Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 11

 Help about opening options

No versions valid at: 02/11/2020

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/11/2020. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn ddilys ar gyfer y pwynt hwn mewn amser. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 11 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 10 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Valid from 01/09/2021

11Dyletswydd i benderfynu: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellachLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

(2)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan berson ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

(3)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;

(b)bod y corff llywodraethu wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a bod y corff llywodraethu wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(c)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;

(d)bod y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) a bod awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc;

(e)bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

(4)Os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn)), oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

Back to top

Options/Help