Search Legislation

Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Rhagolygol

RHAN 1LL+CY SENEDD A GWEINIDOGION CYMRU

1Y nifer o Aelodau o’r Senedd ac etholaethau’r SeneddLL+C

Yn adran 1 (y Senedd) o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”), yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)There are—

(a)16 Senedd constituencies, and

(b)six seats for each constituency, and

the Senedd is to consist of the members for those constituencies.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)

2Etholaethau’r SeneddLL+C

(1)Yn lle adran 2 (Etholaethau a rhanbarthau etholiadol y Senedd) o Ddeddf 2006 rhodder—

2Senedd constituencies

(1)The Senedd constituencies are the constituencies specified in regulations under section 49J of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013 (anaw 4).

(2)Until the first set of regulations made under‍‍ that section takes effect, the reference in subsection (1) above to regulations under that section is to be read as a reference to regulations under paragraph 9 of Schedule 2 to the Senedd Cymru (Members and Elections) Act 2024 (asc 4).

(2)Yn adran 13 o Ddeddf y System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 (p. 1) (etholaethau a rhanbarthau etholiadol)—

(a)hepgorer is-adran (1);

(b)hepgorer is-adran (2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)

3Etholiadau cyffredinol cyffredin: pa mor amlLL+C

(1)Yn adran 3(1) (etholiadau cyffredinol cyffredin) o Ddeddf 2006, yn lle “fifth” rhodder “fourth”.

(2)Yn Neddf Cymru 2014 (p. 29), hepgorer adran 1 (etholiadau cyffredinol cyffredin: pa mor aml).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 yn dod i rym yn unol â a. 25(3)

4Dirprwy Lywydd ychwanegolLL+C

(1)Yn adran 25 (y Llywydd etc.) o Ddeddf 2006—

(a)yn is-adran (1)(b), yn lle “(referred to in this Act as “the Deputy Presiding Officer”)” rhodder “(see subsection (1B)(a))”;

(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A)The Senedd may at any time elect one additional deputy presiding officer from among the Members of the Senedd (but there may be no more than one additional deputy presiding officer at any time).

(1B)In this Act, “Deputy Presiding Officer” means, unless the context requires otherwise—

(a)the person elected under paragraph (b) of subsection (1);

(b)a person elected under subsection (1A),

but in section 23(4)(b) “Deputy Presiding Officer means only the person elected under paragraph (b) of subsection (1).;

(c)yn is-adran (2), yn lle “is to be known as the Deputy Presiding Officer”, rhodder “and a person elected under subsection (1A) are each to be known as Deputy Presiding Officer”;

(d)yn lle is-adran (4), rhodder—

(4)A Deputy Presiding Officer holds office until the Senedd is dissolved; but the standing orders may make provision for a Deputy Presiding Officer elected under subsection (1A) to hold office for a shorter time.;

(e)yn is-adran (5), yn lle “Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”;

(f)yn is-adran (6)—

(i)ar ôl “the Deputy Presiding Officer” mewnosoder “elected under paragraph (b) of subsection (1)”;

(ii)ar ôl “Members of the Senedd” mewnosoder “(and references in this section to a person elected under paragraph (a) or (b) of subsection (1) include a reference to a person elected under this subsection)”;

(g)yn is-adran (7), ar ôl “the Deputy Presiding Officer” mewnosoder “elected under paragraph (b) of subsection (1)”;

(h)ar ôl is-adran (7), mewnosoder—

(7A)Subject to subsection (9), a Deputy Presiding Officer elected under subsection (1A) must not belong to—

(a)the same political group as either the Presiding Officer or Deputy Presiding Officer elected under paragraph (b) of subsection (1), or

(b)where the Presiding Officer and the Deputy Presiding Officer elected under paragraph (b) of subsection (1) both belong to political groups without an executive role, a political group without an executive role.;

(i)yn is-adran (9), yn lle “subsection (7) is not to apply” rhodder “one or both of subsections (7) and (7A) are not to apply”;

(j)yn is-adran (10), yn lle “the Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”;

(k)yn is-adran (11), yn lle “the Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”;

(l)yn is-adran (12), yn lle paragraff (b), rhodder—

(b)the office of Deputy Presiding Officer is vacant or, for any reason, no Deputy Presiding Officer is able to act.;

(m)yn is-adran (13), yn lle “Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”.

(2)Yn adran 20(3)(b) (taliadau i‍ Aelodau o’r Senedd) o Ddeddf 2006, yn lle “Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”.

(3)Yn adran 41 (achosion gan y Senedd neu yn ei herbyn) o Ddeddf 2006—

(a)yn is-adran (2)(a), yn lle “Deputy Presiding Officer”, rhodder “a Deputy Presiding Officer”;

(b)yn is-adran (4)(b), yn lle “Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”.

(4)Yn adran 159 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) o Ddeddf 2006, hepgorer y cofnod ar gyfer “the Deputy Presiding Officer”.

(5)Ym mharagraff 16A(6) o Atodlen 1 (cadeirio Pwyllgor y Llywydd) i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41), yn lle “the Deputy Presiding Officer” rhodder “a Deputy Presiding Officer”.

(6)Yn adran 28(2) (dirprwyo swyddogaethau) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), yn lle “y Dirprwy Lywydd” rhodder “i Ddirprwy Lywydd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 yn dod i rym yn unol â a. 25(4)

5Cynyddu nifer uchaf Gweinidogion CymruLL+C

Yn adran 51 (cyfyngiad ar nifer y Gweinidogion) o Ddeddf 2006—

(a)yn is-adran (1), yn lle “twelve” rhodder “17”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)The Welsh Ministers may by regulations amend subsection (1) to increase the maximum number of holders of a relevant Welsh Ministerial office—

(a)from 17 to 18 or 19;

(b)from 18 to 19.

(4)The power in subsection (3) may not be used to lower the maximum number (including by revoking regulations made under that subsection).

(5)A statutory instrument containing regulations under subsection (3) may not be made unless‍—

(a)a draft of the instrument has been laid before‍ the Senedd, and

(b)the number of Members of the Senedd voting in favour of a resolution of the Senedd approving the draft is at least two-thirds of the total number of Senedd seats.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 yn dod i rym yn unol â a. 25(4)

6Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisyddLL+C

Yn Rhan 1 o Atodlen 1A (anghymwyso) i Ddeddf 2006, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Persons not registered in electoral register at an address in Wales

8A person who is not registered in the register of local government electors at an address within a Senedd constituency.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)

7Adolygiad o’r posibilrwydd o rannu swyddi sy’n ymwneud â’r SeneddLL+C

(1)Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—

(a)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl‍ 7 Tachwedd 2025, a

(b)sut bynnag, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r cynnig—

(a)cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor at ddiben cynnal adolygiad o’r graddau—

(i)y dylai personau allu dal unrhyw swydd berthnasol ar y cyd;

(ii)y dylai person allu dal swydd berthnasol dros dro tra nad yw’r person a benodir i’r swydd honno neu a etholir i’r swydd honno ar gael, a

(b)cynnig bod y pwyllgor yn llunio adroddiad ar yr adolygiad, yn nodi ei argymhellion.

(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “swydd berthnasol” yw swydd—

(a)Aelod o’r Senedd;

(b)y Llywydd;

(c)Dirprwy Lywydd;

(d)aelod o Gomisiwn y Senedd (a benodir yn unol ag adran 27 o Ddeddf 2006);

(e)y Prif Weinidog;

(f)Gweinidog Cymru (a benodir o dan adran 48 o Ddeddf 2006);

(g)Dirprwy Weinidog Cymru (a benodir o dan adran 50 o Ddeddf 2006);

(h)y Cwnsler Cyffredinol.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os, yn dilyn adolygiad‍ o unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn is-adran (2)(a) gan bwyllgor a sefydlir yn unol â chynnig a gyflwynir yn unol ag is-adran (1), y gosodir adroddiad ar yr adolygiad gerbron y Senedd gan y pwyllgor.

(5)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy’n—

(a)nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran (4), a

(b)nodi pa gamau, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw argymhellion yn yr adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)

Rhagolygol

RHAN 2LL+CY SYSTEM BLEIDLEISIO MEWN ETHOLIADAU CYFFREDINOL Y SENEDD A DYRANNU SEDDI

8Etholiadau cyffredinolLL+C

Yn lle adrannau 6 i 9 o Ddeddf 2006 (pleidleisio a dyrannu seddi yn etholiadau cyffredinol) rhodder—

6Voting at general elections

(1)Each person entitled to vote at a general election in a Senedd constituency may give a vote for—

(a)a registered political party that has submitted a list of candidates to be Members of the Senedd for the constituency, or

(b)an individual who is a candidate (“an individual candidate”) to be a Member of the Senedd for the constituency.

(2)An order under section 13 must provide for the ballot paper used at a general election in a Senedd constituency to include the names of the candidates who stand nominated to be Members of the Senedd for the constituency.

(‍3)In this Act “registered political party” means a party registered under Part 2 of the Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (c.‍ 41).

7Candidates at general elections

(1)A registered political party may submit a list of candidates to be Members of the Senedd for a particular Senedd constituency at a general election.

(2)The list must be submitted to the constituency returning officer.

(3)The list must not include more than eight people (but may include only one).

(4)The list must not include a person—

(a)who is included on another list submitted under this section (whether for the constituency or another constituency);

(b)who is an individual candidate to be a Member of the Senedd (whether for the constituency or another constituency).

(5)A person may not be an individual candidate to be a Member of the Senedd for a constituency if that person is—

(a)included on a list submitted under this section (whether for the constituency or another constituency);

(b)an individual candidate to be a Member of the Senedd for another constituency.

(6)In this Act, “constituency returning officer”, in relation to a Senedd constituency, means the person designated as the returning officer for the constituency in accordance with an order under section 13 (power of the Welsh Ministers to make provision about elections etc.).

8Calculation of seat allocation figures

(1)This section and section 9 are about the allocation, to registered political parties or individual candidates, of the seats for a Senedd constituency at a general election.

(2)For each registered political party by which a list of candidates has been submitted under section 7 (candidates at general elections) for the constituency—

(a)the votes given in the constituency for the party are to be added up, and

(b)the number arrived at under paragraph (a) is to be divided by the seat allocation divisor.

(3)On the first calculation for a party under subsection (2)(b), the seat allocation divisor for the party is one (section 9 makes provision about recalculations under that subsection with an increased divisor).

(4)For each individual candidate to be a Member of the Senedd for the constituency, the votes given in the constituency for the candidate are to be added up.

(5)The number arrived at—

(a)in the case of a registered political party, under subsection (2)(b), or

(b)in the case of an individual candidate, under subsection (4),

is referred to in section 9 as the “seat allocation figure” for that party or individual candidate.

9Allocation of seats

(1)The first seat for a Senedd constituency is to be allocated to the registered political party or individual candidate with the highest seat allocation figure.

(2)The second and subsequent seats for the constituency are to be allocated to the party or individual candidate with the highest seat allocation figure after any recalculation required by subsection (3) has been carried out.

(3)This subsection requires a recalculation of the seat allocation figure for a registered political party—

(a)for the first application of subsection (2), if the application of subsection (1) resulted in the allocation to the party of a seat for the constituency, or

(b)for any subsequent application of subsection (2), if the previous application of that subsection resulted in the allocation to the party of a seat for the constituency,

and each recalculation is to be carried out under section 8(2)(b) after adding one to the previous seat allocation divisor for that party.

(4)An individual candidate already allocated a seat as a Member of the Senedd for the constituency is to be disregarded when applying subsection (2).

(5)Seats for the constituency that are allocated to a party are to be filled by the candidates on the party’s list in the order in which they appear on the list.

(6)Once a party’s list has been exhausted (by the application of subsection (1) or (2)), the party is to be disregarded when applying subsection (2).

(7)If, on the application of subsection (1) or on an application of subsection (2), the highest seat allocation figure is the seat allocation figure for two or more parties or individual candidates (referred to in subsection (8) as the “tied seat allocation figure”), subsection (1) or (2) (as the case may be) applies to each of them.

(8)But if subsection (7) would mean that more than the full number of seats for the constituency were allocated, subsection (1) or (2) is not to be applied until—

(a)a recalculation of the seat allocation figure for any party with the tied seat allocation figure has been carried out under section 8(2)(b) after adding one to the number arrived at under section 8(2)(a), and

(b)one has been added to the number arrived at under section 8(4) for any individual candidate with the tied seat allocation figure.

(9)If, after that, the highest seat allocation figure is still the seat allocation figure for two or more parties or individual candidates (so it is still the case that more than the full number of seats for the constituency would be allocated), the constituency returning officer must decide between them by lots.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(b)

9Seddi gwagLL+C

(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 10 (seddi gwag mewn etholaethau).

(3)Yn lle adran 11 (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol) rhodder—

11Vacant seats

(1)This section makes provision about what is to happen if the seat of a Member of the Senedd becomes vacant.

(2)If the Member was an individual candidate when returned as a Member of the Senedd, the seat remains vacant until the next general election.

(3)If the Member was returned as a Member of the Senedd from a list submitted under section 7 by a registered political party, the constituency returning officer must notify to the Presiding Officer the name of the person (if any) who is to fill the vacancy.

(4)A person’s name may be notified under subsection (3) only if the person—

(a)is included on the list mentioned in subsection (3),

(b)is willing to serve as a Member of the Senedd, and

(c)is not a person to whom subsection (5) applies.

(5)This subsection applies to a person if—

(a)the person is not a member of the registered political party that submitted the list, and

(b)the party gives notice to the constituency returning officer that the person’s name is not to be notified to the Presiding Officer as the name of the person who is to fill the vacancy.

(6)But if there is more than one person who satisfies the conditions in subsection (4), the constituency returning officer may only notify the name of whichever of them was the higher, or the highest, on the list.

(7)If there is no-one who satisfies the conditions in subsection (4), the seat remains vacant until the next general election.

(8)A person whose name is notified under subsection (3) is to be treated as having been declared to be returned as a Member of the Senedd on the day on which notification of the person’s name is received by the Presiding Officer.

(9)For the purposes of this section, a person included on the list mentioned in subsection (3)—

(a)who was returned as a Member of the Senedd at the election for which the list was submitted (even if the return was void), or

(b)who was subsequently returned as a Member of the Senedd under this section (even if the return was void),

is treated on and after their return as not having been included on the list.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(b)

10Diwygiadau cysylltiedigLL+C

(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio yn unol ag is-adrannau (2) i (8).

(2)Yn adran 12 (hawlogaeth i bleidleisio)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer “(or of a Member of the Senedd)”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “constituency vote, or more than one electoral region vote,” rhodder “vote”;

(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder “or”;

(iii)hepgorer paragraff (c), a’r “or” o’i flaen.

(3)Yn adran 13 (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau etc.)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)hepgorer paragraff (e) (ond nid yr “and” ar ei ôl);

(ii)ym mharagraff (f), yn lle “region” rhodder “constituency”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “11(3) to (5)” rhodder “11(4) to (6)”.

(4)Yn adran 13A (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ynghylch cyfuno cynnal pleidleisiau), yn is-adran (1)(b) hepgorer “, and by-elections for the return of Members of the Senedd,”.

(5)Yn adran 18 (effaith anghymhwyso), yn is-adran (A1) hepgorer “or an election to fill a vacancy under section 10”.

(6)Yn adran 36 (uniondeb)—

(a)hepgorer is-adran (6);

(b)yn is-adran (11)(a) hepgorer “(apart from those in subsection (6))”.

(7)Yn adran 159 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), hepgorer y cofnodion ar gyfer yr ymadroddion a ganlyn—

(a)“constituency vote”;

(b)“electoral region figure”;

(c)“electoral region vote”;

(d)“regional returning officer”;

(e)“Senedd constituency member”;

(f)“Senedd electoral region”;

(g)“Senedd regional member”.

(8)Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad), yn y cofnod ar gyfer swyddogion canlyniadau ar gyfer etholiadau’r Senedd, yn yr ail golofn hepgorer “or Senedd electoral region”.

(9)Yn adran 7B(6) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (preswylfa dybiannol: datganiadau o gysylltiad lleol)—

(a)ym mharagraff (a)(ii), hepgorer “or National Assembly for Wales constituency”;

(b)ym mharagraff (b), hepgorer “or section 10 of the Government of Wales Act 2006”.

(10)Yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41)

(a)hepgorer adran 4A(8)(b)(ii) (swyddogaethau Cymreig datganoledig);

(b)hepgorer adran 5(2A)(c) (adroddiadau ar is-etholiadau) (ond nid yr “or” ar ei hôl);

(c)o’r adran 6ZA a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), hepgorer is-adran (2)(b) (adolygiadau o faterion etholiadol datganoledig yng Nghymru);

(d)hepgorer adran 6A(5)(d) (presenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol mewn etholiadau);

(e)o’r adran 6G a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (cod ymarfer ar bresenoldeb sylwedyddion mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru), hepgorer is-adran (2)(b);

(f)o’r adran 9AA a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (safonau perfformiad ar gyfer etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig yng Nghymru), hepgorer is-adran (6)(b)‍;

(g)ym mharagraff 25 o Atodlen 1, yn yr is-baragraff (2) a fewnosodwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dehongli), o’r diffiniad o “devolved Welsh election” hepgorer paragraff (b);

(h)ym mharagraff 6 o Atodlen 9 (terfynau ar wariant ymgyrch)—

(i)yn is-baragraff (1), hepgorer “or regions”;

(ii)yn is-baragraff (2), hepgorer paragraff (b) a’r “plus” o’i flaen.

(11)Yn adran 44(7) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) (ardal etholiadol mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in relation to an election to Senedd Cymru, a Senedd constituency within the meaning of section 2 of the Government of Wales Act 2006 (Senedd constituencies);.

(12)Yn adran 6(3) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) (swyddogaethau’r Comisiynydd)—

(a)ar ôl paragraff (c) mewnosoder “a”;

(b)hepgorer paragraff (e), a’r “ac” o’i flaen.

(13)Yn Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (mccc 4) (anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol)—

(a)ym mharagraff (1)(d)—

(i)hepgorer “rhanbarthol”;

(ii)hepgorer “mewn rhanbarthau etholiadol”;

(b)ym mharagraff 3, yn lle “is-adran (3)” rhodder “is-adran (4)”.

(14)Yn Neddf Cymru 2014 (p. 29), hepgorer adran 2 (diwygiadau i Ran 1 o Ddeddf 2006).

(15)Yn Atodlen 1 i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), ym mharagraff 2(8)(c) hepgorer y cofnodion ar gyfer yr ymadroddion a ganlyn—

(a)“Senedd constituency member”;

(b)“Senedd electoral region”;

(c)“Senedd regional member”.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(b)

RHAN 3LL+CCOMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

11Ailenwi Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013LL+C

(1)Mae enw byr Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) wedi ei newid i Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013.

(2)Cyfeirir at y Ddeddf honno yn y Ddeddf hon fel “Deddf 2013”.

(3)Yn adran 76 o Ddeddf 2013 (enw byr), yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.‍

(4)Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

12Ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol CymruLL+C

(1)Yn adran 2 o Ddeddf 2013 (enw a pharhad y Comisiwn)—

(a)hepgorer is-adran (2);

(b)ar y diwedd mewnosoder—

(3)Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).;

(c)yn y pennawd, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.‍

(2)Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

13Nifer aelodau’r ComisiwnLL+C

Yn adran 4(1) o Ddeddf 2013 (aelodau’r Comisiwn), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

14Personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn neu’n brif weithredwr arnoLL+C

(1)Yn adran 4(3) o Ddeddf 2013 (personau na chaniateir eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn)—

(a)yn lle “Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff aelod fod yn”;

(b)yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;

(c)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(2)Yn adran 8(4) o’r Ddeddf honno (personau na chaniateir eu penodi yn brif weithredwr)—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;‍

(b)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(3)Yn adran 72(1) o’r Ddeddf honno (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

(4)Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl 2—

(a)ar ôl y cofnod ar gyfer “aelod cadeirio” mewnosoder—

Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature)Adran 72(1);

(b)ar ôl y cofnod ar gyfer “cyfarfod cymunedol” mewnosoder—

‍Cynghorydd arbennig (Special adviser)Adran 72(1);

(c)ar ôl y cofnod ar gyfer “newid i sir wedi ei chadw” mewnosoder—

Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party)Adran 72(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

15Cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r ComisiwnLL+C

Yn adran 6 o Ddeddf 2013 (trafodion y Comisiwn), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

16Comisiynwyr cynorthwyolLL+C

(1)Yn adran 11 o Ddeddf 2013 (comisiynwyr cynorthwyol y caniateir dirprwyo iddynt swyddogaethau sy’n ymwneud â llywodraeth leol)—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn”;

(ii)yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;;

(iii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)cynghorydd arbennig‍;.

(2)Yn adran 13(1) o’r Ddeddf honno (dirprwyo), yn lle “gomisiynydd cynorthwyol” rhodder “un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol”.

(3)Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf 2006 (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), ar ôl y cofnod ar gyfer “Comptroller and Auditor General or Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol” mewnosoder—

‍Democracy and Boundary Commission Cymru or Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau CymruThe members, assistant commissioners and chief executive of the Commission.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)

RHAN 4LL+CADOLYGU FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD

17Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i reoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaithLL+C

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch etholaethau’r Senedd yr etholir‍ Aelodau o’r Senedd drostynt‍ mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith; ac yn benodol, ynghylch swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o ran penderfynu beth fydd yr etholaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)

Rhagolygol

18Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiadau cyffredinol a gynhelir ar ôl i reoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaithLL+C

Mae Atodlen 3 yn mewnosod Rhan 3A newydd yn Neddf 2013; mae’r Rhan honno yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o ran penderfynu beth fydd etholaethau’r Senedd yr etholir‍ Aelodau o’r Senedd drostynt mewn etholiadau cyffredinol y cynhelir y pleidleisiau ar eu cyfer ar ôl‍ i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(c)

RHAN 5LL+CADOLYGIAD O WEITHREDIAD Y DDEDDF ETC. A DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Rhagolygol

Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc.LL+C

19Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc. ar ôl etholiad cyffredinol 2026LL+C

(1)Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—

(a)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026, a

(b)sut bynnag, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r cynnig—

(a)cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor at ddiben cynnal adolygiad o—

(i)gweithrediad ac effaith darpariaethau Deddf 2006 a gaiff eu diwygio, neu eu mewnosod yn y Ddeddf honno, gan Rannau 1 a 2 o’r Ddeddf hon (y Senedd a’i Haelodau, nifer Gweinidogion Cymru, a’r system bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol etc.);

(ii)i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru, a

(b)cynnig bod rhaid i adroddiad ar yr adolygiad fod wedi ei gwblhau gan y pwyllgor yn ddim hwyrach na deuddeg mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys os, yn dilyn adolygiad o unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn is-adran (2)(a) gan bwyllgor a sefydlir yn unol â chynnig a gyflwynir yn unol ag is-adran (1), y gosodir adroddiad ar yr adolygiad gerbron y Senedd gan y pwyllgor.

(4)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy’n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran‍ (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(d)

CyffredinolLL+C

20Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) diwygio, diddymu, dirymu neu addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y caiff‍ ei basio neu y’i gwneir).

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

Rhagolygol

21Pŵer i osod terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol y Senedd mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau, mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2, ddiwygio paragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) (terfynau ar wariant ymgyrch) i osod y terfynau sy’n gymwys i wariant ymgyrch yr eir iddo gan neu ar ran plaid gofrestredig sy’n ymladd un neu ragor o etholaethau mewn etholiad cyffredinol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu terfynau drwy gyfeirio at y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(a)nifer yr etholaethau a ymleddir gan blaid mewn etholiad cyffredinol;

(b)nifer yr ymgeiswyr ar restr a gyflwynir gan blaid o dan adran 7 o Ddeddf 2006.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed,

a chaiff darpariaeth o’r fath ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y caiff ei basio neu y’i gwneir).

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) ond pan fo’r Comisiwn Etholiadol yn cydsynio i hynny.

(5)Yn yr adran hon, mae i “gwariant ymgyrch” a “plaid gofrestredig” yr un ystyr â “campaign expenditure” a “registered party” ym mharagraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(e)

22Rheoliadau o dan y Ddeddf honLL+C

(1)Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir o dan baragraff 9 o Atodlen 2.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(3)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud‍ darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol‍.‍

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a—‍

(a)wneir o dan adran 20 sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu ddeddfiad a geir mewn deddfwriaeth sylfaenol, neu

(b)wneir o dan adran 21,‍

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan adran 20 yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 22 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

23DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • mae ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) i’w ddehongli yn unol ag adran 1;

  • mae ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) i’w ddehongli yn unol ag adran 11(2);

  • ystyr “etholiad cyffredinol” (“general election”) yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf 2006;

  • ystyr “y Senedd” (“the Senedd”) yw Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

24Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â Rhannau 1 a 2LL+C

(1)Er iddynt ddod i rym, o dan adran 25(2)(a) a (b), nid yw’r diwygiadau a wneir gan adrannau 1 a 2 a Rhan 2 yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny;

(b)Senedd a ddychwelir mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny (sy’n cynnwys y Senedd a basiodd y Bil ar gyfer y Ddeddf hon);

(c)dychwelyd Aelod i Senedd a grybwyllir ym mharagraff (b) (mewn etholiad cyffredinol neu fel arall).

(2)Er iddo ddod i rym, o dan adran 25(2)(a), nid yw’r diwygiad a wneir gan adran 6 yn cael effaith mewn perthynas â pherson sy’n Aelod o’r Senedd a grybwyllir yn is-adran (1)(b), neu sy’n ymgeisydd (pa un a yw hynny mewn etholiad cyffredinol ai peidio) i fod yn aelod ohoni.

(3)Os, o dan adran 25(3), y daw adran 3 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol eithriadol, bydd is-adran (4) yn gymwys at ddiben penderfynu pryd y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyffredin cyntaf yn dilyn yr etholiad cyffredinol eithriadol hwnnw.

(4)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, mae adran 3(1) o Ddeddf 2006 i’w darllen fel pe bai “2030” wedi ei roi yn lle’r geiriau “the fourth calendar year following that in which the previous ordinary election was held”.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 24 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

25Dod i rymLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 3;

(b)adran 17 ac Atodlen 2;

(c)y Rhan hon, heblaw‍ adrannau 19 a 21.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 1, 2, 6 a 7;

(b)Rhan 2;

(c)adran 18 ac Atodlen 3;

(d)adran 19‍;

(e)adran 21.

(3)Daw adran 3 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 7 Tachwedd 2025.

(4)Daw adrannau‍ 4 a 5 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 25 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

26Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 26 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources