Search Legislation

Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Rhan 3A o Ddeddf 2013

This section has no associated Explanatory Notes

1Yn Neddf 2013, ar ôl Rhan 3 mewnosoder—

RHAN 3AADOLYGIADAU O FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD

49AAdolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd

(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(2)Adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd yw adolygiad o etholaethau’r Senedd at ddiben penderfynu a ddylai’r ffiniau hynny newid er mwyn rhoi effaith i’r rheolau a nodir yn adran 49C.

(3)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad y dylai ffiniau etholaeth Senedd newid, rhaid i’r Comisiwn hefyd benderfynu—

(a)yr hyn ddylai fod yr enwau ar yr etholaethau yr effeithir arnynt;

(b)pa un a yw pob etholaeth yr effeithir arni yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(4)Ond os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad, er na ddylai ffiniau etholaeth Senedd newid, y dylai enw’r etholaeth newid neu y dylai ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol newid, caiff y Comisiwn benderfynu—

(a)yr hyn ddylai fod yr enw ar yr etholaeth;

(b)pa un a ddylai fod yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(5)At ddiben is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 30 Tachwedd 2028,

(b)y cyfnod o 8 mlynedd sy’n dechrau ag 1 Rhagfyr 2028, ac

(c)pob cyfnod dilynol o 8 mlynedd.

49BHysbysiad cychwyn adolygiad ffiniau etholaethau’r Senedd

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cychwyn adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad—

(a)yn datgan bod y Comisiwn wedi cychwyn adolygiad, a

(b)yn pennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad arno.

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “dyddiad yr adolygiad” yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (1)(b).

49CRheolau ynghylch etholaethau

(1)Rhaid i’r etholyddiaeth ar gyfer pob etholaeth Senedd fod yn—

(a)dim llai na 90% o’r cwota etholiadol, a

(b)dim mwy na 110% o’r cwota etholiadol.

(2)Wrth ystyried, yn ystod adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, pa un a ddylid gwneud newidiadau i etholaethau’r Senedd, a pha newidiadau y dylid eu gwneud—

(a)caiff y Comisiwn roi sylw i—

(i)ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli neu sy’n ddarpar ffiniau ar ddyddiad yr adolygiad;

(ii)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig neu etholaeth Senedd bresennol;

(iii)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg) a‍ fyddai’n cael ei dorri gan y newidiadau hynny; ond

(b)sut bynnag, rhaid i’r Comisiwn—

(i)ceisio sicrhau y gwneir cyn lleied o newidiadau â phosibl i etholaethau’r Senedd sy’n bodoli ar ddyddiad yr adolygiad, a

(ii)rhoi sylw i’r anghyfleustra a achosir drwy wneud newidiadau i etholaethau’r Senedd.

(3)At ddibenion is-adran (1)—

(a)yr etholyddiaeth yw cyfanswm nifer yr etholwyr llywodraeth leol, a

(b)y cwota etholiadol yw etholyddiaeth Cymru wedi ei rannu ag 16 (sef nifer etholaethau’r Senedd), ac

at ddibenion paragraff (a), etholwr llywodraeth leol yw person sydd wedi ei gofrestru yn y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd.

(4)Y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, ar ddyddiad yr adolygiad, yw’r fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2).

(5)Yn achos ffin llywodraeth leol sy’n ddarpar ffin ar ddyddiad yr adolygiad, y ffin honno (yn hytrach nag unrhyw ffin sy’n bodoli eisoes a ddisodlir ganddi) yw’r ffin y mae rhaid ei hystyried o dan is-adran ‍(2)(a)(i).

(6)Mae ffin llywodraeth leol yn “ddarpar ffin” ar ddyddiad yr adolygiad—

(a)os yw’r ffin, ar y dyddiad hwnnw, wedi ei phennu mewn darpariaeth mewn—

(i)deddfwriaeth sylfaenol, neu

(ii)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol, a

(b)os nad yw’r ddarpariaeth sy’n pennu’r ffin mewn grym hyd hynny at bob diben ar y dyddiad hwnnw.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

(b)Mesur a ddeddfwyd o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

49DPenderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd

(1)Rhaid i bob etholaeth Senedd gael‍ enw‍ unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg‍).

(2)Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler adran 49E) rhaid i’r Comisiwn, os yw’n bwriadu gwneud cynnig yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd—

(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(b)ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.

(3)Mae gofyniad o dan y Rhan hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—

(a)yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a

(b)yn fersiwn Saesneg yr adroddiad‍.

49EAdroddiad cychwynnol ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau

(1)Ar ôl cymryd y camau yn adrannau 49B(1) a 49D(2), rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol yn nodi—

(a)cynigion y Comisiwn ar gyfer newid i—

(i)ffiniau etholaethau’r Senedd;

(ii)enwau etholaethau’r Senedd, neu

(b)os nad yw’n ystyried bod unrhyw newid yn briodol, datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol,

(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,

(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a

(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau.

(3)Yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(4)Mae’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yn gyfnod o wyth wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol.

49FCyhoeddi sylwadau ac ymgynghori arnynt

(1)Ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dogfen yn nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr adroddiad cychwynnol a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan adran 49E(3)).

(2)Rhaid i’r Comisiwn hefyd—

(a)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),

(b)gwahodd sylwadau mewn cysylltiad â’r sylwadau a nodir yn y ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),

(c)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(d)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch yr amseroedd a’r lleoedd y cynhelir gwrandawiadau cyhoeddus o dan adran 49G a, phan fo gwrandawiadau i’w cynnal yn rhannol wyneb yn wyneb ac yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell, bennu cyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud sylwadau drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell.

(3)Mae’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn gyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir y ddogfen o dan is-adran (1).

(4)Yn is-adran (2)(d), ystyr “cyfleusterau o bell” yw unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi pobl nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i wneud sylwadau yn y gwrandawiad.

49GGwrandawiadau cyhoeddus

(1)Yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gynnal o leiaf ddau o wrandawiadau cyhoeddus, ond nid mwy na phump o’r gwrandawiadau cyhoeddus hynny, i alluogi gwneud sylwadau ynghylch ei gynigion.

(2)Rhaid i’r gwrandawiadau cyhoeddus rhyngddynt gwmpasu Cymru gyfan.

(3)Rhaid i wrandawiad cyhoeddus gael ei gwblhau o fewn dau ddiwrnod.

(4)Os yw gwrandawiad i’w gynnal yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 49F(4)), rhaid i’r cyfleusterau o bell alluogi’r bobl sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad ond nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i siarad ac i gael eu clywed gan (pa un a yw’n galluogi’r bobl hynny i weld ac i gael eu gweld ai peidio gan)—

(a)ei gilydd, a

(b)pobl yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad.

(5)Rhaid i’r Comisiwn benodi person i fod yn gadeirydd ar bob gwrandawiad (“y cadeirydd”).

(6)Rhaid i’r cadeirydd bennu’r weithdrefn sydd i lywodraethu’r gwrandawiad hwnnw.

(7)Rhaid i’r cadeirydd wneud trefniadau i wrandawiad cyhoeddus ddechrau gydag esboniad o—

(a)y cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy;

(b)sut y caniateir gwneud sylwadau ynghylch y cynigion.

(8)Rhaid i’r cadeirydd ganiatáu i sylwadau gael eu gwneud—

(a)gan bob plaid wleidyddol sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) ac sydd naill ai—

(i)ag o leiaf un Aelod o’r Senedd, neu

(ii)wedi cael o leiaf 10% o’r pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiad cyffredinol mwyaf diweddar;

(b)gan unrhyw berson arall y mae’r cadeirydd yn ystyried bod ganddo fuddiant yn unrhyw un neu ragor o’r cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy (yn ddarostyngedig i is-adran (9)(c)).

(9)Caiff y cadeirydd—

(a)pennu ym mha drefn y gwneir sylwadau;

(b)cyfyngu ar faint o amser a ganiateir ar gyfer sylwadau, ac nid oes angen iddo ganiatáu’r un faint o amser i bob person;

(c)os yw’n angenrheidiol oherwydd prinder amser, benderfynu pa rai o’r personau a grybwyllir yn is-adran (8)(b) nas caniateir iddynt wneud sylwadau.

(10)Caiff y cadeirydd holi cwestiynau i berson sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad, neu ganiatáu i gwestiynau cael eu holi i’r person hwnnw.

(11)Os caniateir holi cwestiynau, caiff y cadeirydd reoleiddio modd y cwestiynu neu gyfyngu ar nifer y cwestiynau y caiff person eu gofyn.

49HAil adroddiad ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau

(1)Ar ddiwedd yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau—

(a)rhaid i’r Comisiwn ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(b)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

(2)Ar ôl cymryd y camau yn is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn wneud ail adroddiad—‍

(a)yn nodi—

(i)cynigion y Comisiwn ar gyfer newid ffiniau ac enwau etholaethau’r Senedd, neu

(ii)os nad yw’r Comisiwn yn ystyried bod unrhyw newid yn briodol, ddatganiad i’r perwyl hwnnw;

(b)yn pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol, ac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r ail adroddiad,

(b)cyhoeddi dogfen—

(i)yn cynnwys cofnodion o’r gwrandawiadau cyhoeddus a gynhaliwyd o dan adran 49G, a

(ii)yn nodi unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau,

(c)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad a’r ddogfen a gyhoeddwyd o dan baragraff (b),

(d)gwahodd sylwadau—‍

(i)ar yr adroddiad‍,

(ii)mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod y gwrandawiadau cyhoeddus, a

(iii)mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(e)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau.

(4)Yn ystod y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(5)Mae’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnws unrhyw sylwadau wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg, pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan is-adran (4), ar yr ail adroddiad ac ar y sylwadau a grybwyllir yn is-adran (3)(d)(ii) a (iii)),

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac

(c)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr ail adroddiad yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

49IAdroddiad terfynol ar adolygiad ffiniau

(1)Cyn 1 Rhagfyr 2028, a chyn 1 Rhagfyr bob wythfed flynedd ar ôl hynny, rhaid i’r Comisiwn—

(a)wneud adroddiad terfynol a’i gyhoeddi, a

(b)anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r adroddiad terfynol—

(a)naill ai—

(i)nodi manylion unrhyw newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, neu

(ii)datgan nad yw’n ofynnol gwneud unrhyw newid i etholaethau’r Senedd, a

(b)pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad, ac esbonio pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Os yw’n ofynnol gwneud newidiadau i ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r adroddiad terfynol nodi—

(a)ffiniau‍ yr holl etholaethau y dychwelir Aelodau o’r Senedd ar eu cyfer,

(b)enwau’r holl etholaethau hynny, ac

(c)a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(4)Os nad oes newid i’w wneud i ffiniau un o etholaethau’r Senedd ond bod angen newid y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—

(a)enw’r etholaeth;

(b)ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol,

rhaid i’r adroddiad terfynol nodi’r newid.

(5)Nid yw methiant gan y Comisiwn i gydymffurfio â therfyn amser yn is-adran (1) yn annilysu adroddiad terfynol.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael adroddiad terfynol, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.

49JGweithredu adroddiad terfynol gan Weinidogion Cymru

(1)Pan fo adroddiad terfynol yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, a

(b)sut bynnag, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o‍ bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad gerbron y Senedd.

(2)Pan na fo rheoliadau wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru yn nodi’r amgylchiadau eithriadol.

(3)Rhaid i ddatganiad o dan is-adran (2) gael ei osod cyn diwedd y cyfnod o‍ bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru.

(4)Rhaid i ddatganiadau pellach sy’n nodi’r amgylchiadau eithriadol gael eu gosod gerbron Senedd Cymru cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y datganiad blaenorol, hyd nes bo’r rheoliadau wedi eu gwneud.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer unrhyw faterion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddeilliadol i’r penderfyniadau yn yr adroddiad terfynol, neu’n ganlyniadol arnynt.

(6)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon gael eu gwneud drwy offeryn statudol.

(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud.

(8)Nid yw dod i rym y rheoliadau hyn yn effeithio ar ddychwelyd Aelod o’r Senedd i Senedd Cymru, na chyfansoddiad Senedd Cymru, hyd nes y diddymir y Senedd mewn cysylltiad ag‍‍—

(a)yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf, neu

(b)etholiad cyffredinol eithriadol, y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer—

(i)yn ystod y cyfnod o fis sy’n gorffen â’r diwrnod cyn y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno, neu

(ii)ar y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno.

49KAddasu adroddiad terfynol gan y Comisiwn

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru o dan adran 49I(6),

(b)pan fo’r adroddiad yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd,

(c)pan fo’r Comisiwn yn ystyried bod angen addasu’r adroddiad i gywiro gwall neu wallau mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir yn adran 49I(3) neu (4), a

(d)pan na fo’r rheoliadau wedi eu gwneud hyd hynny o dan adran‍ 49J.

(2)Caiff y Comisiwn anfon datganiad at Weinidogion Cymru yn pennu—

(a)yr addasiadau i’r adroddiad, a

(b)y rhesymau dros yr addasiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad a anfonir at Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael datganiad, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.

(5)Pan fo datganiad wedi ei anfon at Weinidogion Cymru, rhaid i’r rheoliadau a wneir o dan adran 49J roi effaith i’r adroddiad terfynol gyda’r addasiadau a bennir yn y datganiad.

49LDehongli’r Rhan

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “cyfleusterau o bell” (“remote facilities”) yr ystyr a roddir gan adran 49F(4);

  • mae i “dyddiad yr adolygiad” (“review date”) yr ystyr a roddir gan adran 49B(2);

  • ystyr “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) yw etholaeth y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 49J;

  • ystyr “etholiad cyffredinol” (“general election”) yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “ffiniau llywodraeth leol” (“local government boundaries”) yw ffiniau siroedd, ffiniau bwrdeistrefi sirol, ffiniau wardiau etholiadol, ffiniau cymunedau a ffiniau wardiau cymunedol yng Nghymru.

(2)Pan fo’r Rhan hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad, yr adroddiad neu ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)ar wefan y Comisiwn, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources