Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 09/09/2024

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 15/06/2023. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 28 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

RHAN 1LL+CTROSOLWG

1TrosolwgLL+C

(1)Mae’r Ddeddf hon yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.

(2)Mae’n cydgrynhoi deddfiadau a gynhwysir yn y canlynol neu a wneir odanynt—

(a)Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion Hynafol 1953 (p. 49);

(b)Rhannau 1 a 3 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p. 46);

(c)Rhannau 14 a 15 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

(d)Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9);

(e)Rhan 5 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5);

(f)Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4).

(3)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cadwraeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

(a)cofrestr o henebion o bwysigrwydd cenedlaethol, a gynhelir gan Weinidogion Cymru,

(b)rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig, ac

(c)caffael henebion, gwarcheidiaeth henebion a diogelu henebion.

(4)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cadwraeth adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

(a)rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a gynhelir gan Weinidogion Cymru,

(b)rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig, ac

(c)caffael a diogelu adeiladau.

(5)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch ardaloedd cadwraeth, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

(a)dynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn ardaloedd cadwraeth gan awdurdodau cynllunio,

(b)rheolaethu gwaith ar gyfer dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth, ac

(c)diogelu ac atgyweirio adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.

(6)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth atodol sy’n ymwneud â Rhannau 3 a 4, gan gynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch achosion gerbron Gweinidogion Cymru o dan y Rhannau hynny, gan gynnwys gwrandawiadau ac ymchwiliadau;

(b)darpariaeth ynghylch dilysrwydd penderfyniadau a wneir o dan y Rhannau hynny a chywiro’r penderfyniadau hynny.

(7)Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer—

(a)cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol;

(b)rhestr o enwau lleoedd hanesyddol;

(c)cofnodion amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal yng Nghymru.

(8)Mae Rhan 7 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill a diddymiadau deddfiadau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 15.6.2023, gweler a. 212(1)(a)

Valid from 09/09/2024

RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

Valid from 04/11/2024

PENNOD 1LL+CTERMAU ALLWEDDOL

2Ystyr “heneb” a “safle heneb”LL+C

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “heneb” yw—

(a)unrhyw adeilad, unrhyw strwythur neu unrhyw waith (pa un ai uwchben wyneb y tir neu o dan wyneb y tir) ac unrhyw ogof neu unrhyw gloddiad;

(b)safle olion unrhyw adeilad, unrhyw strwythur neu unrhyw waith neu safle olion unrhyw ogof neu gloddiad;

(c)safle unrhyw gerbyd, unrhyw lestr, unrhyw gerbyd awyr neu unrhyw strwythur symudol arall, neu ran o wrthrych o’r fath, nad yw’n waith, nac yn ffurfio rhan o unrhyw waith, sy’n heneb o fewn paragraff (a);

(d)safle olion unrhyw wrthrych neu unrhyw ran o wrthrych a grybwyllir ym mharagraff (c);

(e)safle unrhyw beth, neu unrhyw grŵp o bethau, sy’n dystiolaeth o weithgarwch dynol blaenorol (ac eithrio safle sy’n dod o fewn paragraff (b), (c) neu (d)).

(2)At ddibenion is-adran (1) mae unrhyw beiriannau sydd wedi eu gosod yn sownd wrth heneb i’w trin fel pe baent yn rhan o’r heneb os na ellid eu datgysylltu heb eu datgymalu.

(3)Nid yw is-adran (1)(a) yn gymwys i unrhyw adeilad crefyddol sy’n cael ei ddefnyddio am y tro at ddibenion crefyddol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw is-adrannau (1)(c) a (d) yn gymwys—

(a)i safle unrhyw wrthrych neu ei olion oni bai bod lleoliad y gwrthrych hwnnw neu ei olion yn y safle penodol hwnnw yn fater o ddiddordeb i’r cyhoedd;

(b)i safle unrhyw lestr neu ei olion sy’n cael ei warchod gan orchymyn o dan adran 1 o Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973 (p. 33) sy’n dynodi ardal o gwmpas y safle yn ardal gyfyngedig.

(5)At ddibenion y Ddeddf hon mae safle heneb yn cynnwys nid yn unig y tir y mae ynddo‍, arno neu odano ond hefyd unrhyw dir sy’n rhan o’r tir hwnnw neu sy’n cydffinio â’r tir hwnnw y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wrth arfer mewn perthynas â’r heneb honno unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau hwy neu o’i swyddogaethau ef o dan y Rhan hon, ei fod yn hanfodol er mwyn cynnal a diogelu’r heneb.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at heneb yn cynnwys—

(a)safle’r heneb o dan sylw,

(b)grŵp o henebion, ac

(c)unrhyw ran o heneb neu grŵp o henebion.

(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at safle heneb—

(a)yn gyfeiriadau at yr heneb ei hun pan fo’n safle, a

(b)mewn unrhyw achos arall yn cynnwys yr heneb ei hun.

(8)Yn yr adran hon mae “olion” yn cynnwys unrhyw arlliw neu unrhyw arwydd o fodolaeth flaenorol y peth o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

PENNOD 2LL+CCOFRESTR O HENEBION O BWYSIGRWYDD CENEDLAETHOL

Cofrestr o henebionLL+C

3Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o henebionLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o henebion yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol, a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol.

(2)Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb gynnwys map a gynhelir gan Weinidogion Cymru sy’n nodi ffiniau’r heneb.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb;

(b)drwy ddileu heneb;

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb (pa un ai drwy ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol, neu fel arall).

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ychwanegu at y gofrestr unrhyw adeilad nac unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(5)Mae cofnod yn y gofrestr sy’n cofnodi i heneb gael ei chynnwys yn bridiant tir lleol.

(6)Yn y Rhan hon ystyr “y gofrestr” yw’r gofrestr a gynhelir o dan yr adran hon.

(7)Yn y Ddeddf hon ystyr “heneb gofrestredig” yw heneb sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

4Hysbysu perchennog etc. pan fo’r gofrestr wedi ei diwygioLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb,

(b)drwy ddileu heneb, neu

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb.

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwygio’r gofrestr rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb, a

(b)i bob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ychwanegu heneb at y gofrestr neu wedi diwygio’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb—

(a)rhaid i’r hysbysiad bennu’r dyddiad y gwnaethant hynny, a

(b)rhaid iddynt gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig ar gyfer yr heneb yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cynigion i ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr: ymgynghori a gwarchodaeth interimLL+C

5Ymgynghori cyn ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestrLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnig diwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb,

(b)drwy ddileu heneb, neu

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb i ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3)—

(a)sy’n nodi’r diwygiad arfaethedig, a

(b)sy’n gwahodd y personau hynny i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig.

(3)Y personau yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb,

(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol gan fod ganddynt wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)—

(a)pennu o fewn pa gyfnod y caniateir cyflwyno sylwadau, a

(b)yn achos cynnig i ychwanegu heneb neu i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o heneb—

(i)cynnwys datganiad o effaith adran 6 (gwarchodaeth interim), a

(ii)pennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith o dan yr adran honno.

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (4)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

6Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r gofrestrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 5(2) ynghylch cynnig i ddiwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb, neu

(b)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb drwy ychwanegu unrhyw beth fel rhan o’r heneb.

(2)O ddechrau’r diwrnod a bennir o dan adran 5(4)(b)(ii) mae’r Ddeddf hon yn cael effaith—

(a)yn achos cynnig i ychwanegu heneb at y gofrestr, fel pe bai’r heneb yn heneb gofrestredig;

(b)yn achos cynnig i ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb, fel pe bai’r diwygiad wedi ei wneud.

(3)Cyfeirir yn y Rhan hon at y warchodaeth a roddir yn rhinwedd is-adran (2) fel “gwarchodaeth interim”.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi rhestr o’r henebion sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim, a

(b)darparu copi o’r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 5(2) mewn cysylltiad â heneb o’r fath i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

7Pan ddaw gwarchodaeth interim i benLL+C

(1)Daw gwarchodaeth interim a roddir gan adran 6(2)(a) (cynnig i ychwanegu heneb at y gofrestr) i ben mewn perthynas â heneb—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn ychwanegu’r heneb at y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 4(2), neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio ag ychwanegu’r heneb at y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir ganddynt i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(2)Daw gwarchodaeth interim a roddir gan adran 6(2)(b) (cynnig i ddiwygio cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â heneb) i ben mewn perthynas â heneb—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cofnod yn y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 4(2), neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â diwygio’r cofnod yn y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir ganddynt i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(3)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1)(b) a (2)(b) yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb, a

(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal.

(4)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith gwarchodaeth interim yn dod i ben o dan is-adrannau (1)(b) a (2)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

8Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interimLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas â heneb oherwydd hysbysiad o dan adran 7(1)(b) neu (2)(b).

(2)Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr heneb pan gymerodd y warchodaeth interim effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim.

(3)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r heneb oherwydd y warchodaeth interim.

(4)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r warchodaeth interim i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Adolygu penderfyniadau i ddiwygio’r gofrestr i ychwanegu henebion etc.LL+C

9Adolygu penderfyniad i ychwanegu heneb at y gofrestr etc.LL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru—

(a)yn ychwanegu heneb at y gofrestr, neu

(b)yn diwygio’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o’r heneb,

rhaid i’r hysbysiad o dan adran 4(2) ddatgan y caiff unrhyw berchennog neu unrhyw feddiannydd ar yr heneb wneud cais i Weinidogion Cymru sy’n gofyn am adolygiad o’r penderfyniad.

(2)Ni chaniateir gwneud cais ond ar y sail nad yw’r heneb neu’r rhan o’r heneb (yn ôl y digwydd) o bwysigrwydd cenedlaethol.

(3)Pan fo perchennog neu feddiannydd yn gwneud cais am adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru benodi person—

(a)i gynnal yr adolygiad, a

(b)i wneud penderfyniad ar yr adolygiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu disgrifiadau o achosion pan fo rhaid iddynt hwy, yn lle person a benodir ganddynt, gynnal adolygiad a gwneud penderfyniad arno.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddiwygiad i’r gofrestr y maent yn ystyried ei fod yn briodol i roi effaith i’r penderfyniad ar adolygiad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)—

(a)i ychwanegu sail ar gyfer adolygiad;

(b)i addasu sail ar gyfer adolygiad;

(c)i ddileu sail ar gyfer adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

10Darpariaeth atodol ynghylch adolygiadauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y ffurf a’r ffordd y mae rhaid i gais o dan adran 9 gael ei wneud;

(b)yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu i Weinidogion Cymru, neu y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol, mewn cysylltiad â chais;

(c)y cyfnod y mae rhaid i gais gael ei wneud ynddo.

(2)Rhaid i adolygiad o dan adran 9 gael ei gynnal mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn (fel y’i penderfynir gan y person sy’n cynnal yr adolygiad)—

(a)drwy ymchwiliad lleol;

(b)drwy wrandawiad;

(c)ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan adran 9.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) neu (3) awdurdodi Gweinidogion Cymru neu bersonau a benodir o dan adran 9(3)—

(a)i benderfynu materion o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a

(b)i roi cyfarwyddydau mewn perthynas â’r materion hynny.

(5)Mae Atodlenni 2 a 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch adolygiadau o dan adran 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 3LL+CRHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Valid from 04/11/2024

Awdurdodi gwaithLL+C

11Gofyniad i waith gael ei awdurdodiLL+C

(1)Ni chaiff person gyflawni gwaith y mae’r adran hon yn gymwys iddo, na pheri na chaniatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan y Bennod hon.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)i waith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig, neu at unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig;

(b)i waith at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni, neu wneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu i unrhyw ran ohoni neu unrhyw ychwanegiadau ati neu at unrhyw ran ohoni;

(c)i weithrediadau i foddi tir, neu weithrediadau tipio ar dir, y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

12Awdurdodi dosbarthau o waithLL+C

(1)Mae gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi os yw’r gwaith o fewn dosbarth o waith a ddisgrifir yn y tabl yn Atodlen 3.

(2)Mae awdurdodiad o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau neu unrhyw amodau a bennir yn y tabl mewn perthynas â gwaith o ddosbarth penodol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw is-adran (1) yn gymwys i unrhyw heneb gofrestredig a bennir yn y cyfarwyddyd.

(4)Nid yw cyfarwyddyd o dan is-adran (3) yn cymryd effaith hyd nes bod hysbysiad ohono wedi ei gyflwyno i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb o dan sylw.

(5)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi gwaith yn groes i unrhyw eithriad neu unrhyw amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad heneb gofrestredig.

(6)Mae awdurdodiad o dan is-adran (1) yn cael effaith er budd yr heneb a phob person sydd â buddiant yn yr heneb am y tro; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

13Awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredigLL+C

(1)Mae gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan Weinidogion Cymru, a

(b)os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)Pan—

(a)bo gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb fod wedi ei awdurdodi o dan y Bennod hon, a

(b)bo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad.

(3)Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Rhan hon fel cydsyniad heneb gofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredigLL+C

14Gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredigLL+C

(1)Rhaid i gais am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i gais—

(a)nodi’r ardal o dir y mae’n ymwneud â hi,

(b)disgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ac effaith debygol y gwaith ar yr heneb, ac

(c)cynnwys unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys cais (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru);

(b)sut y mae rhaid gwneud cais;

(c)dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gytuno â cheisydd y caniateir gwneud cais nad yw’n unol ag is-adran (2) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3), os yw’r cais yn ymwneud â gwaith y mae is-adran (5) yn gymwys iddo.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i fân waith a gyflawnir at ddiben—

(a)symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni, neu

(b)gwneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu unrhyw ychwanegiadau ati.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu achosion ychwanegol pan ganiateir i gais am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei wneud mewn ffordd nad yw’n unol ag is-adran (2) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3); a chaiff y rheoliadau roi disgresiwn i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

15Declarasiynau o berchnogaeth mewn cysylltiad â henebLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig oni bai bod un o’r declarasiynau a ganlyn a lofnodwyd gan neu ar ran y ceisydd wedi ei gynnwys gyda’r cais—

(a)declarasiwn nad oedd unrhyw berson ac eithrio’r ceisydd yn berchennog ar yr heneb ar ddechrau’r 21 o ddiwrnodau a ddaeth i ben â diwrnod y cais,

(b)declarasiwn bod y ceisydd wedi rhoi hysbysiad i’r holl bersonau (ac eithrio’r ceisydd) a oedd, ar ddechrau’r cyfnod hwnnw, yn berchnogion ar yr heneb, o’r pethau sy’n ofynnol gan is-adran (2) ac unrhyw reoliadau o dan is-adran (3),

(c)declarasiwn bod y ceisydd—

(i)yn methu â gwneud declarasiwn o dan baragraff (a) na (b),

(ii)wedi rhoi hysbysiad i’r rhai hynny o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (b) ac a enwir yn y declarasiwn, o’r pethau sy’n ofynnol gan is-adran (2) ac unrhyw reoliadau o dan is-adran (3), ond

(iii)wedi methu â chanfod enwau a chyfeiriadau gweddill y personau a grybwyllir ym mharagraff (b), er iddo gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny, neu

(d)declarasiwn bod y ceisydd—

(i)yn methu â gwneud declarasiwn o dan baragraff (a), a

(ii)er iddo gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny, wedi methu â chanfod enwau a chyfeiriadau unrhyw un o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (b).

(2)Rhaid i hysbysiad at ddibenion is-adran (1)(b) neu (c)(ii)—

(a)nodi’r heneb y mae’n ymwneud â hi (gan gynnwys cyfeiriad neu leoliad yr heneb, a’i henw (os oes un)),

(b)datgan bod cais am gydsyniad heneb gofrestredig i’w wneud mewn perthynas â’r heneb,

(c)nodi’r person sy’n gwneud y cais (a, phan fo’r ceisydd yn gwneud cais ar ran rhywun, nodi’r person arall), a

(d)disgrifio’r gwaith y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu pethau ychwanegol y mae rhaid eu cynnwys mewn hysbysiad.

(4)Mae’n drosedd i berson gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio â’r adran hon—

(a)gwneud declarasiwn y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu

(b)yn ddi-hid, wneud declarasiwn sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(6)Yn yr adran hon ystyr “perchennog” yw—

(a)perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu

(b)tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

16Pŵer i wrthod ystyried ceisiadau tebygLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, yn y 2 flynedd sy’n dod i ben â’r diwrnod y daw’r cais i law, wedi gwrthod cais tebyg, a

(b)os ydynt yn ystyried na fu unrhyw newid sylweddol mewn unrhyw ystyriaethau perthnasol ers i’r cais tebyg gael ei wrthod.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig os gwneir y cais ar adeg pan fydd cais tebyg yn cael ei ystyried.

(3)At ddibenion yr adran hon mae cais yn debyg i gais arall os (a dim ond os) yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y gwaith y mae’r ceisiadau yn berthnasol iddo yr un fath neu’n sylweddol yr un fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Penderfynu ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredigLL+C

17Y weithdrefn ar gyfer penderfynu ceisiadau ac effaith rhoi cydsyniadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad heneb gofrestredig mewn cysylltiad â’r holl waith neu unrhyw ran o’r gwaith y mae cais yn ymwneud ag ef.

(2)Cyn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gais, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o’r canlynol—

(a)peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal,

(b)rhoi cyfle i’r ceisydd, ac unrhyw berson arall, i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo, neu

(c)rhoi cyfle i’r ceisydd, ac unrhyw berson arall, i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(3)Cyn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gais, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ym mhob achos, ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, a

(b)os cynhaliwyd ymchwiliad neu wrandawiad neu os cyflwynwyd sylwadau yn unol ag is-adran (2)(c), ystyried adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad neu y cyflwynwyd y sylwadau iddo.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad mewn cysylltiad â’r cais i’r ceisydd ac i bob person sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r cais.

(5)Mae cydsyniad heneb gofrestredig yn cael effaith er budd yr heneb a phob person sydd â buddiant yn yr heneb am y tro; ond mae hyn yn ddarostyngedig i delerau’r cydsyniad.

(6)Mae Atodlen 6 yn gymwys mewn perthynas ag achosion a gynhelir o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodauLL+C

18Pŵer i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodauLL+C

(1)Caniateir rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Caiff amod, er enghraifft—

(a)gosod gofynion mewn cysylltiad â’r ffordd y mae’r gwaith neu unrhyw ran o’r gwaith i’w gyflawni neu mewn cysylltiad â’r personau sydd i gyflawni’r gwaith neu unrhyw ran o’r gwaith;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru gael cyfle, cyn i unrhyw waith ddechrau, i archwilio’r heneb a’i safle ac i gyflawni unrhyw gloddiadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol at ddiben ymchwiliad archaeolegol.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

19Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddoLL+C

(1)Rhaid rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod ac sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y cydsyniad.

(2)Os rhoddir cydsyniad heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (1), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd y cydsyniad.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)i gydsyniad heneb gofrestredig sy’n darparu ei fod yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod a bennir yn y cydsyniad (ni waeth a yw unrhyw waith wedi dechrau),

(b)i gydsyniad a roddir o dan adran 13(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni), nac

(c)i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu gytundeb rheoli (gweler adrannau 25 a 51).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Addasu a dirymu cydsyniad heneb gofrestredigLL+C

20Addasu a dirymu cydsyniadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig i unrhyw raddau.

(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan yr adran hon mewn perthynas—

(a)â chydsyniad heneb gofrestredig a roddir o dan adran 13(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni), na

(b)â chydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig (gweler Pennod 4).

(3)Mae Atodlenni 4 a 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gorchmynion o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

DigollediadLL+C

21Digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig neu roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo cais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael ei wrthod, neu

(b)pan fo cais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad o’r fath yn cael ei ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant yn yr heneb o dan sylw hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw wariant yr eir iddo neu unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith y penderfyniad ar y cais; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon.

(3)Y gwaith y mae digollediad yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan yr adran hon yw—

(a)gwaith sy’n rhesymol angenrheidiol ar gyfer cyflawni unrhyw ddatblygiad yr oedd caniatâd cynllunio—

(i)wedi ei roi ar ei gyfer (ac eithrio drwy orchymyn datblygu cyffredinol) cyn i’r heneb o dan sylw ddod yn heneb gofrestredig, a

(ii)yn dal i fod yn effeithiol pan wnaed y cais am gydsyniad heneb gofrestredig,

(b)gwaith sy’n ddatblygiad y rhoddir caniatâd cynllunio ar ei gyfer drwy orchymyn datblygu cyffredinol,

(c)gwaith nad yw’n ddatblygiad, a

(d)gwaith sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn parhau â defnydd o’r heneb at ddiben yr oedd yn cael ei defnyddio ato yn union cyn dyddiad y cais am gydsyniad heneb gofrestredig (ond gan anwybyddu unrhyw ddefnydd sy’n torri unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol sy’n gymwys i’r defnydd o’r heneb).

(4)Mae’r digollediad sy’n daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad â gwaith o fewn is-adran (3)(a) wedi ei gyfyngu i ddigollediad ar gyfer gwariant yr eir iddo neu golled arall neu ddifrod arall a ddioddefir yn rhinwedd y ffaith, o ganlyniad i benderfyniad Gweinidogion Cymru, na ellid cyflawni datblygiad y rhoddwyd y caniatâd cynllunio o dan sylw ar ei gyfer heb dorri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(5)Nid oes gan berson hawlogaeth i gael ei ddigolledu o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw waith o fewn is-adran (3)(b) nac (c) os byddai’r gwaith o dan sylw neu unrhyw ran o’r gwaith yn arwain at ddymchwel neu ddinistrio’r heneb yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu os gallai wneud hynny.

(6)Pan fo cydsyniad heneb gofrestredig yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau, nid oes gan berson hawlogaeth i gael ei ddigolledu o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw waith o fewn is-adran (3)(d) oni fyddai cydymffurfio â’r amodau hynny i bob pwrpas yn ei gwneud yn amhosibl defnyddio’r heneb at y diben yr oedd yn cael ei defnyddio ato cyn dyddiad y cais.

(7)Wrth asesu unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir—

(a)mae i’w thybio y byddai unrhyw gais dilynol am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad tebyg yn cael ei benderfynu yn yr un ffordd, ond

(b)os ymrwymodd Gweinidogion Cymru, yn achos gwrthod cydsyniad heneb gofrestredig, wrth wrthod y cydsyniad hwnnw, i roi cydsyniad ar gyfer gwaith arall a fyddai’n effeithio ar yr heneb pe bai cais yn cael ei wneud, rhaid rhoi sylw i’r ymrwymiad hwnnw.

(8)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â—

(a)diwrnod yr hysbysiad o wrthod cydsyniad heneb gofrestredig, neu

(b)y diwrnod y rhoddir cydsyniad heneb gofrestredig.

(9)Yn yr adran hon ystyr “gorchymyn datblygu cyffredinol” yw gorchymyn datblygu o dan adran 59 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) sy’n gymwys i’r holl dir yng Nghymru (yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir yn y gorchymyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

22Adennill digollediad a dalwyd o dan adran 21 ar ôl rhoi cydsyniad dilynolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)mewn achos pan fo digollediad o dan adran 21 wedi ei dalu o ganlyniad i wrthod cydsyniad heneb gofrestredig, fo Gweinidogion Cymru wedyn yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y cyfan neu unrhyw ran o’r gwaith y talwyd y digollediad mewn cysylltiad ag ef, a

(b)mewn achos pan fo digollediad o dan yr adran honno wedi ei dalu o ganlyniad i roi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, fo Gweinidogion Cymru wedyn—

(i)yn addasu’r cydsyniad fel nad yw’r amodau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt, yn gymwys mwyach i’r cyfan neu unrhyw ran o’r gwaith y talwyd y digollediad mewn cysylltiad ag ef, neu

(ii)yn rhoi cydsyniad newydd ar gyfer y cyfan neu unrhyw ran o’r gwaith hwnnw heb yr amodau hynny, neu unrhyw un neu ragor ohonynt.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad o dalu digollediad i gyngor pob sir neu fwrdeistref sirol y mae’r heneb ynddi.

(3)Wrth roi neu addasu cydsyniad heneb gofrestredig mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff Gweinidogion Cymru wneud hynny ar delerau nad oes unrhyw waith y talwyd y digollediad mewn cysylltiad ag ef i’w gyflawni o dan y cydsyniad hyd nes y bydd y swm adenilladwy wedi ei ad-dalu i Weinidogion Cymru neu wedi ei sicrhau er boddhad iddynt.

(4)Yn is-adran (3) mae i “swm adenilladwy” yr ystyr a roddir gan adran 23.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) bennu—

(a)y penderfyniad a arweiniodd at yr hawlogaeth i gael digollediad,

(b)yr heneb y mae’r penderfyniad yn effeithio arni, ac

(c)swm y digollediad.

(6)Mae hysbysiad o dan is-adran (2) yn bridiant tir lleol, ac at ddibenion Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76) mae’r cyngor y rhoddir hysbysiad iddo o dan yr is-adran honno i’w drin fel pe bai yr awdurdod tarddiadol mewn cysylltiad â’r pridiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

23Penderfynu’r swm sy’n adenilladwy o dan adran 22LL+C

(1)Ystyr y “swm adenilladwy” at ddibenion adran 22 yw swm a bennir gan Weinidogion Cymru wrth roi hysbysiad o’u penderfyniad ar y cais am gydsyniad heneb gofrestredig neu yn y gorchymyn sy’n addasu’r cydsyniad (yn ôl y digwydd); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (3).

(2)Pan fo person a chanddo fuddiant mewn heneb yn gwrthwynebu’r swm a bennir gan Weinidogion Cymru, caiff y person ei gwneud yn ofynnol i’r penderfyniad ar y swm gael ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys.

(3)Pan fo atgyfeiriad yn cael ei wneud i’r Uwch Dribiwnlys o dan is-adran (2) y swm adenilladwy yw’r swm y mae’r Tribiwnlys yn ei benderfynu.

(4)Caiff y swm a bennir neu a benderfynir fel y swm adenilladwy o dan yr adran hon fod yn swm sy’n cynrychioli’r cyfan neu unrhyw ran o’r digollediad a delir o dan adran 21.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

24Digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â chael ei awdurdodiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig a awdurdodwyd yn flaenorol o dan y Bennod hon yn peidio â chael ei awdurdodi—

(a)oherwydd bod awdurdodiad o dan adran 12 yn peidio â bod yn gymwys (boed hynny oherwydd diwygiad i’r tabl yn Atodlen 3 neu gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (3) o’r adran honno),

(b)oherwydd bod cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei addasu neu ei ddirymu drwy orchymyn a wneir o dan adran 20, neu

(c)yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 4, oherwydd bod hysbysiad o addasiad neu ddirymiad arfaethedig cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei gyflwyno o dan baragraff 1 o’r Atodlen honno.

(2)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am—

(a)unrhyw wariant y mae’r person yn mynd iddo wrth gyflawni gwaith a ddaw yn ofer oherwydd bod gwaith pellach yn peidio â chael ei awdurdodi, neu

(b)unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r ffaith honno.

(3)Nid oes gan berson hawlogaeth i gael digollediad o dan yr adran hon mewn achos o fewn is-adran (1)(a) oni bai, ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith o dan sylw, fod cydsyniad yn cael ei wrthod, neu’n cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau ac eithrio’r rheini a oedd yn gymwys yn flaenorol yn rhinwedd adran 12.

(4)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.

(5)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—

(a)â gwaith a gyflawnwyd cyn i awdurdodiad o dan adran 12 fod yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith neu cyn i’r cydsyniad heneb gofrestredig o dan sylw gael ei roi (yn ôl y digwydd), neu

(b)â cholled arall neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r awdurdodiad hwnnw fod yn gymwys neu cyn i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(6)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r gwaith yn peidio â chael ei awdurdodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 4LL+CCYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU HENEBION COFRESTREDIG

Valid from 04/11/2024

25Cytundebau partneriaethau henebion cofrestredigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon (“cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig”)—

(a)ag unrhyw berchennog ar heneb gofrestredig, neu

(b)ag unrhyw berchennog ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yng nghyffiniau heneb o’r fath (“tir cysylltiedig”).

(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a Gweinidogion Cymru)—

(a)unrhyw feddiannydd ar yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(b)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(c)unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(d)unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb neu ei thir cysylltiedig yn ei ardal;

(e)unrhyw awdurdod lleol sydd, yn rhinwedd Pennod 6, yn warcheidwad ar yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(f)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.

(3)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig roi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer gwaith penodedig at ddiben—

(a)symud ymaith neu atgyweirio’r heneb y mae’r cytundeb yn ymwneud â hi, neu

(b)gwneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu unrhyw ychwanegiadau ati.

(4)Pan fo cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.

(5)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig hefyd—

(a)pennu gwaith a fyddai, neu na fyddai, ym marn y partïon, yn waith y mae adran 11 yn gymwys iddo;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(d)darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb neu ei thir cysylltiedig a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;

(e)cyfyngu ar fynediad i’r heneb neu ei thir cysylltiedig neu ar y defnydd o’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(f)gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(g)darparu i Weinidogion Cymru, neu unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb neu ei thir cysylltiedig yn ei ardal, wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—

(i)am gostau unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y costau hynny, neu

(ii)yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.

(6)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig ymwneud â mwy nag un heneb neu fwy nag un darn o dir cysylltiedig.

(7)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

26Darpariaeth bellach ynghylch cytundebau partneriaethau henebion cofrestredigLL+C

(1)Rhaid i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig fod yn ysgrifenedig.

(2)Rhaid i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig—

(a)nodi’r heneb neu’r tir cysylltiedig y mae’n ymwneud â hi neu ag ef;

(b)disgrifio unrhyw waith y mae’n ymwneud ag ef;

(c)pennu’r dyddiad y mae’n cymryd effaith a’i hyd;

(d)gwneud darpariaeth i’r partïon adolygu telerau’r cytundeb ar ysbeidiau a bennir ynddo;

(e)gwneud darpariaeth ar gyfer ei amrywio (ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan is-adran (5));

(f)gwneud darpariaeth ar gyfer ei derfynu (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 27).

(3)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig gynnwys darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu telerau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)yr ymgynghoriad y mae rhaid iddo gael ei gynnal cyn i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig gael ei wneud neu ei amrywio;

(b)y cyhoeddusrwydd y mae rhaid iddo gael ei roi i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig cyn neu ar ôl iddo gael ei wneud neu ei amrywio.

(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(a) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn cyn gwneud cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb arfaethedig yn ymwneud â hi neu ag ef;

(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb neu’r tir cysylltiedig yn ei ardal;

(c)unrhyw awdurdod lleol sydd, yn rhinwedd Pennod 6, yn warcheidwad ar yr heneb neu’r tir cysylltiedig.

(7)Ni chaiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig osod unrhyw rwymedigaeth neu unrhyw atebolrwydd ar berson nad yw’n barti i’r cytundeb, na rhoi unrhyw hawl i’r person hwnnw; ac nid yw cydsyniad heneb gofrestredig a roddir gan gytundeb o’r fath yn cael effaith ond er budd y partïon iddo.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddatgymhwyso, cymhwyso neu atgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at ddibenion cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

27Terfynu cytundeb neu ddarpariaeth mewn cytundebLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn derfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Caniateir i orchymyn o dan yr adran hon sy’n terfynu darpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith gael ei wneud ar unrhyw adeg cyn cwblhau’r gwaith, ond nid yw’n effeithio ar gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith a gyflawnir cyn i’r gorchymyn gymryd effaith.

(4)Mae Atodlen 5 a pharagraff 1 o Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â gwneud gorchmynion o dan yr adran hon (gan gynnwys darparu ar gyfer hysbysiadau o derfyniad arfaethedig).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 5 neu 6, a chaiff y rheoliadau wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

28Digollediad mewn perthynas â therfynuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru—

(a)yn cyflwyno hysbysiad o derfyniad arfaethedig, neu

(b)yn gwneud gorchymyn o dan adran 27,

mewn perthynas â chytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.

(2)Mae gan unrhyw barti i’r cytundeb a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r cytundeb yn gymwys iddi neu iddo hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt—

(a)am unrhyw wariant y mae’r parti yn mynd iddo wrth gyflawni gwaith a ddaw yn ofer oherwydd yr hysbysiad neu’r gorchymyn;

(b)am unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y parti y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r gorchymyn.

(3)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—

(a)â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig, neu’r ddarpariaeth berthnasol yn y cytundeb, gymryd effaith, na

(b)â cholled arall neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cytundeb neu’r ddarpariaeth gymryd effaith.

(5)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o derfyniad arfaethedig neu’r gorchymyn yn cymryd effaith (yn ôl y digwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

29DehongliLL+C

Yn y Bennod hon—

  • mae i “cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig” (“scheduled monument partnership agreement”) yr ystyr a roddir gan adran 25(1);

  • mae i “hysbysiad o derfyniad arfaethedig” (“notice of proposed termination”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 5;

  • ystyr “perchennog” (“owner”) yw—

    (a)

    perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu

    (b)

    tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill;

  • mae i “tir cysylltiedig” (“associated land”), mewn perthynas â heneb, yr ystyr a roddir gan adran 25(1)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

PENNOD 5LL+CGORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG

Troseddau sy’n ymwneud â gwaith anawdurdodedigLL+C

30Y drosedd o gyflawni gwaith anawdurdodedig neu dorri amod mewn cydsyniadLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cyflawni gwaith, neu’n peri neu’n caniatáu i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas â heneb gofrestredig yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(2)Mae person hefyd yn cyflawni trosedd os yw’r person—

(a)yn cyflawni gwaith, neu’n peri neu’n caniatáu i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas â heneb gofrestredig, a

(b)yn methu â chydymffurfio ag amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo ar gyfer y gwaith.

(3)Nid yw is-adran (2) yn cyfyngu ar yr hyn a all fod yn drosedd o dan is-adran (1).

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mewn perthynas â heneb y rhoddir gwarchodaeth interim iddi—

(a)mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y warchodaeth interim wedi ei rhoi, a

(b)pan fo’r amddiffyniad yn cael ei godi gan berson y dylai hysbysiad fod wedi cael ei gyflwyno iddo o dan adran 5(2), yr erlyniad sydd i brofi i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r person.

(5)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (2), mae’n amddiffyniad i’r person brofi iddo gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi torri’r amod.

(6)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas â gwaith o fewn adran 11(2)(a), mae’n amddiffyniad i’r person brofi iddo gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi neu atal difrod i’r heneb.

(7)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas â gwaith o fewn adran 11(2)(a) neu (c), mae’n amddiffyniad iddo brofi—

(a)ei fod, cyn cyflawni’r gwaith neu cyn peri neu ganiatáu i’r gwaith gael ei gyflawni, wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd heneb gofrestredig yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni, a

(b)nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, bod yr heneb o fewn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni neu (yn ôl y digwydd) ei bod yn heneb gofrestredig.

(8)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)bod y gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(b)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, ac

(c)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Hysbysiadau stop dros droLL+C

31Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros droLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad stop dros dro os ydynt yn ystyried—

(a)bod gwaith wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig sy’n golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo, a

(b)y dylai’r gwaith (neu unrhyw ran ohono) gael ei stopio ar unwaith, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

(2)Rhaid i hysbysiad stop dros dro—

(a)pennu’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef,

(b)gwahardd cyflawni’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad),

(c)nodi rhesymau Gweinidogion Cymru dros ddyroddi’r hysbysiad, a

(d)datgan effaith adran 33 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru arddangos copi o hysbysiad stop dros dro ar yr heneb neu’r tir y mae’n ymwneud â hi neu ag ef, a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.

(4)Ond—

(a)os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir ddifrodi’r heneb,

caiff Gweinidogion Cymru, yn lle hynny, arddangos copi mewn lle amlwg mor agos i’r heneb neu’r tir ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno copi o’r hysbysiad i unrhyw berson y maent yn ystyried—

(a)ei fod yn cyflawni’r gwaith y mae’r hysbysiad yn ei wahardd neu’n peri neu’n caniatáu iddo gael ei gyflawni,

(b)ei fod yn feddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, neu

(c)bod ganddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

32Hyd etc. hysbysiad stop dros droLL+C

(1)Mae hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono yn unol ag adran 31 am y tro cyntaf.

(2)Mae hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith—

(a)ar ddiwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod pan arddangosir y copi ohono yn unol ag adran 31 am y tro cyntaf, neu

(b)os yw’n pennu cyfnod byrrach sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi ail hysbysiad stop dros dro neu hysbysiad stop dros dro dilynol mewn perthynas â’r un gwaith oni bai eu bod, ers dyroddi’r hysbysiad blaenorol, wedi cymryd camau gorfodi eraill mewn perthynas â’r toriad y cyfeirir ato yn adran 31(1)(a).

(5)Yn is-adran (4) mae’r cyfeiriad at gymryd camau gorfodi eraill yn gyfeiriad at—

(a)dyroddi hysbysiad gorfodi o dan adran 35, neu

(b)cael gwaharddeb o dan adran 42.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

33Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros droLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, yn cyflawni gwaith sydd wedi ei wahardd gan yr hysbysiad neu’n peri neu’n caniatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad stop dros dro.

(4)Mewn achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad profi—

(a)bod y gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(b)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, ac

(c)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(6)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

34Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan hysbysiad stop dros droLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)na fo’r gwaith a bennir mewn hysbysiad stop dros dro, ar yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, yn golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) nac amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo, neu

(b)bo Gweinidogion Cymru yn tynnu’n ôl hysbysiad stop dros dro ar ôl iddo gymryd effaith.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b) pan—

(a)bo cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei roi ar gyfer y gwaith a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro ar ôl i’r hysbysiad gymryd effaith, a

(b)bo Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad yn ôl ar ôl i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(3)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef ar‍ yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.

(4)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir drwy gymryd camau gweithredu sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod y gallai’r hawlydd fod wedi ei hosgoi neu ei osgoi—

(a)drwy ddarparu gwybodaeth yr oedd hysbysiad gwybodaeth a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 197 yn ei gwneud yn ofynnol i’r hawlydd ei darparu, neu

(b)drwy gydweithredu â Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd arall wrth ymateb i hysbysiad o’r fath.

(6)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau—

(a)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) ond nid o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith;

(b)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Hysbysiadau gorfodiLL+C

35Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gorfodi os ydynt yn ystyried—

(a)bod gwaith sy’n golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig neu dir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano, a

(b)ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

(2)Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)pennu’r toriad honedig, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i waith a bennir yn yr hysbysiad gael ei stopio, neu ei gwneud yn ofynnol i gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd at un neu ragor o’r dibenion a nodir yn is-adran (3).

(3)Y dibenion yw—

(a)adfer yr heneb neu’r tir i’w chyflwr neu ei gyflwr cyn i’r toriad ddigwydd,

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried na fyddai adfer yn rhesymol ymarferol neu y byddai’n annymunol, cyflawni gwaith pellach i leddfu effaith y toriad, neu

(c)rhoi’r heneb neu’r tir yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau unrhyw gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad).

(4)Pan fo hysbysiad gorfodi yn gosod gofyniad o dan is-adran (3)(b), mae cydsyniad heneb gofrestredig i’w drin fel pe bai wedi ei roi ar gyfer unrhyw waith sydd wedi ei gyflawni yn unol â’r gofyniad.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cynnal rhestr o bob heneb y mae hysbysiad gorfodi mewn grym mewn cysylltiad â hi a chyhoeddi’r rhestr gyfredol, a

(b)darparu copi o’r hysbysiad gorfodi sy’n ymwneud â heneb yn y rhestr i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

36Cyflwyno hysbysiad gorfodi a’r hysbysiad yn cymryd effaithLL+C

(1)Rhaid i hysbysiad gorfodi bennu—

(a)y dyddiad y mae i gymryd effaith, a

(b)o fewn pa gyfnod y mae rhaid stopio’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad neu y mae rhaid cymryd y camau a bennir ynddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn cymryd effaith ar ddechrau’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1)(a); ond pan fo apêl yn cael ei gwneud yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 39, mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4) o’r adran honno.

(3)Caiff hysbysiad gorfodi bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer stopio gwaith gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid iddynt gyflwyno copi o’r hysbysiad—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef;

(b)os yw’r heneb neu’r tir wedi ei gosod neu ei osod ond nad y lesddeiliad yw’r meddiannydd, i’r lesddeiliad, ac

(c)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr hysbysiad yn effeithio’n sylweddol arno.

(5)Rhaid‍ cyflwyno pob copi o’r hysbysiad—

(a)cyn diwedd 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(b)o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

37Amrywio hysbysiad gorfodi a thynnu hysbysiad gorfodi yn ôlLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi hysbysiad gorfodi, cânt—

(a)tynnu’r hysbysiad yn ôl;

(b)hepgor neu lacio unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, ac yn benodol estyn y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu unrhyw gam gael ei gymryd ynddo.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau yn is-adran (1) pa un a yw’r hysbysiad wedi cymryd effaith ai peidio.

(3)Nid yw tynnu hysbysiad gorfodi yn ôl yn atal Gweinidogion Cymru rhag dyroddi hysbysiad gorfodi arall.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan oedd Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno copïau o’r hysbysiad gorfodi o dan adran 36(4) cyn arfer y pwerau yn is-adran (1).

(5)Yn union ar ôl arfer unrhyw un o’r pwerau hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny i bob person y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddo (neu y byddai copi o’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo pe bai’n cael ei ailddyroddi).

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

38Effaith rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os rhoddir, ar ôl i hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi, gydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(2)—

(a)sy’n awdurdodi unrhyw waith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef sydd wedi ei gyflawni yn groes i adran 11, neu

(b)sy’n awdurdodi gwaith sy’n golygu torri amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith (neu nid yw’n cymryd effaith) i’r graddau y mae’n—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd sy’n anghyson â’r awdurdodiad i’r gwaith, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r amod.

(3)Nid yw’r ffaith bod hysbysiad gorfodi wedi peidio â chael effaith yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn rhinwedd yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson am drosedd mewn cysylltiad â methiant blaenorol i gydymffurfio â’r hysbysiad (gweler adran 41).

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

39Apêl yn erbyn hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Caiff person y cyflwynir copi o hysbysiad gorfodi iddo, neu unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri adran 11 neu amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig wedi digwydd;

(b)nad yw’r materion hynny (os digwyddasant) yn doriad o’r fath;

(c)bod yr amodau canlynol wedi eu bodloni—

(i)bod gwaith i’r heneb neu’r tir yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(ii)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, a

(iii)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl fod angen y gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol;

(d)na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi i berson fel yr oedd yn ofynnol gan adran 36;

(e)bod y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu unrhyw gamau gael eu cymryd ynddo yn afresymol o fyr.

(3)Rhaid i apêl gael ei gwneud cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.

(4)Pan fo apêl yn cael ei gwneud, nid yw’r hysbysiad yn cael effaith hyd nes bod yr apêl yn cael ei phenderfynu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff llys ynadon gadarnhau’r hysbysiad neu ei ddiddymu.

(6)Caiff y llys gadarnhau hysbysiad hyd yn oed os na chyflwynwyd copi ohono i berson yr oedd adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i gopi gael ei gyflwyno iddo, os yw’r llys wedi ei fodloni nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

40Pwerau i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Os yw’r cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo wedi dod i ben ac nad yw’r cam wedi ei gymryd, caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru—

(a)mynd ar y tir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano a chymryd y cam, a

(b)adennill oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog neu’n lesddeiliad ar yr heneb neu’r tir y costau yr aed iddynt wrth wneud hynny.

(2)Mae’r atebolrwydd o dan is-adran (1) sydd gan berson sy’n berchennog heneb neu dir dim ond yn rhinwedd bod ganddo hawlogaeth i gael y crogrent fel ymddiriedolwr ar gyfer person arall wedi ei gyfyngu i gyfanswm yr arian sydd gan y person, neu y mae’r person wedi ei gael, yn rhinwedd yr hawlogaeth honno.

(3)Pan fo llys ynadon, ar gais drwy gŵyn a wneir gan berchennog ar heneb gofrestredig neu dir, wedi ei fodloni bod meddiannydd ar yr heneb neu’r tir yn atal y perchennog rhag cymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, caiff y llys drwy warant awdurdodi’r perchennog i fynd ar y tir a chymryd y camau.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

41Y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Pan, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo, fo’r gwaith yn cael ei gyflawni neu na fo’r cam wedi ei gymryd, mae person sydd ar y pryd yn berchennog ar yr heneb gofrestredig neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef yn euog o drosedd.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu at gyfnod hwy, a chaniateir i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gorfodi drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)iddo wneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo ei wneud i sicrhau i’r gwaith a bennwyd yn yr hysbysiad gael ei stopio neu i’r camau a oedd yn ofynnol gan yr hysbysiad gael eu cymryd, neu

(b)nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad gorfodi.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(5)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

GwaharddebauLL+C

42Gwaharddeb i atal gwaith anawdurdodedig neu fethiant i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal—

(a)toriad gwirioneddol neu doriad disgwyliedig o adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) mewn perthynas â heneb gofrestredig neu dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano, neu

(b)methiant gwirioneddol neu fethiant disgwyliedig i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith i heneb gofrestredig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais pa un a ydynt wedi arfer, neu’n cynnig arfer, unrhyw un neu ragor o’u pwerau eraill o dan y Rhan hon ai peidio.

(3)Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y toriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

PENNOD 6LL+CCAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Caffael henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

43Caffael yn orfodol henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael yn orfodol unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig at ddiben sicrhau ei diogelu.

(2)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i gaffaeliad o dan yr adran hon.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys at ddiben asesu digollediad am unrhyw gaffaeliad o dan yr adran hon o heneb sy’n heneb gofrestredig yn union cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn prynu gorfodol.

(4)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, mae i’w thybio na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith a fyddai’n arwain neu a allai arwain at ddymchwel, dinistrio neu symud ymaith yr heneb neu unrhyw ran ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

44Caffael drwy gytundeb neu rodd henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael drwy gytundeb unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Caiff awdurdod lleol gaffael drwy gytundeb unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol dderbyn rhodd (pa un ai drwy weithred neu ewyllys) o unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(4)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Gwarcheidiaeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

45Pŵer i osod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig o dan warcheidiaethLL+C

(1)Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru, eu penodi drwy weithred yn warcheidwaid yr heneb.

(2)Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, benodi’r awdurdod drwy weithred yn warcheidwad yr heneb.

(3)Ni chaiff person nad yw’n feddiannydd heneb sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb o dan yr adran hon oni bai bod y meddiannydd hefyd yn barti i’r weithred.

(4)Caiff unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb fod yn barti i’r weithred yn ogystal â’r person sy’n sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb a (phan nad y person hwnnw yw’r meddiannydd) y meddiannydd.

(5)Mae’r buddiannau a ganlyn mewn heneb yn fuddiannau cymhwysol at ddibenion yr adran hon—

(a)ystad rydd-ddaliadol;

(b)ystad lesddaliadol, neu fuddiant mewn meddiant—

(i)sydd ag o leiaf 45 o flynyddoedd yn weddill, neu

(ii)y gellir ei hadnewyddu neu ei adnewyddu am o leiaf 45 o flynyddoedd;

(c)buddiant mewn meddiant am oes y person ei hun neu oes person arall, neu am oesau (pa un a ydynt yn cynnwys oes y person ei hun ai peidio), o dan unrhyw ymddiriedolaeth tir bresennol neu yn y dyfodol pan fo’r ystad neu’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r ymddiriedolaeth yn dod o fewn paragraff (a) neu (b).

(6)Yn is-adran (5)(c) mae i “ymddiriedolaeth tir” yr un ystyr ag a roddir i “trust of land” yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47).

(7)Yn y Bennod hon ystyr “gweithred warcheidiaeth” yw gweithred a gyflawnir o dan is-adran (1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

46Darpariaeth atodol ynghylch gweithredoedd gwarcheidiaethLL+C

(1)Mae gweithred warcheidiaeth yn bridiant tir lleol.

(2)Mae pob person y mae ei deitl i heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn deillio o, drwy neu o dan unrhyw berson sydd wedi cyflawni gweithred warcheidiaeth wedi ei rwymo gan y weithred oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y person a gyflawnodd y weithred, cyn dyddiad y weithred honno, y mae teitl y person yn deillio.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol ddod yn warcheidwaid adeilad neu strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(4)Mae gan unrhyw berson a chanddo unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant mewn heneb sydd o dan warcheidiaeth yr un hawl a’r un teitl i’r heneb, a’r un ystad neu’r un buddiant ynddi, ym mhob cyswllt fel pe na bai’r heneb o dan warcheidiaeth; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

47Swyddogaethau cyffredinol gwarcheidwaidLL+C

(1)Rhaid i warcheidwad heneb ei chynnal a’i chadw, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei chynnal a’i chadw.

(2)Gwarcheidwad yr heneb sy’n ei rheolaethu ac yn ei rheoli’n llawn, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei rheolaethu a’i rheoli’n briodol.

(3)Mae’r pwerau yn is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys pŵer i—

(a)gwneud unrhyw archwiliad o’r heneb;

(b)agor yr heneb neu wneud cloddiadau ohoni at ddiben archwilio neu fel arall;

(c)symud y cyfan neu unrhyw ran o’r heneb ymaith i fan arall at ddibenion ei diogelu.

(4)Mae’r pŵer yn is-adran (2) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol talu tâl mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r heneb.

(5)Caiff gwarcheidwad heneb fynd i safle’r heneb at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o bwerau’r gwarcheidwad o dan yr adran hon mewn perthynas â hi (a chaiff awdurdodi unrhyw berson arall i fynd i’r safle ac arfer y pwerau hynny ar ei ran).

(6)Mae is-adrannau (2) i (4) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

48Terfynu gwarcheidiaethLL+C

(1)Caiff gwarcheidwad heneb gytuno â’r personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt—

(a)i eithrio unrhyw ran o’r heneb o’r warcheidiaeth, neu

(b)i ildio gwarcheidiaeth yr heneb.

(2)Yn absenoldeb cytundeb o’r fath, mae heneb yn parhau i fod o dan warcheidiaeth (oni bai ei bod yn cael ei chaffael gan ei gwarcheidwad) hyd nes bod meddiannydd ar yr heneb sydd â hawlogaeth i derfynu’r warcheidiaeth yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i warcheidwad yr heneb.

(3)Mae gan feddiannydd ar heneb hawlogaeth i derfynu gwarcheidiaeth yr heneb—

(a)os oes gan y meddiannydd fuddiant cymhwysol (o fewn ystyr adran 45(5)) yn yr heneb, a

(b)os nad yw’r meddiannydd wedi ei rwymo gan y weithred warcheidiaeth.

(4)Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cytundeb o dan is-adran (1).

(5)Ni chaiff gwarcheidwad heneb wneud cytundeb o dan is-adran (1) oni bai bod y gwarcheidwad wedi ei fodloni, mewn cysylltiad â’r rhan o’r heneb neu’r heneb gyfan (yn ôl y digwydd)—

(a)bod trefniadau boddhaol wedi eu gwneud i sicrhau y caiff ei diogelu ar ôl terfynu’r warcheidiaeth, neu

(b)nad yw’n ymarferol ei diogelu mwyach (pa un ai oherwydd y gost o’i diogelu neu fel arall).

(6)Rhaid i gytundeb o dan is-adran (1) gael ei wneud o dan sêl.

(7)At ddibenion is-adran (1) mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Caffael a gwarcheidiaeth tir yng nghyffiniau heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.LL+C

49Caffael a gwarcheidiaeth tir yng nghyffiniau henebLL+C

(1)Mae cyfeiriadau yn adrannau 43 i 46 at heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn cynnwys unrhyw dir sy’n cydffinio â’r heneb neu sydd yn ei chyffiniau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, neu (yn ôl y digwydd) y mae awdurdod lleol yn ystyried, bod ei angen yn rhesymol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn is-adran (2).

(2)Y dibenion yw—

(a)cynnal a chadw’r heneb neu ei hamwynderau;

(b)storio offer neu ddeunyddiau ar gyfer cynnal a chadw’r heneb neu ei hamwynderau;

(c)darparu neu hwyluso mynediad i’r heneb;

(d)rheolaethu neu reoli’r heneb yn briodol;

(e)darparu cyfleusterau a gwasanaethau i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd i’r heneb neu mewn cysylltiad â darparu mynediad o’r fath.

(3)Mae’r pŵer i gaffael yn orfodol yn adran 43(1), fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-adran (1) o’r adran hon, i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2)” wedi eu rhoi yn lle “at ddiben sicrhau ei diogelu”.

(4)Caniateir i dir gael ei gaffael neu ei gymryd i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon naill ai ar yr un pryd â’r heneb neu’n ddiweddarach.

(5)Mae person sy’n warcheidwad unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon yn ei reolaethu ac yn ei reoli’n llawn, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol—

(a)ar gyfer ei reolaethu a’i reoli’n briodol (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol talu tâl mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r tir), a

(b)ar gyfer defnyddio’r tir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn is-adran (2) sy’n ymwneud â’r heneb.

(6)Caiff person sy’n warcheidwad unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon fynd ar y tir at ddiben arfer pwerau’r gwarcheidwad o dan is-adran (5) (a chaiff awdurdodi unrhyw berson arall i fynd i’r safle ac i arfer y pwerau hynny, ar ei ran).

(7)Mae adrannau 48(1) i (4) a (7) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir a gymerir i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn perthynas â heneb.

(8)Ar wahân i unrhyw derfyniad o warcheidiaeth yn rhinwedd adran 48, mae gwarcheidiaeth unrhyw dir o’r fath hefyd yn dod i ben os yw’r heneb o dan sylw—

(a)yn peidio â bod o dan warcheidiaeth ac eithrio yn rhinwedd cael ei chaffael gan ei gwarcheidwaid, neu

(b)yn peidio â bodoli.

(9)Pan fo Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn berchen ar heneb neu pan fo heneb o dan eu gwarcheidiaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno (neu at dir cysylltiedig) yn gyfeiriadau at—

(a)unrhyw dir a gaffaelir neu a gymerir i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2), neu

(b)unrhyw dir a neilltuir at unrhyw ddiben o’r fath o dan bŵer a roddir gan unrhyw ddeddfiad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

50Caffael hawddfreintiau a hawliau tebyg eraill dros dir yng nghyffiniau henebLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael hawddfraint dros dir sy’n cydffinio ag unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu sydd yn ei chyffiniau, os ydynt yn ystyried bod angen yr hawddfraint—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(2)Caniateir i gaffaeliad o dan is-adran (1) gael ei wneud drwy gytundeb neu’n orfodol.

(3)Caiff awdurdod lleol gaffael hawddfraint dros dir sy’n cydffinio ag unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu sydd yn ei chyffiniau, os yw’n ymddangos iddo fod angen yr hawddfraint—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(4)Ni chaniateir i gaffaeliad o dan is-adran (3) gael ei wneud ond drwy gytundeb.

(5)Caiff gwarcheidwad heneb neu unrhyw dir gaffael, er budd yr heneb neu’r tir, hawl berthnasol dros dir sy’n cydffinio â’r heneb neu’r tir neu sydd yn ei chyffiniau neu ei gyffiniau, os yw’r gwarcheidwad yn ystyried bod angen yr hawl—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno neu’r tir hwnnw, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno neu’r tir hwnnw at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(6)At ddibenion is-adran (5) ystyr “hawl berthnasol” yw hawl (o unrhyw ddisgrifiad) a fyddai’n hawddfraint pe bai’n cael ei chaffael gan berchennog ar yr heneb neu’r tir o dan sylw.

(7)O ran caffael hawl o dan is-adran (5)—

(a)yn achos Gweinidogion Cymru, caniateir ei wneud drwy gytundeb neu’n orfodol;

(b)yn achos awdurdod lleol, ni chaniateir ei wneud ond drwy gytundeb.

(8)O ran hawl a gaffaelir o dan is-adran (5)—

(a)mae i’w thrin at ddibenion ei chaffael o dan yr adran hon ac ym mhob cyswllt arall fel pe bai’n hawddfraint gyfreithiol, a

(b)caniateir iddi gael ei gorfodi gan y gwarcheidwaid am y tro ar yr heneb neu’r tir y’i caffaelwyd er ei budd neu ei fudd fel pe baent yn berchennog mewn meddiant ar rydd-daliad yr heneb honno neu’r tir hwnnw.

(9)Os yw’r amod yn is-adran (10) wedi ei fodloni mewn perthynas â heneb, caniateir i hawl a gaffaelir o dan is-adran (5) drwy gytundeb —

(a)cael ei dirymu gan y grantwr, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y cytundeb y’i caffaelwyd odano, a

(b)cael ei dirymu gan unrhyw olynydd yn nheitl y grantwr mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r tir y mae’n arferadwy drosto ac y mae gan yr olynydd fuddiant ynddo.

(10)Yr amod a grybwyllir yn is-adran (9) yw bod yr heneb—

(a)yn peidio â bod o dan warcheidiaeth ac eithrio yn rhinwedd cael ei chaffael gan ei gwarcheidwaid, neu

(b)yn peidio â bodoli.

(11)Mae hawl a gaffaelir o dan is-adran (5) yn bridiant tir lleol.

(12)Mae’r pwerau caffael yn yr adran hon yn cynnwys pŵer i gaffael hawddfraint neu hawl drwy roi hawl newydd.

(13)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i unrhyw gaffaeliad gorfodol o dan yr adran hon.

(14)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad drwy gytundeb o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cytundebau â meddianwyr henebion neu dir sy’n cydffinio etc.LL+C

51Cytundebau ynghylch rheoli henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig a thir yn eu cyffiniauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon—

(a)ag unrhyw feddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu

(b)ag unrhyw feddiannydd ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud cytundeb o dan yr adran hon—

(a)ag unrhyw feddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, neu

(b)ag unrhyw feddiannydd ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau.

(3)Cyfeirir at gytundeb o dan yr adran hon yn y Rhan hon fel “cytundeb rheoli”.

(4)Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu mewn unrhyw dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau fod yn barti i gytundeb rheoli (yn ogystal â’r meddiannydd).

(5)Caiff cytundeb rheoli—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r heneb a’i hamwynderau (gan gynnwys, pan fo cytundeb wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, ddarpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu ddiogelu penodedig);

(b)gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r heneb neu’r tir;

(c)darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb neu’r tir a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;

(d)cyfyngu ar fynediad i’r heneb neu’r tir neu’r defnydd o’r heneb neu’r tir;

(e)gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r heneb neu’r tir;

(f)darparu i Weinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—

(i)am gost unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y gost honno, neu

(ii)yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.

(6)Caiff cytundeb rheoli hefyd gynnwys darpariaethau deilliadol a chanlyniadol.

(7)Pan fo cytundeb rheoli a wneir gan Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys pan fo cytundeb rheoli yn darparu’n benodol fod y cytundeb yn ei gyfanrwydd neu unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth sy’n codi odano i rwymo olynwyr unrhyw barti i’r cytundeb.

(9)Mae pob person y mae ei deitl i‘r heneb neu’r tir o dan sylw yn deillio o’r parti hwnnw, drwyddo neu odano wedi ei rwymo gan y cytundeb, neu gan y cyfyngiad hwnnw, y gwaharddiad hwnnw neu’r rhwymedigaeth honno, oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y parti hwnnw, cyn dyddiad y cytundeb, y mae teitl y person yn deillio.

(10)Nid yw adran 84 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (pŵer yr Uwch Dribiwnlys i ryddhau neu addasu cyfamodau cyfyngol) yn gymwys i gytundeb rheoli.

(11)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb rheoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Pwerau perchnogion cyfyngedigLL+C

52Pwerau perchnogion cyfyngedig at ddibenion adrannau 45, 50 a 51LL+C

(1)Caiff person sefydlu gwarcheidiaeth heneb neu dir o dan adran 45 neu ymuno i gyflawni gweithred warcheidiaeth o dan yr adran honno, er mai perchennog cyfyngedig ar yr heneb neu’r tir ydyw.

(2)Caiff person roi hawddfraint neu hawl arall dros dir y mae Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol wedi eu hawdurdodi neu ei awdurdodi i’w chaffael o dan adran 50, er mai perchennog cyfyngedig ar y tir ydyw.

(3)Caiff person wneud cytundeb rheoli o dan adran 51 mewn cysylltiad â heneb neu dir, er mai perchennog cyfyngedig ar yr heneb neu’r tir ydyw.

(4)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae corff corfforedig neu gorfforaeth undyn yn berchennog cyfyngedig ar unrhyw dir y mae ganddo neu ganddi fuddiant ynddo, a

(b)mae unrhyw bersonau eraill yn berchnogion cyfyngedig ar dir y mae ganddynt fuddiant ynddo os ydynt yn dal y buddiant hwnnw yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5).

(5)Y ffyrdd o ddal buddiant mewn tir y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—

(a)fel tenant am oes neu berchennog statudol (o fewn yr ystyr a roddir i “tenant for life” a “statutory owner” gan Ddeddf Tir Setledig 1925 (p. 18));

(b)fel ymddiriedolwyr tir (o fewn yr ystyr a roddir i “trustees of land” gan Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47));

(c)fel ymddiriedolwyr ar gyfer elusennau neu gomisiynwyr neu ymddiriedolwyr at ddibenion eglwysig, dibenion colegol neu ddibenion cyhoeddus eraill.

(6)Pan fo person sy’n berchennog cyfyngedig ar unrhyw dir yn rhinwedd dal buddiant yn y tir yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5) yn cyflawni gweithred warcheidiaeth mewn perthynas â’r tir, mae’r weithred warcheidiaeth yn rhwymo pob perchennog olynol ar unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant yn y tir.

(7)Ond pan fo’r tir, ar ddyddiad y weithred, yn ddarostyngedig i unrhyw lyffethair nad oes modd i’r perchennog cyfyngedig ei gorgyrraedd wrth arfer unrhyw bwerau gwerthu neu reoli a roddir i’r perchennog cyfyngedig gan y gyfraith neu o dan unrhyw setliad neu unrhyw offeryn arall, nid yw’r weithred yn rhwymo’r llyffetheiriwr.

(8)Pan fo cytundeb rheoli o dan adran 51 y mae perchennog cyfyngedig yn barti iddo yn darparu’n benodol fod y cytundeb yn ei gyfanrwydd neu unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth sy’n codi o dan y cytundeb yn rhwymo olynwyr y perchennog cyfyngedig, mae is-adrannau (9) a (10) yn gymwys i’r cytundeb neu (yn ôl y digwydd) i’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth o dan sylw.

(9)Pan fo person yn berchennog cyfyngedig yn rhinwedd dal buddiant yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5), mae’r cytundeb neu’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth yn rhwymo pob perchennog olynol ar unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant yn y tir.

(10)Ond pan fo’r tir, ar ddyddiad y cytundeb, yn ddarostyngedig i unrhyw lyffethair nad oes modd i’r perchennog cyfyngedig ei gorgyrraedd wrth arfer pwerau gwerthu neu reoli a roddir i’r perchennog cyfyngedig gan y gyfraith neu o dan unrhyw setliad neu unrhyw offeryn arall, nid yw’r cytundeb neu’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth yn rhwymo’r llyffetheiriwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Trosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth a gwaredu tirLL+C

53Trosglwyddo henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig rhwng awdurdodau lleol a Gweinidogion CymruLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn berchnogion neu’n warcheidwaid heneb neu dir cysylltiedig, cânt drosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth yr heneb honno neu’r tir hwnnw i unrhyw awdurdod lleol.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn berchennog neu’n warcheidwad heneb neu dir cysylltiedig, caiff drosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth yr heneb honno neu’r tir hwnnw—

(a)i Weinidogion Cymru, neu

(b)i awdurdod lleol arall.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol drosglwyddo gwarcheidiaeth heneb neu dir cysylltiedig o dan yr adran hon heb gytundeb y personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt.

(4)At ddibenion is-adran (3) mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb neu dir yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb neu’r tir yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

54Gwaredu tir a gaffaelir o dan y Bennod honLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru waredu unrhyw dir a gaffaelir ganddynt o dan adran 43, 44 neu 53.

(2)Caiff awdurdod lleol waredu unrhyw dir a gaffaelir ganddo o dan adran 44 neu 53, ond rhaid iddo ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud hynny.

(3)Pan fo’r tir a waredir o dan yr adran hon yn heneb neu’n cynnwys heneb, rhaid i’r gwarediad gael ei wneud ar delerau y mae’r person sy’n gwaredu’r tir yn ystyried y byddant yn sicrhau y caiff yr heneb ei diogelu.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r person sy’n gwaredu’r tir yn ystyried nad yw’n ymarferol diogelu’r heneb mwyach (pa un ai oherwydd y gost o’i diogelu neu fel arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddusLL+C

55Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddusLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ac unrhyw awdurdod lleol sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu warcheidiaeth neu ei berchnogaeth neu warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon; ond mae hyn yn ddarostyngedig—

(a)i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon,

(b)i unrhyw reoliadau neu is-ddeddfau a wneir o dan adran 56, ac

(c)i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r heneb a wneir o dan adran 25 neu 51 (cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig a chytundebau rheoli).

(2)Mewn perthynas ag unrhyw heneb o dan warcheidiaeth, mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.

(3)Mae cyfeiriadau yn yr is-adrannau a ganlyn at heneb—

(a)mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yn gyfeiriadau at heneb—

(i)sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon;

(ii)sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon;

(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol, yn gyfeiriadau at heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol reolaethu amseroedd arferol mynediad y cyhoedd i heneb.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol atal y cyhoedd rhag cael mynediad i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, am unrhyw gyfnod y maent neu y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol—

(a)er lles diogelwch;

(b)ar gyfer ei chynnal a’i chadw neu ei diogelu;

(c)mewn cysylltiad â digwyddiadau a gynhelir neu weithgareddau eraill wedi eu trefnu a gyflawnir ynddi neu arni.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol hefyd osod cyfyngiadau a rheolaethau eraill ar fynediad y cyhoedd i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, at ddiben a grybwyllir yn is-adran (5).

(7)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl ar y cyhoedd am fynediad i heneb.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol wrthod mynediad i berson i heneb os oes ganddynt neu ganddo reswm dros gredu bod y person yn debygol o wneud unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

56Pŵer i wneud rheoliadau ac is-ddeddfau mewn cysylltiad â mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddusLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon drwy wneud rheoliadau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd wneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw heneb sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli gan Weinidogion Cymru ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon.

(3)Caiff awdurdod lleol reoleiddio mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon drwy wneud is-ddeddfau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

(4)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â darpariaeth a wneir gan reoliadau neu is-ddeddfau o dan yr adran hon yn cyflawni trosedd.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.

(6)Caiff is-ddeddfau a wneir o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â henebion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o heneb.

(7)Nid yw is-ddeddfau o dan yr adran hon yn cymryd effaith oni chânt eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r is-ddeddfau gydag addasiadau neu hebddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

57Darparu cyfleusterau i’r cyhoedd mewn cysylltiad â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd neu mewn cysylltiad â darparu mynediad y cyhoedd—

(a)i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon, neu

(b)i unrhyw heneb sydd fel arall yn cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt.

(2)Caiff awdurdod lleol ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu mewn cysylltiad â darparu mynediad o’r fath.

(3)Caniateir i gyfleusterau a gwybodaeth neu wasanaethau eraill i’r cyhoedd gael eu darparu o dan yr adran hon yn yr heneb ei hun neu arni neu ar unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl am ddefnyddio unrhyw gyfleuster neu unrhyw wasanaeth a ddarperir ganddynt neu ganddo o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

PENNOD 7LL+CCYFFREDINOL

Difrodi henebionLL+C

58Y drosedd o ddifrodi henebion penodol o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

(1)Mae person sy’n dinistrio neu’n difrodi heneb warchodedig heb esgus cyfreithlon yn euog o drosedd os oedd y person—

(a)yn gwybod neu os dylai’n rhesymol fod wedi gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig, a

(b)yn bwriadu dinistrio neu ddifrodi’r heneb neu’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei difrodi neu ei dinistrio.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “heneb warchodedig” yw—

(a)heneb gofrestredig, neu

(b)heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd y Bennod hon.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan neu o dan awdurdod perchennog yr heneb, ac eithrio gweithred ar gyfer cyflawni gwaith a eithrir, fel y mae’n gymwys i unrhyw beth a wneir gan unrhyw berson arall.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “gwaith a eithrir” yw—

(a)gwaith sydd wedi ei awdurdodi o dan Bennod 3;

(b)gwaith y mae cydsyniad datblygu wedi ei roi ar ei gyfer o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29).

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

59Gorchmynion digolledu am ddifrod i henebion sydd o dan warcheidiaethLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo perchennog neu unrhyw berson arall yn cael ei euogfarnu o drosedd sy’n ymwneud â difrod i heneb a oedd ar adeg y drosedd o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.

(2)Mae unrhyw orchymyn digolledu a wneir o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu (gorchmynion digolledu yn erbyn personau a euogfarnwyd) mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw i’w wneud o blaid Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol o dan sylw (yn ôl gofynion yr achos).

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

60Cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metelLL+C

(1)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “datgelydd metel” (“metal detector”) yw unrhyw ddyfais sydd wedi ei dylunio neu ei haddasu i ganfod neu leoli unrhyw fetel neu unrhyw fwyn yn y ddaear;

  • ystyr “man gwarchodedig” (“protected place”) yw—

    (a)

    safle unrhyw heneb gofrestredig, neu

    (b)

    safle unrhyw heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.

(2)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn defnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig heb gydsyniad i wneud hynny.

(3)Mae person y rhoddwyd cydsyniad iddo i ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yn cyflawni trosedd os yw’r person, wrth ddefnyddio’r datgelydd metel yn y man hwnnw, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y cydsyniad.

(4)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb gydsyniad i wneud hynny, yn symud ymaith unrhyw wrthrych o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol y mae’r person wedi ei ddarganfod drwy ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig.

(5)Mae person y rhoddwyd cydsyniad iddo i symud ymaith unrhyw wrthrych, neu i ymdrin fel arall ag unrhyw wrthrych, y mae’r person yn ei ddarganfod drwy ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yn cyflawni trosedd os yw’r person, wrth symud ymaith y gwrthrych neu wrth ymdrin fel arall ag ef, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y cydsyniad.

(6)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) mae’n amddiffyniad i berson brofi iddo ddefnyddio’r datgelydd metel at ddiben ac eithrio i ganfod neu leoli gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(7)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) neu (4) mae’n amddiffyniad i berson brofi—

(a)ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig, a

(b)nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, bod y man yn fan gwarchodedig.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) neu (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) neu (5) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Gwaith brys ar gyfer diogelu heneb gofrestredigLL+C

61Gwaith ar gyfer diogelu heneb gofrestredig mewn achosion brysLL+C

(1)Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod unrhyw waith y mae adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) yn gymwys iddo yn angenrheidiol ar frys i ddiogelu heneb gofrestredig, cânt fynd i safle’r heneb a chyflawni’r gwaith hwnnw.

(2)Cyn arfer y pŵer yn is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf 7 niwrnod clir o rybudd yn ysgrifenedig i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflawni gwaith o dan yr adran hon ar gyfer atgyweirio unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig—

(a)mae unrhyw orchymyn digolledu a wnaed yn flaenorol mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu o blaid unrhyw berson arall yn orfodadwy (i’r graddau na chydymffurfiwyd ag ef eisoes) fel pe bai wedi ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru, a

(b)rhaid i unrhyw orchymyn o’r fath a wneir wedyn mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw gael ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru.

(4)Pan fo gwaith yn cael ei gyflawni o dan yr adran hon, mae’r gwaith i’w drin fel pe bai’n waith awdurdodedig at ddibenion Pennod 3 (rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig).

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Gwariant a chyngor mewn perthynas â henebionLL+C

62Gwariant ar gaffael a diogelu henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu cost caffael unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig gan unrhyw berson, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)symud ymaith neu gynorthwyo i symud ymaith unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu;

(b)talu cost symud ymaith unrhyw heneb o’r fath neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig—

(a)ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;

(b)talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu tuag at gost darparu cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd gan awdurdod lleol o dan adran 57.

(5)Caiff awdurdod lleol, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal—

(a)ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;

(b)talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol fynd i wariant o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

63Cyngor gan Weinidogion Cymru a goruchwylio gwaith ganddyntLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyngor ynghylch trin unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd oruchwylio unrhyw waith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny gan berchennog ar yr heneb.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru oruchwylio gwaith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb gofrestredig, os ydynt yn ystyried bod hynny yn ddoeth (pa un a yw perchennog yn gofyn iddynt wneud hynny ai peidio).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru godi tâl am roi cyngor neu oruchwylio gwaith o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

64Gwariant gan awdurdodau lleol ar ymchwiliad archaeolegolLL+C

(1)Os yw awdurdod lleol yn ystyried y gall unrhyw dir yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal gynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu unrhyw beth arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, caiff yr awdurdod—

(a)cynnal ymchwiliad archaeolegol o’r tir neu gynorthwyo mewn ymchwiliad o’r fath, neu

(b)talu cost ymchwiliad archaeolegol o’r tir neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(2)Caiff awdurdod lleol gyhoeddi canlyniadau unrhyw ymchwiliad archaeolegol a gynhelir ganddo, a gynorthwyir ganddo neu a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol ganddo o dan yr adran hon.

(3)Caniateir i’r pwerau yn is-adran (1) gael eu harfer mewn perthynas ag unrhyw dir sy’n ffurfio rhan o wely’r môr o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol sy’n gyfagos i Gymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Pwerau mynediadLL+C

65Pwerau mynediad i arolygu henebion cofrestredig etc.LL+C

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano i asesu ei chyflwr ac i asesu—

(a)a oes unrhyw waith sy’n effeithio ar yr heneb yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi), neu

(b)a yw wedi cael ei difrodi neu’n debygol o gael ei difrodi (gan waith o’r fath neu fel arall).

(2)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano mewn cysylltiad—

(a)â chais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar yr heneb honno,

(b)â chynnig i addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith o’r fath, neu

(c)â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 27 (terfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb).

(3)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i asesu a yw unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni neu wedi cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad neu’r awdurdodiad (gan gynnwys unrhyw amodau).

(4)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni arno er mwyn—

(a)arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeiladau neu unrhyw strwythurau eraill ar y tir) i gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, neu

(b)arsylwi ar y gwaith hwnnw yn cael ei gyflawni gyda golwg—

(i)ar archwilio a chofnodi unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw, a

(ii)ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw.

(5)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano i godi a chynnal ar safle’r heneb neu gerllaw iddo unrhyw hysbysfyrddau ac unrhyw byst marcio y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol i warchod yr heneb rhag difrod damweiniol neu fwriadol.

(6)Ni chaniateir i’r pŵer yn is-adran (5) gael ei arfer heb gytundeb pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir.

(7)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

66Pwerau mynediad sy’n ymwneud â gorfodi rheolaethau ar waithLL+C

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—

(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi;

(b)i arddangos copi o hysbysiad stop dros dro yn unol ag adran 31 neu ei osod yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);

(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro.

(2)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—

(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi;

(b)i osod hysbysiad gorfodi yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);

(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi.

(3)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

67Pŵer mynediad i dir y credir ei fod yn cynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae Gweinidogion Cymru yn gwybod neu y mae ganddynt reswm dros gredu bod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig ynddo, arno neu odano er mwyn arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur arall arno) gyda golwg ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(2)Caiff person awdurdodedig sy’n mynd ar unrhyw dir wrth arfer y pŵer yn is-adran (1) gynnal cloddiadau yn y tir at ddibenion ymchwiliad archaeolegol.

(3)Er mwyn cynnal cloddiad o dan is-adran (2) mae’n ofynnol cael cytundeb pob person y byddai’n ofynnol cael ei gytundeb i wneud y cloddiad ar wahân i’r adran hon.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gwybod neu os oes ganddynt reswm dros gredu bod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig y maent yn gwybod neu’n credu ei bod yn y tir, arno neu odano mewn perygl, neu’n gallu bod mewn perygl, o fod ar fin cael ei difrodi neu ei dinistrio.

(5)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

68Pŵer mynediad i gynnal arolwg a phrisiad mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediadLL+C

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg ohono, neu i amcangyfrif ei werth, mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad o dan y Rhan hon am unrhyw ddifrod i’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall.

(2)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw—

(a)swyddog o Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, neu

(b)person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae’r pŵer i gynnal arolwg o dir o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio i benderfynu natur yr isbridd neu i benderfynu a oes mwynau yn bresennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

69Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad o dan y Rhan honLL+C

(1)Caniateir i bŵer i fynd ar dir o dan y Rhan hon gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i adran 65(5).

(2)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon fynnu mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu oni bai bod rhybudd o’r mynediad bwriadedig wedi ei roi i bob meddiannydd—

(a)pan mai diben y mynediad yw cyflawni unrhyw waith ar y tir (ac eithrio cloddiadau wrth arfer y pŵer o dan adran 67), o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn diwrnod y mynediad bwriadedig, neu

(b)mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys cloddiadau wrth arfer y pŵer o dan adran 67), o leiaf 24 awr cyn diwrnod y mynediad bwriadedig.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i fynediad o dan—

(a)adran 61 (ond gweler is-adran (2) o’r adran honno), na

(b)adran 66(1).

(4)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon fynd i unrhyw adeilad nac unrhyw strwythur na rhan o adeilad na strwythur a feddiennir fel annedd heb gytundeb pob meddiannydd; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i’r pŵer yn adran 68.

(5)Rhaid i berson sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon—

(a)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran perchennog neu feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno;

(b)os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

(6)Caiff person sy’n mynd ar dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon fynd â chynhorthwy neu gyfarpar y bo ei angen yn rhesymol at y diben y mae’r mynediad yn ymwneud ag ef.

(7)Pan fo person yn cynnal unrhyw ymchwiliad archaeolegol neu unrhyw archwiliad archaeolegol o dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon, caiff y person gymryd unrhyw samplau y mae’n ymddangos i’r person y bo eu hangen yn rhesymol at ddiben dadansoddi archaeolegol a symud unrhyw samplau o’r fath ymaith.

(8)Pan—

(a)bo pŵer mynediad o dan y Rhan hon yn arferadwy gan berson (“P1”) mewn perthynas ag unrhyw dir, a

(b)bo gwaith yn cael ei gyflawni ar y tir gan berson arall (“P2”),

rhaid i P1, wrth arfer y pŵer mynediad, gydymffurfio ag unrhyw ofynion rhesymol neu unrhyw amodau rhesymol a osodir gan P2 at ddiben atal ymyrryd â’r gwaith neu atal oedi i’r gwaith.

(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys pan fo’r gwaith o dan sylw yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(10)At ddibenion is-adran (8), nid yw gofyniad neu amod yn rhesymol pe byddai cydymffurfio ag ef yn llesteirio arfer y pŵer mynediad neu ddiben y mynediad.

(11)Mae person sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon yn cyflawni trosedd.

(12)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (11) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(13)Pan—

(a)bo person, wrth arfer y pŵer mynediad o dan adran 68, yn cynnig cyflawni gwaith a awdurdodir gan is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)bo’n ofynnol iddo roi rhybudd o’r mynediad bwriadedig o dan is-adran (2)(a) o’r adran hon,

ni chaiff y person gyflawni’r gwaith oni bai bod y rhybudd o fynediad bwriadedig yn cynnwys hysbysiad o fwriad y person i gyflawni’r gwaith hwnnw.

(14)Pan—

(a)wrth arfer y pŵer mynediad o dan adran 68, bo person yn cynnig cyflawni unrhyw waith a awdurdodir gan is-adran (3) o’r adran honno ar dir sy’n perthyn i ymgymerwr statudol, a

(b)bo’r ymgymerwr yn gwrthwynebu’r cynnig ar y sail y byddai cyflawni’r gwaith yn ddifrifol niweidiol i gynnal ei ymgymeriad,

ni chaiff y person gyflawni’r gwaith heb gytundeb Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

70Digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau penodol o dan y Rhan honLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw bŵer i fynd ar unrhyw dir, neu i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir, o dan adran 40 neu adrannau 65 i 68.

(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant mewn tir hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw ddifrod a achosir i’r tir neu i eiddo ar y tir wrth arfer pŵer y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(3)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y difrod ei achosi (neu os cafodd y difrod ei achosi dros fwy nag un diwrnod, y diwrnod olaf y cafodd ei achosi).

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

71Trin a diogelu darganfyddiadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn mynd ar dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon—

(a)i gynnal cloddiadau yn y tir neu i gyflawni gwaith sy’n effeithio ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig sydd yn y tir, arno neu odano,

(b)i asesu neu arsylwi ar waith ar y tir o dan adran 65(3) neu (4)(b), neu

(c)i gynnal archwiliad archaeolegol o’r tir.

(2)Caiff y person—

(a)cymryd gwarchodaeth dros dro o unrhyw wrthrych o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y cloddiadau, y gwaith neu’r archwiliad, a

(b)symud y gwrthrych ymaith o’i safle at ddiben ei archwilio, ei brofi, ei drin, ei gofnodi neu ei ddiogelu.

(3)Ni chaiff yr awdurdod priodol, heb gytundeb pob perchennog, gadw’r gwrthrych am gyfnod sy’n hwy nag y bo angen yn rhesymol—

(a)i’w archwilio a’i gofnodi, a

(b)i gynnal unrhyw brawf neu gyflawni unrhyw driniaeth y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod neu ei bod yn ddymunol—

(i)at ddiben ymchwiliad neu ddadansoddiad archaeolegol, neu

(ii)i adfer neu ddiogelu’r gwrthrych.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “awdurdod priodol” yw—

(a)mewn achos pan gafodd y pŵer mynediad ei arfer gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan, Gweinidogion Cymru, a

(b)mewn achos pan gafodd y pŵer mynediad ei arfer gan awdurdod lleol neu ar ei ran, yr awdurdod hwnnw.

(5)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y Goron o dan Ddeddf Trysor 1996 (p. 24).

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

AtodolLL+C

72Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol o dan y Rhan honLL+C

(1)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 73.

(2)Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig, a

(b)penderfyniad ar adolygiad o dan adran 9.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i orchymyn o dan adran 20 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad heneb gofrestredig.

(4)Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I72A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

73Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymynLL+C

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn y mae adran 72 yn gymwys iddo wneud cais am adolygiad statudol.

(2)Mae cais am adolygiad statudol yn gais i’r Uchel Lys sy’n cwestiynu dilysrwydd y penderfyniad neu’r gorchymyn ar y sail—

(a)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(b)na chydymffurfiwyd â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn.

(3)Rhaid i gais am adolygiad statudol gael ei wneud cyn diwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y gwneir y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(4)Ar unrhyw gais am adolygiad statudol, caiff yr Uchel Lys—

(a)gwneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos;

(b)diddymu’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—

(i)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(ii)bod methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fuddiannau’r ceisydd.

(5)Yn yr adran hon ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw ofyniad—

(a)yn y Ddeddf hon neu yn Neddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53), neu

(b)mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf hon neu o dan y Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

74Tir y GoronLL+C

(1)Nid yw’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron ond i’r graddau a nodir isod.

(2)Caniateir cynnwys heneb sydd ar dir y Goron, ynddo neu odano yn y gofrestr.

(3)Mae unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw bwerau a osodir neu a roddir gan y Rhan hon yn gymwys ac yn arferadwy mewn perthynas â thir y Goron ac mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir ar dir y Goron ac eithrio gan neu ar ran y Goron, ond nid fel y byddai’n effeithio ar unrhyw fuddiant sydd gan y Goron yn y tir.

(4)Nid yw’r adran hon yn caniatáu—

(a)i bŵer o dan y Rhan hon i fynd ar unrhyw dir, neu i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir, gael ei arfer mewn perthynas â thir y Goron, na

(b)i fuddiant yn nhir y Goron a ddelir ac eithrio gan neu ar ran y Goron gael ei gaffael yn orfodol o dan y Rhan hon,

heb gytundeb awdurdod priodol y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I74A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

75Dehongli’r Rhan honLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “archwiliad archaeolegol” (“archaeological examination”) yr ystyr a roddir gan is-adran (3);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

    (a)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, a

    (b)

    awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

  • mae i “cydsyniad heneb gofrestredig” (“scheduled monument consent”) yr ystyr a roddir gan adran 13;

  • mae i “y gofrestr” (“the schedule”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “gwaith” (“works”) yn cynnwys—

    (a)

    gweithrediadau i foddi tir neu weithrediadau tipio,

    (b)

    unrhyw weithrediadau a gyflawnir at ddibenion amaethyddiaeth (o fewn ystyr “agriculture” yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8)) neu goedwigaeth (gan gynnwys coedwigo), ac

    (c)

    gweithrediadau o unrhyw ddisgrifiad arall;

  • mae “gwarcheidwad” (“guardian”) i’w ddehongli yn unol ag adrannau 45 a 49;

  • mae i “gwarchodaeth interim” (“interim protection”) yr ystyr a roddir gan adran 6(3);

  • mae i “gweithred warcheidiaeth” (“guardianship deed”) yr ystyr a roddir gan adran 45(7);

  • ystyr “gweithrediadau i foddi tir” (“flooding operations”) yw gorchuddio tir â dŵr neu â sylwedd arall sy’n hylifol neu’n rhannol hylifol;

  • ystyr “gweithrediadau tipio” (“tipping operations”) yw tipio pridd neu gloddion neu ddyddodi deunyddiau adeiladu neu ddeunyddiau eraill neu sylwedd adeiladu neu sylwedd arall (gan gynnwys gwastraff) ar unrhyw dir;

  • mae i “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” (“monument of special historic interest”) yr ystyr a roddir gan is-adran (6);

  • ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 35;

  • ystyr “hysbysiad stop dros dro” (“temporary stop notice”) yw hysbysiad stop dros dro a ddyroddir o dan adan 31;

  • mae “meddiant” (“possession”) yn cynnwys cael rhent ac elw neu’r hawl i gael rhent ac elw (os oes rhent neu elw);

  • mae i “ymchwiliad archaeolegol” (“archaeological investigation”) yr ystyr a roddir gan is-adran (2).

(2)Yn y Rhan hon ystyr “ymchwiliad archaeolegol” yw unrhyw ymchwiliad o dir, o wrthrychau neu o ddeunydd arall at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol ac mae’n cynnwys, yn achos ymchwiliad archaeolegol o dir—

(a)unrhyw ymchwiliad at ddiben darganfod a datgelu a (phan fo’n briodol) adennill a symud ymaith unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol yn y tir, arno neu odano, a

(b)archwilio, profi, trin, cofnodi a diogelu unrhyw wrthrychau o’r fath neu unrhyw ddeunydd o’r fath a ddarganfyddir yng nghwrs unrhyw gloddiadau neu unrhyw arolygiadau a gynhelir at ddibenion unrhyw ymchwiliad o’r fath.

(3)Yn y Rhan hon ystyr “archwiliad archaeolegol”, mewn perthynas â thir, yw unrhyw archwiliad neu unrhyw arolygiad o’r tir (gan gynnwys adeiladau neu strwythurau eraill ar y tir) at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(4)Yn y Rhan hon (ac eithrio ym Mhennod 4) mae cyfeiriadau at dir sy’n gysylltiedig â heneb (neu at dir cysylltiedig) i’w dehongli yn unol ag adran 49(9).

(5)Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at heneb, mewn perthynas â chaffael neu drosglwyddo unrhyw heneb (pa un ai o dan y Rhan hon neu fel arall), yn cynnwys unrhyw fuddiant yn yr heneb neu hawl drosti.

(6)Yn y Rhan hon ystyr “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” yw—

(a)unrhyw heneb gofrestredig, a

(b)unrhyw heneb arall sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod o ddiddordeb i’r cyhoedd oherwydd y diddordeb hanesyddol, pensaernïol, traddodiadol, artistig neu archaeolegol sy’n gysylltiedig â hi.

(7)Ond nid yw’r cyfeiriad at heneb yn is-adran (6)(b) yn cynnwys heneb yn, ar neu o dan wely’r môr islaw’r marc distyll.

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 09/09/2024

RHAN 3LL+CADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

Valid from 04/11/2024

PENNOD 1LL+CRHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Rhestr o adeiladauLL+C

76Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi rhestr o adeiladauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal rhestr o adeiladau y mae rhaid iddi gynnwys pob adeilad yng Nghymru y maent yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a rhaid iddynt gyhoeddi’r rhestr gyfredol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr drwy—

(a)ychwanegu adeilad,

(b)dileu adeilad, neu

(c)diwygio’r cofnod ar gyfer adeilad.

(3)Wrth ystyried a ddylai adeilad gael ei gynnwys yn y rhestr, caiff Gweinidogion Cymru ystyried nid yn unig yr adeilad ei hun ond hefyd—

(a)unrhyw ffordd y mae’r tu allan i’r adeilad yn cyfrannu at ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol unrhyw grŵp o adeiladau y mae’n ffurfio rhan ohono, a

(b)dymunoldeb diogelu unrhyw nodwedd artiffisial o’r adeilad ar sail ei diddordeb pensaernïol neu hanesyddol.

(4)Yn is-adran (3)(b) ystyr “nodwedd artiffisial” yw unrhyw nodwedd o’r adeilad sy’n cynnwys strwythur neu wrthrych artiffisial—

(a)sy’n sownd wrth yr adeilad, neu

(b)sy’n ffurfio rhan o’r tir ac sydd o fewn cwrtil yr adeilad.

(5)Yn y Ddeddf hon ystyr “adeilad rhestredig” yw adeilad sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gynhelir o dan yr adran hon, ac mae’n cynnwys—

(a)unrhyw strwythur neu unrhyw wrthrych artiffisial sy’n sownd wrth yr adeilad ac sy’n atodol iddo;

(b)unrhyw strwythur neu unrhyw wrthrych artiffisial arall—

(i)sy’n ffurfio rhan o’r tir ac wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffennaf 1948, a

(ii)a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, ac yn atodol iddo, ar y dyddiad y cynhwyswyd yr adeilad yn y rhestr am y tro cyntaf, neu ar 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd y diweddaraf.

(6)Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “rhestru” adeilad yw diwygio’r rhestr drwy ychwanegu’r adeilad;

(b)ystyr “dadrestru” adeilad yw diwygio’r rhestr drwy ddileu’r adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

77Hysbysiad o restru neu ddadrestru adeiladLL+C

(1)Cyn gynted â phosibl ar ôl i Weinidogion Cymru restru neu ddadrestru adeilad, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad, a

(b)i bob awdurdod lleol perthnasol y mae’r adeilad yn ei ardal.

(2)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhestru adeilad—

(a)rhaid i’r hysbysiad bennu’r dyddiad y gwnaethant hynny, a

(b)rhaid iddynt gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y rhestr a gynhelir o dan adran 76.

(3)Mae copi o gofnod a gyflwynir o dan yr adran hon yn bridiant tir lleol, ac at ddibenion Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76) y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cyflwynir y copi iddo yw’r awdurdod tarddiadol o ran y pridiant.

(4)Rhaid i awdurdod lleol perthnasol gadw’r canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt—

(a)copïau o gofnodion yn y rhestr sydd wedi eu cyflwyno iddo o dan yr adran hon, a

(b)copïau o unrhyw rannau o’r rhestr a adneuwyd gydag ef o dan adran 2(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) neu ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw Ddeddf gynharach, i’r graddau y mae’r rhannau hynny yn parhau i fod yn gyfredol.

(5)Rhaid i’r copïau fod ar gael i edrych arnynt—

(a)yn rhad ac am ddim,

(b)ar adegau rhesymol, ac

(c)mewn man cyfleus.

(6)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol;

(c)bwrdd cydgynllunio.

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cynigion i restru a dadrestru adeiladau: ymgynghori a gwarchodaeth dros droLL+C

78Ymgynghori cyn rhestru neu ddadrestru adeiladLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnig rhestru neu ddadrestru adeilad, rhaid iddynt gyflwyno i’r personau a grybwyllir yn is-adran (2) hysbysiad—

(a)sy’n nodi’r diwygiad arfaethedig i’r rhestr a gynhelir o dan adran 76, a

(b)sy’n gwahodd y personau hynny i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig.

(2)Y personau yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad,

(b)pob awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol a bod ganddynt wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.

(3)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1)—

(a)pennu’r cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo, a

(b)yn achos cynnig i restru adeilad—

(i)cynnwys datganiad o effaith adran 79 (gwarchodaeth interim), a

(ii)pennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith o dan yr adran honno.

(4)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (3)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I78A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

79Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad o ran pa un ai i restru adeiladLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 78(1) o gynnig i restru adeilad.

(2)O ddechrau’r diwrnod a bennir o dan adran 78(3)(b)(ii), mae’r Ddeddf hon (ac eithrio adrannau 118 a 137 i 142) a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) yn cael effaith mewn perthynas â’r adeilad fel pe bai’n adeilad rhestredig.

(3)Cyfeirir at y warchodaeth a roddir yn rhinwedd is-adran (2) yn y Rhan hon fel “gwarchodaeth interim”.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi rhestr o’r adeiladau sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim, a

(b)darparu copi o’r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 78(1) mewn cysylltiad ag adeilad o’r fath i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

(5)Daw gwarchodaeth interim i ben mewn perthynas ag adeilad—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn rhestru’r adeilad, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 77(1);

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â rhestru’r adeilad, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir—

(i)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad, a

(ii)i bob awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal.

(6)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith gwarchodaeth interim yn dod i ben o dan is-adran (5)(b).

(7)Nid yw’r adran hon yn gymwys i adeilad sy’n heneb gofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

80Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interimLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas ag adeilad oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 79(5)(b) eu bod wedi penderfynu peidio â rhestru’r adeilad.

(2)Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr adeilad pan gymerodd y warchodaeth interim effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim.

(3)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r adeilad oherwydd y warchodaeth interim.

(4)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r warchodaeth interim i ben.

(5)Pan oedd yr adeilad yn ddarostyngedig yn flaenorol i restru dros dro o dan adran 83 a ddaeth i ben oherwydd i’r warchodaeth interim gymryd effaith—

(a)mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at yr amser pan gymerodd y warchodaeth interim effaith i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at yr amser pan gymerodd y rhestru dros dro effaith;

(b)mae’r cyfeiriad yn yr is-adran honno at golled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim yn cynnwys colled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r rhestru dros dro;

(c)mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at yr angen i stopio neu ganslo gwaith oherwydd y warchodaeth interim yn cynnwys yr angen i wneud hynny oherwydd y rhestru dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I80A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Adolygu penderfyniadau rhestruLL+C

81Adolygu penderfyniad i restru adeiladLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhestru adeilad, rhaid i’r hysbysiad o dan adran 77(1) ddatgan y caiff unrhyw berchennog neu unrhyw feddiannydd ar yr adeilad wneud cais i Weinidogion Cymru yn gofyn am adolygiad o’r penderfyniad.

(2)Ni chaniateir gwneud cais ond ar y sail nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(3)Pan fo perchennog neu feddiannydd yn gwneud cais am adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru benodi person—

(a)i gynnal yr adolygiad, a

(b)i wneud penderfyniad ar yr adolygiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu disgrifiadau o achosion pan fydd rhaid iddynt hwy, yn hytrach na pherson a benodir ganddynt, gynnal adolygiad a gwneud penderfyniad arno.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddiwygiad i’r rhestr a gynhelir o dan adran 76 y maent yn ystyried ei fod yn briodol i roi effaith i benderfyniad ar adolygiad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)—

(a)i ychwanegu sail ar gyfer adolygiad;

(b)i addasu sail ar gyfer adolygiad;

(c)i ddileu sail ar gyfer adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

82Darpariaeth atodol ynghylch adolygiadauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y ffurf a’r ffordd y mae rhaid i gais o dan adran 81 gael ei wneud;

(b)yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu i Weinidogion Cymru, neu y gall fod yn ofynnol ganddynt, mewn cysylltiad â chais;

(c)y cyfnod y mae rhaid i gais gael ei wneud ynddo.

(2)Rhaid i adolygiad o dan adran 81 gael ei gynnal mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn (fel y’i penderfynir gan y person sy’n cynnal yr adolygiad)—

(a)drwy ymchwiliad lleol;

(b)drwy wrandawiad;

(c)ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3)Pan fo adolygiad yn cael ei gynnal gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru, mae gan y person a benodir yr un pwerau a’r un dyletswyddau mewn perthynas â’r adolygiad ag sydd gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 175 (gofynion gweithdrefnol), a

(b)adrannau 180 a 181 (costau Gweinidogion Cymru a chostau partïon).

(4)Pan fo adolygiad yn cael ei gynnal drwy ymchwiliad lleol, mae adran 177 (pŵer i wneud tystiolaeth yn ofynnol) yn gymwys i’r ymchwiliad fel y mae’n gymwys i ymchwiliad a gynhelir o dan Ran 5.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan adran 81.

(6)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch swyddogaethau personau a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau o dan adran 81.

Gwybodaeth Cychwyn

I82A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Rhestru dros droLL+C

83Cyflwyno hysbysiad rhestru dros droLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw awdurdod cynllunio yn ystyried bod adeilad yn ei ardal nad yw’n adeilad rhestredig (ac nad yw’n cael ei drin fel pe bai’n adeilad rhestredig yn rhinwedd adran 79(2))—

(a)o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

(b)mewn perygl o gael ei ddymchwel neu o gael ei newid mewn ffordd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(2)Caiff yr awdurdod gyflwyno hysbysiad rhestru dros dro i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad.

(3)Mae hysbysiad rhestru dros dro yn hysbysiad—

(a)sy’n datgan bod yr awdurdod cynllunio—

(i)yn ystyried bod yr adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

(ii)wedi gofyn i Weinidogion Cymru ystyried ei restru, a

(b)sy’n esbonio effaith is-adran (4), adran 85 ac Atodlen 7.

(4)Cyn gynted ag y bo hysbysiad rhestru dros dro wedi ei gyflwyno i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad y mae’n ymwneud ag ef, mae’r Ddeddf hon (ac eithrio adrannau 118 a 137 i 142) a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) yn cael effaith mewn perthynas â’r adeilad fel pe bai’n adeilad rhestredig.

(5)Cyfeirir yn y Rhan hon at y warchodaeth a roddir yn rhinwedd is-adran (4) fel “rhestru dros dro”.

(6)Nid yw’r adran hon nac adran 84 yn gymwys—

(a)i adeilad sy’n heneb gofrestredig, na

(b)i adeilad crefyddol esempt.

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

84Rhestru dros dro mewn achosion brysLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw awdurdod cynllunio yn ystyried ei bod yn fater o frys y dylai rhestru dros dro gymryd effaith mewn perthynas ag adeilad yn ei ardal.

(2)Caiff yr awdurdod, yn lle cyflwyno hysbysiad rhestru dros dro i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad—

(a)gosod yr hysbysiad yn sownd mewn lle gweladwy ar yr adeilad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol gosod yr hysbysiad yn sownd ar yr adeilad, neu os yw’r awdurdod yn ystyried y gellid difrodi’r adeilad wrth wneud hynny, arddangos yr hysbysiad mewn lle amlwg mor agos i’r adeilad ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3)Mae gosod neu arddangos hysbysiad yn unol ag is-adran (2) i’w drin at ddibenion adran 83(4) fel pe bai’r hysbysiad wedi ei gyflwyno i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad.

(4)Rhaid i’r hysbysiad esbonio, yn rhinwedd ei fod wedi ei osod neu ei arddangos yn unol ag is-adran (2), fod yr hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno at y dibenion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I84A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

85Diwedd rhestru dros droLL+C

(1)Mae rhestru dros dro adeilad yn cael effaith tan ddiwedd y 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cymryd effaith o dan adran 83(4), oni bai ei fod yn dod i ben o dan is-adran (2) neu (3).

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 78(1) o gynnig i restru’r adeilad, daw rhestru dros dro i ben pan fydd gwarchodaeth interim yn cymryd effaith mewn perthynas â’r adeilad (ac mae’r adeilad yn parhau i gael ei drin fel pe bai’n adeilad rhestredig at ddibenion penodol yn rhinwedd adran 79(2)).

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod cynllunio yn ysgrifenedig nad ydynt yn bwriadu ymgynghori o dan adran 78 ar gynnig i restru’r adeilad, daw rhestru dros dro i ben ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad.

(4)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith rhestru dros dro yn dod i ben—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adran (1), neu

(b)oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (3) nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad.

(5)Os daw rhestru dros dro i ben mewn perthynas ag adeilad oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod cynllunio nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad—

(a)rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw ar unwaith i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad;

(b)ni chaiff yr awdurdod gyflwyno hysbysiad rhestru dros dro arall mewn cysylltiad â’r adeilad yn ystod y 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi’r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

86Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan restru dros droLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo rhestru dros dro yn dod i ben mewn perthynas ag adeilad—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn adran 85(1), neu

(b)oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan adran 85(3) nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad.

(2)Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr adeilad pan gymerodd y rhestru dros dro effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r rhestru dros dro.

(3)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r adeilad oherwydd y rhestru dros dro.

(4)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r rhestru dros dro i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I86A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Adeiladau na fwriedir iddynt gael eu rhestruLL+C

87Tystysgrif nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhestru adeiladLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais unrhyw berson, ddyroddi tystysgrif sy’n datgan nad ydynt yn bwriadu rhestru adeilad.

(2)Yn ystod y 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir y dystysgrif—

(a)ni chaiff Gweinidogion Cymru restru’r adeilad na chyflwyno hysbysiad o dan adran 78(1) o gynnig i restru’r adeilad;

(b)ni chaiff awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal gyflwyno hysbysiad rhestru dros dro mewn perthynas â’r adeilad.

(3)Rhaid i geisydd am dystysgrif roi hysbysiad o’r cais i bob awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal ar yr un pryd ag y mae’n cyflwyno’r cais i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 2LL+CRHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Valid from 04/11/2024

Awdurdodi gwaithLL+C

88Gofyniad i waith gael ei awdurdodiLL+C

(1)Ni chaiff person gyflawni gwaith y mae’r adran hon yn gymwys iddo, neu beri i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan adran 89.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)i waith ar gyfer addasu neu estyn adeilad rhestredig mewn unrhyw ffordd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;

(b)i waith ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig.

(3)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)i waith mewn perthynas ag adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 11);

(b)i waith mewn perthynas ag adeilad crefyddol esempt;

(c)i waith ar gyfer dymchwel adeilad sydd ar gau ar gyfer addoli rheolaidd gan y cyhoedd, neu ran o adeilad o’r fath, yn unol â darpariaeth a wneir o dan Ran 6 o Fesur Cenhadaeth a Bugeiliol 2011 (Rhif 3) gan gynllun bugeiliol adeiladau eglwysi neu gynllun bugeiliol (gwaredu adeiladau eglwysi);

(d)i waith a gyflawnir gan neu ar ran y Goron o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 117(4) (gwaith brys).

Gwybodaeth Cychwyn

I88A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

89Awdurdodi gwaith drwy gydsyniad adeilad rhestredigLL+C

(1)Mae gwaith y mae adran 88 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu gan Weinidogion Cymru, a

(b)os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)Pan—

(a)bo gwaith y mae adran 88 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb gael ei awdurdodi o dan is-adran (1), a

(b)bo’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad hwnnw.

(3)Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Ddeddf hon fel cydsyniad adeilad rhestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredigLL+C

90Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredigLL+C

(1)Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, oni bai ei fod yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol—

(a)â rheoliadau a wneir o dan adran 105 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio neu’r Goron),

(b)ag adran 106 (ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron),

(c)ag adran 305 neu 306 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (ceisiadau gan awdurdodau tai lleol am gydsyniad i ddymchwel adeiladau mewn cysylltiad â chaffael tir ar gyfer ei glirio), neu

(d)ag unrhyw ddeddfiad arall.

(2)Rhaid i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gynnwys—

(a)digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef, gan gynnwys plan,

(b)unrhyw blaniau eraill ac unrhyw luniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys cais (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)sut y mae rhaid gwneud cais.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gynnwys gyda’r cais ddatganiad ynghylch—

(a)sut y bydd y gwaith yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

(b)y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt (fel y’i pennir yn y rheoliadau)—

(i)yr egwyddorion dylunio sydd wedi eu cymhwyso i’r gwaith;

(ii)sut yr ymdriniwyd â materion sy’n ymwneud â mynediad i’r adeilad.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys datganiad sy’n ofynnol o dan is-adran (4);

(b)dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.

(6)Ni chaiff awdurdod cynllunio ystyried cais a wneir iddo am gydsyniad adeilad rhestredig os yw’r cais yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr adran hon neu odani.

Gwybodaeth Cychwyn

I90A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

91Hysbysiad o gais i berchnogion adeiladLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i geisydd am gydsyniad adeilad rhestredig—

(a)rhoi hysbysiad o’r cais i bob person (ac eithrio’r ceisydd) sydd ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau yn berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a

(b)cynnwys gyda’r cais dystysgrif a ddyroddir gan y ceisydd sy’n datgan y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion yn y rheoliadau.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys hysbysiad neu dystysgrif (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)sut y mae rhaid rhoi hysbysiad (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol ei gyhoeddi).

(3)Ni chaniateir i gais am gydsyniad adeilad rhestredig gael ei ystyried os na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (1) neu (2).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, pan fo hysbysiad wedi ei roi o gais yn unol â gofynion a osodir o dan yr is-adrannau hynny—

(a)na chaniateir penderfynu’r cais yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau;

(b)bod rhaid i’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth benderfynu’r cais, ystyried sylwadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson sy’n berchennog ar unrhyw ran o’r adeilad rhestredig.

(5)Mae’n drosedd i berson, wrth ymhonni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan is-adran (1) neu (2)—

(a)dyroddi tystysgrif sy’n cynnwys datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu

(b)yn ddi-hid ddyroddi tystysgrif sy’n cynnwys datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(7)Yn yr adran hon ystyr “perchennog” yw—

(a)perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu

(b)tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Ymdrin â cheisiadau am gydsyniadLL+C

92Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chaisLL+C

(1)Rhaid i awdurdod cynllunio ymdrin â chais am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i’r awdurdod oni bai—

(a)ei bod yn ofynnol iddo beidio ag ystyried y cais o dan adran 90(6) neu 91(3), neu ei fod yn gwrthod gwneud hynny o dan adran 93 (ceisiadau tebyg), neu

(b)ei bod yn ofynnol iddo atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gosod gofynion sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a wneir i awdurdodau cynllunio neu Weinidogion Cymru;

(b)gosod gofynion ar gyfer ymgynghori neu hysbysu mewn perthynas â cheisiadau;

(c)darparu na chaniateir penderfynu cais yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau;

(d)ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio neu Weinidogion Cymru, wrth benderfynu ceisiadau, ystyried ymatebion gan bersonau yr ymgynghorir â hwy neu a hysbysir;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch o fewn pa gyfnod o amser y mae rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru ymdrin â chais.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio i hysbysu personau a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)am gais a wneir i’r awdurdod am gydsyniad adeilad rhestredig, a

(b)am y penderfyniad a wneir gan yr awdurdod ar y cais.

(4)Caiff cyfarwyddyd ymwneud—

(a)ag achos penodol, neu

(b)ag achosion sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I92A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

93Pŵer i wrthod ystyried ceisiadau tebygLL+C

(1)Caiff awdurdod cynllunio wrthod ystyried cais am gydsyniad adeilad rhestredig os yw’r amod cyntaf a’r ail amod wedi eu bodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod unrhyw un neu ragor o’r canlynol wedi digwydd yn ystod y 2 flynedd sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn cael y cais—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi gwrthod cais tebyg am gydsyniad adeilad rhestredig a gyfeiriwyd atynt o dan adran 94,

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwrthod—

(i)apêl o dan adran 100(2) yn erbyn gwrthod cais tebyg am gydsyniad adeilad rhestredig, neu

(ii)apêl o dan adran 100(3) sy’n ymwneud â chais tebyg, neu

(c)bod yr awdurdod cynllunio wedi gwrthod dau neu ragor o geisiadau tebyg am gydsyniad adeilad rhestredig ac ym mhob achos—

(i)ni fu apêl i Weinidogion Cymru, neu

(ii)mae unrhyw apêl i Weinidogion Cymru wedi ei thynnu’n ôl.

(3)Yr ail amod yw bod yr awdurdod cynllunio yn ystyried na fu unrhyw newid sylweddol mewn unrhyw ystyriaethau perthnasol ers—

(a)i Weinidogion Cymru wrthod y cais tebyg, mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2)(a),

(b)i Weinidogion Cymru wrthod yr apêl, mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2)(b), neu

(c)i’r awdurdod cynllunio wrthod cais tebyg yn fwyaf diweddar, mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2)(c).

(4)At ddibenion yr adran hon mae cais yn debyg i gais arall os (a dim ond os) yw’r awdurdod cynllunio yn ystyried bod yr adeilad rhestredig a’r gwaith y mae’r ceisiadau yn ymwneud â hwy yr un fath neu’r un fath i raddau helaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

94Atgyfeirio cais at Weinidogion CymruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio i atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig atynt i’w benderfynu yn lle ymdrin â’r cais ei hun.

(2)Caiff cyfarwyddyd ymwneud â chais penodol, neu â cheisiadau mewn perthynas ag adeiladau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Rhaid i awdurdod cynllunio atgyfeirio cais y mae cyfarwyddyd o dan yr adran hon yn gymwys iddo at Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i awdurdod cynllunio atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, heb gael cyfarwyddyd i wneud hynny, os ceisir y cydsyniad o ganlyniad i gynigion a gynhwysir mewn cais am orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42) (gorchmynion sy’n ymwneud ag adeiladu neu weithredu rheilffyrdd, tramffyrdd, dyfrffyrdd mewndirol etc.).

(5)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried ceisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(6)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais yn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I94A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

95Hysbysu Gweinidogion Cymru cyn rhoi cydsyniadLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod cynllunio y gwneir cais am gydsyniad adeilad rhestredig iddo roi cydsyniad oni bai—

(a)ei fod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais, gan roi manylion y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer, a

(b)bod yr amod cyntaf neu’r ail amod wedi ei fodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod yr 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru wedi dod i ben heb i Weinidogion Cymru naill ai—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod i atgyfeirio’r cais atynt o dan adran 94, neu

(b)hysbysu’r awdurdod bod angen rhagor o amser arnynt i ystyried pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan yr adran honno.

(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi hysbysu’r awdurdod nad ydynt yn bwriadu ei gyfarwyddo i atgyfeirio’r cais atynt.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw is-adran (1) yn gymwys i geisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio—

(a)nad yw is-adran (1) i fod yn gymwys i gais i’r awdurdod am gydsyniad adeilad rhestredig, neu

(b)bod is-adran (1) i fod yn gymwys i gais i’r awdurdod er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (4) neu gan gyfarwyddyd o dan baragraff (a).

(6)Caiff cyfarwyddyd ymwneud—

(a)â chais penodol am gydsyniad adeilad rhestredig, neu

(b)â cheisiadau sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd,

ac mae’n cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gais nad yw’r awdurdod wedi ei benderfynu.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru bennu disgrifiad o geisiadau o dan is-adran (4) neu (6)(b) drwy gyfeirio at farn unrhyw berson, argaeledd cyngor arbenigol mewn perthynas â’r ceisiadau, neu unrhyw amgylchiad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I95A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

96Rhoi neu wrthod cydsyniadLL+C

(1)Wrth benderfynu cais am gydsyniad adeilad rhestredig, caiff awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi neu wrthod cydsyniad.

(2)Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad adeilad rhestredig, rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu—

(a)yr adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef,

(b)safle’r adeilad, ac

(c)unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd gan yr adeilad.

(3)Mae cydsyniad adeilad rhestredig yn cael effaith er budd yr adeilad rhestredig a’r tir y mae arno, a phob person sydd â buddiant yn yr adeilad a’r tir am y tro; ond mae hyn yn ddarostyngedig i delerau’r cydsyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I96A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodauLL+C

97Pŵer i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodauLL+C

(1)Caniateir rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Caniateir i amod, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol—

(a)i nodweddion penodol yr adeilad rhestredig gael eu diogelu, naill ai fel rhan ohono neu ar ôl cael eu datgysylltu ohono;

(b)i unrhyw ddifrod a achosir i’r adeilad gan y gwaith gael ei unioni ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau;

(c)i’r adeilad neu unrhyw ran ohono gael ei ailadeiladu neu ei hailadeiladu ar ôl cyflawni unrhyw waith, gan ddefnyddio deunyddiau gwreiddiol i’r graddau y bo’n ymarferol a chan wneud unrhyw addasiadau, a bennir yn yr amodau, i’r tu mewn i’r adeilad.

(3)Caniateir rhoi cydsyniad hefyd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i fanylion penodedig y gwaith (pa un a ydynt wedi eu nodi mewn cais am gydsyniad ai peidio) gael eu cymeradwyo’n ddiweddarach.

(4)Rhaid i amod a osodir o dan is-adran (3)—

(a)yn achos cydsyniad a roddir gan awdurdod cynllunio, ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth yr awdurdod hwnnw;

(b)yn achos cydsyniad a roddir gan Weinidogion Cymru, bennu pa un ai cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio neu gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru sy’n ofynnol.

(5)Rhaid i gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i amod na chaniateir i’r gwaith ddechrau—

(a)hyd nes bod hysbysiad o’r cynnig i ddymchwel yr adeilad wedi ei roi i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a

(b)hyd nes, ar ôl rhoi’r hysbysiad hwnnw, fod y Comisiwn Brenhinol—

(i)wedi cael mynediad rhesymol i’r adeilad am o leiaf 1 mis at ddiben ei gofnodi, neu

(ii)wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod wedi cwblhau cofnodi’r adeilad neu nad yw’n dymuno ei gofnodi.

(6)Os rhoddir cydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (5), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod hwnnw.

(7)Caniateir i gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig hefyd gael ei roi yn ddarostyngedig i amod na chaniateir i’r gwaith ddechrau hyd nes—

(a)bod contract ar gyfer gwaith i ailddatblygu’r safle wedi ei wneud, a

(b)bod caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer y gwaith ailddatblygu hwnnw.

(8)Nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal amodau eraill rhag cael eu gosod at ddiben galluogi cofnodi adeilad rhestredig.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi cyfeiriadau at gorff arall yn lle’r cyfeiriadau yn is-adran (5) at Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I97A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

98Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddoLL+C

(1)Rhaid i gydsyniad adeilad rhestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod ac sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y cydsyniad.

(2)Os rhoddir cydsyniad heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (1), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i rhoddwyd.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys

(a)i gydsyniad o dan adran 89(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd wedi ei gyflawni eisoes);

(b)i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig (gweler adran 113).

Gwybodaeth Cychwyn

I98A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

99Cais i amrywio neu ddileu amodauLL+C

(1)Pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, caiff unrhyw berson sydd â buddiant yn yr adeilad rhestredig wneud cais i’r amodau gael eu hamrywio neu eu dileu.

(2)Rhaid i’r cais nodi pa amrywiad neu ddilead o amodau y gwneir cais amdano.

(3)Mae adrannau 90 i 95 (ac eithrio adran 90(4) a (5)(a)) yn gymwys i gais o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i gais am gydsyniad adeilad rhestredig.

(4)Ar gais o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, yn ogystal ag amrywio neu ddileu amodau’r cydsyniad, osod amodau newydd sy’n ganlyniadol ar yr amrywiad neu’r dilead.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I99A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Apelau i Weinidogion CymruLL+C

100Yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio neu fethiant awdurdod cynllunio i wneud penderfyniadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cais wedi ei wneud i awdurdod cynllunio—

(a)am gydsyniad adeilad rhestredig,

(b)i amodau cydsyniad adeilad rhestredig gael eu hamrywio neu eu dileu, neu

(c)i fanylion gwaith o dan amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig gael eu cymeradwyo.

(2)Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru os yw’r awdurdod cynllunio—

(a)yn gwrthod y cais, neu

(b)yn caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau neu, yn achos cais i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, yn ei ganiatáu ac yn gosod amodau newydd.

(3)Caiff y ceisydd hefyd apelio i Weinidogion Cymru os nad yw’r awdurdod cynllunio wedi gwneud dim un o’r canlynol o fewn y cyfnod penderfynu—

(a)rhoi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad ar y cais, neu

(b)yn achos cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, rhoi hysbysiad i’r ceisydd ei fod—

(i)wedi arfer ei bŵer o dan adran 93 i wrthod ystyried y cais, neu

(ii)wedi atgyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru o dan adran 94.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “y cyfnod penderfynu” yw—

(a)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)cyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod cynllunio.

Gwybodaeth Cychwyn

I100A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

101Y weithdrefn ar gyfer gwneud apêlLL+C

(1)Rhaid gwneud apêl o dan adran 100 drwy gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y seiliau dros apelio a ddatgenir yn yr hysbysiad gynnwys (ar eu pen eu hunain neu gyda seiliau eraill)—

(a)honiad nad yw’r adeilad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac y dylai gael ei ddadrestru, neu

(b)yn achos adeilad sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim neu restru dros dro, honiad na ddylai’r adeilad gael ei restru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf hysbysiad o apêl (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru neu berson arall);

(b)gwybodaeth y mae rhaid iddi gael ei chynnwys gyda hysbysiad o apêl;

(c)y ffordd a’r cyfnod y mae rhaid cyflwyno hysbysiad o apêl ynddi neu o’i fewn (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i estyn y cyfnod).

(4)Mae adran 91 (hysbysiad i berchnogion adeilad) yn gymwys mewn perthynas ag apelau o dan adran 100 sy’n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig neu i amodau gael eu hamrywio neu eu dileu, ond fel pe bai cyfeiriadau at gais a cheisydd yn gyfeiriadau at apêl ac apelydd.

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir gan reoliadau o dan is-adran (3)(c) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth—

(a)yn achos apêl o dan is-adran (2) o adran 100, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cael hysbysiad o’r penderfyniad;

(b)yn achos apêl o dan is-adran (3) o’r adran honno, ddiwedd y cyfnod penderfynu (sydd â’r un ystyr ag yn yr is-adran honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I101A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

102Cyfyngiad ar amrywio cais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêlLL+C

(1)Unwaith y bydd hysbysiad o apêl o dan adran 100 wedi ei gyflwyno, ni chaniateir amrywio’r cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ac eithrio o dan amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Pan fo cais yn cael ei amrywio o dan yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid ymgynghori ymhellach mewn perthynas â’r cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I102A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

103Penderfyniad ar gais ar ôl cyflwyno hysbysiad o apêlLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig yn apelio o dan adran 100(3) (methiant i roi hysbysiad o benderfyniad).

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o apêl.

(3)Caiff yr awdurdod cynllunio roi hysbysiad o’i benderfyniad ar y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4)Os yw’r awdurdod yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adran (3) mai gwrthod y cais yw ei benderfyniad—

(a)rhaid trin yr apêl fel apêl o dan adran 100(2) yn erbyn y gwrthodiad, a

(b)rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r apelydd i ddiwygio’r seiliau dros apelio.

(5)Os yw’r awdurdod yn rhoi hysbysiad yn unol ag is-adran (3) mai caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau yw ei benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r apelydd—

(a)i fwrw ymlaen â’r apêl fel apêl o dan adran 100(2) yn erbyn caniatáu‘r cais yn ddarostyngedig i amodau, a

(b)i ddiwygio’r seiliau dros apelio.

Gwybodaeth Cychwyn

I103A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

104Penderfynu apêlLL+C

(1)Ar apêl o dan adran 100 caiff Gweinidogion Cymru—

(a)caniatáu neu wrthod yr apêl, neu

(b)gwrthdroi neu amrywio unrhyw ran o benderfyniad yr awdurdod cynllunio ar y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef (pa un a yw’r apêl yn ymwneud â’r rhan honno ai peidio),

a chânt ymdrin â’r cais fel pe bai wedi ei wneud iddynt hwy.

(2)Pan wnaed yr apêl o dan adran 100(3) (methiant i roi hysbysiad o benderfyniad) ac nad yw’r awdurdod cynllunio wedi rhoi hysbysiad o dan adran 103(3), mae i’w thybio at ddibenion is-adran (1) i’r awdurdod benderfynu gwrthod y cais.

(3)Ar apêl o dan adran 100 caiff Gweinidogion Cymru hefyd arfer eu pŵer o dan adran 76 i ddadrestru’r adeilad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.

(4)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried apelau (gan gynnwys darpariaeth iddynt gael eu penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru).

(5)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar apêl yn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I104A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Achosion arbennigLL+C

105Ceisiadau gan awdurdodau cynllunio a’r GoronLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon i fod yn gymwys, neu ei bod i fod yn gymwys gydag addasiadau, i gais a grybwyllir yn is-adran (2) a wneir—

(a)gan awdurdod cynllunio, neu

(b)gan neu ar ran y Goron.

(2)Mae’r ceisiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn geisiadau—

(a)am gydsyniad adeilad rhestredig,

(b)i amodau cydsyniad adeilad rhestredig gael eu hamrywio neu eu dileu, neu

(c)i fanylion gwaith o dan amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig gael eu cymeradwyo.

(3)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i gais gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I105A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

106Ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y GoronLL+C

(1)Caiff awdurdod priodol y Goron wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig i Weinidogion Cymru (yn lle gwneud cais i awdurdod cynllunio)—

(a)os yw’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef ar dir y Goron, a

(b)os yw awdurdod priodol y Goron yn ardystio—

(i)bod y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer o bwysigrwydd cenedlaethol, a

(ii)ei bod yn angenrheidiol i’r gwaith gael ei gyflawni fel mater o frys.

(2)Cyn gwneud y cais, rhaid i awdurdod priodol y Goron gyhoeddi hysbysiad mewn un neu ragor o bapurau newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol yr adeilad rhestredig—

(a)sy’n disgrifio’r gwaith arfaethedig, a

(b)sy’n datgan ei fod yn cynnig gwneud y cais i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(3)Pan fo awdurdod priodol y Goron yn gwneud cais o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo roi i Weinidogion Cymru ddatganiad o’i seiliau dros wneud y cais;

(b)caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol iddo roi iddynt unrhyw wybodaeth bellach y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’w galluogi i benderfynu’r cais.

(4)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael dogfen neu ddeunydd arall yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o’r ddogfen neu’r deunydd arall ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn ardal leol y gwaith arfaethedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau, gyhoeddi hysbysiad o’r cais ac o’r ffaith bod dogfennau a deunydd arall ar gael i edrych arnynt.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch y cais—

(a)yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, a

(b)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau.

(7)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(8)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i’r graddau y mae dogfen neu ddeunydd arall yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 178 (cyfyngu mynediad at dystiolaeth ar sail diogelwch gwladol).

(9)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais yn derfynol.

(10)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at reoliadau yn gyfeiriadau at reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I106A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Addasu a dirymu cydsyniad adeilad rhestredigLL+C

107Addasu a dirymu cydsyniadLL+C

(1)Pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi ar gais neu apêl o dan y Rhan hon, caiff yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal neu Weinidogion Cymru drwy orchymyn addasu neu ddirymu’r cydsyniad i unrhyw raddau.

(2)Caniateir i orchymyn sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw waith gael ei wneud ar unrhyw adeg cyn cwblhau’r gwaith, ond nid yw’n effeithio ar gydsyniad ar gyfer gwaith sydd wedi ei gyflawni cyn i’r gorchymyn gymryd effaith.

(3)Yn Atodlen 8—

(a)mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau y mae rhaid eu dilyn cyn i orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan yr adran hon gymryd effaith (naill ai gyda chadarnhad gan Weinidogion Cymru neu hebddo);

(b)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn cyn i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I107A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

108Digollediad pan fo cydsyniad yn cael ei addasu neu ei ddirymuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei addasu neu ei ddirymu gan orchymyn o dan adran 107—

(a)sydd wedi ei wneud gan awdurdod cynllunio ac wedi ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru, neu

(b)sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant yn yr adeilad rhestredig y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod—

(a)am unrhyw wariant yr eir iddo gan y person wrth gyflawni gwaith y mae addasu neu ddirymu’r cydsyniad yn peri ei fod yn waith ofer;

(b)am unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r addasu neu’r dirymu.

(3)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—

(a)â gwaith a gyflawnir cyn rhoi’r cydsyniad adeilad rhestredig sydd wedi ei addasu neu ei ddirymu, neu

(b)â cholled neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cydsyniad gael ei roi.

(5)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae addasu neu ddirymu’r cydsyniad yn cymryd effaith.

(6)Yn is-adran (2) ystyr “yr awdurdod cynllunio” yw—

(a)yr awdurdod cynllunio a wnaeth y gorchymyn o dan adran 107, neu

(b)os gwnaed y gorchymyn gan Weinidogion Cymru, yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I108A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Hawl perchennog adeilad rhestredig i’w gwneud yn ofynnol prynu buddiantLL+C

109Hysbysiad prynu pan fo cydsyniad wedi ei wrthod, wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, wedi ei addasu neu wedi ei ddirymuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, fo cydsyniad yn cael ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau, neu

(b)bo gorchymyn o dan adran 107 yn addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig.

(2)Os yw perchennog ar yr adeilad rhestredig y mae’r cais neu’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn honni—

(a)bod y set gyntaf o amodau wedi ei bodloni mewn perthynas â’r adeilad, a

(b)bod y set gyntaf a’r ail set o amodau wedi eu bodloni mewn perthynas ag unrhyw dir cysylltiedig,

caiff y perchennog gyflwyno hysbysiad prynu i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal.

(3)Mae hysbysiad prynu yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio brynu buddiant y perchennog yn yr adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig.

(4)Y set gyntaf o amodau yw—

(a))bod yr adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig y cyflwynir yr hysbysiad mewn cysylltiad â hwy yn annefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol,

(b)mewn achos pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi‍ yn ddarostyngedig i amodau neu wedi ei addasu drwy osod amodau, nad yw’n bosibl gwneud yr adeilad na’r tir yn ddefnyddiadwy drwy gyflawni’r gwaith y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef yn unol â’r amodau, ac

(c)pa un bynnag, nad yw’n bosibl gwneud yr adeilad na’r tir‍ yn ddefnyddiadwy drwy gyflawni unrhyw waith arall y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer neu y mae’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer.

(5)Yr ail set o amodau yw—

(a)na ellir gwahanu’n sylweddol y defnydd o’r tir cysylltiedig oddi wrth y defnydd o’r adeilad rhestredig, a

(b)y dylid trin y tir cysylltiedig, ynghyd â’r adeilad, fel un daliad.

(6)Yn yr adran hon ac yn Atodlen 9—

  • ystyr “defnyddiadwy” (“usable”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu dir cysylltiedig, yw bod modd gwneud defnydd rhesymol fuddiol ohono;

  • ystyr “tir cysylltiedig” (“associated land”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig, yw tir—

    (a)

    sy’n cynnwys yr adeilad, sy’n cydffinio ag ef neu sy’n gyfagos iddo, a

    (b)

    a berchnogir gyda’r adeilad.

(7)Wrth benderfynu a‍ yw adeilad rhestredig a’r tir cysylltiedig yn ddefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol, rhaid anwybyddu defnydd arfaethedig o‘r adeilad neu’r tir pe bai’n golygu—

(a)cyflawni gwaith y mae cydsyniad adeilad rhestredig, nad yw wedi ei roi ac nad yw awdurdod cynllunio na Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i’w roi, yn ofynnol ar ei gyfer, neu

(b)cyflawni datblygiad nad yw caniatâd cynllunio wedi ei roi ar ei gyfer ac nad yw awdurdod cynllunio na Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi caniatâd ar ei gyfer.

(8)Nid yw adeilad rhestredig yn‍ annefnyddiadwy yn ei gyflwr presennol—

(a)os achoswyd cyflwr presennol yr adeilad gan doriad o adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu o amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, a

(b)pe gellid gwneud yr adeilad‍ yn ddefnyddiadwy drwy gymryd camau sy’n ofynnol neu a allai fod yn ofynnol gan hysbysiad gorfodi o dan adran 123.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I109A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

110Hysbysiad prynu mewn cysylltiad â thir y GoronLL+C

(1)Ni chaiff perchennog buddiant preifat yn nhir y Goron gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â’r buddiant hwnnw oni bai—

(a)bod y perchennog wedi cynnig gwaredu’r buddiant i awdurdod priodol y Goron am bris sy’n hafal i’r digollediad (ac os na chytunir arno, mae i’w benderfynu yn yr un ffordd â’r digollediad) a fyddai’n daladwy am y buddiant pe bai’n cael ei gaffael yn unol â hysbysiad prynu, a

(b)bod awdurdod priodol y Goron wedi gwrthod y cynnig.

(2)Dim ond awdurdod priodol y Goron a gaiff gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth mewn tir—

(a)sy’n rhan o Ystad y Goron,

(b)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat,

(c)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu

(d)sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.

(3)Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth mewn unrhyw dir arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I110A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

111Darpariaeth bellach ynghylch cyflwyno hysbysiad prynuLL+C

(1)Rhaid cyflwyno hysbysiad prynu o fewn 12 mis sy’n dechrau—

(a)yn achos hysbysiad sy’n ymwneud â phenderfyniad i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, neu

(b)yn achos hysbysiad sy’n ymwneud â gorchymyn o dan adran 107 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad adeilad rhestredig, â’r diwrnod y mae’r gorchymyn yn cymryd effaith.

(2)Mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod cynllunio i wrthod cydsyniad adeilad rhestredig neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y diwrnod y gwneir y penderfyniad i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno hysbysiad prynu mewn achos penodol, os ydynt wedi eu bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid cyflwyno hysbysiad prynu.

(5)Pan fo hysbysiad atgyweirio wedi ei gyflwyno i berchennog ar adeilad rhestredig o dan adran 138, nid oes gan y perchennog hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad prynu mewn cysylltiad â’r adeilad—

(a)cyn diwedd y 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad atgyweirio, neu

(b)os‍ dechreuir caffael yr adeilad yn orfodol o dan adran 137 yn ystod y cyfnod hwnnw, oni bai bod y caffaeliad gorfodol yn cael ei derfynu.

(6)Ni chaiff perchennog ar adeilad rhestredig sydd wedi cyflwyno hysbysiad prynu ddiwygio’r hysbysiad; ond nid yw hynny yn atal y perchennog rhag cyflwyno hysbysiad prynu pellach sy’n ymwneud â’r un penderfyniad neu’r un gorchymyn.

(7)Os yw perchennog yn cyflwyno hysbysiad prynu pellach sy’n ymwneud â’r un penderfyniad neu’r un gorchymyn, mae’r hysbysiad cynharach i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl oni bai bod yr hysbysiad diweddarach yn datgan nad yw’r perchennog yn bwriadu ei dynnu’n ôl.

(8)At ddibenion is-adran (5)—

(a)mae caffaeliad gorfodol yn cael ei ddechra‍u—

(i)gan awdurdod cynllunio pan fydd yn cyflwyno’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67);

(ii)gan Weinidogion Cymru pan fyddant yn cyflwyno’r hybysiad sy’n ofynnol gan baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno;

(b)mae caffaeliad gorfodol yn cael ei derfynu—

(i)yn achos caffaeliad gan awdurdod cynllunio, pan fydd y gorchymyn prynu gorfodol wedi ei dynnu’n ôl neu pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â’i gadarnhau;

(ii)yn achos caffaeliad gan Weinidogion Cymru, pan fyddant yn penderfynu peidio â gwneud y gorchymyn prynu gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I111A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

112Camau gweithredu yn dilyn cyflwyno hysbysiad prynuLL+C

Mae Atodlen 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan awdurdodau cynllunio a Gweinidogion Cymru yn dilyn cyflwyno hysbysiad prynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I112A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 3LL+CCYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU ADEILADAU RHESTREDIG

Valid from 04/11/2024

113Cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredigLL+C

(1)Caiff awdurdod cynllunio wneud cytundeb o dan yr adran hon ag unrhyw berchennog ar adeilad rhestredig, neu ran o adeilad rhestredig, sydd yn ei ardal.

(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a’r awdurdod)—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)unrhyw feddiannydd ar yr adeilad;

(c)unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr adeilad;

(d)unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r adeilad;

(e)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod cynllunio yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad, neu ddiddordeb arbennig ynddo, neu wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon ag unrhyw berchennog ar adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig.

(4)Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a Gweinidogion Cymru)—

(a)unrhyw awdurdod cynllunio y mae’r adeilad neu’r rhan yn ei ardal;

(b)unrhyw feddiannydd ar yr adeilad;

(c)unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr adeilad;

(d)unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r adeilad;

(e)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad, neu ddiddordeb arbennig ynddo, neu wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.

(5)Cyfeirir at gytundeb o dan yr adran hon fel “cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig” yn y Ddeddf hon.

(6)Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig roi cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 89(1) ar gyfer gwaith penodedig ar gyfer addasu neu estyn yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef.

(7)Pan fo cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig yn rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.

(8)Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig hefyd—

(a)pennu gwaith a fyddai neu na fyddai, ym marn y partïon, yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r adeilad;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r adeilad;

(d)darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r adeilad a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;

(e)cyfyngu ar fynediad i’r adeilad neu ar y defnydd o’r adeilad;

(f)gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r adeilad;

(g)darparu i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—

(i)am gostau unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y costau hynny, neu

(ii)yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.

(9)Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig ymwneud â mwy nag un adeilad rhestredig neu fwy nag un rhan o adeilad rhestredig, ond dim ond os yw’r partïon i’r cytundeb yn cynnwys mewn perthynas â phob adeilad neu bob rhan—

(a)perchennog ar yr adeilad hwnnw neu’r rhan honno, a

(b)yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad hwnnw neu’r rhan honno yn ei ardal neu Weinidogion Cymru.

(10)Yn yr adran hon—

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig;

  • ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig, yw person—

    (a)

    sy’n berchen ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu’r rhan, neu

    (b)

    sy’n denant o dan les ar yr adeilad neu’r rhan a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.

Gwybodaeth Cychwyn

I113A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

114Darpariaeth bellach ynghylch cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredigLL+C

(1)Rhaid i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig fod yn ysgrifenedig.

(2)Rhaid i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig—

(a)cynnwys digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef, gan gynnwys plan;

(b)cynnwys unrhyw blaniau eraill ac unrhyw luniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio unrhyw waith y mae’n ymwneud ag ef;

(c)pennu’r dyddiad y mae’n cymryd effaith a’i hyd;

(d)gwneud darpariaeth i’r partïon adolygu telerau’r cytundeb ar ysbeidiau a bennir ynddo;

(e)gwneud darpariaeth ar gyfer ei amrywio (ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (5));

(f)gwneud darpariaeth ar gyfer ei derfynu (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 115).

(3)Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig gynnwys darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu telerau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)yr ymgynghoriad y mae rhaid ei gynnal cyn i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig gael ei wneud neu ei amrywio;

(b)y cyhoeddusrwydd y mae rhaid ei roi i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig cyn neu ar ôl iddo gael ei wneud neu ei amrywio.

(6)Wrth ystyried pa un ai i wneud cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig sy’n rhoi cydsyniad adeilad rhestredig, neu amrywio cytundeb fel ei fod yn rhoi cydsyniad, rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu—

(a)yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef,

(b)safle’r adeilad, ac

(c)unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd gan yr adeilad.

(7)Ni chaiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig osod unrhyw rwymedigaeth neu unrhyw atebolrwydd ar berson nad yw’n barti i’r cytundeb, na rhoi unrhyw hawl i berson o’r fath; ac nid yw cydsyniad adeilad rhestredig a roddir gan gytundeb o’r fath yn cael effaith ond er budd y partïon iddo.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)datgymhwyso, neu gymhwyso neu atgynhyrchu gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth yn adrannau 90 i 104 (rhoi cydsyniad adeilad rhestredig) neu Bennod 4 (gorfodi) at ddibenion cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig, a

(b)darparu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon fod yn gymwys gydag addasiadau sy’n ganlyniadol ar ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).

Gwybodaeth Cychwyn

I114A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

115Terfynu cytundeb neu ddarpariaeth mewn cytundebLL+C

(1)Caiff awdurdod cynllunio drwy orchymyn derfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig y mae’n barti iddo neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn derfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig (pa un a ydynt yn barti iddo ai peidio) neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(4)Caniateir i orchymyn o dan yr adran hon sy’n terfynu darpariaeth sy’n rhoi cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw waith gael ei wneud ar unrhyw adeg cyn cwblhau’r gwaith, ond nid yw’n effeithio ar gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith sydd wedi ei gyflawni cyn i’r gorchymyn gymryd effaith.

(5)Yn Atodlen 10—

(a)mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn cyn i orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan yr adran hon gymryd effaith;

(b)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn cyn i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 10, a chaiff y rheoliadau wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I115A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

116Digollediad pan fo cytundeb neu ddarpariaeth yn cael ei derfynu neu ei therfynuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig, neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath, yn cael ei derfynu neu ei therfynu gan orchymyn o dan adran 115.

(2)Mae gan unrhyw berson hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod—

(a)am unrhyw wariant yr eir iddo gan y person wrth gyflawni gwaith y mae terfynu’r cytundeb neu’r ddarpariaeth yn peri ei fod yn waith ofer;

(b)am unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r terfynu.

(3)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—

(a)â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig, neu’r ddarpariaeth berthnasol yn y cytundeb, gymryd effaith, neu

(b)â cholled neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cytundeb neu’r ddarpariaeth gymryd effaith.

(5)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae terfynu’r cytundeb neu’r ddarpariaeth yn cymryd effaith.

(6)Yn is-adran (2) ystyr “yr awdurdod cynllunio” yw—

(a)yr awdurdod cynllunio a wnaeth y gorchymyn o dan adran 115, neu

(b)os gwnaed y gorchymyn gan Weinidogion Cymru, yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig, neu’r rhan o adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef neu hi, yn ei ardal.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon, a chaiff y rheoliadau wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I116A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

PENNOD 4LL+CGORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG

Gwaith anawdurdodedig a difrod bwriadol: troseddauLL+C

117Y drosedd o gyflawni gwaith anawdurdodedig neu dorri amod mewn cydsyniadLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cyflawni gwaith, neu’n peri i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn groes i adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(2)Mae person hefyd yn cyflawni trosedd os yw’r person—

(a)yn cyflawni gwaith, neu’n peri i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas ag adeilad rhestredig, a

(b)yn methu â chydymffurfio ag amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo ar gyfer y gwaith.

(3)Nid yw is-adran (2) yn cyfyngu ar yr hyn a all fod yn drosedd o dan is-adran (1).

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)bod gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd neu ar gyfer diogelu’r adeilad,

(b)nad oedd yn ymarferol sicrhau diogelwch neu iechyd neu sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu drwy gyflawni gwaith atgyweirio neu waith i ategu neu gysgodi’r adeilad dros dro,

(c)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, a

(d)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, neu yr oedd yr adeilad yn ei ardal, cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(5)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adeilad y rhoddir gwarchodaeth interim iddo—

(a)mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y warchodaeth interim wedi ei rhoi, a

(b)pan fo’r amddiffyniad yn cael ei godi gan berson y dylai hysbysiad fod wedi cael ei gyflwyno iddo o dan adran 78(1), yr erlyniad sydd i brofi i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r person.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(7)Wrth benderfynu swm unrhyw ddirwy sydd i’w gosod ar berson a euogfarnwyd o drosedd o dan yr adran hon, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I117A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

118Y drosedd o ddifrodi adeilad rhestredig yn fwriadolLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, gyda’r bwriad o achosi difrod i adeilad rhestredig, yn gwneud unrhyw beth neu’n caniatáu i unrhyw beth gael ei wneud—

(a)sy’n achosi difrod i’r adeilad neu sy’n debygol o arwain at ddifrod iddo, a

(b)y byddai gan y person hawlogaeth i’w wneud neu ei ganiatáu oni bai am yr is-adran hon.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys—

(a)i waith y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig ar ei gyfer;

(b)i unrhyw beth a wneir mewn perthynas â heneb gofrestredig (ond gweler adran 58);

(c)i waith mewn perthynas ag adeilad crefyddol esempt;

(d)i unrhyw beth a awdurdodir gan ganiatâd cynllunio a roddwyd neu a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei roi ar gais o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

(e)i unrhyw beth y rhoddwyd cydsyniad datblygu ar ei gyfer o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29).

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Os yw person a euogfarnwyd o drosedd o dan is-adran (1) yn methu â chymryd unrhyw gamau rhesymol sy’n angenrheidiol i atal difrod neu ddifrod pellach sy’n deillio o’r drosedd, mae’r person yn euog o drosedd bellach.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy nag un rhan o ddeg o lefel 3 ar y raddfa safonol ar gyfer pob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I118A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Hysbysiadau stop dros droLL+C

119Pŵer awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad stop dros droLL+C

(1)Caiff awdurdod cynllunio ddyroddi hysbysiad stop dros dro os yw’n ystyried—

(a)bod gwaith wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal sy’n golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, a

(b)y dylai’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith) gael ei stopio ar unwaith, gan roi sylw i’w effaith ar gymeriad yr adeilad fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(2)Rhaid i hysbysiad stop dros dro—

(a)pennu’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef,

(b)gwahardd cyflawni’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad),

(c)nodi rhesymau’r awdurdod dros ddyroddi’r hysbysiad, a

(d)datgan effaith adran 121 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).

(3)Rhaid i’r awdurdod cynllunio arddangos copi o’r hysbysiad stop dros dro ar yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef; a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.

(4)Ond—

(a)os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr adeilad, neu

(b)os yw’r awdurdod yn ystyried y gallai arddangos copi o’r hysbysiad ar yr adeilad ei ddifrodi,

caiff yr awdurdod, yn lle hynny, arddangos copi mewn lle amlwg mor agos i’r adeilad ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Caiff yr awdurdod gyflwyno copi o’r hysbysiad i unrhyw berson y mae’r awdurdod yn ystyried—

(a)ei fod yn cyflawni’r gwaith y mae’r hysbysiad yn ei wahardd neu’n peri neu’n caniatáu iddo gael ei gyflawni,

(b)ei fod yn feddiannydd ar yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu

(c)bod ganddo fuddiant yn yr adeilad.

(6)Ni chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd cyflawni gwaith o ddisgrifiad, neu o dan amgylchiadau, a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I119A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

120Hyd etc. hysbysiad stop dros droLL+C

(1)Mae hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono yn unol ag adran 119 am y tro cyntaf.

(2)Mae hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith—

(a)ar ddiwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod pan arddangosir y copi ohono yn unol ag adran 119 am y tro cyntaf, neu

(b)os yw’n pennu cyfnod byrrach sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Ond os yw’r awdurdod cynllunio yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.

(4)Ni chaiff awdurdod cynllunio ddyroddi ail hysbysiad stop dros dro neu hysbysiad stop dros dro dilynol mewn perthynas â’r un gwaith oni bai ei fod, ers dyroddi’r hysbysiad blaenorol, wedi cymryd camau gorfodi eraill mewn perthynas â’r toriad y cyfeirir ato yn adran 119(1)(a).

(5)Yn is-adran (4) mae’r cyfeiriad at gymryd camau gorfodi eraill yn gyfeiriad at—

(a)dyroddi hysbysiad gorfodi o dan adran 123, neu

(b)cael gwaharddeb o dan adran 135.

Gwybodaeth Cychwyn

I120A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

121Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros droLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, yn cyflawni gwaith sydd wedi ei wahardd gan yr hysbysiad neu’n peri neu’n caniatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu at gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad stop dros dro.

(4)Mewn achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad profi—

(a)bod gwaith i’r adeilad rhestredig yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd neu ar gyfer diogelu’r adeilad,

(b)nad oedd yn ymarferol sicrhau diogelwch neu iechyd neu sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu drwy gyflawni gwaith atgyweirio neu waith i ategu neu gysgodi’r adeilad dros dro,

(c)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, a

(d)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, neu yr oedd yr adeilad yn ei ardal, cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(6)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I121A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

122Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan hysbysiad stop dros droLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)na fo’r gwaith a bennir mewn hysbysiad stop dros dro, ar yr adeg y bydd yr hysbysiad yn cymryd effaith, yn golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, neu

(b)bo awdurdod cynllunio yn tynnu’n ôl hysbysiad stop dros dro ar ôl iddo gymryd effaith.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b) pan—

(a)bo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi ar gyfer y gwaith a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro ar ôl i’r hysbysiad gymryd effaith, a

(b)bo’r awdurdod cynllunio yn tynnu’r hysbysiad yn ôl ar ôl i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(3)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef ar‍ yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.

(4)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir drwy gymryd camau gweithredu sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod y gallai’r hawlydd fod wedi ei hosgoi neu ei osgoi—

(a)drwy ddarparu gwybodaeth yr oedd hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio o dan adran 197 o’r Ddeddf hon neu adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hawlydd ei darparu, neu

(b)drwy gydweithredu â’r awdurdod cynllunio mewn unrhyw ffordd arall wrth ymateb i hysbysiad o’r fath.

(6)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau—

(a)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) ond nid o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith;

(b)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I122A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan awdurdodau cynllunioLL+C

123Pŵer awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Caiff awdurdod cynllunio ddyroddi hysbysiad gorfodi os yw’n ystyried—

(a)bod gwaith sy’n golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal, a

(b)ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar gymeriad yr adeilad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(2)Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)pennu’r toriad honedig, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd at un neu ragor o’r dibenion a nodir yn is-adran (3).

(3)Y dibenion yw—

(a)adfer yr adeilad rhestredig i’w gyflwr cyn i’r toriad ddigwydd,

(b)os yw’r awdurdod cynllunio yn ystyried na fyddai gwaith adfer yn rhesymol ymarferol neu y byddai’n annymunol, cyflawni gwaith pellach i leddfu effaith y toriad, neu

(c)rhoi’r adeilad yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad).

(4)Pan fo hysbysiad gorfodi yn gosod gofyniad o dan is-adran (3)(b), mae cydsyniad adeilad rhestredig i’w drin fel pe bai wedi ei roi ar gyfer unrhyw waith sydd wedi ei gyflawni yn unol â’r gofyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I123A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

124Cyflwyno hysbysiad gorfodi a’r hysbysiad yn cymryd effaithLL+C

(1)Rhaid i hysbysiad gorfodi bennu—

(a)y dyddiad y mae i gymryd effaith, a

(b)o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd y camau a bennir ynddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn cymryd effaith ar ddechrau’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1)(a); ond pan fo apêl yn cael ei gwneud yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 127, mae hyn yn ddarostyngedig i adrannau 127(4)(a) a 184(5).

(3)Caiff hysbysiad gorfodi bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer cymryd camau gwahanol.

(4)Pan fo awdurdod cynllunio yn dyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid iddo gyflwyno copi o’r hysbysiad—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a

(b)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr adeilad y mae’r awdurdod yn ystyried bod yr hysbysiad yn effeithio’n sylweddol arno.

(5)Rhaid‍ cyflwyno pob copi o’r hysbysiad—

(a)cyn diwedd 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(b)o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I124A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

125Amrywio hysbysiad gorfodi a thynnu hysbysiad gorfodi yn ôlLL+C

(1)Pan fo awdurdod cynllunio wedi dyroddi hysbysiad gorfodi, caiff—

(a)tynnu’r hysbysiad yn ôl;

(b)hepgor neu lacio unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, ac yn benodol estyn y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo.

(2)Caiff yr awdurdod arfer y pwerau yn is-adran (1) pa un a yw’r hysbysiad wedi cymryd effaith ai peidio.

(3)Nid yw tynnu hysbysiad gorfodi yn ôl yn atal yr awdurdod cynllunio rhag dyroddi hysbysiad gorfodi arall.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan oedd yr awdurdod cynllunio wedi cyflwyno copïau o’r hysbysiad gorfodi o dan adran 124(4) cyn arfer y pwerau yn is-adran (1).

(5)Yn union ar ôl arfer unrhyw un o’r pwerau hynny, rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad ei fod wedi gwneud hynny i bob person y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddo (neu y byddai copi o’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo pe bai’n cael ei ailddyroddi).

Gwybodaeth Cychwyn

I125A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

126Effaith rhoi cydsyniad adeilad rhestredig ar hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os rhoddir, ar ôl i hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi, gydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 89(2)—

(a)sy’n awdurdodi unrhyw waith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef sydd wedi ei gyflawni yn groes i adran 88, neu

(b)sy’n awdurdodi gwaith sy’n golygu torri amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith (neu nid yw’n cymryd effaith) i’r graddau y mae’n—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd sy’n anghyson â’r awdurdodiad i’r gwaith, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r amod.

(3)Nid yw’r ffaith bod hysbysiad gorfodi wedi peidio â chael effaith yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn rhinwedd yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson am drosedd mewn cysylltiad â methiant blaenorol i gydymffurfio â’r hysbysiad (gweler adran 133).

Gwybodaeth Cychwyn

I126A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Apelau ac achosion eraill sy’n ymwneud â hysbysiadau gorfodiLL+C

127Yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Caiff y personau a ganlyn apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiad gorfodi (pa un a oes copi o’r hysbysiad wedi ei gyflwyno iddynt ai peidio)—

(a)unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)unrhyw berson sydd, yn rhinwedd trwydded—

(i)yn meddiannu’r adeilad ar y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(ii)yn parhau i’w feddiannu pan wneir yr apêl.

(2)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;

(b)nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri adran 88 neu amod yn y cydsyniad adeilad rhestredig wedi digwydd;

(c)nad yw’r materion hynny (os digwyddasant) yn doriad o’r fath;

(d)bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(i)bod y gwaith i’r adeilad yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd neu ar gyfer diogelu’r adeilad,

(ii)nad oedd yn ymarferol sicrhau diogelwch neu iechyd neu sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu drwy gyflawni gwaith atgyweirio neu waith i ategu neu gysgodi’r adeilad dros dro, a

(iii)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith;

(e)y dylai cydsyniad adeilad rhestredig gael ei roi ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu y dylai unrhyw amod perthnasol yn y cydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd ar gyfer y gwaith gael ei ddileu neu gael ei ddisodli gan amodau gwahanol;

(f)na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad i berson fel sy’n ofynnol gan adran 124;

(g)na fyddai camau y mae’r hysbysiad yn eu gwneud yn ofynnol o dan adran 123(3)(a) yn ateb y diben o adfer cymeriad yr adeilad;

(h)bod camau y mae’r hysbysiad yn eu gwneud yn ofynnol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn adran 123(3) yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol at y diben o dan sylw;

(i)bod y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo yn afresymol o fyr.

(3)Rhaid i apêl gael ei gwneud drwy—

(a)cyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gorfodi fel y dyddiad y mae i gymryd effaith,

(b)anfon hysbysiad o apêl at Weinidogion Cymru mewn llythyr wedi ei gyfeirio’n briodol a’i ragdalu a’i bostio atynt ar adeg pan fyddai, yng nghwrs arferol y post, yn cael ei ddanfon atynt cyn y dyddiad hwnnw, neu

(c)anfon hysbysiad o apêl at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig ar adeg pan fyddai, yng nghwrs arferol trosglwyddo, yn cael ei ddanfon atynt cyn y dyddiad hwnnw.

(4)Pan fo apêl wedi ei gwneud—

(a)nid yw’r hysbysiad gorfodi yn cael effaith hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 184(5);

(b)nid oes gan yr apelydd nac unrhyw berson arall hawlogaeth, mewn unrhyw achos arall a ddechreuodd ar ôl i’r apêl gael ei gwneud, i honni na chyflwynwyd yr hysbysiad gorfodi i’r apelydd yn unol ag adran 124.

(5)Rhaid i apelydd gyflwyno datganiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ofynnol gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(6)Rhaid i’r apelydd gyflwyno’r datganiad naill ai—

(a)gyda’r hysbysiad o apêl, neu

(b)o fewn y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(7)Pan fo apêl yn cael ei gwneud ar fwy nag un sail, os yw’r apelydd yn methu â rhoi gwybodaeth sy’n ofynnol o dan is-adran (5) mewn perthynas â sail o fewn y cyfnod a bennir o dan is-adran (6)(b), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r apêl heb ystyried y sail honno.

(8)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried apelau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth iddynt gael eu penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru).

Gwybodaeth Cychwyn

I127A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

128Penderfynu apêlLL+C

(1)Ar apêl o dan adran 127, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cywiro unrhyw ddiffyg, unrhyw wall neu unrhyw gamddisgrifiad yn yr hysbysiad gorfodi y mae’r apêl yn ymwneud ag ef, neu

(b)amrywio telerau’r hysbysiad,

os ydynt wedi eu bodloni na fydd y cywiriad neu’r amrywiad yn achosi anghyfiawnder i’r apelydd na’r awdurdod cynllunio.

(2)Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu apêl—

(a)os ydynt yn caniatáu’r apêl, cânt ddiddymu’r hysbysiad gorfodi;

(b)rhaid iddynt roi unrhyw gyfarwyddydau sy’n angenrheidiol i roi effaith i’w penderfyniad.

(3)Wrth benderfynu apêl caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw ran o’r gwaith y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef;

(b)dileu unrhyw amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo a rhoi unrhyw amod arall yn ei le, pa un a yw’n fwy neu’n llai beichus;

(c)arfer eu pŵer o dan adran 76 i ddadrestru’r adeilad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.

(4)Pan fyddai fel arall yn sail dros benderfynu caniatáu apêl na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi i berson yr oedd yn ofynnol cyflwyno copi iddo, caiff Gweinidogion Cymru anwybyddu’r ffaith honno os nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar yr apelydd na’r person hwnnw.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)gwrthod apêl os yw’r apelydd yn methu â chydymffurfio ag adran 127(6);

(b)caniatáu apêl a diddymu’r hysbysiad gorfodi os yw’r awdurdod cynllunio yn methu, o fewn y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 175, â chydymffurfio â gofyniad yn y rheoliadau—

(i)i gyflwyno datganiad o’r sylwadau y mae’r awdurdod yn cynnig eu gwneud ar apêl sy’n cynnwys y materion a bennir yn y rheoliadau, neu

(ii)i anfon at Weinidogion Cymru gopi o’r hysbysiad gorfodi a rhestr o’r personau y cyflwynwyd copïau iddynt.

(6)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar yr apêl (gan gynnwys unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud ag arfer y pwerau a roddir gan is-adran (3)) yn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I128A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

129Y seiliau dros apelio i beidio â chael eu codi mewn achosion eraillLL+C

Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd hysbysiad gorfodi, ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau y caniateir gwneud apêl arnynt o dan adran 127, mewn unrhyw achos ac eithrio apêl o dan yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I129A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cydymffurfio â hysbysiadau gorfodiLL+C

130Gorchymyn i ganiatáu camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Caiff perchennog tir wneud cais drwy gŵyn i lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson arall a chanddo fuddiant yn y tir ganiatáu i’r perchennog gymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi.

(2)Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath os yw wedi ei fodloni bod y person arall yn atal y perchennog rhag cymryd camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad gorfodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I130A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

131Pŵer i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Os yw’r cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo wedi dod i ben ac nad yw’r cam wedi ei gymryd, caiff yr awdurdod cynllunio a ddyroddodd yr hysbysiad, ar unrhyw adeg resymol, fynd ar y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a chymryd y cam.

(2)Mae person sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer o dan is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I131A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

132Adennill costau cydymffurfio â hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Pan fo awdurdod cynllunio yn arfer y pwerau o dan adran 131(1) i fynd ar dir a chymryd cam sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, caiff yr awdurdod adennill oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog ar y tir y costau y mae’n mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny.

(2)Os yw awdurdod cynllunio yn ceisio adennill costau o dan is-adran (1) oddi wrth berchennog ar dir—

(a)y mae ganddo hawlogaeth i gael crogrent y tir dim ond fel asiant neu ymddiriedolwr ar gyfer person arall (y “penadur”), a

(b)nad oes ganddo, ac nad oedd ganddo ar unrhyw adeg ers y diwrnod pan fynnwyd bod y costau yn cael eu talu, ddigon o arian ar ran y penadur i dalu’r costau yn llawn,

mae atebolrwydd yr asiant neu’r ymddiriedolwr wedi ei gyfyngu i gyfanswm yr arian y mae’r asiant neu’r ymddiriedolwr wedi ei gael ar ran y penadur ers y diwrnod hwnnw.

(3)Os yw is-adran (2) yn atal awdurdod cynllunio rhag adennill y cyfan o’i gostau oddi wrth asiant neu ymddiriedolwr, caiff eu hadennill oddi wrth y penadur, neu’n rhannol oddi wrth y penadur ac yn rhannol oddi wrth yr asiant neu’r ymddiriedolwr.

(4)Pan fo copi o hysbysiad gorfodi wedi cael ei gyflwyno mewn cysylltiad ag adeilad rhestredig, mae—

(a)costau y mae perchennog neu feddiannydd ar yr adeilad yn mynd iddynt at ddiben cydymffurfio â’r hysbysiad, a

(b)symiau y mae perchennog ar dir yn eu talu o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â chostau y mae’r awdurdod cynllunio yn mynd iddynt wrth gymryd camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad,

i’w trin fel pe aed iddynt neu pe baent wedi eu talu at ddefnydd ac ar gais y person a gyflawnodd y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(5)Mae’r costau y gellir eu hadennill gan awdurdod cynllunio o dan is-adran (1), hyd nes iddynt gael eu hadennill, yn bridiant ar y tir y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef.

(6)Mae’r pridiant yn cymryd effaith fel pridiant tir lleol ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r awdurdod yn cwblhau’r cam y mae’r costau’n ymwneud ag ef.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys pan—

(a)bo awdurdod cynllunio yn symud ymaith ddeunyddiau o dir yng nghwrs cymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, a

(b)na fo perchennog y deunyddiau, o fewn 3 diwrnod ar ôl y diwrnod y cânt eu symud ymaith, yn hawlio’r deunyddiau ac yn mynd â hwy i ffwrdd.

(8)O ran yr awdurdod cynllunio—

(a)caiff werthu’r deunyddiau, a

(b)os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo dalu’r enillion i’r person a oedd yn berchen ar y deunyddiau, ar ôl didynnu unrhyw gostau y gall yr awdurdod eu hadennill oddi wrth y person.

(9)Ni chaiff awdurdod cynllunio adennill costau o dan yr adran hon oddi wrth y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I132A. 132 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

133Y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Pan, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo, na fo’r cam wedi ei gymryd, mae person sydd ar y pryd yn berchennog ar yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn euog o drosedd.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu at gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gorfodi drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)iddo wneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo ei wneud i sicrhau i’r camau a oedd yn ofynnol gan yr hysbysiad gael eu cymryd, neu

(b)na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi i’r person ac nad oedd yn ymwybodol o’i fodolaeth.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(5)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I133A. 133 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion CymruLL+C

134Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gorfodi os ydynt yn ystyried—

(a)bod gwaith sy’n golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig, a

(b)ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar gymeriad yr adeilad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(2)Cyn dyroddi’r hysbysiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal.

(3)Mae hysbysiad gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn cael yr un effaith ag un a ddyroddir gan awdurdod cynllunio.

(4)Mae adrannau 123 i 132 yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru fel pe bai cyfeiriadau at awdurdod cynllunio yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I134A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

GwaharddebauLL+C

135Gwaharddeb i atal gwaith anawdurdodedig neu fethiant i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniadLL+C

(1)Caiff awdurdod cynllunio wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb i atal—

(a)toriad gwirioneddol neu doriad disgwyliedig o adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal, neu

(b)methiant gwirioneddol neu fethiant disgwyliedig i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith i adeilad rhestredig yn ei ardal.

(2)Caiff awdurdod wneud cais pa un a yw wedi arfer, neu’n cynnig arfer, unrhyw un neu ragor o’i bwerau eraill o dan y Rhan hon ai peidio.

(3)Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y toriad.

(4)Caiff rheolau llys ddarparu i waharddeb gael ei dyroddi yn erbyn person nad yw’n hysbys pwy ydyw.

(5)Ni chaniateir dyroddi gwaharddeb o dan yr adran hon yn erbyn y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I135A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 5LL+CCAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Valid from 04/11/2024

Caffael drwy gytundeb adeiladau o ddiddordeb arbennigLL+C

136Pŵer awdurdod cynllunio i gaffael adeilad drwy gytundebLL+C

(1)Caiff awdurdod cynllunio gaffael drwy gytundeb—

(a)unrhyw adeilad sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae’n ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

(b)unrhyw dir y mae’r amodau yn is-adran (2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad ag ef.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y tir yn cynnwys yr adeilad, yn cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo, a

(b)bod yr awdurdod cynllunio yn ystyried bod angen y tir—

(i)ar gyfer diogelu’r adeilad neu ei amwynderau,

(ii)ar gyfer darparu neu hwyluso mynediad iddo, neu

(iii)ar gyfer ei reolaethu’n briodol neu ei reoli’n briodol.

(3)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Rhan honno at “the execution of the works” i’w darllen mewn perthynas â chaffaeliad o dan yr adran hon fel pe baent yn cynnwys cyflawni gwaith adeiladu neu waith cynnal a chadw sydd wedi ei awdurdodi gan adran 203 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) (pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I136A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Caffael yn orfodol adeiladau rhestredig y mae angen eu hatgyweirioLL+C

137Pwerau i gaffael adeilad rhestredig yn orfodol at ddiben ei ddiogeluLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru—

(a)yn ystyried nad yw camau rhesymol yn cael eu cymryd ar gyfer diogelu adeilad rhestredig yn briodol, a

(b)wedi eu bodloni bod achos cymhellol er budd y cyhoedd i’r adeilad gael ei gaffael yn orfodol at ddiben ei ddiogelu.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)awdurdodi’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal i gaffael yn orfodol yr adeilad ac unrhyw dir y mae’r amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni mewn cysylltiad ag ef, neu

(b)caffael yr adeilad a’r tir eu hunain yn orfodol.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod y tir yn cynnwys yr adeilad, yn cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo, a

(b)bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen y tir—

(i)ar gyfer diogelu’r adeilad neu ei amwynderau,

(ii)ar gyfer darparu neu hwyluso mynediad iddo, neu

(iii)ar gyfer ei reolaethu’n briodol neu ei reoli’n briodol.

(4)Nid yw’r adran hon yn caniatáu caffael—

(a)adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 43), neu

(b)adeilad crefyddol esempt.

(5)Nid yw’r adran hon yn caniatáu caffael buddiant yn nhir y Goron oni bai—

(a)bod y buddiant yn cael ei ddal ac eithrio gan neu ar ran y Goron, a

(b)bod awdurdod priodol y Goron yn cytuno i’r caffaeliad.

(6)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i gaffaeliad o dan yr adran hon.

(7)Yn y Bennod hon ystyr “awdurdod caffael” yw—

(a)yn achos caffaeliad neu gaffaeliad arfaethedig o dan is-adran (2)(a), yr awdurdod cynllunio sy’n caffael neu’n cynnig caffael yr adeilad rhestredig neu’r tir;

(b)yn achos caffaeliad neu gaffaeliad arfaethedig o dan is-adran (2)(b), Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I137A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

138Gofyniad i gyflwyno hysbysiad atgyweirio cyn dechrau caffael yn orfodolLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod caffael ddechrau caffael adeilad rhestredig yn orfodol o dan adran 137 oni bai—

(a)bod yr awdurdod wedi cyflwyno hysbysiad atgyweirio i bob perchennog ar yr adeilad,

(b)bod y 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad atgyweirio wedi dod i ben, ac

(c)nad yw’r hysbysiad atgyweirio wedi ei dynnu’n ôl.

(2)Mae hysbysiad atgyweirio yn hysbysiad—

(a)sy’n pennu’r gwaith y mae’r awdurdod yn ystyried ei fod yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig yn briodol, a

(b)sy’n esbonio effaith adrannau 137 i 141 o’r Ddeddf hon ac adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) (rhagdybiaeth ynghylch cydsyniad adeilad rhestredig wrth asesu digollediad am gaffaeliad gorfodol).

(3)Os—

(a)yw adeilad rhestredig yn cael ei ddymchwel ar ôl cyflwyno hysbysiad atgyweirio mewn cysylltiad ag ef, ond

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddent wedi cadarnhau neu wedi gwneud gorchymyn prynu gorfodol mewn cysylltiad â’r adeilad pe na bai wedi cael ei ddymchwel,

nid yw dymchwel yr adeilad yn atal caffael safle’r adeilad yn orfodol o dan adran 137.

(4)Caiff awdurdod caffael ar unrhyw adeg dynnu’n ôl hysbysiad atgyweirio y mae wedi ei gyflwyno i unrhyw berson; ac os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo roi hysbysiad i’r person ar unwaith ei fod wedi ei dynnu’n ôl.

(5)At ddibenion is-adran (1) mae awdurdod caffael yn dechrau caffaeliad gorfodol pan fydd yn cyflwyno’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I138A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

139Cais i stopio caffaeliad gorfodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig o dan adran 137 yn cael ei wneud gan awdurdod cynllunio neu’n cael ei lunio ar ffurf ddrafft gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig wneud cais i lys ynadon am orchymyn na chaniateir cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r gorchymyn prynu gorfodol.

(3)Rhaid i’r cais gael ei wneud o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(4)Os yw’r llys ynadon wedi ei fodloni bod camau rhesymol wedi eu cymryd ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig yn briodol, rhaid iddo wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano.

(5)Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad y llys ynadon ar y cais apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I139A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

140Cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol pan ganiatawyd i adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadolLL+C

(1)Caiff gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig o dan adran 137 gynnwys cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol os yw’r awdurdod caffael wedi ei fodloni y caniatawyd i’r adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at ddiben cyfiawnhau ei ddymchwel a datblygu’r safle neu unrhyw safle cydffiniol.

(2)Mae cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol yn gyfarwyddyd, wrth asesu digollediad am gaffael yr adeilad rhestredig yn orfodol, ei bod i’w thybio—

(a)na fyddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer unrhyw ddatblygiad o safle’r adeilad, a

(b)na fyddai cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith ar gyfer dymchwel, addasu neu estyn yr adeilad ac eithrio gwaith sy’n angenrheidiol i’w adfer i gyflwr priodol ac i’w gynnal mewn cyflwr priodol.

(3)Pan fo cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol wedi ei gynnwys mewn gorchymyn a wnaed gan awdurdod cynllunio neu a luniwyd ar ffurf ddrafft gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r datganiad o effaith y gorchymyn yn yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno—

(a)cynnwys datganiad bod y cyfarwyddyd wedi ei gynnwys, a

(b)esbonio effaith y cyfarwyddyd.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn cadarnhau neu’n gwneud gorchymyn prynu gorfodol sy’n cynnwys cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol, mae’r digollediad am y caffaeliad gorfodol i’w asesu yn unol â’r cyfarwyddyd, er gwaethaf unrhyw beth i’r gwrthwyneb yn—

(a)Deddf Digollediad Tir 1961 (p. 33),

(b)Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8),

(c)adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9), neu

(d)y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I140A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

141Cais i ddileu cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol wedi ei gynnwys mewn gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig o dan adran 137 a wnaed gan awdurdod cynllunio neu a luniwyd ar ffurf ddrafft gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig wneud cais i lys ynadon am orchymyn nad yw cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol i’w gynnwys yn y gorchymyn prynu gorfodol fel y’i cadarnheir neu y’i gwneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i’r cais gael ei wneud o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(4)Os yw’r llys ynadon wedi ei fodloni na chaniatawyd i’r adeilad rhestredig fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at y diben a grybwyllir yn adran 140(1), rhaid iddo wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano.

(5)Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad y llys ynadon ar y cais apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys y Goron.

(6)Mae’r hawliau a roddir gan yr adran hon yn ychwanegol at yr hawliau a roddir gan adran 139 ac nid ydynt yn cyfyngu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I141A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

142Dod â hawliau dros dir a gaffaelwyd yn orfodol i benLL+C

(1)Wrth gwblhau caffaeliad gorfodol o dir o dan adran 137—

(a)mae’r holl hawliau tramwy preifat dros y tir wedi eu diddymu,

(b)mae’r holl hawliau i osod cyfarpar, ei gadw neu ei gynnal a’i gadw ar y tir, odano neu drosto wedi eu diddymu, ac

(c)mae gan yr awdurdod caffael hawlogaeth i unrhyw gyfarpar ar y tir, odano neu drosto.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys—

(a)i unrhyw hawl y mae gan ymgymerwr statudol hawlogaeth iddi, nac i gyfarpar sy’n perthyn i ymgymerwr statudol, at ddiben cynnal ei ymgymeriad,

(b)i unrhyw hawl a roddir gan y cod cyfathrebu electronig neu yn unol â’r cod hwnnw i weithredwr rhwydwaith cod cyfathrebu electronig, nac i unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig sydd wedi ei osod at ddibenion rhwydwaith o’r fath, nac

(c)i unrhyw hawl nac i unrhyw gyfarpar a bennir gan yr awdurdod caffael mewn cyfarwyddyd a roddir cyn cwblhau’r caffaeliad.

(3)Mae is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb (pa un a yw wedi ei wneud cyn neu ar ôl cwblhau’r caffaeliad) rhwng yr awdurdod caffael a’r person sydd â hawlogaeth i’r hawl neu y mae’r cyfarpar yn perthyn iddo.

(4)Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled drwy ddiddymu hawl neu drosglwyddo cyfarpar o dan yr adran hon hawlogaeth i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod caffael.

(5)Mae digollediad o dan yr adran hon i’w benderfynu yn unol â Deddf Digollediad Tir 1961 (p. 33).

(6)Yn is-adran (2)(b)—

  • ystyr “cod cyfathrebu electronig” (“electronic communications code”) yw’r cod a nodir yn Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21);

  • mae i “cyfarpar cyfathrebu electronig”, “gweithredwr” a “rhwydwaith cod cyfathrebu electronig” yr un ystyron ag a roddir i “electronic communications apparatus”, “operator” ac “electronic communications code network” gan baragraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I142A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Rheoli, defnyddio a gwaredu adeiladauLL+C

143Rheoli, defnyddio a gwaredu adeilad a gaffaelir o dan y Bennod honLL+C

(1)Pan fo awdurdod cynllunio yn caffael adeilad neu dir arall o dan y Bennod hon, caiff wneud unrhyw drefniadau ar gyfer rheoli, defnyddio neu waredu’r adeilad neu’r tir y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben diogelu’r adeilad neu’r tir.

(2)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y defnydd o dir y mae awdurdod cynllunio yn ei gaffael drwy gytundeb o dan adran 136, gweler adrannau 232, 233 a 235 (neilltuo, gwaredu a datblygu), 242 (trechu hawliau i feddiannu) a 243 (cyd-gorff i ddal tir) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caffael adeilad neu dir arall o dan adran 137, cânt—

(a)gwneud unrhyw drefniadau y maent yn ystyried eu bod yn briodol ar gyfer rheoli’r adeilad neu’r tir, gwarchodaeth ohono neu’r defnydd ohono, a

(b)gwaredu’r adeilad neu’r tir, neu ymdrin â’r adeilad neu’r tir mewn unrhyw ffordd arall.

(4)Am ddarpariaeth sy’n dileu cyfyngiadau ar y defnydd o fathau penodol o dir a gaffaelir o dan y Bennod hon, gweler adrannau 238 i 240 (tir cysegredig a chladdfeydd) a 241 (tiroedd comin, mannau agored a rhandiroedd tanwydd neu ardd gae) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Gwybodaeth Cychwyn

I143A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Diogelu adeiladau rhestredig ar frysLL+C

Valid from 04/11/2024

144Gwaith brys i ddiogelu adeilad rhestredigLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol gyflawni unrhyw waith y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol ar frys ar gyfer diogelu adeilad rhestredig yn ei ardal.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyflawni unrhyw waith y maent yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar frys ar gyfer diogelu unrhyw adeilad rhestredig.

(3)Mae’r gwaith y caniateir ei gyflawni o dan yr adran hon yn cynnwys gwaith i ategu neu gysgodi’r adeilad rhestredig dros dro.

(4)Os yw’r adeilad rhestredig neu unrhyw ran ohono yn cael ei ddefnyddio at ddiben preswyl, dim ond os na fyddai’n ymyrryd yn afresymol â’r defnydd hwnnw y caniateir cyflawni gwaith o dan yr adran hon.

(5)Rhaid rhoi o leiaf 7 niwrnod clir o rybudd ysgrifenedig o’r bwriad i gyflawni gwaith o dan yr adran hon—

(a)i bob perchennog ar yr adeilad rhestredig, a

(b)os yw’r adeilad neu unrhyw ran ohono yn cael ei ddefnyddio at ddiben preswyl, i bob meddiannydd ar yr adeilad.

(6)Rhaid i’r rhybudd ddisgrifio’r gwaith y cynigir ei gyflawni.

(7)Ni chaniateir cyflawni gwaith o dan yr adran hon mewn perthynas—

(a)ag adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 61),

(b)ag adeilad crefyddol esempt, neu

(c)ag adeilad rhestredig ar dir y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I144A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

145Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berchennog dalu costau gwaith diogeluLL+C

(1)Pan fo gwaith ar gyfer diogelu adeilad rhestredig wedi ei gyflawni gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru o dan adran 144, caiff yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i unrhyw berchennog ar yr adeilad rhestredig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog dalu costau’r gwaith.

(2)Pan fo’r gwaith yn waith i ategu neu gysgodi’r adeilad rhestredig dros dro neu’n cynnwys gwaith o’r fath—

(a)mae’r costau y caniateir eu hadennill yn cynnwys unrhyw wariant parhaus sy’n ymwneud â rhoi ar gael y cyfarpar neu’r deunyddiau a ddefnyddir, a

(b)caniateir rhoi hysbysiadau o dan is-adran (1) o bryd i’w gilydd mewn cysylltiad â’r gwariant parhaus hwnnw.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys os yw’r perchennog, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir hysbysiad o dan is-adran (1), yn cwyno’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru—

(a)bod rhywfaint neu’r cyfan o’r gwaith yn ddiangen ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig,

(b)yn achos gwaith i ategu neu gysgodi adeilad rhestredig dros dro, fod y trefniadau dros dro wedi parhau am gyfnod afresymol o amser,

(c)bod y swm a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol, neu

(d)y byddai adennill y swm hwnnw yn achosi caledi i’r perchennog.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)penderfynu i ba raddau y mae sail dda i gŵyn y perchennog, a

(b)cyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad—

(i)i’r perchennog, a

(ii)os rhoddwyd yr hysbysiad o dan is-adran (1) gan awdurdod lleol, i’r awdurdod hwnnw.

(5)Rhaid i’r hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru ddatgan—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad, a

(b)y swm y maent wedi penderfynu y caniateir iddo gael ei adennill.

(6)Caiff perchennog neu awdurdod lleol y cyflwynir hysbysiad iddo o dan is-adran (4)(b), o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, apelio i’r llys sirol yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I145A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

146Darpariaeth bellach ynghylch adennill costau gwaith diogeluLL+C

(1)Mae’r costau y caiff awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru eu hadennill o dan adran 145 yn dwyn llog, ar y gyfradd a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, o’r adeg y daw’r hysbysiad o dan is-adran (1) o’r adran honno yn weithredol hyd nes y caiff yr holl symiau sy’n ddyledus o dan yr adran honno eu hadennill.

(2)Mae’r costau ac unrhyw log yn adenilladwy gan yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru fel dyled.

(3)Mae’r costau ac unrhyw log, o’r adeg pan ddaw’r hysbysiad o dan adran 145(1) yn weithredol hyd nes iddynt gael eu hadennill, yn bridiant ar y tir y mae’r adeilad rhestredig o dan sylw arno.

(4)Mae’r pridiant yn cymryd effaith, ar yr adeg y daw’r hysbysiad yn weithredol, fel pridiant cyfreithiol sy’n bridiant tir lleol.

(5)At ddiben gorfodi’r pridiant, mae gan yr awdurdod lleol neu (yn ôl y digwydd) Weinidogion Cymru yr un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) ac fel arall fel pe bai neu pe baent yn forgeisai drwy weithred sydd â phwerau i werthu’r tir, gwneud lesoedd, derbyn ildio lesoedd a phenodi derbynnydd.

(6)Mae’r pŵer i benodi derbynnydd yn arferadwy ar unrhyw adeg ar ôl diwedd 1 mis yn dechrau â’r diwrnod y mae’r pridiant yn cymryd effaith.

(7)At ddibenion yr adran hon mae hysbysiad o dan adran 145(1) yn dod yn weithredol—

(a)pan na fo unrhyw gŵyn wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 145(3), ar ddiwedd y cyfnod hwnnw;

(b)pan fo cwyn wedi ei gwneud ond na wneir apêl i’r llys sirol o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 145(6), ar ddiwedd y cyfnod hwnnw;

(c)pan fo apêl wedi ei gwneud a bod y penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau penderfyniad Gweinidogion Cymru o dan adran 145(4) (gydag amrywiad neu heb amrywiad), ar adeg y penderfyniad;

(d)pan fo apêl wedi ei gwneud ond ei bod yn cael ei thynnu’n ôl, ar adeg y tynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I146A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Rhagolygol

Darpariaeth bellach ynghylch diogelu adeiladau rhestredigLL+C

147Camau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwaelLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer rhoi pwerau i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru i gymryd camau i sicrhau bod adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael yn cael eu diogelu’n briodol, ac mewn cysylltiad â rhoi’r pwerau hynny.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu ar gyfer—

(a)hysbysiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael gyflawni gwaith i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol (“hysbysiadau diogelu”);

(b)apelau yn erbyn hysbysiadau diogelu;

(c)troseddau am fethu â chydymffurfio â hysbysiadau diogelu.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)datgymhwyso, neu gymhwyso neu atgynhyrchu gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon neu Ran 5 neu 7;

(b)diwygio’r Rhan hon neu’r Rhannau hynny.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I147A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Cyllid ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau o ddiddordeb arbennig etc.LL+C

148Grant neu fenthyciad gan awdurdod lleol ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeiladLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol perthnasol gyfrannu tuag at unrhyw wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth atgyweirio neu gynnal a chadw—

(a)adeilad rhestredig sydd yn ardal yr awdurdod neu yn ei chyffiniau, neu

(b)adeilad yn ardal yr awdurdod nad yw’n adeilad rhestredig ond y mae’r awdurdod yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(2)Ar yr un pryd â gwneud cyfraniad o’r fath, caiff yr awdurdod hefyd gyfrannu tuag at unrhyw wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth gynnal a chadw unrhyw ardd—

(a)sy’n cael ei meddiannu gyda’r adeilad, a

(b)sy’n cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo.

(3)Caniateir i gyfraniad o dan yr adran hon gael ei wneud drwy grant neu fenthyciad.

(4)Caiff awdurdod lleol perthnasol roi benthyciad o dan yr adran hon ar unrhyw delerau ac unrhyw amodau y mae’n penderfynu arnynt, a all er enghraifft gynnwys teler bod y benthyciad yn ddi-log.

(5)Caiff awdurdod lleol perthnasol—

(a)ildio ei hawl i gael ad-daliad o fenthyciad neu unrhyw log sy’n weddill, a

(b)cytuno â’r benthyciwr i amrywio unrhyw un neu ragor o delerau ac amodau benthyciad.

(6)Caiff awdurdod lleol perthnasol roi grant o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n ystyried eu bod yn briodol, a all er enghraifft gynnwys amod bod rhaid i dderbynnydd y grant wneud cytundeb â’r awdurdod at ddiben sicrhau mynediad y cyhoedd i’r cyfan neu ran o’r adeilad neu’r ardd y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu â hi.

(7)Yn yr adran hon ac yn adran 149, ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(c)bwrdd cydgynllunio a gyfansoddir o dan adran 2(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

Gwybodaeth Cychwyn

I148A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

149Adennill grant a roddir gan awdurdod lleolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol perthnasol yn rhoi grant o dan adran 148.

(2)Os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o amodau a osodir wrth roi’r grant, caiff yr awdurdod adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(3)Mae is-adrannau (4) a (5) yn gymwys os, yn ystod y 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant—

(a)gwaredir y cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal neu ei dal yn yr adeilad neu’r ardd y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu â hi ar y diwrnod y rhoddwyd y grant (“y buddiant perthnasol”), a

(b)gwneir y gwarediad drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf.

(4)Os gwneir y gwarediad gan dderbynnydd y grant neu gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi rhan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff yr awdurdod lleol perthnasol adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(5)Os gwneir y gwarediad gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi’r cyfan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff yr awdurdod adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth y person y rhoddwyd y rhodd iddo.

(6)Ni chaiff awdurdod lleol perthnasol adennill symiau o dan yr adran hon sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na swm y grant.

(7)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at roi buddiant i berson yn gyfeiriadau at ei roi i’r person yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac eithrio ar farwolaeth deiliad y buddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I149A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

150Grant gan Weinidogion Cymru ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad, gardd etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i dalu unrhyw wariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, wrth—

(a)atgyweirio neu gynnal a chadw adeilad y maent yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig,

(b)cynnal a chadw unrhyw dir sy’n cynnwys adeilad o’r fath, yn cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo,

(c)atgyweirio neu gynnal a chadw unrhyw wrthrychau a gedwir fel arfer mewn adeilad o’r fath, neu

(d)cynnal a chadw gardd neu dir arall y maent yn ystyried ei bod neu ei fod o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi grant o dan is-adran (1) ar delerau sy’n darparu y gellir ei adennill o dan yr adran hon, a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, cyn neu wrth roi’r grant, yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i dderbynnydd y grant sydd—

(i)yn crynhoi effaith yr adran hon, a

(ii)yn pennu cyfnod, sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant ac sy’n dod i ben heb fod yn fwy na 10 mlynedd ar ôl y diwrnod hwnnw, y caniateir adennill y grant ynddo yn unol ag is-adrannau (4) i (6) (“y cyfnod adennill”).

(3)Os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o amodau a osodir wrth roi’r grant, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod adennill—

(a)caiff y cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal, ar y diwrnod y rhoddwyd y grant, yn yr adeilad, y tir neu’r gwrthrychau (“y buddiant perthnasol”) y mae’r grant yn ymwneud ag ef neu â hwy ei waredu neu ei gwaredu, a

(b)gwneir y gwarediad drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf.

(5)Os gwneir y gwarediad gan dderbynnydd y grant neu gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi rhan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(6)Os gwneir y gwarediad gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi’r cyfan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth y person y rhoddwyd y rhodd iddo.

(7)Ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill symiau o dan yr adran hon sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na swm y grant.

(8)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at roi buddiant i berson yn gyfeiriadau at ei roi i’r person yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac eithrio ar farwolaeth deiliad y buddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I150A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

151Gweinidogion Cymru yn derbyn gwaddol ar gyfer cynnal adeiladLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo offeryn yn cynnwys darpariaeth sy’n ymhonni ei bod yn rhodd eiddo o unrhyw fath i Weinidogion Cymru ar ymddiriedolaeth i ddefnyddio incwm yr eiddo (naill ai am gyfnod cyfyngedig neu am gyfnod amhenodol) ar gyfer neu tuag at atgyweirio a chynnal a chadw adeilad perthnasol, neu adeilad perthnasol ynghyd ag eiddo arall,

(b)pan na fo’r ddarpariaeth yn creu ymddiriedolaeth elusennol, ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn y rhodd.

(2)Yn yr adran hon—

  • ystyr “adeilad perthnasol” (“relevant building”) yw—

    (a)

    adeilad y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac—

    (i)

    ar yr adeg y daw’r offeryn ymddiriedolaeth i rym, y mae ganddynt hawlogaeth i fuddiant ynddo, neu y bydd ganddynt hawlogaeth i fuddiant ynddo yn fuan, neu

    (ii)

    sydd, ar yr adeg honno, o dan eu rheolaeth neu’n cael ei reoli ganddynt neu a fydd o dan eu rheolaeth neu’n cael ei reoli ganddynt yn fuan, neu

    (b)

    adeilad sydd, ar yr adeg honno, o dan eu gwarcheidiaeth o dan Bennod 6 o Ran 2 neu a fydd o dan eu gwarcheidiaeth felly yn fuan;

  • ystyr “cronfa’r ymddiriedolaeth” (“trust fund”) yw’r eiddo a roddir i Weinidogion Cymru ac unrhyw eiddo sydd am y tro yn cynrychioli’r eiddo hwnnw;

  • ystyr “ymddiriedolaeth waddol” (“endowment trust”) yw’r ymddiriedolaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1)(a).

(3)Nid effeithir ar ddilysrwydd y rhodd na dilysrwydd yr ymddiriedolaeth waddol gan unrhyw reol gyfreithiol neu unrhyw reol ecwiti na fyddai wedi effeithio ar eu dilysrwydd pe bai’r ymddiriedolaeth wedi bod yn un elusennol ac mae eu dilysrwydd i’w drin fel pe na bai unrhyw reol gyfreithiol o’r fath neu unrhyw reol ecwiti o’r fath erioed wedi effeithio arno.

(4)Tra bo’r ymddiriedolaeth waddol yn parhau, mae gan Weinidogion Cymru yr un pwerau o ran rheoli, gwaredu a buddsoddi mewn perthynas â chronfa’r ymddiriedolaeth ag a roddir gan y gyfraith i ymddiriedolwyr tir mewn perthynas â’r tir a’r enillion o’i werthu.

(5)Mae’r pwerau a roddir gan is-adran (4) yn ychwanegol at unrhyw bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan yr offeryn ymddiriedolaeth ac nid ydynt yn cyfyngu arnynt.

(6)Tra bo’r ymddiriedolaeth waddol yn parhau, os bydd digwyddiad—

(a)sy’n cael, ar unwaith, yr effaith nad oes gan Weinidogion Cymru hawlogaeth i unrhyw fuddiant yn yr adeilad y mae’r ymddiriedolaeth yn ymwneud ag ef ac nad oes ganddynt yr adeilad o dan eu rheolaeth neu nad yw’r adeilad yn cael ei reoli ganddynt, a

(b)na fyddai fel arall yn peri i’r ymddiriedolaeth waddol ddod i ben neu gael ei thrin fel pe bai wedi methu,

pan ddaw’r digwyddiad hwnnw i fod, mae’r ymddiriedolaeth waddol yn dod i ben ac mae cronfa’r ymddiriedolaeth yn pasio fel y byddai pe bai’r ymddiriedolaeth yn methu.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os yw’r offeryn ymddiriedolaeth yn cynnwys darpariaeth sy’n ymhonni ei bod yn rhoi cronfa’r ymddiriedolaeth, neu’n cyfarwyddo i gronfa’r ymddiriedolaeth gael ei dal, ar ymddiriedolaeth at ddibenion elusennol os yw’r ymddiriedolaeth waddol yn methu neu’n dod i ben.

(8)Nid effeithir ar ddilysrwydd y rhodd na dilysrwydd y cyfarwyddyd gan unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â bytholbarhadau neu unrhyw reol ecwiti sy’n ymwneud â bytholbarhadau ac mae eu dilysrwydd i’w drin fel pe na bai unrhyw reol gyfreithiol o’r fath neu unrhyw reol ecwiti o’r fath erioed wedi effeithio arno.

(9)Yn is-adran (4) mae i “ymddiriedolwyr tir” yr un ystyr ag a roddir i “trustees of land” yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47) (gweler adran 1(1) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I151A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 6LL+CCYFFREDINOL

Valid from 04/11/2024

Pwerau mynediadLL+C

152Pwerau i fynd ar dirLL+C

(1)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg o adeilad ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i restru neu ddadrestru’r adeilad.

(2)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg o adeilad ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i gyflwyno hysbysiad rhestru dros dro mewn perthynas â’r adeilad.

(3)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir—

(a)i gynnal arolwg o’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 107 (addasu neu ddirymu cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth),

(b)i gynnal arolwg o’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 115 (terfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb), neu

(c)i asesu a yw trosedd wedi cael ei chyflawni neu yn cael ei chyflawni o dan adran 91(5), 117 neu 118.

(4)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio fynd ar unrhyw dir—

(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi,

(b)i arddangos copi o hysbysiad stop dros dro yn unol ag adran 119, neu

(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro.

(5)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir—

(a)i gynnal arolwg o’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i ddyroddi hysbysiad gorfodi,

(b)i asesu â gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi,

(c)i asesu a yw adeilad rhestredig ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall yn cael ei gynnal a’i gadw mewn cyflwr priodol,

(d)i gynnal arolwg o’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall mewn cysylltiad â chynnig i gyflwyno hysbysiad atgyweirio o dan adran 138, neu

(e)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad atgyweirio.

(6)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir—

(a)i benderfynu a ddylai gwaith gael ei gyflawni o dan adran 144 ar gyfer diogelu adeilad ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall, neu

(b)i gyflawni gwaith o dan yr adran honno ar gyfer diogelu adeilad ar y tir hwnnw neu ar unrhyw dir arall.

(7)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg ohono, neu i amcangyfrif ei werth, mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad sy’n daladwy gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall.

(8)Yn is-adran (7) ystyr “person awdurdodedig” yw—

(a)swyddog o Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, neu

(b)person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd).

(9)Mae pŵer i gynnal arolwg o dir o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio i benderfynu natur yr isbridd neu i benderfynu a oes mwynau yn bresennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I152A. 152 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

153Arfer pŵer i fynd ar dir heb warantLL+C

(1)Caniateir i bŵer i fynd ar dir o dan adran 152 gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol.

(2)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan adran 152 fynnu mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu oni bai bod o leiaf 24 awr o rybudd o’r mynediad bwriadedig wedi ei roi i bob meddiannydd.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r pŵer i fynd ar dir o dan adran 152(4) (hysbysiadau stop dros dro).

(4)O ran person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan adran 152—

(a)rhaid iddo, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog ar y tir neu unrhyw feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno;

(b)caiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir;

(c)rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

(5)Pan—

(a)bo person yn cynnig cyflawni gwaith wrth arfer pŵer mynediad o dan adran 152, a

(b)bo’n ofynnol i’r person roi rhybudd o’r mynediad bwriadedig o dan is-adran (2) o’r adran hon,

ni chaiff y person gyflawni’r gwaith oni bai bod y rhybudd o’r mynediad bwriadedig yn cynnwys hysbysiad o fwriad y person i gyflawni’r gwaith.

(6)Pan—

(a)bo person yn cynnig cyflawni gwaith wrth arfer pŵer mynediad o dan adran 152 ar dir sy’n perthyn i ymgymerwr statudol, a

(b)bo’r ymgymerwr yn gwrthwynebu’r gwaith arfaethedig ar y sail y byddai ei gyflawni yn ddifrifol niweidiol i gynnal ei ymgymeriad,

ni chaiff y person gyflawni’r gwaith heb gytundeb y Gweinidog priodol.

(7)Ni chaiff person fynd ar dir y Goron wrth arfer pŵer o dan adran 152 heb gytundeb—

(a)person y mae’n ymddangos i’r person sy’n ceisio mynediad i’r tir fod hawlogaeth ganddo i roi’r cytundeb hwnnw, neu

(b)awdurdod priodol y Goron.

(8)Nid yw is-adrannau (2) i (6) yn gymwys i unrhyw beth a wneir yn rhinwedd is-adran (7).

(9)Yn is-adran (6) mae i “Gweinidog priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate Minister” gan adran 265 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

Gwybodaeth Cychwyn

I153A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

154Gwarant i fynd ar dirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw ynad heddwch wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd ar dir at ddiben a grybwyllir yn adran 152, a

(b)bod—

(i)mynediad i’r tir wedi ei wrthod neu fod gwrthodiad yn cael ei ddisgwyl yn rhesymol, neu

(ii)yr achos yn un brys.

(2)Caiff yr ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i fynd ar y tir i unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan berson a gaiff awdurdodi mynediad o dan adran 152 at y diben o dan sylw.

(3)At ddibenion is-adran (1)(b) mae mynediad i dir i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod os na cheir ateb i gais am fynediad o fewn cyfnod rhesymol.

(4)Mae adran 152(9) yn gymwys i bŵer i gynnal arolwg o dir a roddir drwy warant o dan yr adran hon.

(5)Mae gwarant o dan yr adran hon yn rhoi pŵer i fynd ar dir—

(a)ar un achlysur yn unig, a

(b)ar adeg resymol yn unig, oni bai bod yr achos yn un brys.

(6)O ran person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog ar y tir neu unrhyw feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben y mynediad cyn mynd ar y tir,

(b)caiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir,

(c)rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

(7)Mae gwarant o dan yr adran hon yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 1 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y’i dyroddir.

(8)Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I154A. 154 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

155Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan berson bŵer i fynd ar dir a roddir gan adran 152 neu drwy warant o dan adran 154.

(2)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer y pŵer mynediad yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Os achosir difrod i dir neu eiddo arall—

(a)wrth arfer y pŵer mynediad, neu

(b)wrth wneud unrhyw arolwg at y diben y rhoddwyd y pŵer mynediad ato,

caiff person sy’n dioddef y difrod adennill digollediad oddi wrth y person a awdurdododd y mynediad.

(5)Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan is-adran (4) yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yr achoswyd y difrod (neu os achoswyd y difrod dros fwy nag un diwrnod, y diwrnod olaf y’i hachoswyd).

(6)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn datgelu gwybodaeth a gafodd y person wrth arfer y pŵer mynediad, ac sy’n ymwneud â phroses weithgynhyrchu neu gyfrinach fasnach, at ddiben ac eithrio’r un yr awdurdodwyd y person i fynd ar y tir ato.

(7)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (6) yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(8)Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth a wneir yn rhinwedd adran 153(7) (mynediad ar dir y Goron).

Gwybodaeth Cychwyn

I155A. 155 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

AtodolLL+C

156Adeiladau crefyddol esemptLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod adeilad crefyddol a ddefnyddir at ddibenion crefyddol yn adeilad crefyddol esempt at ddibenion—

(a)adrannau 83 a 84 (rhestru adeiladau dros dro);

(b)adran 88 (gofyniad i waith sy’n effeithio ar adeilad rhestredig gael ei awdurdodi);

(c)adran 118 (y drosedd o ddifrodi adeilad rhestredig yn fwriadol);

(d)adran 137 (caffael adeilad rhestredig yn orfodol at ddiben ei ddiogelu);

(e)adran 144 (gwaith brys i ddiogelu adeilad rhestredig).

(2)At ddibenion adran 88 mae adeilad i’w drin fel pe bai’n un sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion crefyddol pe bai’n cael ei ddefnyddio at y dibenion hynny oni bai am y gwaith o dan sylw.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adeiladau crefyddol o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (pa un ai drwy gyfeirio at ffydd grefyddol neu enwad crefyddol, defnydd a wneir o’r adeiladau, neu unrhyw amgylchiad arall) neu mewn perthynas ag adeilad penodol;

(b)gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adeilad crefyddol cyfan neu ran o adeilad crefyddol;

(c)darparu bod adeilad yn adeilad crefyddol esempt dim ond mewn perthynas â gwaith o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (pa un ai drwy gyfeirio at raddau’r gwaith, y person sy’n cyflawni’r gwaith, neu unrhyw amgylchiad arall);

(d)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer adeiladau mewn ardaloedd gwahanol;

(e)gwneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.

(4)Yn yr adran hon o ran cyfeiriadau at adeilad crefyddol—

(a)maent yn cynnwys unrhyw strwythur neu unrhyw wrthrych artiffisial sy’n sownd wrth adeilad crefyddol neu sydd o fewn ei gwrtil;

(b)nid ydynt yn cynnwys adeilad sy’n cael ei ddefnyddio, neu sydd ar gael i’w ddefnyddio, gan weinidog crefydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel preswylfa i gyflawni dyletswyddau’r swydd honno ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I156A. 156 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

157Dehongli’r Rhan honLL+C

Yn y Rhan hon—

  • mae “adeilad crefyddol esempt” (“exempt religious building”) i’w ddehongli yn unol ag adran 156;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

    (a)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

    (b)

    awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

    (c)

    cyngor cymuned;

    (d)

    comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru;

    (e)

    awdurdod tân ac achub yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

    (f)

    corff yng Nghymru sy’n gorff codi ardoll o fewn ystyr “levying body” yn adran 74(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41);

    (g)

    corff yng Nghymru y mae adran 75 o’r Ddeddf honno (ardollau arbennig) yn gymwys iddo;

    (h)

    cyd-fwrdd neu gyd-bwyllgo‍r, os yw pob un o’r awdurdodau sy’n ei gyfansoddi yn awdurdod lleol o fewn paragraffau (a) i (g);

  • ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru;

  • mae i “gwarchodaeth interim” (“interim protection”) yr ystyr a roddir gan adran 79(3);

  • ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 123 neu 134 (yn ôl y digwydd);

  • ystyr “hysbysiad stop dros dro” (“temporary stop notice”) yw hysbysiad stop dros dro a ddyroddir o dan adran 119;

  • mae i “rhestru” (“listing”) a “dadrestru” (“de-listing”), mewn perthynas ag adeilad, yr ystyron a roddir gan adran 76(6);

  • mae i “rhestru dros dro” (“temporary listing”) yr ystyr a roddir gan adran 83(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I157A. 157 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 09/09/2024

RHAN 4LL+CARDALOEDD CADWRAETH

Valid from 04/11/2024

Dynodi ardaloedd cadwraethLL+C

158Dynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn ardaloedd cadwraethLL+C

(1)Rhaid i awdurdod cynllunio—

(a)o bryd i’w gilydd benderfynu pa rannau o’i ardal sy’n ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae’n ddymunol diogelu neu wella eu cymeriad neu eu golwg, a

(b)dynodi’r rhannau hynny yn ardaloedd cadwraeth.

(2)Caiff awdurdod cynllunio amrywio neu ganslo dynodiad.

(3)Os yw awdurdod cynllunio yn dynodi ardal gadwraeth, neu’n amrywio neu’n canslo dynodiad, rhaid iddo roi hysbysiad ei fod wedi gwneud hynny i Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i’r hysbysiad gynnwys digon o wybodaeth i adnabod yr ardal yr effeithir arni.

(5)Rhaid i’r awdurdod cynllunio gyhoeddi’r hysbysiad gydag eglurhad o effaith y dynodiad, yr amrywiad neu’r canslo—

(a)yn y London Gazette, a

(b)mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal yr awdurdod.

(6)Mae dynodiad o dan yr adran hon yn bridiant tir lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I158A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Dyletswyddau sy’n ymwneud ag ardaloedd cadwraethLL+C

159Dyletswydd i lunio a chyhoeddi cynigion ar gyfer diogelu a gwella ardaloedd cadwraethLL+C

(1)Rhaid i awdurdod cynllunio o bryd i’w gilydd lunio a chyhoeddi cynigion ar gyfer diogelu a gwella unrhyw ran o’i ardal sy’n ardal gadwraeth.

(2)Rhaid i’r awdurdod gyflwyno’r cynigion i’w hystyried i gyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn yr ardal gadwraeth y mae’r cynigion yn ymwneud â hi neu, pan na fo lle addas yn yr ardal gadwraeth, mor agos iddi ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3)Rhaid i’r awdurdod roi sylw i unrhyw safbwyntiau, ynghylch y cynigion, a fynegir yn y cyfarfod.

Gwybodaeth Cychwyn

I159A. 159 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

160Arfer swyddogaethau cynllunio: dyletswydd gyffredinol sy’n ymwneud ag ardaloedd cadwraethLL+C

(1)Wrth arfer swyddogaeth gynllunio mewn perthynas ag adeilad neu dir arall mewn ardal gadwraeth, rhaid i berson roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu neu wella cymeriad neu olwg yr ardal honno.

(2)Yn yr adran hon ystyr “swyddogaeth gynllunio” yw unrhyw swyddogaeth o dan neu yn rhinwedd y canlynol—

(a)Rhan 3, y Rhan hon, Rhan 5 neu Ran 7 fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r Rhannau hynny,

(b)Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8), neu

(c)adran 70 neu 73 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (cynlluniau rheoli ystad).

Gwybodaeth Cychwyn

I160A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Rheolaethu dymchwel mewn ardaloedd cadwraethLL+C

161Gofyniad i ddymchweliad gael ei awdurdodiLL+C

(1)Ni chaiff person gyflawni gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae’r adran hon yn gymwys iddo, neu beri i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan adran 162.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw adeilad mewn ardal gadwraeth, ac eithrio—

(a)adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 11);

(b)adeilad rhestredig (ond gweler adran 88);

(c)adeilad o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

(d)adeilad o ddisgrifiad a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir i awdurdod cynllunio unigol gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio bod yr adran hon, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (2)(c), i fod yn gymwys i adeilad o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gwahardd gwaith a gyflawnir gan neu ar ran y Goron o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 117(4) (gwaith brys).

(5)Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith yr adran hon yn peidio â bod yn gymwys i adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I161A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

162Awdurdodi dymchweliad drwy gydsyniad ardal gadwraethLL+C

(1)Mae gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu gan Weinidogion Cymru, a

(b)os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)Pan—

(a)bo gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb gael ei awdurdodi, a

(b)bo’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad hwnnw.

(3)Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Ddeddf hon fel cydsyniad ardal gadwraeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I162A. 162 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

163Cymhwyso Rhan 3 i ardaloedd cadwraethLL+C

(1)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 3 yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau y mae adran 161 yn gymwys iddynt fel y maent yn gymwys i adeiladau rhestredig—

(a)Pennod 2 (rheolaethu gwaith), ac eithrio—

(i)adrannau 88 a 89;

(ii)adran 90(1)(c) a (4)(b);

(iii)adran 95;

(iv)adran 96(2);

(v)adran 97(5), (6) ac (9);

(vi)adrannau 98(3)(b) a 99(5);

(vii)adran 101(2);

(viii)adran 104(3);

(ix)adran 111(5) ac (8);

(b)Pennod 4 (gorfodi), ac eithrio—

(i)adran 117(5);

(ii)adran 118;

(iii)adran 128(3)(c);

(c)Pennod 6 (cyffredinol), ac eithrio—

(i)adran 152(1), (2), (3)(b) a (5)(c) i (e);

(ii)adran 156.

(2)Wrth eu cymhwyso mewn perthynas ag adeiladau y mae adran 161 yn gymwys iddynt—

(a)mae’r darpariaethau a gymhwysir gan is-adran (1) i’w darllen fel be bai—

(i)unrhyw gyfeiriad at gydsyniad adeilad rhestredig yn gyfeiriad at gydsyniad ardal gadwraeth;

(ii)unrhyw gyfeiriad at gymeriad adeilad rhestredig yn gyfeiriad at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth y mae’r adeilad ynddi;

(iii)unrhyw gyfeiriad arall at adeilad rhestredig yn gyfeiriad at adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo;

(iv)unrhyw gyfeiriad at adran 88 yn gyfeiriad at adran 161;

(b)mae’r darpariaethau a gymhwysir gan is-adran (1)(a) i’w darllen fel pe bai—

(i)yn adran 98(3)(a), y cyfeiriad at adran 89(2) yn gyfeiriad at adran 162(2);

(ii)yn adran 99(3), “adrannau 90 i 94” wedi ei roi yn lle “adrannau 90 i 95”;

(c)mae’r darpariaethau a gymhwysir gan is-adran (1)(b) i’w darllen fel pe bai—

(i)yn adrannau 117(4), 121(4) a 127(2)(d), y cyfeiriadau at ddiogelu’r adeilad wedi eu hepgor;

(ii)yn adran 126(1), y cyfeiriad at adran 89(2) yn gyfeiriad at adran 162(2);

(iii)yn adran 127(2), “nad oes angen cadw’r adeilad er lles diogelu neu wella cymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth y mae ynddi” wedi ei roi yn lle paragraff (a);

(d)mae’r darpariaethau a gymhwysir gan is-adran (1)(c) i’w darllen fel pe bai, yn adran 152(3)(c), y cyfeiriad at adran 118 wedi ei hepgor.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i wneud darpariaeth ychwanegol neu ddarpariaeth wahanol ynghylch cymhwyso Penodau 2, 4 a 6 o Ran 3 mewn perthynas ag adeiladau y mae adran 161 yn gymwys iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I163A. 163 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Diogelu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth ar frysLL+C

164Gwaith brys i ddiogelu adeiladau mewn ardaloedd cadwraethLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod diogelu adeilad mewn ardal gadwraeth yn bwysig ar gyfer cynnal cymeriad neu olwg yr ardal honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod adran 144 (gwaith brys) yn gymwys i’r adeilad fel y mae’n gymwys i adeiladau rhestredig.

(3)Pan fo cyfarwyddyd yn cael effaith mewn perthynas ag adeilad—

(a)mae adrannau 144 i 146 i’w darllen fel pe bai cyfeiriadau at adeilad rhestredig yn gyfeiriadau at yr adeilad;

(b)mae adran 144(7) i’w darllen fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I164A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

Grantiau a chytundebau ardaloedd cadwraethLL+C

165Grant gan Weinidogion Cymru ar gyfer diogelu neu wella ardaloedd cadwraethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i dalu unrhyw wariant perthnasol y maent yn ystyried ei fod wedi gwneud neu y bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu neu wella cymeriad neu olwg ardal gadwraeth.

(2)Mae gwariant yn berthnasol at ddibenion is-adran (1) os aed iddo neu os eir iddo wrth wneud y gwaith diogelu neu wella a grybwyllir yn yr is-adran honno, mewn cysylltiad â’r gwaith diogelu neu wella hwnnw, neu gyda golwg ar hybu’r gwaith diogelu neu wella hwnnw.

(3)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon yn gymwys pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru yn rhoi grant o dan is-adran (1) mewn perthynas ag adeilad neu dir arall ar delerau sy’n darparu y gellir ei adennill o dan yr adran hon, a

(b)cyn neu wrth roi’r grant, fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i dderbynnydd y grant sy’n—

(i)crynhoi effaith yr adran hon, a

(ii)pennu cyfnod, sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant ac sy’n dod i ben heb fod yn hwy na 10 mlynedd ar ôl y diwrnod hwnnw, y gellir adennill y grant ynddo yn unol ag is-adrannau (5) i (7) (“y cyfnod adennill”).

(4)Os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o amodau a osodir wrth roi’r grant, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(5)Mae is-adrannau (6) a (7) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod adennill—

(a)caiff y cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal, ar y diwrnod y rhoddwyd y grant, yn yr adeilad neu dir arall (“y buddiant perthnasol”) y mae’r grant yn ymwneud ag ef ei waredu neu ei gwaredu, a

(b)caiff y gwarediad ei wneud drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf.

(6)Os caiff y gwarediad ei wneud gan dderbynnydd y grant neu gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi rhan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.

(7)Os caiff y gwarediad ei wneud gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi’r cyfan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth y person y rhoddwyd y rhodd iddo.

(8)Ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill symiau o dan yr adran hon sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na swm y grant.

(9)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at roi buddiant i berson yn gyfeiriadau at ei roi i’r person yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac eithrio ar farwolaeth deiliad y buddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I165A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

166Cytundebau ardaloedd cadwraethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb ardal gadwraeth ag un neu ragor o awdurdodau cynllunio.

(2)Mae cytundeb ardal gadwraeth yn gytundeb y bydd swm penodedig o arian yn cael ei roi o’r neilltu am gyfnod penodedig o flynyddoedd at ddiben rhoi grantiau ar gyfer atgyweirio adeiladau sydd mewn ardal gadwraeth ac—

(a)sydd wedi eu cynnwys mewn rhestr a lunnir at ddibenion y cytundeb gan y partïon iddo, neu ganddynt hwy ac awdurdodau cynllunio eraill, neu

(b)a ddangosir ar fap a luniwyd at y dibenion hynny gan y partïon, neu ganddynt hwy ac awdurdodau cynllunio eraill.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant at ddibenion cytundeb ardal gadwraeth i awdurdod cynllunio sy’n barti i’r cytundeb neu i unrhyw berson arall.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniadau ag unrhyw awdurdod o’r fath ynghylch sut y mae’r cytundeb i’w gyflawni (gan gynnwys trefniadau ar gyfer cynnig a thalu grantiau o dan yr adran hon).

(5)Mae adran 165(4) i (9) yn gymwys i grant o dan yn yr adran hon, ond gan gymryd bod y cyfnod adennill yn 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant.

Gwybodaeth Cychwyn

I166A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 09/09/2024

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH

PENNOD 1LL+CARFER SWYDDOGAETHAU GAN AWDURDODAU CYNLLUNIO AC AWDURDODAU LLEOL ERAILL

Valid from 04/11/2024

167Ffioedd a thaliadau am arfer swyddogaethauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i ffi gael ei thalu neu i dâl gael ei dalu i awdurdod cynllunio am—

(a)cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 3, Rhan 4, y Rhan hon neu Ran 7 fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r Rhannau hynny;

(b)gwneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny, neu sy’n ffafriol i’w cyflawni neu’n ddeilliadol i’w cyflawni.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid talu ffi neu dâl;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch pwy y mae rhaid iddo dalu ffi neu dâl;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae ffi neu dâl i’w chyfrifo neu ei gyfrifo (gan gynnwys pwy sydd i’w chyfrifo neu ei gyfrifo);

(d)pennu amgylchiadau pan fo ffi neu dâl i’w hepgor neu i’w had-dalu neu ei ad-dalu (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);

(e)pennu amgylchiadau pan nad oes ffi neu dâl i’w thalu neu ei dalu;

(f)gwneud darpariaeth ynghylch effaith talu neu fethu â thalu ffi neu dâl yn unol â’r rheoliadau (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon);

(g)pennu amgylchiadau pan fo ffi neu dâl sy’n daladwy i un awdurdod cynllunio i’w throsglwyddo neu ei drosglwyddo i awdurdod cynllunio arall.

(3)Os yw rheoliadau o dan yr adran hon yn darparu i awdurdod cynllunio gyfrifo swm unrhyw ffioedd neu daliadau, rhaid i’r awdurdod sicrhau, gan ystyried un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw ei incwm o’r ffioedd neu’r taliadau yn fwy na chost cyflawni’r swyddogaethau, neu wneud y pethau, y maent yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I167A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

168Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadauLL+C

(1)Mae adrannau 319ZA i 319ZD o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â cheisiadau) yn gymwys i arfer gan awdurdod cynllunio ei swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau o dan neu yn rhinwedd Rhannau 3 a 4 fel y maent yn gymwys i arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau o dan y Ddeddf honno.

(2)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd cydsyniad neu benderfyniad a roddir neu a wneir, neu yr ymhonnir ei fod wedi ei roi neu ei wneud, gan awdurdod cynllunio mewn cysylltiad â chais a wneir o dan neu yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r Rhannau hynny mewn unrhyw achos cyfreithiol, nac mewn unrhyw achos arall o dan y Ddeddf hon, ar y sail y dylai’r cydsyniad neu’r penderfyniad fod wedi ei roi neu ei wneud gan awdurdod cynllunio arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I168A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

169Trefniadau ar gyfer cael cyngor arbenigolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio ar unrhyw adeg i gyflwyno i’w cymeradwyo ganddynt y trefniadau y mae’r awdurdod yn cynnig eu gwneud ar gyfer cael cyngor arbenigol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau perthnasol.

(2)Rhaid i’r awdurdod gyflwyno ei drefniadau arfaethedig i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni â’r trefniadau y mae’r awdurdod (“awdurdod A”) yn cynnig eu gwneud, cânt gyfarwyddo awdurdod A ac awdurdod cynllunio arall a bennir yn y cyfarwyddyd (“awdurdod B”)—

(a)i wneud cytundeb o dan adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) i osod ar gael i awdurdod A wasanaethau personau a gyflogir gan awdurdod B sy’n gymwys i roi’r cyngor arbenigol, neu

(b)i wneud trefniadau i awdurdod B arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau perthnasol awdurdod A.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b) wneud darpariaeth ynghylch telerau’r trefniadau.

(5)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau awdurdod cynllunio.

(6)At ddibenion yr adran hon swyddogaethau perthnasol awdurdod cynllunio yw ei swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd—

(a)adrannau 83 a 84 (rhestru adeiladau dros dro),

(b)Pennod 2 (rhoi, addasu a dirymu cydsyniad) o Ran 3,

(c)Pennod 3 (cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig) o’r Rhan honno,

(d)Pennod 4 (gorfodi rheolaethau) o’r Rhan honno,

(e)adran 314A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig), ac

(f)adrannau 158 i 163 o’r Ddeddf hon (dynodi ardaloedd cadwraeth, dyletswyddau awdurdodau cynllunio a rheolaethu dymchwel).

Gwybodaeth Cychwyn

I169A. 169 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

170Ffurf ar ddogfennauLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu ffurf a chynnwys unrhyw hysbysiad, unrhyw orchymyn neu unrhyw ddogfen arall y mae awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i’w gyflwyno neu ei chyflwyno, i’w wneud neu ei gwneud neu i’w ddyroddi neu ei dyroddi neu y mae’n ofynnol iddo ei gyflwyno neu ei chyflwyno, ei wneud neu ei gwneud neu ei ddyroddi neu ei dyroddi o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4, y Rhan hon neu Ran 7 fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r Rhannau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I170A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

171Cyfraniadau tuag at wariant gan awdurdodau lleolLL+C

(1)Caiff unrhyw awdurdod lleol neu unrhyw ymgymerwr statudol gyfrannu tuag at wariant yr eir iddo gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall wrth arfer, neu mewn cysylltiad ag arfer, ei swyddogaethau o dan Ran 3 (gan gynnwys ei swyddogaethau o dan y Rhan honno fel y’i cymhwysir gan adran 163).

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i wariant yr eir iddo—

(a)wrth dalu digollediad o dan adrannau 80, 86, 108, 116 a 122 (ond nid yw hyn yn atal awdurdod rhag cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b)), neu

(b)wrth arfer, neu mewn cysylltiad ag arfer, swyddogaethau o dan adrannau 143 i 146, 148 a 149.

(3)Pan fo digollediad yn daladwy gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall o ganlyniad i unrhyw beth a wneir o dan Benodau 1 i 4 o Ran 3 (gan gynnwys unrhyw beth a wneir o dan Bennod 2 neu 4 o’r Rhan honno fel y’i cymhwysir gan adran 163), caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfrannu tuag at dalu’r digollediad, os gwnaed y peth yn gyfan gwbl neu’n rhannol er budd gwasanaeth a ddarperir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)cyfarwyddo awdurdod lleol arall i gyfrannu swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol, gan roi sylw i unrhyw fudd sy’n cronni i’r awdurdod arall hwnnw o ganlyniad i wneud y peth.

(4)Nid yw is-adran (3)(b) yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio yn agored i dalu digollediad o dan adran 116 o ganlyniad i derfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

(5)Mewn achos o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw awdurdod cynllunio arall sy’n barti i’r cytundeb, neu a oedd yn barti i’r cytundeb, i ad-dalu’r awdurdod y mae’r digollediad yn daladwy ganddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan is-adran (5) oni bai eu bod wedi ymgynghori â’r holl awdurdodau cynllunio sy’n bartïon i’r cytundeb, neu a oedd yn bartïon i’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I171A. 171 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

PENNOD 2LL+CACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU

Darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau i Weinidogion CymruLL+C

172Ffioedd am apelauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud apêl y mae’r adran hon yn gymwys iddo dalu ffi i Weinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)i apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);

(b)i apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid talu ffi;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae ffi i’w chyfrifo (gan gynnwys pwy sydd i’w chyfrifo);

(c)pennu amgylchiadau pan fo ffi i’w hepgor neu ei had-dalu (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);

(d)pennu amgylchiadau pan nad oes ffi i’w thalu;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch effaith talu neu fethu â thalu ffi yn unol â’r rheoliadau (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I172A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

173Penderfynu apêl gan berson a benodirLL+C

(1)Mae apêl y mae’r adran hon yn gymwys iddi i’w phenderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (yn hytrach na chan Weinidogion Cymru).

(2)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)i apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);

(b)i apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).

(3)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i apêl—

(a)os yw’n apêl o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod yr apêl i’w phenderfynu ganddynt hwy yn hytrach na chan berson a benodir.

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir odani sy’n darparu y caniateir i apêl gael ei gwneud i Weinidogion Cymru, neu fod rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.

(5)Pan fo person a benodir yn penderfynu apêl, mae penderfyniad y person a benodir i’w drin fel pe bai’n benderfyniad gan Weinidogion Cymru.

(6)Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenodiadau o dan is-adran (1) a chyfarwyddydau o dan is-adran (3)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I173A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau ac achosion eraill gerbron Gweinidogion CymruLL+C

174Dewis o ymchwiliad, gwrandawiad neu weithdrefn ysgrifenedigLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob achos benderfynu’r weithdrefn ar gyfer ystyried achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(2)Rhaid i benderfyniad ddarparu i’r achos gael ei ystyried mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)mewn ymchwiliad lleol;

(b)mewn gwrandawiad;

(c)ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caniateir i benderfyniad gael ei amrywio drwy benderfyniad pellach ar unrhyw adeg cyn penderfynu’r achos y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r personau a ganlyn am benderfyniad—

(a)y ceisydd neu’r apelydd (fel y bo’n briodol), a

(b)yr awdurdod cynllunio o dan sylw.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf y byddant yn eu cymhwyso wrth wneud penderfyniadau.

(7)Mae’r adran hon yn gymwys i’r achosion a ganlyn—

(a)cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 94 (atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i amrywio neu ddileu amodau);

(b)apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);

(c)cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 106 (gwaith brys ar dir y Goron);

(d)apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (7)—

(a)i ychwanegu achos o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon,

(b)i ddileu achos, neu

(c)i addasu disgrifiad o achos.

Gwybodaeth Cychwyn

I174A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

175Gofynion gweithdrefnolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad—

(a)ag achos ar unrhyw gais, unrhyw apêl neu unrhyw atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 neu 4 (pa un a yw’n cael ei ystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig);

(b)ag unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rhannau hynny neu’r Rhan hon.

(2)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â materion paratoadol ar gyfer ymchwiliad neu wrandawiad neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu faterion sy’n codi yn dilyn ymchwiliad neu wrandawiad neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig;

(b)cynnal achos.

(3)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn—

(a)pan fo camau wedi eu cymryd gyda golwg ar gynnal ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd,

(b)pan fo camau wedi eu cymryd gyda golwg ar benderfynu unrhyw fater gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru a bod yr achos yn destun cyfarwyddyd bod rhaid i’r mater gael ei benderfynu yn lle hynny gan Weinidogion Cymru, neu

(c)pan fo camau wedi eu cymryd yn unol â chyfarwyddyd o’r fath a bod cyfarwyddyd pellach yn cael ei roi sy’n dirymu’r cyfarwyddyd hwnnw,

a chânt ddarparu bod camau o’r fath i’w trin fel pe baent yn cydymffurfio, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â gofynion y rheoliadau.

(4)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu terfyn amser y mae rhaid i barti i achos gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ac unrhyw ddogfennau ategol oddi mewn iddo, neu alluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau sy’n gosod y terfyn amser mewn achos penodol neu mewn achosion o ddisgrifiad penodol;

(b)galluogi Gweinidogion Cymru i fynd ymlaen i wneud penderfyniad gan ystyried dim ond y sylwadau ysgrifenedig a’r dogfennau ategol a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser;

(c)galluogi Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r partïon o’u bwriad i wneud hynny, i fynd ymlaen i wneud penderfyniad er na chyflwynwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfyn amser, os ydynt yn ystyried bod ganddynt ddigon o ddeunydd ger eu bron i’w galluogi i ddod i benderfyniad ar rinweddau’r achos.

(5)Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan—

(a)caniateir i gyfarwyddyd ynghylch talu costau Gweinidogion Cymru gael ei roi o dan adran 180;

(b)caniateir i orchymyn ynghylch talu costau parti gael ei wneud o dan adran 181.

(6)Caiff y rheoliadau ddarparu na chaniateir, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, godi mater mewn achos ar apêl i Weinidogion Cymru oni bai—

(a)y codwyd y mater yn flaenorol cyn adeg a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)y dangosir na ellid bod wedi codi’r mater cyn yr adeg honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I175A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Ymchwiliadau lleolLL+C

176Pŵer Gweinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(2)Gweler hefyd baragraff 3(1) o Atodlen 12 ar gyfer y pŵer sydd gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 173 i gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad ag apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I176A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

177Pŵer person sy’n cynnal ymchwiliad i wneud tystiolaeth yn ofynnolLL+C

(1)Caiff person sy’n cynnal ymchwiliad lleol o dan y Rhan hon ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i unrhyw berson—

(a)bod yn bresennol yn yr ymchwiliad, ar adeg ac mewn lle a ddatgenir yn y wŷs, a rhoi tystiolaeth, neu

(b)dangos unrhyw ddogfennau sydd ym meddiant y person neu sydd o dan reolaeth y person, sy’n ymwneud ag unrhyw fater o dan sylw yn yr ymchwiliad.

(2)Caiff y person sy’n cynnal yr ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw, ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.

(3)Nid yw gwŷs o dan yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn yr ymchwiliad oni bai bod treuliau angenrheidiol y person ar gyfer bod yn bresennol yn cael eu talu neu eu cynnig i’r person.

(4)Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan yr adran hon i berson ddangos teitl (nac unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.

(5)Mae’n drosedd i berson—

(a)gwrthod cydymffurfio â gofyniad mewn gwŷs o dan yr adran hon neu fethu’n fwriadol â chydymffurfio â gofyniad o’r fath, neu

(b)newid, atal, cuddio neu ddinistrio’n fwriadol ddogfen y mae’n ofynnol i’r person ei dangos o dan yr adran hon, neu y mae’r person yn agored i orfod ei dangos o dan yr adran hon.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r uchafswm cyfnod am droseddau diannod, neu’r ddau.

(7)Yn is-adran (6) ystyr “yr uchafswm cyfnod am droseddau diannod” yw—

(a)mewn perthynas â throsedd a gyflawnir cyn i adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) ddod i rym, 6 mis;

(b)mewn perthynas â throsedd a gyflawnir ar ôl iddi ddod i rym, 51 o wythnosau.

Gwybodaeth Cychwyn

I177A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

178Mynediad at dystiolaeth mewn ymchwiliadLL+C

(1)Mewn ymchwiliad lleol a gynhelir o dan y Rhan hon—

(a)rhaid clywed tystiolaeth lafar yn gyhoeddus, a

(b)rhaid i dystiolaeth ddogfennol fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni.

(2)Ond os yw awdurdod gweinidogol wedi ei fodloni bod y ddau amod yn is-adran (3) wedi eu bodloni mewn perthynas ag ymchwiliad, caiff gyfarwyddo nad yw tystiolaeth o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd i’w chlywed nac ar gael i edrych arni yn yr ymchwiliad hwnnw ond gan bersonau a bennir yn y cyfarwyddyd neu gan bersonau o ddisgrifiad a bennir ynddo.

(3)Yr amodau yw—

(a)y byddai rhoi tystiolaeth o ddisgrifiad penodol yn gyhoeddus neu ei rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn debygol o arwain at ddatgelu gwybodaeth—

(i)am ddiogelwch cenedlaethol, neu

(ii)am y mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall, a

(b)y byddai datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd yn erbyn y buddiant cenedlaethol.

(4)Os yw awdurdod gweinidogol yn ystyried rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person (“cynrychiolydd a benodir”) i gynrychioli buddiannau unrhyw berson a fydd yn cael ei atal rhag clywed unrhyw dystiolaeth neu edrych ar unrhyw dystiolaeth mewn ymchwiliad lleol os rhoddir y cyfarwyddyd.

(5)Os nad oes cynrychiolydd a benodir pan fydd awdurdod gweinidogol yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person yn gynrychiolydd a benodir ar unrhyw adeg at ddibenion yr ymchwiliad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn gan awdurdod gweinidogol cyn iddo roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn achos pan fo cynrychiolydd a benodir;

(b)swyddogaethau cynrychiolydd a benodir.

(7)Yn yr adran hon ac adran 179, ystyr “awdurdod gweinidogol” yw Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

Gwybodaeth Cychwyn

I178A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

179Talu cynrychiolydd a benodir pan fo mynediad i dystiolaeth wedi ei gyfynguLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person wedi ei benodi o dan adran 178 yn gynrychiolydd a benodir at ddibenion ymchwiliad lleol, pa un a yw’r ymchwiliad yn digwydd ai peidio.

(2)Caiff awdurdod gweinidogol gyfarwyddo person (“y person cyfrifol”) i dalu ffioedd a threuliau’r cynrychiolydd a benodir.

(3)Rhaid i’r person cyfrifol fod yn berson y mae’r awdurdod gweinidogol yn ystyried ei fod â‍ buddiant yn yr ymchwiliad, neu y byddai wedi bod â buddiant yn yr ymchwiliad, mewn perthynas—

(a)â diogelwch cenedlaethol, neu

(b)â’r mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall.

(4)Os nad yw’r cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol yn gallu cytuno ar swm y ffioedd a’r treuliau, rhaid i’r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gweinidogol a roddodd y cyfarwyddyd.

(5)Rhaid i’r awdurdod gweinidogol beri i’r swm y cytunir arno rhwng y cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol, neu a benderfynir gan yr awdurdod gweinidogol, gael ei ardystio.

(6)Gellir adennill y swm ardystiedig oddi wrth y person cyfrifol fel dyled.

Gwybodaeth Cychwyn

I179A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Costau achosion gerbron Gweinidogion CymruLL+C

180Talu costau Gweinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r achosion a ganlyn—

(a)achos ar gais, apêl neu atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 neu 4 (pa un a yw’n cael ei ystyried neu ei hystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig);

(b)unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rhannau hynny neu’r Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd, neu awdurdod cynllunio neu barti arall i’r achos, dalu’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt mewn perthynas â’r achos (neu gymaint o’r costau ag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru).

(3)Mae’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt mewn perthynas ag unrhyw achos yn cynnwys—

(a)yr holl gost weinyddol y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddi mewn cysylltiad â’r achos, gan gynnwys yn benodol swm rhesymol y maent yn ei benderfynu mewn cysylltiad â chostau staff cyffredinol a gorbenion Llywodraeth Cymru;

(b)costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu swm dyddiol safonol ar gyfer achos o ddisgrifiad penodedig.

(5)Pan fo achos o ddisgrifiad penodedig yn digwydd, rhaid cymryd mai’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt yw—

(a)y swm dyddiol safonol am bob diwrnod (neu gyfran briodol o’r swm hwnnw am ran o ddiwrnod) y mae person penodedig yn ymwneud ag ymdrin â’r achos;

(b)costau yr eir iddynt mewn gwirionedd mewn cysylltiad ag ymdrin â’r achos —

(i)ar lwfansau teithio neu gynhaliaeth, neu

(ii)ar ddarparu llety neu gyfleusterau eraill;

(c)unrhyw gostau y gellir eu priodoli i benodi personau penodedig i gynorthwyo i ymdrin â’r achos;

(d)unrhyw gostau neu alldaliadau cyfreithiol yr eir iddynt neu a wneir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan mewn cysylltiad â’r achos.

(6)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I180A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

181Gorchmynion sy’n ymwneud â chostau partïonLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r achosion a ganlyn—

(a)achos ar gais, apêl neu atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 neu 4 (pa un a yw’n cael ei ystyried neu ei hystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig);

(b)unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rhannau hynny neu’r Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion ynghylch—

(a)costau’r ceisydd neu’r apelydd neu awdurdod cynllunio neu barti arall i’r achos (a all gynnwys costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd), a

(b)y person neu’r personau sydd i dalu’r costau hynny.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru orchymyn i berson dalu costau parti arall oni bai eu bod wedi eu bodloni—

(a)bod y person wedi ymddwyn yn afresymol mewn perthynas â’r achos, a

(b)bod ymddygiad afresymol y person wedi achosi i’r parti arall fynd i wariant diangen neu wariant a wastraffwyd.

(4)Rhaid i’r pŵer i wneud gorchmynion o dan yr adran hon hefyd gael ei arfer yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 175(5)(b) (gofynion gweithdrefnol).

Gwybodaeth Cychwyn

I181A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

PENNOD 3LL+CDILYSRWYDD PENDERFYNIADAU A’U CYWIRO

Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynionLL+C

182Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol sy’n ymwneud ag adeiladauLL+C

(1)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 183.

(2)Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)penderfyniad ar adolygiad o dan adran 81 (adolygu penderfyniad rhestru);

(b)penderfyniad ar gais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 94 (atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i amrywio neu ddileu amodau);

(c)penderfyniad ar apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);

(d)penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 106 (gwaith brys ar dir y Goron);

(e)penderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i gadarnhau neu beidio â chadarnhau hysbysiad prynu, gan gynnwys—

(i)penderfyniad i gadarnhau’r hysbysiad mewn perthynas â rhan yn unig o’r tir y mae’n ymwneud ag ef, a

(ii)penderfyniad i roi cydsyniad adeilad rhestredi‍g neu gydsyniad ardal gadwraeth, neu gyfarwyddo bod rhaid rhoi cydsyniad, yn hytrach na chadarnhau’r hysbysiad mewn perthynas â’r tir neu unrhyw ran ohono;

(f)penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) (penderfynu apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) i roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i ddileu amod mewn cydsyniad.

(3)Y gorchmynion y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)gorchymyn o dan adran 107 (addasu neu ddirymu cydsyniad) a wneir gan awdurdod cynllunio (pa un a yw wedi ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru ai peidio) neu Weinidogion Cymru;

(b)gorchymyn o dan adran 115 (terfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb) a wneir gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru;

(c)gorchymyn o dan adran 181 (gorchmynion sy’n ymwneud â chostau partïon) a wneir mewn cysylltiad â phenderfyniad a grybwyllir yn is-adran (2) neu orchymyn a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

(4)Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I182A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

183Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymynLL+C

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn y mae adran 182 yn gymwys iddo, neu’r awdurdod sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniad neu orchymyn o’r fath, wneud cais am adolygiad statudol.

(2)Mae cais am adolygiad statudol yn gais i’r Uchel Lys sy’n cwestiynu dilysrwydd y penderfyniad neu’r gorchymyn ar y sail—

(a)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(b)na chydymffurfiwyd â gofyniad yn y Ddeddf hon, neu mewn is-ddeddfwriaeth a wneir odani, mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn.

(3)Ni chaniateir gwneud cais am adolygiad statudol ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.

(4)Rhaid i gais am ganiatâd gael ei wneud cyn diwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth—

(a)yn achos cais sy’n ymwneud â penderfyniad a grybwyllir yn adran 182(2), y diwrnod y gwneir y penderfyniad;

(b)yn achos cais sy’n ymwneud â gorchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan adran 107 ac a gadarnheir gan Weinidogion Cymru (gydag addasiadau neu hebddynt), y diwrnod y cadarnheir y gorchymyn;

(c)yn achos unrhyw gais arall sy’n ymwneud â gorchymyn o dan adran 107, y diwrnod y mae’r gorchymyn yn cymryd effaith;

(d)yn achos cais sy’n ymwneud â gorchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan adran 115, y diwrnod y cadarnheir y gorchymyn;

(e)yn achos cais sy’n ymwneud ag unrhyw orchymyn arall a grybwyllir yn adran 182(3), y diwrnod y gwneir y gorchymyn.

(5)Wrth ystyried pa un ai i roi caniatâd, caiff yr Uchel Lys wneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais arfaethedig am adolygiad statudol yn ymwneud ag ef hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos—

(a)ar y cais am ganiatâd, neu

(b)pan fo caniatâd wedi ei roi, ar y cais am adolygiad statudol.

(6)Ar gais am adolygiad statudol, caiff yr Uchel Lys—

(a)gwneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos;

(b)diddymu’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—

(i)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(ii)bod methiant i gydymffurfio â gofyniad yn y Ddeddf hon, neu mewn is-ddeddfwriaeth a wneir odani, mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn, wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fuddiannau’r ceisydd.

(7)At ddibenion yr adran hon yr awdurdod sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniad neu orchymyn yw—

(a)yn achos penderfyniad ar gais a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan adran 94, yr awdurdod cynllunio a wnaeth yr atgyfeiriad;

(b)yn achos penderfyniad ar apêl o dan adran 100, yr awdurdod cynllunio y gwnaed y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef iddo;

(c)yn achos penderfyniad i gadarnhau neu i beidio â chadarnhau hysbysiad prynu—

(i)yr awdurdod cynllunio y cyflwynwyd yr hysbysiad prynu iddo (gweler adran 109), a

(ii)os yw Gweinidogion Cymru wedi addasu’r hysbysiad yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy roi awdurdod lleol arall neu ymgymerwr statudol yn lle’r awdurdod cynllunio, yr awdurdod lleol arall hwnnw neu’r ymgymerwr statudol hwnnw;

(d)yn achos penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) ar apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd gan awdurdod cynllunio, yr awdurdod a ddyroddodd yr hysbysiad;

(e)yn achos gorchymyn o dan adran 107, yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn ei ardal;

(f)yn achos gorchymyn o dan adran 115, unrhyw awdurdod cynllunio sy’n barti i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef neu a oedd yn barti i’r cytundeb hwnnw;

(g)yn achos gorchymyn a wnaed o dan adran 181 mewn cysylltiad â phenderfyniad neu orchymyn a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (f), yr awdurdod a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I183A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

184Apelio i’r Uchel Lys yn erbyn penderfyniad sy’n ymwneud â hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Rhaid i reolau llys ddarpar‍u naill ai—

(a)y caiff person sydd â buddiant apelio i’r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol yn erbyn penderfyniad perthnasol a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad perthnasol, y caiff person sydd â buddiant ei gwneud yn ofynnol iddynt ddatgan a llofnodi achos i gael barn yr Uchel Lys.

(2)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae penderfyniad perthnasol yn unrhyw benderfyniad (gan gynnwys cyfarwyddyd neu orchymyn) a wneir mewn achos ar apêl o dan adran 127 yn erbyn hysbysiad gorfodi, ac eithrio penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) i roi cydsyniad neu i ddileu amod mewn cydsyniad;

(b)mae’r personau a ganlyn yn bersonau sydd â buddiant—

(i)y person a wnaeth yr apêl,

(ii)yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef yn ei ardal, a

(iii)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr adeilad.

(3)Ar unrhyw gam o’r achos ar apêl o dan adran 127, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan cwestiwn cyfreithiol sy’n codi yn ystod yr achos ar ffurf achos arbennig i gael penderfyniad yr Uchel Lys.

(4)Mae penderfyniad gan yr Uchel Lys ar achos a ddatgenir o dan is-adran (3) i’w drin fel pe bai’n ddyfarniad gan y llys at ddibenion adran 16 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54) (awdurdodaeth y Llys Apêl i glywed a phenderfynu apelau o ddyfarniadau neu orchmynion yr Uchel Lys).

(5)Pan fo achos yn cael ei ddwyn yn rhinwedd yr adran hon, caiff yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl (yn ôl y digwydd) orchymyn bod yr hysbysiad gorfodi i gael effaith, naill ai’n llawn neu i’r graddau a bennir yn y gorchymyn, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos ac unrhyw ail wrandawiad a phenderfyniad ar yr apêl gan Weinidogion Cymru.

(6)Caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (5) ar ba delerau bynnag y mae’r llys yn ystyried eu bod yn briodol, a all gynnwys telerau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio roi ymgymeriad ynghylch iawndal neu unrhyw fater arall.

(7)Caiff rheolau llys wneud darpariaeth—

(a)i Weinidogion Cymru fod yn barti i achos yn yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl a ddygir yn rhinwedd yr adran hon, naill ai’n gyffredinol neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheolau;

(b)ynghylch pwerau’r Uchel Lys neu’r Llys Apêl i anfon y mater yn ôl at Weinidogion Cymru ar gyfer ail wrandawiad a phenderfyniad yn unol â barn neu gyfarwyddyd y llys.

(8)Ni chaniateir dwyn achos yn yr Uchel Lys o dan yr adran hon ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.

(9)Ni chaniateir dwyn apêl i’r Llys Apêl yn rhinwedd yr adran hon ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I184A. 184 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cywiro penderfyniadau Gweinidogion CymruLL+C

185Ystyr “dogfen penderfyniad” a “gwall cywiradwy”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 186 a 187.

(2)Ystyr “dogfen penderfyniad” yw dogfen sy’n cofnodi—

(a)penderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo (gweler is-adran (2) o’r adran honno),

(b)penderfyniad ar apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi), neu

(c)unrhyw benderfyniad arall a wneir o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Ystyr “gwall cywiradwy” yw gwall—

(a)sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw ran o’r ddogfen penderfyniad sy’n cofnodi’r penderfyniad, ond

(b)nad yw’n rhan o unrhyw resymau a roddir dros y penderfyniad,

ac mae “gwall” yn cynnwys hepgoriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I185A. 185 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

186Pŵer i gywiro gwallau cywiradwy mewn dogfennau penderfyniadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo dogfen penderfyniad yn cael ei dyroddi sy’n cynnwys gwall cywiradwy.

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod adolygu—

(a)yn cael cais ysgrifenedig i gywiro’r gwall oddi wrth unrhyw berson, neu

(b)yn anfon datganiad ysgrifenedig at y ceisydd sy’n esbonio’r gwall ac yn datgan eu bod yn ystyried ei gywiro,

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gywiro’r gwall ai peidio.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud cywiriad oni bai eu bod wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio eu bod wedi cael y cais a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu wedi anfon y datganiad a grybwyllir yn is-adran (2)(b).

(4)Y cyfnod adolygu yw—

(a)pan fo’r ddogfen penderfyniad yn cofnodi penderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo, y cyfnod y caniateir i gais am ganiatâd i wneud cais am adolygiad statudol o dan adran 183 gael ei wneud ynddo i’r Uchel Lys;

(b)pan fo’r ddogfen penderfyniad yn cofnodi penderfyniad ar apêl o dan adran 127 nad yw adran 182 yn gymwys iddo, y cyfnod y caniateir i gais am ganiatâd i ddwyn achos o dan adran 184 gael ei wneud ynddo i’r Uchel Lys, heb gynnwys unrhyw amser y caiff yr Uchel Lys estyn y cyfnod hwnnw,

ac nid oes gwahaniaeth a wneir unrhyw gais o’r fath mewn gwirionedd.

(5)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gywiro’r gwall neu ar ôl iddynt benderfynu peidio â’i gywiro, rhaid iddynt ddyroddi hysbysiad cywiro.

(6)Mae hysbysiad cywiro yn hysbysiad sydd—

(a)yn pennu cywiriad y gwall, neu

(b)yn rhoi hysbysiad o benderfyniad i beidio â’i gywiro.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno’r hysbysiad cywiro—

(a)i’r ceisydd;

(b)os nad y ceisydd yw perchennog yr adeilad neu’r tir arall y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef, i bob perchennog ar yr adeilad neu’r tir;

(c)i’r awdurdod cynllunio;

(d)os gofynnodd unrhyw berson arall am y cywiriad, i’r person hwnnw;

(e)i unrhyw berson arall a bennir, neu sydd o ddisgrifiad a bennir, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(8)Pan ddyroddwyd y ddogfen penderfyniad gan berson a benodir o dan adran 173, caniateir i swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan yr adran hon gael eu harfer hefyd gan y person hwnnw neu gan unrhyw berson arall a benodir o dan yr adran honno i benderfynu apelau yn lle Gweinidogion Cymru.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “yr awdurdod cynllunio” (“the planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad neu’r tir arall y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef yn ei ardal;

  • ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw’r person a wnaeth y cais neu’r apêl, neu a gyflwynodd yr hysbysiad prynu, y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef neu hi;

  • ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad neu dir arall, yw—

    (a)

    perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu’r tir, neu

    (b)

    tenant o dan les ar yr adeilad neu’r tir a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.

Gwybodaeth Cychwyn

I186A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

187Effaith a dilysrwydd hysbysiad cywiroLL+C

(1)Os gwneir cywiriad o dan adran 186—

(a)mae’r penderfyniad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei wneud;

(b)mae’r penderfyniad i’w drin at bob diben fel pe bai wedi ei wneud ar y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cywiro.

(2)Os na wneir cywiriad—

(a)mae’r penderfyniad gwreiddiol yn parhau i gael effaith;

(b)nid yw adran 186 na’r adran hon yn effeithio ar unrhyw beth a wneir yn unol â’r penderfyniad neu mewn perthynas ag ef.

(3)Pan fo hysbysiad cywiro yn cael ei ddyroddi mewn perthynas â phenderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo, mae adran 183 yn gymwys i’r hysbysiad cywiro fel pe bai’n benderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo.

(4)Pan fo hysbysiad cywiro yn cael ei ddyroddi mewn perthynas â phenderfyniad y mae adran 184 yn gymwys iddo, mae adran 184 yn gymwys i’r hysbysiad cywiro fel pe bai’n benderfyniad y mae’r adran honno yn gymwys iddo.

(5)Pan fo rheoliadau o dan adran 185(2)(c) yn pennu disgrifiad o benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy’n cyfateb i adran 183 neu 184 ar gyfer cwestiynu dilysrwydd hysbysiad cywiro a ddyroddir mewn perthynas â phenderfyniad o’r disgrifiad hwnnw.

(6)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd hysbysiad cywiro mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio i’r graddau a ddarperir yn rhinwedd yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I187A. 187 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

PENNOD 4LL+CCYFFREDINOL

Y GoronLL+C

188Cynrychiolaeth buddiannau’r Goron a buddiannau’r Ddugiaeth mewn tirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu sydd wedi ei awdurdodi i’w wneud at ddibenion Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon gan berchennog ar fuddiant mewn tir (gan gynnwys buddiant fel meddiannydd ar y tir yn unig) neu mewn perthynas â pherchennog o’r fath.

(2)I’r graddau y mae’r buddiant yn fuddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth, rhaid i’r peth gael ei wneud gan awdurdod priodol y Goron neu mewn perthynas â’r awdurdod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I188A. 188 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

189Cyflwyno dogfennau i’r GoronLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron yn ofynnol neu wedi ei awdurdodi o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(2)Rhaid cyflwyno’r ddogfen i awdurdod priodol y Goron.

(3)Nid yw adrannau 205 a 206 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dulliau cyflwyno) yn gymwys i gyflwyno’r ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I189A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

190Camau gorfodi mewn perthynas â thir y GoronLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod cynllunio gymryd cam gorfodi perthnasol mewn perthynas â thir y Goron heb gytundeb awdurdod priodol y Goron.

(2)Caiff awdurdod priodol y Goron roi cytundeb yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cam gorfodi perthnasol” yw unrhyw beth a wneir mewn cysylltiad â gorfodi gofyniad neu waharddiad a osodir gan neu o dan Ran 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(4)Mae’n cynnwys—

(a)mynd ar dir, a

(b)dwyn achos neu wneud cais.

(5)Ond nid yw’n cynnwys—

(a)dyroddi neu gyflwyno hysbysiad (er enghraifft hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop dros dro), neu

(b)gwneud gorchymyn (er enghraifft gorchymyn o dan adran 107 neu 115).

Gwybodaeth Cychwyn

I190A. 190 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

DehongliLL+C

191Ystyr “awdurdod lleol” yn y Rhan honLL+C

Yn y Rhan hon mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir gan adran 157.

Gwybodaeth Cychwyn

I191A. 191 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Valid from 04/11/2024

RHAN 6LL+CASEDAU TREFTADAETH ERAILL A CHOFNODION

Parciau a gerddi hanesyddolLL+C

192Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o barciau a gerddi hanesyddolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o barciau a gerddi yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o ddiddordeb hanesyddol arbennig, a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu‍ pa un ai i gynnwys, neu i ba raddau y dylid cynnwys, fel rhan o gofrestriad parc neu ardd—

(a)unrhyw adeilad neu ddŵr sydd arno neu arni, sy’n cydffinio ag ef neu â hi neu sy’n gyfagos iddo neu iddi, neu

(b)unrhyw dir sy’n cydffinio ag ef neu â hi neu sy’n gyfagos iddo neu iddi.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr drwy—

(a)ychwanegu cofnod,

(b)dileu cofnod, neu

(c)diwygio cofnod.

(4)Cyn gynted ag y bo’n bosibl ar ôl diwygio’r gofrestr, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny i’r personau a grybwyllir yn is-adran (5), a

(b)yn achos unrhyw ddiwygiad o dan is-adran (3)(a) neu (c), gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig yn y gofrestr.

(5)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y parc neu’r ardd o dan sylw (gan gynnwys, os ydynt yn wahanol, berchnogion a meddianwyr unrhyw beth sy’n ymddangos yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2));

(b)yr awdurdod cynllunio y mae’r parc neu’r ardd yn ei ardal (gan gynnwys, os yw’n wahanol, yr awdurdod cynllunio y mae unrhyw beth sy’n ymddangos yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2) yn ei ardal).

(6)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at barciau a gerddi yn cynnwys—

(a)mannau hamdden, a

(b)unrhyw diroedd eraill sydd wedi eu dylunio (gan gynnwys tirweddau addurnol sydd wedi eu dylunio).

Gwybodaeth Cychwyn

I192A. 192 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Enwau lleoedd hanesyddolLL+C

193Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi rhestr o enwau lleoedd hanesyddolLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, a rhaid iddynt gyhoeddi’r rhestr gyfredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I193A. 193 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cofnodion amgylchedd hanesyddolLL+C

194Dyletswydd i gynnal cofnodion amgylchedd hanesyddolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.

(2)Mae cofnod amgylchedd hanesyddol yn gofnod sy’n darparu—

(a)manylion pob heneb gofrestredig yn ardal yr awdurdod,

(b)manylion pob adeilad rhestredig yn ardal yr awdurdod,

(c)manylion pob ardal gadwraeth yn ardal yr awdurdod,

(d)manylion pob parc neu ardd yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys yn y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol a gynhelir o dan adran 192,

(e)manylion pob safle gwrthdaro yn ardal yr awdurdod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o ddiddordeb hanesyddol,

(f)pan fo awdurdod cyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill) yn cynnal rhestr o dirweddau hanesyddol yng Nghymru, fanylion pob tirwedd hanesyddol yn ardal yr awdurdod lleol sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr,

(g)manylion pob safle treftadaeth y byd yn ardal yr awdurdod,

(h)manylion pob ardal arall neu safle arall yn ardal yr awdurdod y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru yn ystyried ei bod neu ei fod o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol lleol,

(i)gwybodaeth am y ffordd y mae datblygiad hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol ardal yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni, wedi cyfrannu at gymeriad presennol yr ardal neu’r rhan ac am sut y gellir diogelu’r cymeriad hwnnw,

(j)manylion ymchwiliadau perthnasol a gynhelir yn ardal yr awdurdod a manylion canfyddiadau’r ymchwiliadau hynny, a

(k)dull o gael mynediad at fanylion pob enw lle hanesyddol yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gynhelir o dan adran 193.

(3)Yn is-adran (2)(e) ystyr “safle gwrthdaro” yw—

(a)maes brwydr neu safle lle y digwyddodd rhyw wrthdaro arall yr oedd lluoedd arfog yn rhan ohono, neu

(b)safle lle y digwyddodd gweithgareddau sylweddol a oedd yn ymwneud â brwydr neu wrthdaro arall yr oedd lluoedd arfog yn rhan ohono.

(4)Yn is-adran (2)(g) ystyr “safle treftadaeth y byd” yw unrhyw beth sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan Erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ynghylch Gwarchod Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972.

(5)Yn is-adran (2)(j) ystyr “ymchwiliad perthnasol” yw—

(a)ymchwiliad gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru at ddiben cael gwybodaeth o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol sy’n ymwneud ag ardal yr awdurdod, a

(b)unrhyw ymchwiliad arall at y diben hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ei gynnwys yn y cofnod.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio ystyr “cofnod amgylchedd hanesyddol”.

(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â phob awdurdod lleol, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(8)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod lleol yn cynnwys, yn achos awdurdod y mae ei ardal yn cynnwys rhan o lan y môr, unrhyw ran o’r môr sy’n gorwedd tua’r môr o’r rhan honno o’r lan ac sy’n ffurfio rhan o Gymru, a

(b)mae ardal, safle neu beth i gael ei thrin neu ei drin fel pe bai mewn ardal awdurdod lleol os yw unrhyw ran ohoni neu ohono yn yr ardal.

(9)Yn yr adran hon ac adran 196, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I194A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

195Mynediad at gofnodion amgylchedd hanesyddolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi pob cofnod amgylchedd hanesyddol ar gael i’r cyhoedd edrych arno, a

(b)rhoi ar gael i berson sy’n dymuno edrych ar gofnod amgylchedd hanesyddol gyngor ar adalw a deall gwybodaeth sydd wedi ei darparu yn y cofnod neu y ceir mynediad ati drwy’r cofnod, neu gynhorthwy i wneud hynny.

(2)Os yw—

(a)person yn gofyn am gopi o ran o gofnod amgylchedd hanesyddol neu fanylion y ceir mynediad atynt drwy gofnod o’r fath, a

(b)Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cais yn rhesymol,

rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r copi hwnnw neu’r manylion hynny i’r person.

(3)Os yw—

(a)person yn gofyn i wybodaeth sydd wedi ei darparu mewn cofnod amgylchedd hanesyddol neu y ceir mynediad ati drwy gofnod o’r fath gael ei hadalw, a

(b)Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cais yn rhesymol,

rhaid i Weinidogion Cymru lunio dogfen ar gyfer y person sy’n cynnwys yr wybodaeth.

(4)Wrth asesu a yw cais yn rhesymol at ddibenion is-adran (2) neu (3), mae’r materion y caiff Gweinidogion Cymru eu hystyried yn cynnwys unrhyw geisiadau blaenorol a wnaed gan y person o dan sylw neu ar ei ran.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi—

(a)am ddarparu cyngor neu gynhorthwy o dan is-adran (1)(b);

(b)am ddarparu copi neu fanylion o dan is-adran (2);

(c)am lunio dogfen o dan is-adran (3).

(6)Rhaid i ffi gael ei chyfrifo gan ystyried y gost o ddarparu’r gwasanaeth y mae’r ffi yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I195A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

196Canllawiau i gyrff cyhoeddus penodol ynghylch cofnodion amgylchedd hanesyddolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cyrff a restrir yn is-adran (2)—

(a)ar sut y gall y cyrff gyfrannu tuag at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol a chynorthwyo i gynnal y cofnodion, a

(b)ar y defnydd o gofnodion amgylchedd hanesyddol wrth arfer swyddogaethau’r cyrff.

(2)Y cyrff yw—

(a)awdurdodau lleol,

(b)awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, ac

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru.

(3)Rhaid i’r cyrff hynny roi sylw i’r canllawiau.

(4)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r cyrff, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I196A. 196 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

RHAN 7LL+CCYFFREDINOL

Valid from 04/11/2024

Pwerau i wneud gwybodaeth am fuddiannau mewn tir yn ofynnolLL+C

197Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol drwy hysbysiadLL+C

(1)Caiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwybodaeth”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd unrhyw dir neu i berson sy’n cael rhent (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) mewn cysylltiad ag unrhyw dir gadarnhau’n ysgrifenedig—

(a)natur buddiant y person yn y tir, a

(b)enw a chyfeiriad unrhyw berson arall sy’n wybyddus i’r person fel rhywun y mae ganddo fuddiant yn y tir.

(2)Ond ni chaiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad gwybodaeth oni bai bod ar yr awdurdod angen yr wybodaeth sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i’w alluogi—

(a)i arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod o dan neu yn rhinwedd Rhan 2, neu

(b)i wneud gorchymyn neu ddyroddi neu gyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall‍ o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, 4 neu 5.

(3)Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi—

(a)o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr hysbysiad neu a ganiateir gan yr awdurdod perthnasol.

(4)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod perthnasol” yw—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 157).

Gwybodaeth Cychwyn

I197A. 197 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

198Troseddau mewn cysylltiad ag adran 197LL+C

(1)Mae person y mae hysbysiad o dan adran 197 yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu, heb esgus rhesymol, â darparu’r wybodaeth.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3)Mae person y mae hysbysiad o dan adran 197 yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth yn cyflawni trosedd os yw’r person, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio â’r hysbysiad, yn darparu gwybodaeth y mae’n gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I198A. 198 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

199Gwybodaeth am fuddiannau yn nhir y GoronLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i fuddiant yn nhir y Goron nad yw’n fuddiant preifat.

(2)Nid yw adran 197 yn gymwys i fuddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(3)Ond caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi awdurdod perthnasol i arfer swyddogaeth a grybwyllir yn adran 197(2)(a) neu (b), ofyn i awdurdod priodol y Goron gadarnhau’n ysgrifenedig—

(a)natur buddiant yr awdurdod yn y tir;

(b)enw a chyfeiriad unrhyw berson arall sy’n wybyddus i’r awdurdod fel rhywun y mae ganddo fuddiant yn y tir.

(4)Rhaid i awdurdod priodol y Goron gydymffurfio â chais o dan is-adran (3) ac eithrio i’r graddau—

(a)nad yw’r wybodaeth y gofynnir amdani o fewn gwybodaeth yr awdurdod, neu

(b)y bydd gwneud hynny yn datgelu gwybodaeth—

(i)am ddiogelwch gwladol, neu

(ii)am y mesurau sydd wedi eu cymryd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu eiddo arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I199A. 199 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

Valid from 04/11/2024

TroseddauLL+C

200Troseddau gan gyrff corfforedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)uwch-swyddog i’r corff, neu

(b)person a oedd yn ymhonni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff.

(2)Mae’r uwch-swyddog neu’r person (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd, ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(4)Ond yn achos corff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, ystyr “cyfarwyddwr” yw aelod o’r corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I200A. 200 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

201Sancsiynau sifilLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas â throsedd o dan y Ddeddf hon y gallent ei gwneud o dan Ran 3 o DGRhS 2008 (sancsiynau sifil) pe bai, at ddibenion y Rhan honno—

(a)Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod arall a chanddo swyddogaeth orfodi mewn perthynas â’r drosedd yn rheoleiddiwr, a

(b)y drosedd yn drosedd berthnasol mewn perthynas â’r rheoleiddiwr hwnnw.

(2)Mae adrannau 59(3) a 60(1) a (2) o DGRhS 2008 (ymgynghori) yn gymwys i reoliadau o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i orchymyn o dan Ran 3 o DGRhS 2008.

(3)Mae adrannau 63 i 70 o DGRhS 2008 (canllawiau, arfer pwerau, taliadau i Gronfa Gyfunol Cymru a datgelu gwybodaeth) ym gymwys mewn perthynas â darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â darpariaeth a wneir o dan Ran 3 o DGRhS 2008.

(4)Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at awdurdod a chanddo swyddogaeth orfodi i’w ddehongli yn unol ag adran 71 o DGRhS 2008.

(5)Yn yr adran hon ystyr “DGRhS 2008” yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13).

Gwybodaeth Cychwyn

I201A. 201 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

Valid from 04/11/2024

DigollediadLL+C

202Gwneud hawliadau am ddigollediadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan y Ddeddf hon;

(b)diwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n pennu’r cyfnod y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad ynddo.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad am ddigollediad o dan y Ddeddf hon mewn achos penodol, os ydynt wedi eu bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny.

(3)Caniateir estyn y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad—

(a)ar unrhyw adeg, pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyfnod ddod i ben, a

(b)mwy nag unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I202A. 202 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

203Penderfynu hawliadau digollediad gan yr Uwch DribiwnlysLL+C

(1)Mae unrhyw anghydfod ynghylch digollediad o dan y Ddeddf hon i’w atgyfeirio at yr Uwch Dribiwnlys ac i’w benderfynu ganddo.

(2)Mae adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) (costau) yn gymwys i benderfynu cwestiwn a atgyfeirir o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys i benderfynu cwestiwn a atgyfeirir o dan adran 1 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at yr “acquiring authority” yn gyfeiriadau at y person yr hawlir digollediad oddi wrtho.

Gwybodaeth Cychwyn

I203A. 203 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

204Digollediad am ddibrisiant yng ngwerth tirLL+C

(1)Mae’r rheolau yn adran 5 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) yn cael effaith at ddiben asesu unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy o dan y Ddeddf hon, i’r graddau y maent yn berthnasol a chydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, fel y maent yn cael effaith at ddiben asesu digollediad am gaffael yn orfodol fuddiant mewn tir.

(2)Pan fo buddiant mewn tir yn ddarostyngedig i forgais—

(a)rhaid i unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad â’r buddiant gael ei asesu fel pe na bai’r buddiant yn ddarostyngedig i’r morgais;

(b)caniateir i hawliad am ddigollediad am ddibrisiant gael ei wneud gan unrhyw forgeisai i’r buddiant, ond nid yw hynny yn effeithio ar hawl y person y mae ei fuddiant yn ddarostyngedig i’r morgais i wneud hawliad;

(c)nid oes digollediad am ddibrisiant yn daladwy mewn cysylltiad â buddiant y morgeisai (sy’n wahanol i’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r morgais);

(d)rhaid i unrhyw ddigollediad am ddibrisiant sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r morgais gael ei dalu i’r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i’r morgeisai cyntaf; a rhaid iddo gael ei gymhwyso gan y morgeisai y telir y digollediad iddo fel pe bai’n enillion gwerthu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “digollediad am ddibrisiant” yw digollediad am golled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I204A. 204 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

Valid from 04/11/2024

Cyflwyno dogfennauLL+C

205Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill: cyffredinolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad neu ddogfen arall gael ei gyflwyno neu ei chyflwyno i berson neu’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu “rhoi” neu unrhyw derm arall).

(2)Caniateir cyflwyno’r ddogfen i’r person yn unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)drwy ei rhoi â llaw i’r person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, ei rhoi â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

(b)drwy ei gadael ym man preswylio arferol y person neu ym man preswylio hysbys diwethaf y person neu, os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yn y cyfeiriad hwnnw;

(c)drwy ei hanfon drwy’r post mewn llythyr wedi ei ragdalu—

(i)wedi ei gyfeirio at y person ym man preswylio arferol y person neu ym man preswylio hysbys diwethaf y person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, wedi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu

(ii)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, wedi ei gyfeirio i’r person yn y cyfeiriad hwnnw;

(d)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, drwy ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (3).

(3)Yr amodau yw—

(a)bod modd i’r person yr anfonir y ddogfen ato gyrchu’r ddogfen,

(b)bod y ddogfen yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac

(c)bod y ddogfen yn gallu cael ei defnyddio i gyfeirio ati yn ddiweddarach.

(4)Pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno dogfen i berson a bod y ddogfen yn dod i law’r person y tu allan i oriau busnes y person, mae’r ddogfen i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflwyno ar y diwrnod gwaith nesaf.

(5)Gweler adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) am ddarpariaeth ychwanegol ynghylch y dulliau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gyflwyno dogfennau.

Gwybodaeth Cychwyn

I205A. 205 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

206Darpariaeth ychwanegol ynghylch cyflwyno i bersonau sydd â buddiant mewn tir neu sy’n meddiannu tirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys (yn ychwanegol at adran 205) pan fo darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad neu ddogfen arall gael ei gyflwyno neu ei chyflwyno i berson, neu’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berson—

(a)am fod ganddo fuddiant mewn adeilad, heneb neu dir, neu

(b)am ei fod yn feddiannydd ar adeilad, heneb neu dir.

(2)Pan fo’r ddogfen i’w chyflwyno i berson am fod ganddo fuddiant mewn adeilad, heneb neu dir, ac na ellir darganfod enw’r person ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyfeirio’r ddogfen at y person fel “y perchennog” ar yr adeilad, yr heneb neu’r tir (y mae rhaid ei ddisgrifio neu ei disgrifio).

(3)Pan fo’r ddogfen i’w chyflwyno i berson am ei fod yn feddiannydd ar adeilad, heneb neu dir, caniateir ei chyfeirio at y person wrth ei enw neu fel “y meddiannydd” ar yr adeilad, yr heneb neu’r tir (y mae rhaid ei ddisgrifio neu ei disgrifio).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a)pan—

(i)bo dogfen i’w chyflwyno i berson am fod ganddo fuddiant mewn adeilad, heneb neu dir,

(ii)na fo modd darganfod man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, a

(iii)na fo’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno’r ddogfen, neu

(b)pan fo dogfen i’w chyflwyno i berson am ei fod yn feddiannydd ar adeilad, heneb neu dir.

(5)Mae’r ddogfen i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflwyno’n briodol os yw wedi ei chyfeirio at y person, wedi ei marcio’n glir fel cyfathrebiad pwysig sy’n effeithio ar eiddo’r person, a’i bod—

(a)wedi ei hanfon i’r adeilad, yr heneb neu’r tir drwy’r post ac nad yw wedi ei dychwelyd fel dogfen nas danfonwyd,

(b)wedi ei rhoi â llaw i berson sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn preswylio neu wedi ei gyflogi yn neu ar yr adeilad, yr heneb neu’r tir, neu

(c)wedi ei gosod yn sownd mewn lle gweladwy ar yr adeilad neu’r heneb neu ar wrthrych ar safle’r heneb neu ar y tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I206A. 206 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

Valid from 04/11/2024

Achosion arbennigLL+C

207Diffiniadau sy’n ymwneud â’r GoronLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth ynddo.

(3)Ystyr “buddiant y Goron” yw buddiant—

(a)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei ystadau preifat, neu

(b)sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(4)Ystyr “buddiant y Ddugiaeth” yw—

(a)buddiant sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu

(b)buddiant sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.

(5)Ystyr “buddiant preifat”, mewn perthynas â thir y Goron, yw buddiant nad yw’n fuddiant y Goron nac yn fuddiant y Ddugiaeth.

(6)Ystyr “awdurdod priodol y Goron”, mewn perthynas â thir y Goron, yw—

(a)yn achos tir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron, Comisiynwyr Ystad y Goron;

(b)mewn perthynas ag unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron, yr adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir;

(c)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat, person a benodir gan Ei Fawrhydi yn ysgrifenedig o dan y Llofnod Brenhinol neu, os na wneir unrhyw benodiad o’r fath, Gweinidogion Cymru;

(d)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, Canghellor y Ddugiaeth;

(e)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw, person a benodir gan Ddug Cernyw neu gan berson sy’n meddu ar y Ddugiaeth am y tro;

(f)yn achos tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yr adran.

(7)Mae “y Goron” i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd.

(8)Rhaid atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi ynghylch pwy yw awdurdod priodol y Goron mewn perthynas ag unrhyw dir i’r Trysorlys, y mae ei benderfyniad yn derfynol.

(9)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at ystadau preifat Ei Fawrhydi i’w darllen yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37);

(b)mae cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidog y Goron a Chomisiwn y Senedd (a gweler adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), sy’n darparu i gyfeiriadau at adran o’r llywodraeth gynnwys Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol).

Gwybodaeth Cychwyn

I207A. 207 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

208Tir Eglwys LoegrLL+C

(1)Pan fo unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berchennog ar dir, a thir Eglwys Loegr yw’r tir, rhaid cyflwyno dogfen gyfatebol i’r Bwrdd Cyllid priodol hefyd.

(2)Mae tir Eglwys Loegr sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig sydd heb ddeiliad i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n perthyn i’r Bwrdd Cyllid priodol.

(3)Rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â thir Eglwys Loegr—

(a)cael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid priodol, a

(b)cael ei gymhwyso gan y Bwrdd hwnnw at y dibenion y byddai enillion gwerthu’r tir drwy gytundeb yn gymwys iddynt o dan unrhyw ddeddfiad neu Fesur gan Eglwys Loegr sy’n awdurdodi neu’n gwaredu enillion gwerthiant o’r fath.

(4)Pan fo swm yn adenilladwy o dan adran 22 mewn perthynas â thir Eglwys Loegr, caiff y Bwrdd Cyllid priodol gymhwyso unrhyw arian neu unrhyw warannau a ddelir ganddo i ad-dalu’r swm hwnnw.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “Bwrdd Cyllid priodol” (“appropriate Board of Finance”), mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth y mae’r tir ynddi;

  • ystyr “Mesur gan Eglwys Loegr” (“Church Measure”) yw Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;

  • ystyr “tir Eglwys Loegr” (“Church of England land”) yw tir—

    (a)

    sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig i Eglwys Loegr,

    (b)

    sy’n eglwys neu’n ffurfio rhan o eglwys sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob yn un o esgobaethau Eglwys Loegr neu safle eglwys o’r fath, neu

    (c)

    sy’n gladdfa neu’n ffurfio rhan o gladdfa sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I208A. 208 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

CyffredinolLL+C

209Rheoliadau o dan y Ddeddf honLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Yn achos rheoliadau a wneir o dan y pwerau a grybwyllir yn is-adran (4), mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (2)(b) yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(4)Y pwerau y cyfeirir atynt yn is-adran (3) yw’r pwerau a roddir gan—

(a)adran 167 (ffioedd am arfer swyddogaethau awdurdodau cynllunio);

(b)adran 172 (ffioedd am apelau sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig ac adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth);

(c)adran 174(8) (achosion y mae rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu’r weithdrefn ar eu cyfer);

(d)adrannau 185(2)(c), 186(7)(e) a 187(5) (cywiro penderfyniadau).

(5)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 2(3) (adeiladau crefyddol sydd i’w trin fel pe baent yn henebion);

(b)rheoliadau o dan adran 26(8) (cymhwyso darpariaethau i gytundebau partneriaethau henebion cofrestredig);

(c)rheoliadau o dan adran 114(8) (cymhwyso darpariaethau i gytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig);

(d)rheoliadau o dan adran 147 (camau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael);

(e)rheoliadau o dan adran 167 (ffioedd am arfer swyddogaethau awdurdodau cynllunio);

(f)rheoliadau o dan adran 172 (ffioedd am apelau sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig ac adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth);

(g)rheoliadau o dan adran 201 (sancsiynau sifil);

(h)rheoliadau sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

(6)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(7)Yn is-adran (5)(h) ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur gan y Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I209A. 209 mewn grym ar 15.6.2023, gweler a. 212(1)(b)

210DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “adeilad” (“building”) (ac eithrio yn Rhan 2) yw—

    (a)

    unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur, neu

    (b)

    unrhyw ran o adeilad neu strwythur,

  • ond nid yw’n cynnwys (ac eithrio yn adran 148) gyfarpar neu beiriannau sy’n ffurfio rhan o adeilad neu strwythur;

  • mae i “adeilad rhestredig” (“listed building”) yr ystyr a roddir gan adran 76;

  • ystyr “ardal gadwraeth” (“conservation area”) yw ardal sydd wedi ei dynodi o dan adran 158;

  • ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw awdurdod cynllunio lleol, o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8), ar gyfer ardal yng Nghymru;

  • mae i “awdurdod priodol y Goron” (“appropriate Crown authority”) yr ystyr a roddir gan adran 207(6);

  • mae i “buddiant y Ddugiaeth” (“Duchy interest”) yr ystyr a roddir gan adran 207(4);

  • mae i “buddiant y Goron” (“Crown interest”) yr ystyr a roddir gan adran 207(3);

  • mae i “buddiant preifat” (“private interest”), mewn perthynas â thir y Goron, yr ystyr a roddir gan adran 207(5);

  • mae i “caniatâd cynllunio” yr ystyr a roddir i “planning permission” gan adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

  • mae i “cydsyniad adeilad rhestredig” (“listed building consent”) yr ystyr a roddir gan adran 89;

  • mae i “cydsyniad ardal gadwraeth” (“conservation area consent”) yr ystyr a roddir gan adran 162;

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (p. 7);

  • ystyr “cyfeiriad” (“address”), mewn perthynas â chyfathrebiadau electronig, yw unrhyw rif neu unrhyw gyfeiriad a ddefnyddir at ddiben cyfathrebiadau electronig;

  • mae i “cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig” (“listed building partnership agreement”) yr ystyr a roddir gan adran 113(5);

  • mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

  • mae “y Goron” (“the Crown”) i’w ddehongli yn unol ag adran 207(7);

  • ystyr “gwaredu” (“disposal”), mewn perthynas â thir, yw gwaredu drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les, drwy greu hawddfraint, hawl neu fraint, neu mewn unrhyw ffordd arall, ond nid yw’n cynnwys gwaredu drwy neilltuo, drwy rodd neu drwy forgais;

  • mae “heneb” (“monument”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2;

  • mae i “heneb gofrestredig” (“scheduled monument”) yr ystyr a roddir gan adran 3(7);

  • mae “les” (“lease”) yn cynnwys is-les a chytundeb am les neu is-les, ond nid yw’n cynnwys opsiwn i gymryd les neu forgais;

  • ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â thir (ac eithrio yn adrannau 15, 25, 26, 91, 113 a 186), yw person, pa un ai yn ei hawl ei hun neu fel ymddiriedolwr ar gyfer unrhyw berson arall—

    (a)

    sydd â hawlogaeth i gael crogrent y tir, neu

    (b)

    a fyddai â hawlogaeth o’r fath pe bai’r tir yn cael ei osod am grogrent,

    ond nid yw’n cynnwys morgeisai nad yw mewn meddiant;

  • mae “safle” (“site”), mewn perthynas â heneb, i’w ddehongli yn unol ag adran 2;

  • mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;

  • o ran “tir” (“land”)—

    (a)

    ei ystyr yw unrhyw hereditament corfforol, gan gynnwys adeilad neu heneb, a

    (b)

    mewn perthynas â chaffael tir, mae’n cynnwys unrhyw fuddiant mewn tir neu unrhyw hawl dros dir;

  • mae i “tir y Goron” (“Crown land”) yr ystyr a roddir gan adran 207(2);

  • ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw person—

    (a)

    sy’n ymgymerwr statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory undertakers” gan adran 262 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8), neu

    (b)

    y tybir gan yr adran honno ei fod yn ymgymerwr statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf honno,

    ac mae cyfeiriadau at “ymgymeriad” ymgymerwr statudol i’w dehongli yn unol â’r adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I210A. 210 mewn grym ar 15.6.2023, gweler a. 212(1)(c)

211Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Mae Atodlen 13 yn cynnwys mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

(2)Mae Atodlen 14 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I211A. 211(3)(4) mewn grym ar 15.6.2023, gweler a. 212(1)(d)

212Dod i rymLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adran 209;

(c)adran 210;

(d)adran 211(3) a (4);

(e)yr adran hon;

(f)adran 213.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I212A. 212 mewn grym ar 15.6.2023, gweler a. 212(1)(e)

213Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I213A. 213 mewn grym ar 15.6.2023, gweler a. 212(1)(f)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open This Act without Schedules only

This Act without Schedules only you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open This Act without Schedules only as a PDF

This Act without Schedules only you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?