Search Legislation

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 07 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

(a gyflwynir gan adran 34)

ATODLEN 1LL+CCYNHYRCHION AMAETHYDDOL SY’N BERTHNASOL I DDARPARIAETHAU SAFONAU MARCHNATA

Llaeth a chynhyrchion llaeth LL+C

1Cynhyrchion sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o gofnodion (a) i (f) yn y tabl yn Rhan XVI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Brasterau taenadwy LL+C

2Cynhyrchion—

(a)sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) ym Mhwynt 1 o Ran VII o Atodiad VII i’r Rheoliad CMO, a

(b)sydd â chynnwys braster o 10% o leiaf ond heb fod yn fwy na 90% yn ôl pwysau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Cig eidion a chig llo LL+C

3Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XV o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO, ond gan eithrio unrhyw gofnod yn y tabl ar gyfer anifeiliaid byw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Dofednod a chig dofednod LL+C

4Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XX o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO, gan gynnwys unrhyw gofnod yn y tabl ar gyfer dofednod byw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Wyau a chynhyrchion wyau LL+C

5Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XIX o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Ffrwythau a llysiau, ac eithrio olifau LL+C

6Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn unrhyw un neu ragor o Rannau IX i XI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Olew olewydd ac olifau bwyta LL+C

7Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan VII o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Hopys LL+C

8Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan VI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Gwin LL+C

9Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XII o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Gwin a bersawrwyd LL+C

10Cynhyrchion sy’n dod o fewn y diffiniad o “aromatised wine products” yn Erthygl 3 o’r Rheoliad Gwin a Bersawrwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Dehongli LL+C

11Yn yr Atodlen hon, ystyr “y Rheoliad Gwin a Bersawrwyd” yw Rheoliad (EU) Rhif 251/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 26 Chwefror 2014 ar ddiffiniad, disgrifiad, cyflwyniad, labelu a gwarchod dynodiadau daearyddol cynhyrchion gwin a bersawrwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

(a gyflwynir gan adran 55)

ATODLEN 2LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL ETC. SY’N YMWNEUD Â RHANNAU 1 I 3

RHAN 1LL+CDIWYGIADAU, DIDDYMIADAU AC ARBEDION SY’N YMWNEUD Â DEDDF AMAETHYDDIAETH 2020

Deddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) LL+C

1(1)Mae Deddf Amaethyddiaeth 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Mae adran 46 (cyflwyno Atodlen 5) wedi ei diddymu.

(3)Mae adran 47 (hyd darpariaeth o ran Cymru) wedi ei diddymu.

(4)Yn adran 52 (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau (b) a (d).

(5)Yn adran 53 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.)—

(a)yn is-adran (2), hepgorer paragraffau (d), (e) ac (f);

(b)yn is-adran (5), ym mharagraff (a), yn lle “or (d) to (f)” rhodder “, or under that subsection so far as it would have allowed the Welsh Ministers to make supplementary, incidental or consequential provision in connection with—

(i)section 46 and Schedule 5,

(ii)section 47, and

(iii)section 52 and Schedule 7 so far as applying in relation to Wales,

but for the repeal of those provisions by the Agriculture (Wales) Act 2023”.

(6)Yn adran 54 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.), yn is-adran (2)(a), hepgorer is-baragraffau (iv), (v) a (vi).

(7)Yn adran 56 (rhychwant), yn is-adran (1), hepgorer paragraff (g).

(8)Yn adran 57 (cychwyn), yn is-adran (3), hepgorer paragraffau (b) ac (c).

(9)Mae Atodlen 5 (darpariaeth sy’n ymwneud â Chymru) wedi ei diddymu.

(10)Yn Atodlen 7 (diwygiadau canlyniadol i’r Rheoliad CMO)—

(a)hepgorer Rhan 2;

(b)hepgorer Rhan 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 1(5)(b)(9) mewn grym ar 17.10.2023 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(3)(a)(b)

I24Atod. 2 para. 1(1)-(4)(5)(a)(6)-(8)(10) mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(g)

I25Atod. 2 para. 1(5)(b)(9) mewn grym ar 17.10.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(g) (ynghyd ag ergl. 4, Atod.)

2Er gwaethaf diddymu Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 gan baragraff 1, mae rheoliadau a wnaed o dan baragraff 2 o’r Atodlen honno yn parhau mewn grym, ac maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 16 o’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(c)

RHAN 2LL+CDIWYGIADAU I DDEDDFAU ERAILL

Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) LL+C

3Yn adran 66 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, yn is-adran (7A)—

(a)hepgorer yr “and” ar ôl paragraff (a);

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, and

(c)the sustainable land management report published under section 6 of the Agriculture (Wales) Act 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(d)

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) LL+C

4Yn adran 90 Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yn is-adran (1A)—

(a)hepgorer yr “and” ar ôl paragraff (a);

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, and

(c)the sustainable land management report published under section 6 of the Agriculture (Wales) Act 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(d)

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) LL+C

5Yn adran 60B o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)In preparing the draft Framework under subsection (1)(a), the Welsh Ministers must have regard to the most recent sustainable land management report published under section 6 of the Agriculture (Wales) Act 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(d)

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3) LL+C

6Yn adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn is-adran (5), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)yr adroddiad rheoli tir yn gynaliadwy a gyhoeddir o dan adran 6 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(d)

(a gyflwynir gan adran 55)

ATODLEN 3LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL ETC. I’R RHEOLIAD CMO

RHAN 1LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â PHENNOD 3 O RAN 2 (YMYRRAETH MEWN MARCHNADOEDD)

Amodau eithriadol yn y farchnad LL+C

1Os yw paragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) mewn grym cyn y dygir y Rhan hon o’r Atodlen hon i rym, yn Rhan V o’r Rheoliad CMO (darpariaethau cyffredinol), ym mhob un o Erthyglau 219, 220, 221 a 222, ym mharagraff A2, a fewnosodir gan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, hepgorer “Until the end of 2024”.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I32Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

2Os nad yw paragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 mewn grym cyn y dygir y Rhan hon o’r Atodlen hon i rym, yn Rhan V o’r Rheoliad CMO (darpariaethau cyffredinol), ar ddechrau pob un o Erthyglau 219, 220, 221 a 222 (ond ar ôl y diwygiad a wneir gan baragraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020) mewnosoder—

A2This Article does not apply in relation to agricultural producers in Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I34Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

RHAN 2LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD AG ADRAN 34 (SAFONAU MARCHNATA)

Safonau marchnata LL+C

3‍Mae’r Rheoliad CMO wedi ei ddiwygio fel a nodir ym mharagraffau 4 i 12.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I36Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

4Yn Erthygl 73 (safonau marchnata: cwmpas), yn lle “under paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020” rhodder “under section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I38Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

5Yn Erthygl 75 (safonau marchnata: sefydlu a’r cynnwys), ym mharagraff A2, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023”).

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I40Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

6Yn Erthygl 78 (diffiniadau, dynodiadau a disgrifiadau gwerthu ar gyfer sectorau a chynhyrchion penodol), ym mharagraff 7, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I42Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

7Yn Erthygl 80 (arferion gwinyddol a dulliau dadansoddi), ym mharagraff 7, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I44Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

8Yn Erthygl 86 (neilltuo, diwygio a chanslo termau neilltuedig dewisol), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I46Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

9Yn Erthygl 91 (pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I48Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

10Yn Erthygl 119 (labelu a chyflwyniad yn y sector gwin: manylion gorfodol), ym mharagraff 3, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I50Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

11Yn Erthygl 122 (labelu a chyflwyniad yn y sector gwin: pwerau dirprwyedig), ym mharagraff A2, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I52Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

12Yn Erthygl 123 (pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I54Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

RHAN 3LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD AG ADRAN 35 (DOSBARTHIAD CARCASAU)

Dosbarthiad carcasau LL+C

13‍Mae’r Rheoliad CMO wedi ei ddiwygio fel a nodir ym mharagraffau 14 i 16.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I56Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

14Yn Erthygl 19 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau dirprwyedig), ym mharagraff 6, yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I58Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

15Yn Erthygl 20 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn y geiriau ar ôl pwynt (t), yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I60Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

16Yn Erthygl 21 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau gweithredu eraill), yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I62Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

RHAN 4LL+CDARPARIAETH ARBED

17LL+CMae rheoliadau a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Adran 1 neu Adran 3 o Bennod 1 o Deitl 2 o’r Rheoliad CMO yn parhau i fod yn gymwys i gynhyrchion sy’n cael eu marchnata yng Nghymru, er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan baragraffau 4 i 12‍.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I64Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

18LL+CMae rheoliadau a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan—

(a)Erthygl 19(6) o’r Rheoliad CMO,

(b)unrhyw un neu ragor o bwyntiau (p) i (t) o Erthygl 20 o’r Rheoliad CMO, neu

(c)Erthygl 21 o’r Rheoliad CMO,

yn parhau i fod yn gymwys i ladd-dai yng Nghymru, er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan baragraffau 14 i 16‍.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I66Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

Back to top

Options/Help