Trafnidiaeth
7Priffyrdd
(1)Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—
(a)adeiladu priffordd mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2);
(b)addasu neu wella priffordd mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (3),
oni bai eu bod wedi eu heithrio gan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (4) i (6).
(2)Nid yw adeiladu priffordd ond o fewn yr is-adran hon—
(a)os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yng Nghymru,
(b)os Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd, ac
(c)os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn briffordd ddi-dor o fwy nag 1 cilometr o hyd.
(3)Nid yw addasu neu wella priffordd ond o fewn yr is-adran hon—
(a)os bydd y briffordd (ar ôl ei hadeiladu) yng Nghymru,
(b)os Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd, ac
(c)os yw’r addasu neu’r gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.
(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i adeiladu, addasu neu wella priffordd—
(a)os oes gorchymyn a grybwyllir yn adran 20(3) wedi ei wneud mewn perthynas â’r datblygiad cyn i’r adran honno ddod i rym,
(b)os oes angen gorchymyn pellach mewn perthynas â’r datblygiad, ac
(c)os nad oes mwy na 7 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r gorchymyn cynharach gael ei wneud.
(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i addasu priffordd—
(a)os oes caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer datblygiad,
(b)os yw’r addasiad yn angenrheidiol o ganlyniad i’r datblygiad, ac
(c)os yw’r datblygwr wedi gofyn am i’r addasiad gael ei wneud i’r briffordd.
(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i addasu priffordd—
(a)os oes gorchymyn a grybwyllir yn adran 20(3) wedi ei wneud mewn perthynas â gwaith priffordd leol,
(b)os yw’r addasiad yn angenrheidiol o ganlyniad i’r gwaith priffordd leol, ac
(c)os yw’r awdurdod priffyrdd lleol sy’n gyfrifol am y gwaith priffordd leol wedi gofyn am i’r addasiad gael ei wneud i’r briffordd.
(7)Yn yr adran hon—
mae i “awdurdod priffyrdd lleol” yr ystyr a roddir i “local highway authority” gan adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66);
ystyr “gwaith priffordd leol” (“local highway works”) yw gwaith a gynhelir gan awdurdod priffyrdd lleol, neu ar ei ran, mewn perthynas â phriffordd y mae’n awdurdod priffyrdd ar ei chyfer (ac yn yr adran hon cyfeirir at yr awdurdod priffyrdd lleol fel y sawl sy’n “gyfrifol” am y gwaith hwnnw).
8Rheilffyrdd
(1)Mae adeiladu rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os bydd y rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn dechrau, yn gorffen ac yn aros yng Nghymru,
(b)os bydd y rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr a gymeradwywyd,
(c)os bydd y rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu) yn cynnwys darn o drac sy’n ddi-dor am fwy na 2 gilometr o hyd, a
(d)os nad yw adeiladu’r rheilffordd yn ddatblygu a ganiateir.
(2)Mae addasu rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os yw’r rhan o’r rheilffordd sydd i’w haddasu yn rhan o reilffordd sy’n dechrau, yn gorffen ac yn aros yng Nghymru,
(b)os yw’r rheilffordd yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr a gymeradwywyd,
(c)os bydd yr addasiad i’r rheilffordd yn cynnwys gosod darn o drac sy’n ddi-dor am fwy na 2 gilometr o hyd, a
(d)os nad yw adeiladu’r rheilffordd yn ddatblygu a ganiateir.
(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys i adeiladu neu addasu rheilffordd i’r graddau y bo’r rheilffordd yn ffurfio rhan (neu y bydd yn ffurfio rhan ar ôl ei hadeiladu) o gyfnewidfa nwyddau rheilffordd.
(4)Yn yr adran hon—
ystyr “datblygu a ganiateir” (“permitted development”) yw datblygu y mae caniatâd cynllunio wedi ei roi iddo gan erthygl 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd);
ystyr “gweithredwr a gymeradwywyd” (“approved operator”) yw—
(a)person sydd wedi ei awdurdodi’n weithredwr rhwydwaith gan drwydded a roddwyd o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43) (trwyddedau i weithredu asedau rheilffordd), neu
(b)is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr cwmni sy’n berson o’r fath;
mae i “is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr” yr un ystyr ag a roddir i “wholly-owned subsidiary” yn Neddf Cwmnïau 2006 (p. 46) (gweler adran 1159 o’r Ddeddf honno);
mae i “rhwydwaith” yr ystyr a roddir i “network” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43).
9Cyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd
(1)Mae adeiladu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol os disgwylir (ar ôl ei hadeiladu) y bodlonir pob un o’r amodau yn is-adrannau (3) i (7) mewn perthynas â hi.
(2)Mae addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os disgwylir, ar ôl yr addasiad, y bodlonir pob un o’r amodau yn is-adrannau (3)(a) a (4) i (7) mewn perthynas â hi, a
(b)y disgwylir i’r addasiad gael yr effaith a bennir yn is-adran (8).
(3)Rhaid i’r tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno—
(a)bod yng Nghymru, a
(b)bod ag arwynebedd o 60 o hectarau o leiaf.
(4)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd allu trin—
(a)llwythi o nwyddau oddi wrth fwy nag un traddodwr ac i fwy nag un traddodai, a
(b)o leiaf bedwar trên nwyddau y dydd.
(5)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
(6)Rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd gynnwys warysau y gellir danfon nwyddau iddynt o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru naill ai yn uniongyrchol neu drwy gyfrwng math arall o drafnidiaeth.
(7)Ni chaiff y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o sefydliad milwrol.
(8)Yr effaith y cyfeirir ati yn is-adran (2)(b) yw cynyddu 60 o hectarau o leiaf arwynebedd y tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno.
(9)Yn yr adran hon—
ystyr “sefydliad milwrol” (“military establishment”) yw sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;
ystyr “trên nwyddau” (“goods train”) yw trên (gan ddiystyru unrhyw locomotif) sy’n cynnwys cerbydau rheilffyrdd a gynlluniwyd i gludo nwyddau.
(10)Mae i “cerbydau rheilffyrdd”, “rhwydwaith” a “trên” yr un ystyron ag a roddir i “rolling stock”, “network” a “train” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (p. 43).
10Cyfleusterau harbwr
(1)Mae adeiladu cyfleusterau harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os bydd y cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,
(b)os na fydd y cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, ac
(c)os disgwylir i’r cyfleusterau harbwr (ar ôl eu hadeiladu) allu trin llwytho neu ddadlwytho y swm perthnasol o ddeunydd y flwyddyn o leiaf.
(2)Mae addasu cyfleusterau harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol—
(a)os yw’r cyfleusterau harbwr yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,
(b)os nad yw’r cyfleusterau harbwr yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, ac
(c)os disgwylir mai effaith yr addasiad yw cynyddu swm y deunydd y mae’r cyfleusterau yn gallu trin ei lwytho neu ei ddadlwytho y swm perthnasol y flwyddyn o leiaf.
(3)“Y swm perthnasol” yw—
(a)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau cynwysyddion, 50,000 UCU;
(b)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau gyrru i mewn ac allan, 25,000 o unedau;
(c)yn achos cyfleusterau ar gyfer llongau cargo o unrhyw ddisgrifiad arall, 500,000 o dunelli;
(d)yn achos cyfleusterau ar gyfer mwy nag un o’r mathau o longau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c), swm cyfatebol o ddeunydd.
(4)At ddibenion is-adran (3)(d), mae cyfleusterau yn gallu trin swm cyfatebol o ddeunydd os yw swm y ffracsiynau perthnasol yn un neu’n fwy.
(5)Y ffracsiynau perthnasol yw—
(a)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau cynwysyddion—
Ffigwr 1
pan fo x y nifer o UCU y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin;
(b)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau gyrru i mewn ac allan—
Ffigwr 2
pan fo y y nifer o unedau y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin;
(c)i’r graddau y bo’r cyfleusterau ar gyfer llongau cargo o unrhyw ddisgrifiad arall—
Ffigwr 3
pan fo z y nifer o dunelli o ddeunydd y mae’r cyfleusterau yn gallu eu trin.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “llong gargo” (“cargo ship”) yw llong a ddefnyddir i gludo cargo;
ystyr “llong gynwysyddion” (“container ship”) yw llong gargo sy’n cludo ei holl gargo neu’r rhan fwyaf o’i chargo mewn cynwysyddion;
ystyr “llong gyrru i mewn ac allan” (“roll-on roll-off ship”) yw llong a ddefnyddir i gludo cargo ar olwynion;
mae i “porthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl” yr ystyr a roddir i “reserved trust port” yn adran 32 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4);
ystyr “UCU” (“TEU”) yw uned cyfwerth ag ugain troedfedd;
ystyr “uned” (“unit”) mewn perthynas â llong gyrru i mewn ac allan yw unrhyw eitem o gargo ar olwynion (pa un a yw’n hunanyredig ai peidio).
11Meysydd awyr
(1)Mae’r mathau o ddatblygiad a ganlyn yn brosiectau seilwaith arwyddocaol—
(a)adeiladu maes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2),
(b)addasu maes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (3), neu
(c)cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (5).
(2)Mae adeiladu maes awyr o fewn yr is-adran hon os disgwylir y gall y maes awyr (ar ôl ei adeiladu) ddarparu—
(a)gwasanaethau cludo teithwyr awyr ar gyfer o leiaf 1 filiwn o deithwyr bob blwyddyn, neu
(b)gwasanaethau cludo cargo awyr ar gyfer o leiaf 5,000 o symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo bob blwyddyn.
(3)Mae addasu maes awyr o fewn yr is-adran hon os disgwylir i’r addasiad—
(a)cynyddu nifer y teithwyr y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr awyr ar eu cyfer 1 filiwn y flwyddyn o leiaf, neu
(b)cynyddu nifer y symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo cargo awyr ar eu cyfer 5,000 y flwyddyn o leiaf.
(4)Mae “addasu”, mewn perthynas â maes awyr, yn cynnwys adeiladu, estyn neu addasu—
(a)rhedfa yn y maes awyr,
(b)adeilad yn y maes awyr, neu
(c)mast radar neu radio, antena neu gyfarpar arall yn y maes awyr.
(5)Nid yw cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr ond o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw’n gynnydd o 1 filiwn y flwyddyn o leiaf yn nifer y teithwyr y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr awyr iddynt, neu
(b)os yw’n gynnydd o 5,000 y flwyddyn o leiaf yn nifer y symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo cargo awyr iddynt.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “a ganiateir” (“permitted”) yw wedi ei ganiatáu gan ganiatâd cynllunio neu gydsyniad seilwaith;
ystyr “awyren gargo” (“cargo aircraft”) yw awyren sydd—
(a)wedi ei chynllunio i gludo cargo ond nid teithwyr, a
(b)sy’n cludo cargo ar delerau masnachol;
ystyr “gwasanaethau cludo cargo awyr” (“air cargo transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo cargo mewn awyren;
ystyr “gwasanaethau cludo teithwyr awyr” (“air passenger transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo teithwyr mewn awyren;
mae “cargo” (“cargo”) yn cynnwys post;
ystyr “symudiad cludo awyr” (“air transport movement”) yw glaniad neu esgyniad awyren.