Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/05/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Paragraff 2. Help about Changes to Legislation

Aelodaeth pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n unoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

2(1)Rhaid i bwyllgor pontio gynnwys nifer cyfartal o aelodau, heb fod yn llai na 5, o bob un o’r cynghorau sy’n uno.

(2)Rhaid i aelodau cyngor sy’n uno sydd i fod yn aelodau o’r pwyllgor pontio gael eu penodi gan y cyngor sy’n uno.

(3)Nifer aelodau’r pwyllgor sydd i’w penodi gan bob un o’r cynghorau sy’n uno yw’r nifer y cytunir arno gan y cynghorau sy’n uno neu, os na cheir cytundeb, y nifer y penderfyna Gweinidogion Cymru arno.

(4)Rhaid i brif aelod gweithrediaeth y cyngor sy’n uno fod yn un o aelodau’r pwyllgor a benodir gan y cyngor sy’n uno.

(5)Os nad yw eisoes wedi ei benodi o dan is-baragraff (4), rhaid i’r aelod gweithrediaeth yn y cyngor sy’n uno sy’n gyfrifol am gyllid gael ei benodi’n aelod o’r pwyllgor yn ogystal.

(6)Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor ond ni chaiff y rhain bleidleisio.

(7)Mae pwyllgor pontio i’w drin at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (cydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau awdurdodau lleol) fel corff sy’n dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno.

(8)Yn y paragraff hwn ystyr “prif aelod gweithrediaeth”—

(a)yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yw’r arweinydd gweithrediaeth;

(b)yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, yw’r maer etholedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Back to top

Options/Help