Search Legislation

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Deddfwriaeth yn dod i rym

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, Croes Bennawd: Deddfwriaeth yn dod i rym. Help about Changes to Legislation

Deddfwriaeth yn dod i rymLL+C

29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rymLL+C

Pan fo—

(a)[F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, neu

(b)darpariaeth mewn [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig,

yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 29 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

30Y diwrnod y daw [F1Deddf gan Senedd Cymru] i rymLL+C

Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu ddarpariaeth mewn [F1Deddf gan Senedd Cymru] yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 30 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I4A. 30 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn [F2Deddfau Senedd Cymru] i rymLL+C

Pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—

(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu

(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,

caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 31 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I6A. 31 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Back to top

Options/Help