Adran 95 - Ystyr “yn ardal” awdurdod lleol
194.Mae adran 95 yn diwygio diffiniad rhannol Deddf 1996 o “yn ardal” awdurdod lleol. Mae’r diffiniad rhannol hwnnw yn darparu nad yw cyfeiriadau at berson sydd “yn ardal” awdurdod lleol yn Lloegr yn Neddf 1996 yn cynnwys person a fyddai’n preswylio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru (er enghraifft, person sy’n byw’n barhaol yng Nghymru). Mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn amodi hyn er mwyn sicrhau nad yw cyfeiriadau at berson sydd “yn ardal” awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnwys person a fyddai’n preswylio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru oni bai am ddarpariaeth a sicrheir o dan Ran 2. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, fod person ifanc sy’n byw yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedyn yn cael ei leoli gan yr awdurdod hwnnw mewn sefydliad addysgol preswyl yn Lloegr am gwrs dwy flynedd er mwyn sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn dal i fod yn ardal yr awdurdod lleol yng Nghymru ac felly fod yr awdurdod hwnnw yn parhau i fod yn gyfrifol am y person o dan Ran 2 (ac felly fod rhaid iddo gynnal CDU y person, ei adolygu, sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, etc.).
195.Yn yr un modd, mae’r diffiniad rhannol yn Neddf 1996 ar gyfer cyfeiriadau at berson sydd yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn cael ei ddiwygio fel nad yw cyfeiriadau o’r fath yn cynnwys person a fyddai’n preswylio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, oni bai am ddarpariaeth a sicrheir o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.
196.Mae’r adran hon hefyd yn mewnosod pŵer i wneud rheoliadau yn Neddf 1996 gan ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr cyfeiriadau at y ffaith bod person yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
197.Mae’r diffiniad yn Neddf 1996 fel y’i diwygir gan yr adran hon yn cymhwyso, at ddibenion Deddf 1996, y Ddeddf hon (gweler adran 99(6)) a darpariaethau Deddfau Addysg eraill y mae’r diffiniad yn Neddf 1996 yn gymwys iddynt.