Search Legislation

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, Adran 70. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

70Pwerau i ymyrrydLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r darparwr.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)cynnwys darpariaeth sy’n cael effaith i ddiswyddo pob un neu unrhyw un neu ragor o aelodau corff llywodraethu’r darparwr;

(b)cynnwys darpariaeth sy’n cael effaith i benodi aelodau newydd o’r corff hwnnw os oes swyddi gwag (sut bynnag y maent wedi codi);

(c)pennu camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at ddiben ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) (ymhlith pethau eraill) ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—

(a)arfer pwerau o dan adran 5(2)(b) i (f) ac (h) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7) i gydlafurio â’r personau hynny ac ar y telerau hynny a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)pasio penderfyniad o dan adran 27A(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13) (“Deddf 1992”) i’r corff gael ei ddiddymu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)Cymerir at ddibenion adran 27A(1) o Ddeddf 1992 fod corff llywodraethu, y mae cyfarwyddyd fel y’i crybwyllir yn is-adran (4)(b) wedi ei roi iddo, wedi cydymffurfio ag adran 27 o’r Ddeddf honno cyn pasio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd.

(6)Caniateir i gyfarwyddydau gael eu rhoi o dan yr adran hon er gwaethaf unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud arfer pŵer neu gyflawni dyletswydd yn ddibynnol ar farn corff llywodraethu.

(7)Ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff llywodraethu o dan yr adran hon i ddiswyddo aelod o staff.

(8)Ond nid yw is-adran (7) yn atal Gweinidogion Cymru, pan fônt yn ystyried y gall fod yn briodol diswyddo aelod o staff y mae gan y corff llywodraethu bŵer i’w ddiswyddo o dan erthyglau llywodraethu’r darparwr, rhag rhoi unrhyw gyfarwyddydau i’r corff llywodraethu o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y rhoddir effaith i’r gweithdrefnau sy’n gymwys i ystyried yr achos dros ddiswyddo’r aelod hwnnw o staff mewn perthynas â’r aelod hwnnw o staff.

(9)Mae penodi aelod o gorff llywodraethu o dan yr adran hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r darparwr o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

Back to top

Options/Help