128Dyletswyddau ar gynghorau sy’n uno i hwyluso trosglwyddoLL+C
(1)Rhaid i gyngor sy’n uno—
(a)at ddibenion yr uno, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall neu’r cynghorau eraill sy’n uno ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r uno, a
(b)cymryd pob cam rhesymol—
(i)i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r prif gyngor newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a
(ii)i sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 128 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)