Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Pwyllgorau llywodraethu ac archwilio prif gynghorau

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Pwyllgorau llywodraethu ac archwilio prif gynghorau. Help about Changes to Legislation

Pwyllgorau llywodraethu ac archwilio prif gynghorauLL+C

115Enw newydd ar bwyllgorau archwilio a’u swyddogaethau newyddLL+C

(1)Mae adran 81 o Fesur 2011 (awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau archwilio) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “(“pwyllgor archwilio”)” rhodder “(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)”.

(3)Ym mharagraff (c) o is-adran (1), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, asesu perfformiad”.

(4)Ar ôl paragraff (d) o is-adran (1) mewnosoder—

(da)i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,

(db)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,.

(5)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.

(6)Mae Atodlen 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Back to top

Options/Help