Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Chapter
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally enacted).
28Amodau cofrestru parhaus cyffredinol
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu amodau cofrestru parhaus cyffredinol a’u cyhoeddi.
(2)Caniateir i amodau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.
(3)Mewn perthynas â chategori cofrestru, caniateir i amodau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddarparwr addysg drydyddol.
(4)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol mewn ffordd sy’n nodi’r categori cofrestru y mae’r amod yn gymwys iddo.
(5)Caiff y Comisiwn ddiwygio’r amodau.
(6)Os yw’r Comisiwn yn diwygio’r amodau, rhaid iddo gyhoeddi’r amodau fel y’u diwygiwyd.
(7)Cyn penderfynu’r amodau neu eu diwygio, rhaid i’r Comisiwn, os yw’n ymddangos iddo ei bod yn briodol gwneud hynny, ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(8)Caiff y Comisiwn, ar adeg cofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr neu’n ddiweddarach, benderfynu nad yw unrhyw un neu ragor o’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol sy’n gymwys i gofrestriad yn y categori hwnnw yn gymwys i’r darparwr, yn ddarostyngedig i’r gofynion o dan y Rhan hon sy’n ymwneud ag amodau cofrestru parhaus mandadol.
(9)Pan fo’r penderfyniad wedi ei wneud ar ôl cofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori hwnnw o’r gofrestr, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr am ei benderfyniad.
Back to top