Search Legislation

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 43

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2023.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, Adran 43. Help about Changes to Legislation

43Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigol: atodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rheoliadau a wneir o dan adran 42.

(2)Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau ar y sail bod gan ddisgybl neu blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol (gweler, yn hytrach, adran 41).

(3)Rhaid iʼr rheoliadau bennu bod cyfnod gweithredol penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau naill ai—

(a)yn gyfnod penodol a bennir yn y penderfyniad nad ywʼn hwy na 6 mis, neu

(b)yn gyfnod y mae rhaid dod ag ef i ben (yn unol âʼr rheoliadau) heb fod yn hwyrach na 6 mis i’w ddechrau.

(4)Ond caiff y rheoliadau bennu cyfnod gweithredol gwahanol ar gyfer penderfyniad os yw’r cyfnod gweithredol hwnnw i ddechrau—

(a)yn union ar ôl diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol, neu

(b)cyn diwedd cyfnod, a bennir yn y rheoliadau, sy’n dechrau â diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol.

(5)Caiff y rheoliadau alluogi person syʼn gwneud penderfyniad o dan y rheoliadau—

(a)i amrywioʼr penderfyniad, ac eithrio mewn perthynas âʼi gyfnod gweithredol, neu

(b)i ddirymuʼr penderfyniad.

(6)Caiff y rheoliadau bennu—

(a)ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau;

(b)amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod gweithredol” penderfyniad ywʼr cyfnod y maeʼr penderfyniad yn cael effaith ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 43 mewn grym ar 14.6.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 3(a)

I3A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(b)

Back to top

Options/Help