Search Legislation

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 25

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 20/03/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/06/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, Adran 25. Help about Changes to Legislation

25Eithriadau i’r gwaharddiad ar ddatgeluLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben adran 24(1).

(2)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i unrhyw berson i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben cyflawni swyddogaethau’r person hwnnw mewn cysylltiad ag—

(a)cofrestru etholwyr, neu

(b)cynnal etholiad.

(3)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc yn unol â rheoliad 32ZA(5) a (5A) o Reoliadau 2001 (rhagboblogi’r ffurflen ganfasio).

(4)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc (oni bai am unrhyw wybodaeth y gellid canfod dyddiad geni’r person oddi wrthi) mewn fersiwn neu gopi o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol neu gofnod neu restr o bleidleiswyr absennol a gyflenwir yn unol â deddfiad cyflenwi perthnasol, ond dim ond i’r graddau y bo gwneud hynny’n angenrheidiol at ddibenion etholiad lle y bydd gan y person ifanc hawl i bleidleisio neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath.

(5)Yn is-adran (4), ystyr “deddfiad cyflenwi perthnasol” yw—

(a)rheoliad 100 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i’r Comisiwn Etholiadol);

(b)rheoliad 104 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i ddeiliaid swyddi etholiadol perthnasol ac ymgeiswyr), i’r graddau y mae’n gymwys i Aelod o’r Senedd;

(c)rheoliad 108 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i ymgeiswyr), i’r graddau y mae’n gymwys i ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd;

(d)rheoliad 102 o Reoliadau 2001 (darpariaeth gyffredinol), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 104 a 108;

(e)unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn rheoliad 61 o Reoliadau 2001 (cofnodion a rhestrau pleidleiswyr absennol) mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd;

(f)unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn rheoliad 98(4) o Reoliadau 2001 mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd.

(6)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i unrhyw berson i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol sy’n ymwneud â throsedd (neu drosedd honedig) o dan unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag—

(a)cofrestru etholwyr, neu

(b)cynnal etholiadau.

(7)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i’r person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.

(8)Rhaid i swyddog cofrestru gyflenwi gwybodaeth person ifanc i’r person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef os bydd y person ifanc yn gofyn am yr wybodaeth at ddiben gwirio bod y person ifanc yn rhoddwr a ganiateir o fewn ystyr (“permissible donor”) yn adran 54(2)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).

(9)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i berson a benodwyd yn ddirprwy i bleidleisio ar ran y person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.

(10)Ni chaiff person y datgelwyd gwybodaeth person ifanc iddo o dan is-adran (2) neu (6) ddatgelu’r wybodaeth i berson arall, ac eithrio fel y crybwyllir yn yr is-adran honno.

(11)Mae person sy’n torri is-adran (10) yn cyflawni trosedd ac mae’n agored i ddirwy ar euogfarn ddiannod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 mewn grym ar 1.6.2020, gweler a. 42(3)(a)

Back to top

Options/Help