel y’u rhagnodir yn y rheoliadau.
Adran 61 - Swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig
139.Mae adran 61 yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol i ddynodi swyddog i fod yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag ADY. Rhaid i’r swyddog feddu ar gymwysterau a phrofiad addas o ran darparu gofal iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY a bod naill ai’n ymarferydd meddygol cofrestredig, yn nyrs gofrestredig neu’n weithiwr iechyd proffesiynol arall.
Adran 62 - Swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar
140.Mae adran 62 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddynodi swyddog sydd â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau'r awdurdod o dan Ran 2 mewn perthynas â phlant o dan yr oedran ysgol gorfodol, sydd ag ADY neu a all fod ag ADY, ac nad ydynt mewn ysgol neu feithrinfa a gynhelir.
Swyddogaethau amrywiol
Adran 63 - Dyletswydd i gadw darpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiad
141.Mae adran 63 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gadw o dan adolygiad y trefniadau a wneir ganddynt hwy a chan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn eu hardal ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY. Mae hyn yn cynnwys ystyried y graddau y mae’r trefniadau yn ddigonol i ddiwallu ADY y plant a’r bobl ifanc y maent yn gyfrifol amdanynt. Fel rhan o’u hystyriaethau, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a all gael ei threfnu’n rhesymol gan gyrff eraill (megis cyrff iechyd). Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg a maint a gallu’r gweithlu sydd ar gael. Os yw awdurdod lleol yn ystyried nad yw’r trefniadau yn ddigonol mewn unrhyw ffordd, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni’r mater. Rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn llywio’r broses ystyried ac adolygu, ac ar yr adegau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
Adran 64 - Dyletswydd cyrff iechyd i hysbysu rhieni etc.
142.Mae’r adran hon yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo corff iechyd yng Nghymru neu yn Lloegr o fath a restrir yn is-adran (2) yn arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol ac y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano. Os yw’r corff iechyd yn ffurfio barn bod gan y plentyn (neu y mae’n debygol bod gan y plentyn) ADY, rhaid i’r corff iechyd ddwyn ei farn i sylw’r awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y plentyn (neu os yw’r plentyn yn derbyn gofal, yr awdurdod sy’n gofalu am y plentyn), os yw’r corff iechyd wedi ei fodloni y byddai gwneud hynny er lles pennaf y plentyn.
143.Cyn gwneud hynny, rhaid i’r corff iechyd roi gwybod i riant y plentyn am ei farn ac am ei ddyletswydd i roi gwybod i’r awdurdod lleol priodol. Y rheswm dros hyn yw sicrhau bod y rhiant yn cael cyfle i drafod y farn â swyddog o’r corff iechyd, cyn i’r corff iechyd ddwyn ei farn i sylw’r awdurdod lleol priodol ac mae’n bosibl hefyd y bydd y drafodaeth yn helpu i lywio asesiad y corff iechyd o les pennaf y plentyn.
144.Mae’r adran hon hefyd yn gosod dyletswydd ar y corff iechyd i roi gwybod i’r rhiant am unrhyw sefydliadau gwirfoddol y mae’n ystyried eu bod yn debygol o allu rhoi cyngor neu gymorth i’r rhiant mewn cysylltiad ag unrhyw ADY a all fod gan y plentyn.
Adran 65 - Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall
145.Mae adran 65 yn darparu, pan fydd awdurdodau lleol yn gofyn am wybodaeth neu help arall gan bersonau penodol er mwyn arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2, y cydymffurfir â’r ceisiadau hynny, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (2). Mae’r personau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon wedi eu rhestru yn is-adran (4), sef pob corff cyhoeddus neu bersonau eraill sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus.
146.Caiff person o’r fath wrthod cydymffurfio â’r cais am help neu wybodaeth os yw’n ystyried bod gwneud hynny’n anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun neu y byddai’n cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau (is-adran (2)). Fodd bynnag, os nad yw’r person yn cydymffurfio â chais o’r fath am help neu wybodaeth, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros wrthod y cais i’r awdurdod lleol (is-adran (3)).
147.Mae is-adran (5) yn caniatáu i reoliadau nodi cyfnod y mae rhaid i’r person gydymffurfio â chais ynddo, ac i eithriadau fod yn gymwys i’r gofyniad i gydymffurfio o fewn y cyfnod hwn.
Adran 66 - Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraill
148.Mae adran 66 yn sicrhau bod gan awdurdod lleol sy’n cynnal CDU ar gyfer plentyn neu berson ifanc hawl i gael mynediad i unrhyw fan ym mangre’r ysgol neu’r sefydliad arall yng Nghymru neu yn Lloegr lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw. Dim ond pan fo’n angenrheidiol er mwyn i’r awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon y mae’r hawl mynediad hon yn gymwys, a rhaid i hynny ddigwydd ar adeg resymol.
149.Mae’r sefydliadau y mae hawl gan awdurdod lleol i gael mynediad iddynt wedi eu rhestru yn is-adran (3).
Adran 67 - Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol
150.Mae adran 67 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu i awdurdodau lleol gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i bersonau sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol neu sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon. Caiff hyn gynnwys rheoliadau ynghylch telerau ac amodau cyflenwi nwyddau a gwasanaethau o’r fath.
Pennod 4 – Osgoi a Datrys Anghytundebau.
Trefniadau awdurdodau lleol
Adran 68 - Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau
151.Mae adran 68 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer osgoi a datrys y canlynol:
anghytundebau rhwng awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ar y naill law, a phlant, eu rhieni a phobl ifanc ar y llaw arall mewn perthynas â swyddogaethau o dan y Ddeddf (is-adran (1)); a
anghytundebau rhwng perchenogion (fel y’u diffinnir yn adran 579(1) o DDeddf 1996 ac adran 99(1)) mathau amrywiol o ysgol a sefydliadau eraill yng Nghymru neu yn Lloegr (gweler y rhestr yn is-adran (7)) ar y naill law ac ar y llaw arall, plant, eu rhieni a phobl ifanc ynghylch y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir ar gyfer plant neu bobl ifanc.
152.Mae’r gofyniad hwn yn cynnwys darparu mynediad at help gan berson annibynnol i ddatrys anghytundeb. O dan adran 9 rhaid i awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i bobl amrywiol, gan gynnwys plant a’u rhieni, pobl ifanc a chyrff llywodraethu yn eu hardal. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd hybu’r defnydd ohonynt (adran 68(4)). Caiff y cod osod gofynion pellach ar awdurdodau lleol mewn cysylltiad â’r trefniadau o dan adran 4(5). Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol hefyd i roi gwybod i blant, eu rhieni a phobl ifanc nad yw’r trefniadau hyn yn effeithio ar eu hawl i apelio i’r Tribiwnlys (is-adran (5)). Mae is-adran (8) yn darparu y bydd trefniadau awdurdodau lleol o dan yr adran hon hefyd yn gymwys i blant y maent yn gofalu amdanynt, ond nad ydynt yn eu hardal.
Adran 69 - Gwasanaethau eirioli annibynnol
153.Mae adran 69 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer gwasanaethau eirioli annibynnol sy’n darparu cyngor a chymorth i blentyn, person ifanc neu gyfaill achos (gweler adran 85) sy’n gwneud, sy’n bwriadu gwneud neu sy’n ystyried gwneud, apêl i’r Tribiwnlys neu sy’n cymryd rhan, neu sy’n bwriadu cymryd rhan, mewn trefniadau ar gyfer datrys anghytundebau a wneir o dan adran 68. Mae dyletswydd hefyd i atgyfeirio plant, pobl ifanc a chyfeillion achos o’r fath (pan fo’r awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn penodol neu’r person ifanc penodol – gweler adran 85) i ddarparwr y gwasanaethau eirioli. Mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc os yw’r person yn ardal yr awdurdod (gweler adran 99(4)) ac yn rhinwedd adran 68(8), bydd trefniadau awdurdodau lleol o dan yr adran hon hefyd yn gymwys i blant y maent yn gofalu amdanynt, ond nad ydynt yn eu hardal. Mae hyn yn caniatáu i blant o’r fath sy’n derbyn gofal gael mynediad at drefniadau eirioli’r awdurdod lleol sy’n gofalu amdanynt, neu drefniadau eirioli’r awdurdod lleol y maent yn ei ardal.
154.Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r egwyddor y dylai trefniadau’r gwasanaethau eirioli annibynnol fod yn annibynnol ar unrhyw berson sy’n destun apêl neu sy’n ymwneud â’r apêl (is-adran (3)).
155.Mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol, o dan adran 9, gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pobl amrywiol, gan gynnwys plant (a’u rhieni), pobl ifanc a chyrff llywodraethu yn eu hardal yn ymwybodol o’r trefniadau hyn.
Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys
Adran 70 - Hawliau o ran apelau a cheisiadau
156.Mae adran 70 yn darparu hawl i blant, eu rhieni a phobl ifanc i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn penderfyniadau cyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach a phenderfyniadau awdurdodau lleol ac mewn perthynas â CDUau a lunnir neu a gynhelir gan gorff neu awdurdod o’r fath neu a ddiwygir gan awdurdod o dan adran 27(6). Nid yw’n caniatáu i apelau gael eu dwyn yn erbyn camau cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, ond gall eu camau gael eu hatgyfeirio i awdurdodau lleol er mwyn iddynt eu hailystyried (gweler adrannau 26, 27 a 32) ac mae hawl i apelio yn erbyn camau’r awdurdodau wrth ailystyried materion (fel y’i nodir yn is-adran (2)).
157.Mae is-adran (2) yn nodi’r materion y caiff plentyn, ei riant neu berson ifanc apelio i’r Tribiwnlys yn eu herbyn, er enghraifft ynghylch penderfyniad bod gan blentyn neu berson ifanc ADY neu nad oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.
158.Yn rhinwedd adran 85, o dan amgylchiadau penodol, caniateir i gyfeillion achos gael eu penodi ar ran plentyn nad oes ganddo ddealltwriaeth a deallusrwydd digonol i ddeall rhai o’r materion sydd wedi eu cwmpasu gan y Ddeddf hon a chânt arfer hawliau penodol y plentyn o dan y Ddeddf, gan gynnwys yr hawl i ddwyn apêl o dan adran 70(2). Mae’n bosibl mai’r ffaith bod y plentyn yn ifanc sydd i gyfrif am y ffaith nad oes ganddo ddealltwriaeth neu mae’n bosibl bod rhesymau eraill, megis anabledd dysgu. Mae adran 84 yn darparu ar gyfer pwy sy’n penderfynu nad oes gan blentyn ddealltwriaeth.
159.Mae’r adran hon hefyd yn galluogi plentyn neu riant plentyn i wneud cais i’r Tribiwnlys am ddatganiad naill ai bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd (lefel angenrheidiol o ddealltwriaeth) i wneud penderfyniadau neu i ddeall gwybodaeth mewn perthynas â’i ADY (is-adran (3)).
Adran 71 - Penderfyniadau ar apelau a cheisiadau o dan adran 70
160.Mae adran 71 yn nodi’r gorchmynion neu’r penderfyniadau eraill y caiff y Tribiwnlys eu gwneud ar apêl o dan adran 70(2) (Hawliau o ran apelau a cheisiadau). Mae hefyd yn darparu i’r Tribiwnlys, ar gais o dan adran 70(3) o ran pa un a oes gan blentyn alluedd ai peidio, ddatgan ar y mater.
Adran 72 - Hawliau o ran apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaeth
161.Mae adran 72 yn rhestru’r materion y caiff person sy’n cael ei gadw’n gaeth (pa un a yw’n blentyn neu’n berson ifanc) a rhiant plentyn sy’n cael ei gadw’n gaeth apelio i’r Tribiwnlys yn eu herbyn. Mae’r rhain yn cyfateb yn fras o ran sylwedd i’r hawliau apelio i blant a phobl ifanc nad ydynt yn cael eu cadw’n gaeth (adran 70), ond yn adlewyrchu’r dyletswyddau gwahanol sy’n ddyledus i bersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth.
Adran 73 - Penderfyniadau ar apelau o dan adran 72
162.Mae adran 73 yn nodi’r gorchmynion neu’r penderfyniadau eraill y caiff y Tribiwnlys eu gwneud ar apêl o dan adran 72 (Hawliau o ran apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaeth).
Adran 74 - Rheoliadau ynghylch apelau a cheisiadau
163.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n cynnwys darpariaeth bellach ynghylch apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys o dan Ran 2, gan gynnwys, er enghraifft, ynghylch materion eraill sy’n ymwneud â CDU y gellir dwyn apêl yn eu herbyn, ynghylch gwneud apelau neu geisiadau a phenderfynu arnynt, rhoi pwerau pellach i’r Tribiwnlys wrth benderfynu ar apêl neu gais, ac apelau neu geisiadau heb wrthwynebiad.
Adran 75 - Rheoliadau ynghylch y weithdrefn
164.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch cychwyn apêl neu gais o dan Ran 2 a thrafodion y Tribiwnlys ar apêl neu gais o’r fath. Mae is-adran (2) yn rhestru’r darpariaethau y caniateir iddynt gael eu cynnwys yn y rheoliadau ac mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i drafodion gerbron y Tribiwnlys gael eu cynnal yn breifat, ac eithrio o dan amgylchiadau a ragnodir mewn rheoliadau.
Adran 76 - Cyrff GIG: tystiolaeth ac argymhellion y Tribiwnlys
165.Mae adran 76 yn darparu y caiff y Tribiwnlys arfer ei swyddogaethau er mwyn: ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG roi tystiolaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r corff; a gwneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer swyddogaethau’r corff, yn y ddau achos mewn perthynas ag apêl o dan Ran 2. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff GIG y gwnaed argymhelliad iddo lunio adroddiad i’r Tribiwnlys, o fewn unrhyw gyfnod a ragnodir mewn rheoliadau, ar naill ai: y camau y mae wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhelliad; neu os nad yw wedi cymryd unrhyw gamau ac nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau, y rheswm dros hynny.
166.Mae ‘corff GIG’ wedi ei ddiffinio yn adran 99(1) fel Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG (gweler hefyd y pŵer yn adran 99(8)).
Adran 77 - Cydymffurfedd â gorchmynion
167.O dan yr adran hon, os yw’r Tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o dan Ran 2 (e.e. sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddiwygio CDU), rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw gydymffurfio â’r gorchymyn cyn diwedd y cyfnod (os oes un) a ragnodir mewn rheoliadau, sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff ei wneud. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff neu’r awdurdod o dan sylw adrodd i’r Tribiwnlys o ran cydymffurfedd â’r gorchymyn o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y mae rhaid ei fod wedi cydymffurfio â’r gorchymyn (o dan is-adran (1)).
Adran 78 – Pŵer i rannu dogfennau a gwybodaeth arall â Gweinidogion Cymru
168.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Tribiwnlys i rannu â Gweinidogion Cymru wybodaeth am gydymffurfedd â gorchymyn neu argymhelliad gan y Tribiwnlys a wneir o dan Ran 2. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y gall rannu’r holl wybodaeth mewn unrhyw achos penodol, oherwydd bydd yn dibynnu ar yr holl amgylchiadau, a fyddai’n gydnaws â hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac a fyddai’n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau eraill yn y gyfraith (er enghraifft o dan ddeddfwriaeth ar ddiogelu data).
169.Mae’n bosibl y bydd hyn yn helpu Gweinidogion Cymru i fonitro gweithrediad y system y darperir ar ei chyfer yn y Ddeddf a llywio ystyriaeth o ran pa un i gymryd camau o dan bwerau eraill (e.e. o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013) mewn ymateb i achosion ymddangosiadol o beidio â chydymffurfio.
Adran 79 - Trosedd
170.Mae’r adran hon yn darparu bod y rheini sy’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â gofyniad (sydd wedi ei osod gan reoliadau o dan adran 74 neu 75) sy’n ymwneud â datgelu dogfennau neu edrych ar ddogfennau neu i fod yn bresennol yn y tribiwnlys i roi tystiolaeth a dangos dogfennau, yn euog o drosedd y mae modd ei chosbi drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Adran 80 - Lwfansau am fod yn bresennol yn Nhribiwnlys Addysg Cymru
171.Mae’r adran hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i dalu lwfansau mewn perthynas â bod yn bresennol yn y Tribiwnlys.
Adran 81 - Apelau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch Dribiwnlys
172.Mae adran 81 yn caniatáu i barti i unrhyw drafodion ynghylch ADY gerbron Tribiwnlys Addysg Cymru apelio (â chaniatâd – gweler is-adran (2)) i’r Uwch Dribiwnlys ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n deillio o benderfyniad a wneir gan Dribiwnlys Addysg Cymru yn y trafodion hynny.
173.Mae adran 12 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn nodi’r hyn y gall yr Uwch Dribiwnlys ei wneud pan fo’n canfod bod gwall cyfreithiol yn gysylltiedig â phenderfyniad mewn apêl o dan adran 11 o’r Ddeddf honno: caiff osod y penderfyniad o’r neilltu ac os felly, mae adran 11 yn nodi’r opsiynau pellach o ran sut i fwrw ymlaen. Mewn gwirionedd, mae adran 81(3) yn cymhwyso hyn i apelau i’r Uwch Dribiwnlys oddi wrth y Tribiwnlys Addysg o dan adran 81.
Pennod 5 - Cyffredinol
Adran 82 - Rheoliadau ynghylch datgelu a defnyddio gwybodaeth
174.Mae adran 82 yn caniatáu ar gyfer rheoliadau ynghylch sut y caniateir i wybodaeth gael ei defnyddio a’i datgelu at ddibenion Rhan 2 neu at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig ag addysg plentyn neu berson ifanc. Gall hyn gynnwys rheoliadau ynghylch personau ychwanegol y mae rhaid iddynt gael copïau o CDUau, ac achosion pan fydd rhaid darparu copïau o’r cynlluniau heb gydsyniad y plentyn, rhiant y plentyn neu’r person ifanc.
Adran 83 - Rhieni a phobl ifanc nad oes ganddynt alluedd
175.Mae adran 83 yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau gael eu gwneud i alluogi rhieni a phobl ifanc, nad oes ganddynt alluedd meddyliol ar adeg pan fydd ganddynt hawl i rywbeth o dan Ran 2 (e.e. i gael hysbysiad neu i wneud apêl), i gael eu cynrychioli gan berson priodol. Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at fod heb alluedd yn gyfeiriad at y diffiniad o “lacking capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005.
Adran 84 - Galluedd plant
176.Mae adran 84 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan na fo gan blentyn ddealltwriaeth a deallusrwydd digonol i ddeall dogfennau a ddarperir o dan Ran 2, neu’r hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawliau o dan y Rhan honno. Gallai hyn fod oherwydd bod y plentyn yn ifanc neu oherwydd resymau eraill, megis anhawster dysgu. Pan fo corff llywodraethu, awdurdod lleol neu gorff GIG yn ystyried nad oes gan blentyn y gallu i ddeall, a/neu pan fo’r Tribiwnlys wedi gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw, nid yw’r dyletswyddau o dan y Ddeddf i ddarparu gwybodaeth i’r plentyn neu i’w hysbysu am benderfyniadau yn gymwys oni bai bod cyfaill achos wedi ei benodi ar gyfer y plentyn gan y Tribiwnlys neu fod y Tribiwnlys wedi datgan bod gan y plentyn alluedd. (Gweler adran 85(4) a (5) am effaith penodi cyfaill achos ar gyfer plentyn ar arfer hawliau’r plentyn hwnnw o dan Ran 2).
177.Ar yr un sail, mae’r adran hon yn datgymhwyso dyletswyddau i adolygu neu i ailystyried penderfyniadau neu CDUau neu i benderfynu pa un ai i gymryd drosodd CDU yn dilyn cais gan blentyn yr ystyrir nad oes ganddo’r galluedd i ddeall.
178.Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ystyried bod gan blentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall, mae is-adran (6) yn galluogi’r plentyn neu riant y plentyn i ofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn ailystyried y mater. Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu ar y mater wedyn. Pa un a wneir cais o’r fath ai peidio, os yw awdurdod lleol o farn wahanol i’r corff llywodraethu ar alluedd plentyn penodol, barn yr awdurdod lleol sy’n drech, ar yr amod bod yr awdurdod wedi rhoi gwybod i’r corff llywodraethu am ei farn (is-adran (2) ynghyd ag is-adran (3)(a) ac is-adran (4)). Yn ogystal, gellir ceisio datganiad gan y Tribiwnlys fod gan blentyn y galluedd i ddeall neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall (gweler adran 71(2)).
Adran 85 - Cyfeillion achos ar gyfer plant nad oes ganddynt alluedd
179.Mae adran 85 yn darparu ar gyfer penodi (neu ddiswyddo) “cyfaill achos” drwy orchymyn gan y Tribiwnlys, pan na fo gan y plentyn y galluedd i gynnal apelau, i wneud penderfyniadau mewn cysylltiad â hawliau a roddir gan y Ddeddf, neu i ddeall gwybodaeth neu ddogfennau a anfonir ato.
180.Mae cyfaill achos yn gallu cynrychioli a chefnogi’r plentyn, gwneud penderfyniadau ar ei ran ac arfer hawliau’r plentyn o dan y Ddeddf. Rhaid i’r cyfaill achos, ymhlith pethau eraill, weithredu’n deg ac yn gymwys ac er budd y plentyn (is-adran (6)).
181.Bydd rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu rhagor o fanylion o ran sut y gellid defnyddio cyfeillion achos i gefnogi hawliau plant. Bydd cael cyfaill achos yn caniatáu i blant nad ydynt, er enghraifft, yn cael cymorth gan eu rhiant i ddwyn apêl neu i arfer hawliau eraill o dan y Ddeddf.
Cyrsiau addysg uwch a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach
Adran 86 – Myfyrwyr mewn sefydliadau addysg bellach sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch
182.Mae swyddogaethau amrywiol awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach yn Rhan 2 yn ymwneud â phobl ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyrwyr mewn sefydliad addysg bellach. Mae adran 86 yn darparu nad yw myfyriwr ymrestredig sy’n dilyn cwrs addysg uwch a ddarperir gan y sefydliad addysg bellach i gael ei drin fel pe bai wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad addysg bellach at ddibenion Rhan 2. Fodd bynnag, os yw myfyriwr ymrestredig yn cael addysg uwch ac addysg (a ddiffinnir yn adran 99 i beidio â chynnwys addysg uwch) neu hyfforddiant gan y sefydliad addysg bellach, dim ond mewn perthynas â’r addysg uwch ac nid ar gyfer yr addysg neu hyfforddiant arall y mae’r myfyriwr yn fyfyriwr addysg uwch (is-adran (4)).
183.Effaith hyn yw nad yw swyddogaethau awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach sy’n ymwneud â myfyrwyr ymrestredig yn gymwys i fyfyrwyr i’r graddau y maent yn fyfyrwyr addysg uwch. Er enghraifft, nid yw corff llywodraethu sefydliad addysg bellach o dan ddyletswydd i benderfynu (yn adran 11) a oes gan fyfyriwr ADY os nad yw ond yn darparu addysg uwch ar ei gyfer. Mae cwrs addysg uwch yn gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
Adran 87 - Cymhwyso darpariaethau ailystyried i ddisgyblion a myfyrwyr sy’n preswylio yn Lloegr
184.Mae’r adran hon yn cymhwyso, gydag addasiadau, swyddogaethau penodol awdurdodau lleol o dan y Ddeddf i blant a phobl ifanc sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr ond sy’n mynychu ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi swyddogaethau i awdurdodau lleol i ystyried penderfyniadau gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chynlluniau a gynhelir ganddynt, mewn cysylltiad â disgyblion yn eu hardal (gweler, er enghraifft, adran 26). Mae hawliau apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny gan yr awdurdod lleol, yn hytrach na phenderfyniadau’r corff llywodraethu (gweler adran 70). Fodd bynnag, mae’n bosibl bod disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr. Er mwyn sicrhau bod dysgwyr o’r fath sy’n preswylio yn Lloegr yn gallu herio penderfyniadau ysgolion mewn perthynas ag ADY, mae’r adran hon yn cymhwyso, gydag addasiadau, yr adrannau sy’n gysylltiedig ag ailystyried penderfyniadau cyrff llywodraethu ysgolion gan awdurdodau lleol.
185.Yn unol â hynny, yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol yng Nghymru y mae’r plentyn neu’r person ifanc sy’n preswylio yn Lloegr yn ei mynychu sy’n gyfrifol am ailystyried penderfyniadau ynghylch ADY (yn unol ag adran 26), ailystyried CDUau y corff llywodraethu (yn unol ag adran 27), ac ailystyried penderfyniadau’r corff llywodraethu i beidio â chynnal CDUau (yn unol ag adran 32). Mae rhai gwahaniaethau yng nghymhwysiad y darpariaethau hyn o ran yr hyn y caiff yr awdurdod lleol sy’n cynnal ei wneud, sy’n adlewyrchu bod awdurdod lleol yn Lloegr sydd â chyfrifoldebau o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig. Er enghraifft, ni chaiff yr awdurdod lleol ond gyfarwyddo’r corff llywodraethu i gynnal neu i lunio a chynnal CDU – ni all gynnal y CDU ei hun na chymryd drosodd y cyfrifoldeb amdano. Yn ogystal, nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol lunio CDU neu gyfarwyddo corff llywodraethu i wneud hynny pan fo wedi gofyn i’r awdurdod lleol perthnasol yn Lloegr gynnal asesiad o anghenion y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 36 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 neu pan fo Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (Cynllun AIG) yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Ddeddf honno. Rhaid i drefniadau awdurdod lleol ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau a gwasanaethau eirioli annibynnol fod ar gael hefyd i ddisgyblion o’r fath a hefyd i bobl ifanc yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sydd wedi ymrestru’n fyfyrwyr mewn sefydliad addysg bellach yn ardal yr awdurdod lleol yng Nghymru (is-adran (4)).
Adran 88 - Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon
186.Pan fo Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol roi dogfen i berson neu hysbysu person, neu pan fo’n awdurdodi corff llywodraethu neu awdurdod lleol i wneud hynny, caniateir iddo gael ei wneud drwy’r dulliau danfon a restrir yn yr adran hon. Dim ond pan fo’r person wedi nodi ei fod yn dymuno cael hysbysiadau neu ddogfennau yn electronig ac wedi darparu cyfeiriad addas y caiff hysbysiadau neu ddogfennau gael eu danfon yn electronig.
Adran 89 - Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg
187.Mae adran 89 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru drefnu adolygiadau o ddigonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg ac adroddiadau arno. Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf cyn 1 Medi yn y bumed flwyddyn yn dilyn cychwyn drwy orchymyn unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2, ac ar ôl hynny, cyn 1 Medi yn y bumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf yr oedd yn ofynnol cyhoeddi adroddiad ynddi.
Adran 90 - Pŵer i ddiwygio dyletswyddau i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg
188.Mae adran 90 yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau sy’n dileu’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” o’r darpariaethau hynny yn y Ddeddf (a restrir yn is-adran (1)) sy’n ymwneud â sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg neu’n darparu yn y darpariaethau hynny nad yw’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” yn gymwys mwyach mewn perthynas â chyrff rhagnodedig penodol neu at ddiben rhagnodedig, neu at ddiben rhagnodedig mewn perthynas â chorff rhagnodedig. Effaith dileu’r geiriau yw bod y ddyletswydd o dan sylw yn newid o fod yn ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei darparu yn Gymraeg i berson i dyletswydd i sicrhau y caiff ei darparu yn Gymraeg.
189.Mae adran 90 hefyd yn darparu i Weinidogion Cymru y pŵer i hepgor adran 89 (h.y. y ddyletswydd i drefnu adolygiadau o ddigonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg) os yw’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu dileu o’r holl ddarpariaethau a restrir yn is-adran (2). Mae’r adran hon yn cysylltu ag adran 89 oherwydd canlyniad yr adolygiadau fydd ystyriaeth berthnasol yn y penderfyniad i arfer y pŵer hwn i wneud rheoliadau.