Search Legislation

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 3

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 06/05/2020

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/01/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, Adran 3. Help about Changes to Legislation

3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddiLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—

(a)y Ddeddf hon;

(b)Deddfau’r Cynulliad sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar [F11 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw];

(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar [F21 Ionawr 2020] neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—

(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;

(b)is-ddeddfwriaeth—

(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir,

(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a

(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.

(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 3 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Back to top

Options/Help