Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

127EtholiadauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i reoliadau uno bennu—

(a)dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, a

(b)cyfnodau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw.

(2)Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n dileu etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol cynghorwyr;

(b)sy’n dileu etholiad ar gyfer maer etholedig i un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol meiri etholedig;

(c)mewn perthynas â gofynion i lenwi swyddi cynghorydd, is-gadeirydd neu gadeirydd sy’n digwydd dod yn wag, a chynnal etholiadau yn unrhyw un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno neu’r cyngor cysgodol er mwyn llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag;

(d)sy’n gohirio etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i gynghorau cymuned yn y brif ardal newydd ac yn estyn cyfnodau swyddi presennol cynghorwyr.

(3)Caiff rheoliadau uno hefyd gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—

(a)penodi swyddog canlyniadau yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd;

(b)talu am wariant yr eir iddo wrth gynnal yr etholiad hwnnw, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer gwneud dyfarniadau gan Weinidogion Cymru ynglŷn â sut y mae gwariant i’w dalu;

(c)datganiadau derbyn swydd cynghorydd i’r prif gyngor newydd;

(d)cynnal cyfarfod cyntaf y prif gyngor newydd.

(4)Caiff darpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(a) gynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i brif gyngor o ran penodi swyddog canlyniadau, ac ar gyfer gorfodi cyfarwyddydau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 127 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)