Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 93

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 05/05/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 93. Help about Changes to Legislation

93Dyletswydd ar brif gyngor i ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banelLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i brif gyngor lunio ymateb i bob adroddiad a wneir o dan adran 92(4) mewn cysylltiad â’r cyngor.

(2)Rhaid i’r ymateb ddatgan—

(a)i ba raddau y mae’r cyngor yn derbyn y casgliadau yn yr adroddiad ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad,

(b)i ba raddau y mae’r cyngor yn bwriadu dilyn unrhyw argymhellion sydd yn yr adroddiad, ac

(c)unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

(3)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’r ymateb ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(4)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r ymateb drafft a chaiff wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r datganiadau a wneir yn y fersiwn ddrafft o dan is-adran (2).

(5)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (4), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr ymateb, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio’r ymateb terfynol rhaid i’r cyngor—

(a)cyhoeddi’r ymateb, a

(b)anfon yr ymateb at—

(i)aelodau’r panel,

(ii)Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(iii)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(iv)Gweinidogion Cymru.

(7)Rhaid i drefniadau o dan adran 92(1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un ymateb i adroddiad cyn y diwrnod sydd bedwar mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 93 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/297, ergl. 3(a)

Back to top

Options/Help