Search Legislation

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 23/07/2019.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, ATODLEN 2 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

(a gyflwynir gan adran 14)

ATODLEN 2LL+CMATERION EITHRIEDIG: RHAN 3

This schedule has no associated Explanatory Notes

1LL+CCamau gweithredu a gymerir gan Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru, neu gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru, neu gydag awdurdod Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru neu gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru at y diben a ganlyn—

(a)ymchwilio i drosedd neu atal trosedd, neu

(b)gwarchod diogelwch y Wladwriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

2LL+CCychwyn neu gynnal achosion gerbron llys ag awdurdodaeth gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

3LL+CCamau gweithredu a gymerir gan aelod o staff gweinyddol tribiwnlys perthnasol cyn belled ag a gwneir hynny ar gyfarwyddyd neu ar awdurdod (boed yn ddatganedig neu’n oblygedig), person sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod o’r tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

4LL+CCamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â phenodiadau, diswyddiadau, tâl, disgyblaeth, blwydd-daliadau neu faterion personél eraill (heblaw gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a phenodi) mewn perthynas â’r canlynol—

(a)gwasanaeth mewn swydd neu gyflogaeth o dan y Goron neu o dan awdurdod rhestredig;

(b)gwasanaeth mewn swydd neu gyflogaeth, neu o dan gontract am wasanaethau, y mae’r pŵer i gymryd camau gweithredu yn ei gylch mewn materion personél, neu i benderfynu ar gamau gweithredu neu i gymeradwyo camau gweithredu i’w cymryd mewn materion personél, wedi’i freinio yn Ei Mawrhydi neu mewn awdurdod rhestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

5LL+CCamau gweithredu sy’n ymwneud â phenderfynu ar swm rhent.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I10Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

6(1)Camau gweithredu a gymerir gan awdurdod a bennir yn is-baragraff (2) ac sy’n ymwneud â’r canlynol—LL+C

(a)rhoi cyfarwyddyd, neu

(b)ymddygiad, cwricwlwm, trefniadaeth fewnol, rheoli neu ddisgyblu,

mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru.

(2)Yr awdurdodau yw—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)panel apêl derbyn;

(c)corff llywodraethu ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol;

(d)panel apêl gwahardd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I12Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

7LL+CCamau gweithredu a gymerir gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan—

(a)Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 (O.S.1992/664) neu unrhyw offeryn sy’n disodli’r rheoliadau hynny;

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 38, 39, 41 neu 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) yn rhinwedd adran 17 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (ymchwiliadau i faterion sy’n ymwneud â gwasanaethau).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I14Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Back to top

Options/Help