Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 94

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 05/05/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 94. Help about Changes to Legislation

94Asesiadau perfformiad gan baneli: rheoliadau atodolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer penodi paneli gan brif gynghorau o dan adran 92(1), ac mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—

(a)penodi aelodau o banel (gan gynnwys nifer, ac unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir neu y mae rhaid eu penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer penodi);

(b)talu ffioedd i aelodau o banel neu mewn perthynas â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 94 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(k)

Back to top

Options/Help