Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Cyffredinol

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, Croes Bennawd: Cyffredinol. Help about Changes to Legislation

CyffredinolLL+C

25RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 25 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(a)

26DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006;

  • ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “ymddiriedolaeth GIG” (“NHS trust”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4A. 26 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(b)

27Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6A. 27 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(r)

28Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Caiff rheoliadau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Ystyr “deddfiad” yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—

(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

(c)is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan Ddeddf neu Fesur y cyfeirir ati neu ato ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I8A. 28 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(b)

29Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 29 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)

30Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 30 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)

Back to top

Options/Help