Search Legislation

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, Adran 69. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

69Y seiliau dros ymyrrydLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

At ddibenion adrannau 70 a 71, y seiliau dros ymyrryd yn ymddygiad darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach yw fel a ganlyn—

(a)mae materion y darparwr wedi cael neu yn cael eu camreoli gan ei gorff llywodraethu;

(b)mae corff llywodraethu’r darparwr wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd o dan unrhyw ddeddfiad;

(c)mae corff llywodraethu’r darparwr wedi gweithredu neu’n bwriadu gweithredu’n afresymol wrth arfer ei swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad;

(d)mae’r darparwr yn perfformio’n sylweddol waeth nag y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo berfformio o dan yr holl amgylchiadau, neu yn methu neu’n debygol o fethu â rhoi safon dderbyniol o addysg neu hyfforddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

Back to top

Options/Help