Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Disgyblion a myfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n preswylio yn Lloegr

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Croes Bennawd: Disgyblion a myfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n preswylio yn Lloegr yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 30 Hydref 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Disgyblion a myfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n preswylio yn LloegrLL+C

87Cymhwyso darpariaethau ailystyried i ddisgyblion a myfyrwyr sy’n preswylio yn LloegrLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) o’r adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd—

(a)yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, a

(b)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

(2)Mae adrannau 26, 27, 29 (fel y mae’n gymwys i adrannau 26 a 27 yn unig) a 32 yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn adran 26(1)(b), 27(1)(b) a 32(1)(b), yn lle “i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc” rhodder “i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol”;

(b)yn adran 27(1)(a), yn lle “neu 12(3)” rhodder “, 12(3) neu 12(5)”;

(c)yn adran 29(2), hepgorer paragraff (b);

(d)ym mhob un o’r adrannau mae’r cyfeiriadau eraill at “awdurdod lleol” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

(e)ni chaniateir i’r ddyletswydd yn adran 27(6) gael ei chyflawni ond yn unol â pharagraff (a) o’r ddarpariaeth honno.

(3)Mae adran 14 yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc yn rhinwedd is-adran (2) ac adran 26(4) gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn adran 14(1), hepgorer “os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac”;

(b)mae’r cyfeiriadau at “awdurdod lleol” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

(c)ni chaniateir i’r ddyletswydd yn adran 14(2) gael ei chyflawni ond yn unol â pharagraff (b) o’r ddarpariaeth honno;

(d)nid yw’r ddyletswydd yn adran 14(2) yn gymwys—

(i)os yw’r awdurdod lleol yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 36 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) ac os yw’r awdurdod yn Lloegr, yn rhinwedd y cais hwnnw neu fel arall, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 24(1) o’r Ddeddf honno), neu

(ii)os yw awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc;

(e)os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn cais o dan baragraff (d)(i), yn cael ei hysbysu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr nad yw’n ofynnol iddo sicrhau cynllun AIG ar gyfer y plentyn, mae’r ddyletswydd yn adran 14(2) yn gymwys eto mewn cysylltiad â’r plentyn neu’r person ifanc;

(f)nid yw is-adrannau (6) i (10) o adran 14 yn gymwys.

(4)Mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion adran 68 a 69—

(a)os yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, neu

(b)os yw wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yn ardal yr awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 87 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(h)

Back to top

Options/Help