25Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau: darparwyr gofal iechyd
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Os caiff ymchwiliad ei gynnal yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru, mae adran 24 yn cael effaith gyda’r addasiadau a bennir yn is-adrannau (2) i (4).
(2)Yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1)Rhaid i berson sydd wedi cael copi o adroddiad o dan adran 23 yn rhinwedd adran 23(2)(d) sicrhau bod copïau o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—
(a)yn un neu ragor o swyddfeydd y person, a
(b)os oes gan y person wefan, ar y wefan honno.”
(3)Mae’r cyfeiriadau at yr awdurdod rhestredig i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at y person hwnnw.
(4)Mae’r cyfeiriadau at awdurdodau rhestredig, neu at awdurdod rhestredig penodol, i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at bersonau, neu berson penodol, o’r un disgrifiad â’r person hwnnw.
(5)Os caiff ymchwiliad ei gynnal yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, mae adran 24 yn cael effaith gyda’r addasiadau a bennir yn is-adrannau (6) i (8).
(6)Yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1)Rhaid i berson sydd wedi cael copi o adroddiad o dan adran 23 yn rhinwedd adran 23(2)(e) sicrhau bod copïau o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—
(a)yn un neu ragor o swyddfeydd y person, a
(b)os oes gan y person wefan, ar y wefan honno.”
(7)Mae’r cyfeiriadau at yr awdurdod rhestredig i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at y person hwnnw.
(8)Mae’r cyfeiriadau at awdurdodau rhestredig, neu at awdurdod rhestredig penodol, i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at bersonau, neu berson penodol, o’r un disgrifiad â’r person hwnnw.