Search Legislation

Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

(a gyflwynir gan adrannau 11 a 12)

ATODLEN 1MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL SY’N YMWNEUD Â RHAN 3

RHAN 1DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â NEWID ENW BYR DEDDF 2013

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

1(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 25(2) (tymor swydd ac ymddeoliad cynghorwyr), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 (anaw 4)” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

(3)Yn adran 30 (cyfyngu ar geisiadau cymunedau yn ystod ac ar ôl adolygiadau)—

(a)yn is-adran (1)(ba), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “or Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “under Part 3 of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

(4)Yn adran 31(2) (darpariaeth sy’n atodol i adrannau 27A i 27L), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

(5)Yn adran 246(9) (cadw pwerau, breintiau a hawliau dinasoedd neu fwrdeistrefi presennol), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

Deddf yr Heddlu 1996 (p. 16)

2Yn adran 1(2)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (ardaloedd heddlu), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21)

3(1)Mae Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 2 (pŵer i greu awdurdodau tân ac achub cyfunol)—

(a)yn is-adran (9)(c), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”;

(b)yn is-adran (10)(a), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

(3)Yn adran 4(7)(b) (awdurdodau cyfunol o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947), yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13)

4Yn adran 72(3) o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (diwygio ardaloedd heddlu: tymor swydd comisiynydd), ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “police area alteration order”, yn lle “Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 (anaw 4)” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.

Deddf 2013

5(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 43(1) (amrywio a dirymu gorchmynion), ar ôl “neu 39” mewnosoder “gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn na, yn ôl y digwydd, y prif gyngor”.

(3)Hepgorer adran 74(1) a (2) (adolygiadau sy’n mynd rhagddynt ac arbedion eraill).

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6)

6(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1(2) (trosolwg), hepgorer paragraff (e).

(3)Hepgorer adran 43 (cynigion a gyflwynwyd cyn i Ran 3 o Ddeddf 2013 gychwyn).

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)

7(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 171(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Deddf 2013”, yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

(3)Yn y pennawd italig o flaen paragraff 14 o Atodlen 1, yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/399 (Cy. 45))

8Yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod), yn Rhan G (y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Biliau preifat), yn ail golofn y tabl, yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1075 (Cy. 254))

9Yn erthygl 2 o Orchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1080 (Cy. 255))

10Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1081 (Cy. 256))

11Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1082 (Cy. 257))

12Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1084 (Cy. 258))

13Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1111 (Cy. 266))

14Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1112 (Cy. 267))

15Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1113 (Cy. 268))

16Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1114 (Cy. 269))

17Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1138 (Cy. 275))

18Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1139 (Cy. 276))

19Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1140 (Cy. 277))

20Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1159 (Cy. 284))

21Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1160 (Cy. 285))

22Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1161 (Cy. 286))

23Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1181 (Cy. 292))

24Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1182 (Cy. 293))

25Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1216 (Cy. 305))

26Yn erthygl 2 o Orchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1217 (Cy. 306))

27Yn erthygl 2 o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1223 (Cy. 307))

28Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021 (O.S. 2021/1227 (Cy. 309))

29Yn erthygl 2(2) o Orchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/1228 (Cy. 310))

30Yn erthygl 2 o Orchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (O.S. 2021/1232 (Cy. 311))

31Yn erthygl 1(4) o Orchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (enwi, cychwyn a dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022 (O.S. 2022/279 (Cy. 80))

32Yn erthygl 2(2) o Orchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022 (dehongli), yn lle “Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.

RHAN 2DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â NEWID ENW’R COMISIWN

Deddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11)

33Yn Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (mathau o gyflogaeth y cyfeirir atynt yn adran 1 o’r Ddeddf honno), o dan y pennawd italig “Royal Commissions and other Commissions”—

(a)hepgorer “The Local Democracy and Boundary Commission for Wales”;

(b)o flaen y cofnod ar gyfer “Development Commission” mewnosoder—

  • Democracy and Boundary Commission Cymru.

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

34(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 30 (cyfyngu ar geisiadau cymunedau yn ystod ac ar ôl adolygiadau)—

(a)yn is-adran (1)(ba), yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “the Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “the Democracy and Boundary Commission Cymru”.

(3)Yn adran 74(3A) (newid enw sir etc.), yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”.

(4)Yn adran 76(2)(a) (newid enw cymuned), yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”.

Deddf Anghymhwyso Tŷ’r Cyffredin 1975 (p. 24)

35Yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Anghymhwyso Tŷ’r Cyffredin 1975 (swyddi sy’n anghymhwyso rhag bod yn aelodau)—

(a)o flaen y cofnod ar gyfer “Development Commission” mewnosoder—

  • The Democracy and Boundary Commission Cymru.;

(b)hepgorer “The Local Government Boundary Commission for Wales.”

Deddf Llywodraeth Leol 1992 (p. 19)

36Yn Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (diwygiadau sy’n ganlyniadol ar Ran 2), hepgorer paragraff 11.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)

37Ym mharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (archwilio etc. gyrff cyhoeddus Cymru), yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)

38Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus)—

(a)ar ôl y cofnod ar gyfer “Defence Scientific Advisory Council”, mewnosoder—

  • The Democracy and Boundary Commission Cymru.;

(b)hepgorer “The Local Democracy and Boundary Commission for Wales.”

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

39Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

40Yn adran 148(2) (ystyr “cofnodion cyhoeddus Cymru”)—

(a)ar ôl paragraff (c), mewnosoder—

(ca)the Democracy and Boundary Commission Cymru,;

(b)hepgorer paragraff (i).

41Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), hepgorer y cofnod ar gyfer “Local Democracy and Boundary Commission for Wales or Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”.

42Yn nhabl 1 ym mharagraff 35(3) o Atodlen 11 (darpariaethau trosiannol), hepgorer y cofnod ar gyfer adran 20(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

43Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc: safonau), yn y tabl—

(a)o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol” mewnosoder—

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“The Democracy and Boundary Commission Cymru”)Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”.

Deddf 2013

44(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle adran 1(2) (trosolwg), rhodder—

(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

(3)Ym mhennawd Rhan 2, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

(4)Yn Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(a)hepgorer paragraff 1(3)(b);

(b)hepgorer paragraffau 3 a 4 a’r penawdau italig o’u blaenau.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)

45Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (awdurdodau rhestredig), o dan y pennawd italig “Amrywiol”—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

  • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.;

(b)hepgorer “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.”

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)

46Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

47Yn adran 10(1) (dyletswydd i hysbysu pan fydd penderfyniad yn cael ei basio) yn lle “a’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol” rhodder “a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

48Yn adran 11 (adolygiad cychwynnol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”, rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”;

(b)yn y pennawd, yn lle “y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol”, rhodder “Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

49Yn adran 138 (adolygiadau o drefniadau etholiadol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”, rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”;

(b)yn is-adran (2)(a), yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”, rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

50Ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1 (adolygiadau cychwynnol o drefniadau etholiadol etc.), yn lle “Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”, rhodder “Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (dsc 1)

51Ym mharagraff 18 o Atodlen 1 i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (awdurdodau contractio), yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898)

52Yn y tabl yn yr Atodlen i Orchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 hepgorer y cofnod ar gyfer “Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru”.

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341)

53Yn rheoliad 101(2) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, yn lle “Local Democracy and Boundary Commission for Wales” rhodder “Democracy and Boundary Commission Cymru”.

Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102)

54Yn Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (awdurdodau llywodraeth ganolog)—

(a)ar ôl “Agricultural Land Tribunal for Wales”, mewnosoder—

  • Democracy and Boundary Commission Cymru;

(b)hepgorer “Local Democracy and Boundary Commission for Wales”.

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 (O.S. 2016/182 (Cy. 76))

55Yn Atodlen 6 i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016—

(a)yn y lle priodol, mewnosoder—

  • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“The Democracy and Boundary Commission Cymru”);

(b)hepgorer “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru (“The Local Democracy and Boundary Commission for Wales”)”.

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/694)

56Hepgorer rheoliad 11(b) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2016 (diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001).

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/970 (Cy. 239))

57Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 wedi ei ddirymu.

Gorchymyn Blwydd-daliadau (Derbyn i Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972) 2017 (O.S. 2017/1261)

58Hepgorer erthygl 8(a)(ii) o Orchymyn Blwydd-daliadau (Derbyn i Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972) 2017 (diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) i adlewyrchu newidiadau i enwau).

(a gyflwynir gan adran 17)

ATODLEN 2ETHOLAETHAU’R SENEDD AR GYFER YR ETHOLIAD CYFFREDINOL CYNTAF AR ÔL 6 EBRILL 2026

Etholiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt

1Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch yr etholaethau yr etholir‍ Aelodau o’r Senedd drostynt (“etholaethau’r Senedd”‍) mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith (neu y newidir yr etholaethau fel arall o dan unrhyw ddeddfiad).

Etholaethau’r Senedd ac adolygiad ffiniau 2026

2(1)Rhaid i ardal pob etholaeth Senedd gynnwys ardaloedd cyfunedig dwy o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol.

(2)Rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“y Comisiwn”) gynnal adolygiad (“adolygiad ffiniau 2026”) yn unol â’r Atodlen hon i benderfynu—

(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd;

(b)enwau etholaethau’r Senedd;

(c)pa un a yw pob etholaeth Senedd yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

Hysbysiad cychwyn adolygiad ffiniau 2026

3(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cychwyn adolygiad ffiniau 2026, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad—

(a)yn datgan bod y Comisiwn wedi cychwyn yr adolygiad, a

(b)yn pennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad arno.

(2)Yn yr Atodlen hon, ystyr “dyddiad yr adolygiad” yw’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff‍ (1)(b).

Y materion y caiff y Comisiwn eu hystyried yn adolygiad ffiniau 2026

4Wrth ystyried y cyfuniadau posibl o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru, caiff y Comisiwn ystyried—

(a)ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli ar ddyddiad yr adolygiad;

(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig;

(c)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg)‍ a fyddai’n cael ei dorri gan y cyplysiadau arfaethedig.

Penderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd

5(1)Rhaid i bob etholaeth Senedd gael‍ enw‍ unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg‍).‍

(2)Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler paragraff 6) rhaid i’r Comisiwn—

(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enwau arfaethedig ar gyfer adnabod etholaethau’r Senedd, a

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd gan y Comisiynydd ar orgraff yr enwau arfaethedig.

(3)Mae gofyniad o dan yr Atodlen hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—

(a)yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a

(b)yn fersiwn Saesneg yr adroddiad‍.

Adroddiad cychwynnol ar adolygiad ffiniau 2026 a’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau

6(1)Ar ôl cymryd y camau ym mharagraffau 3(1) a 5(2) rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol yn nodi’r etholaethau Senedd arfaethedig, gan gynnwys—

(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd, a

(b)enw arfaethedig pob etholaeth Senedd.

(2)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol,

(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,

(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a

(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau.

(3)Yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(4)Mae’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol.

Ail adroddiad ar adolygiad ffiniau 2026 a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau

7(1)Ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr adroddiad cychwynnol a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan baragraff 6(3)),

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac

(c)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn ystyried unrhyw newidiadau i enw arfaethedig etholaeth Senedd fel y’i nodir yn yr adroddiad cychwynnol, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

(2)Ar ôl cymryd y camau yn is-baragraff (1), rhaid i’r Comisiwn wneud ail adroddiad yn nodi’r etholaethau Senedd arfaethedig, gan gynnwys—

(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd,

(b)enw arfaethedig pob etholaeth, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion yn yr adroddiad cychwynnol, ac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r ail adroddiad,

(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,

(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a

(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau.

(4)Yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(5)Mae’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr ail adroddiad a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan is-baragraff (4)),

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac

(c)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn ystyried unrhyw newidiadau i enw arfaethedig etholaeth Senedd fel y’i nodir yn yr ail adroddiad, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

Adroddiad terfynol ar adolygiad ffiniau 2026

8(1)Cyn 1 Ebrill 2025 rhaid i’r Comisiwn—

(a)gwneud adroddiad terfynol a chyhoeddi’r adroddiad hwnnw, a

(b)anfon yr adroddiad hwnnw at Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r adroddiad terfynol nodi etholaethau’r Senedd, gan gynnwys—

(a)pa etholaethau seneddol y DU yng Nghymru sy’n gyffiniol sydd i’w cyfuno i greu ardaloedd yr 16 o etholaethau’r Senedd,

(b)enw pob etholaeth, ac

(c)pa un a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(3)Rhaid i’r adroddiad terfynol hefyd bennu manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad, ac esbonio pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(4)Nid yw methiant gan y Comisiwn i gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2025 yn annilysu’r adroddiad.

(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael yr adroddiad terfynol, rhaid iddynt ei osod gerbron y Senedd.

Gweithredu’r adroddiad terfynol gan Weinidogion Cymru

9(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron y Senedd, a

(b)sut bynnag, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o 14 o wythnosau sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd.

(2)Pan na fo rheoliadau wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd yn nodi’r amgylchiadau eithriadol.

(3)Rhaid i ddatganiad o dan is-baragraff (2) gael ei osod cyn diwedd y cyfnod o 14 o wythnosau sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd.

(4)Rhaid i ddatganiadau pellach sy’n nodi’r amgylchiadau eithriadol gael eu gosod gerbron y Senedd cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y datganiad blaenorol, hyd nes bod y rheoliadau wedi eu gwneud.

(5)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn wneud darpariaeth ar gyfer unrhyw faterion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddeilliadol i’r penderfyniadau yn yr adroddiad terfynol, neu’n ganlyniadol arnynt.

(6)Rhaid i reoliadau o dan y paragraff hwn gael eu gwneud drwy offeryn statudol.

(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y paragraff hwn gael ei osod gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud.

(8)Nid yw dod i rym y rheoliadau yn effeithio ar ddychwelyd Aelod o’r Senedd i’r Senedd, na chyfansoddiad y Senedd, hyd nes y diddymir y Senedd mewn cysylltiad â’r etholiad cyffredinol cyntaf i’w gynnal ar ôl 6 Ebrill 2026.

Addasu’r adroddiad terfynol gan y Comisiwn

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd o dan baragraff 8(5),

(b)pan fo’r Comisiwn yn ystyried bod angen addasu’r adroddiad i gywiro gwall neu wallau mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir ym mharagraff 8(2), ac

(c)pan na fo’r rheoliadau wedi eu gwneud hyd hynny o dan baragraff 9.

(2)Caiff y Comisiwn anfon datganiad at Weinidogion Cymru yn pennu—

(a)yr addasiadau a wnaed i’r adroddiad, a

(b)y rhesymau dros wneud yr addasiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad a anfonir at Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (2).

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael datganiad, rhaid iddynt ei osod gerbron y Senedd.

(5)Pan fo datganiad wedi ei anfon at Weinidogion Cymru, rhaid i’r rheoliadau a wneir o dan baragraff 9 roi effaith i’r adroddiad terfynol gyda’r addasiadau a bennir yn y datganiad.

Dirprwyo swyddogaethau gan y Comisiwn o dan yr Atodlen hon

11Mae adran 13(1) o Ddeddf 2013 (dirprwyo) i’w darllen fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau’r Comisiwn o dan yr Atodlen hon (ac yn unol â hynny caniateir dirprwyo’r swyddogaethau hynny o dan yr adran honno).

Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i’r Comisiwn ynghylch swyddogaethau o dan yr Atodlen hon

12Nid yw adran 14 o Ddeddf 2013 (cyfarwyddiadau) yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

Dehongli

13Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “y Comisiwn”(“the Commission”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2(2);

  • mae i “dyddiad yr adolygiad” (“review date”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3;

  • mae “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) i’w ddehongli yn unol â pharagraff‍ 1;

  • ystyr “etholaeth seneddol y DU” (“UK parliamentary constituency”) yw etholaeth‍ , a bennir yng Ngorchymyn Etholaethau Seneddol 2023 (O.S. 2023/1230), sy’n dychwelyd aelod o Senedd y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “ffiniau llywodraeth leol (“local government boundaries”) yw ffiniau siroedd, ffiniau bwrdeistrefi sirol, ffiniau wardiau etholiadol, ffiniau cymunedau a ffiniau wardiau cymunedol yng Nghymru.

14Pan fo’r Atodlen hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)ar wefan y Comisiwn, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

(a gyflwynir gan adran 18)

ATODLEN 3RHAN NEWYDD 3A O DDEDDF 2013

Rhan 3A o Ddeddf 2013

1Yn Neddf 2013, ar ôl Rhan 3 mewnosoder—

RHAN 3AADOLYGIADAU O FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD

49AAdolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd

(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(2)Adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd yw adolygiad o etholaethau’r Senedd at ddiben penderfynu a ddylai’r ffiniau hynny newid er mwyn rhoi effaith i’r rheolau a nodir yn adran 49C.

(3)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad y dylai ffiniau etholaeth Senedd newid, rhaid i’r Comisiwn hefyd benderfynu—

(a)yr hyn ddylai fod yr enwau ar yr etholaethau yr effeithir arnynt;

(b)pa un a yw pob etholaeth yr effeithir arni yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(4)Ond os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad, er na ddylai ffiniau etholaeth Senedd newid, y dylai enw’r etholaeth newid neu y dylai ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol newid, caiff y Comisiwn benderfynu—

(a)yr hyn ddylai fod yr enw ar yr etholaeth;

(b)pa un a ddylai fod yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(5)At ddiben is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 30 Tachwedd 2028,

(b)y cyfnod o 8 mlynedd sy’n dechrau ag 1 Rhagfyr 2028, ac

(c)pob cyfnod dilynol o 8 mlynedd.

49BHysbysiad cychwyn adolygiad ffiniau etholaethau’r Senedd

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cychwyn adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad—

(a)yn datgan bod y Comisiwn wedi cychwyn adolygiad, a

(b)yn pennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad arno.

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “dyddiad yr adolygiad” yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (1)(b).

49CRheolau ynghylch etholaethau

(1)Rhaid i’r etholyddiaeth ar gyfer pob etholaeth Senedd fod yn—

(a)dim llai na 90% o’r cwota etholiadol, a

(b)dim mwy na 110% o’r cwota etholiadol.

(2)Wrth ystyried, yn ystod adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, pa un a ddylid gwneud newidiadau i etholaethau’r Senedd, a pha newidiadau y dylid eu gwneud—

(a)caiff y Comisiwn roi sylw i—

(i)ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli neu sy’n ddarpar ffiniau ar ddyddiad yr adolygiad;

(ii)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig neu etholaeth Senedd bresennol;

(iii)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg) a‍ fyddai’n cael ei dorri gan y newidiadau hynny; ond

(b)sut bynnag, rhaid i’r Comisiwn—

(i)ceisio sicrhau y gwneir cyn lleied o newidiadau â phosibl i etholaethau’r Senedd sy’n bodoli ar ddyddiad yr adolygiad, a

(ii)rhoi sylw i’r anghyfleustra a achosir drwy wneud newidiadau i etholaethau’r Senedd.

(3)At ddibenion is-adran (1)—

(a)yr etholyddiaeth yw cyfanswm nifer yr etholwyr llywodraeth leol, a

(b)y cwota etholiadol yw etholyddiaeth Cymru wedi ei rannu ag 16 (sef nifer etholaethau’r Senedd), ac

at ddibenion paragraff (a), etholwr llywodraeth leol yw person sydd wedi ei gofrestru yn y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd.

(4)Y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, ar ddyddiad yr adolygiad, yw’r fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2).

(5)Yn achos ffin llywodraeth leol sy’n ddarpar ffin ar ddyddiad yr adolygiad, y ffin honno (yn hytrach nag unrhyw ffin sy’n bodoli eisoes a ddisodlir ganddi) yw’r ffin y mae rhaid ei hystyried o dan is-adran ‍(2)(a)(i).

(6)Mae ffin llywodraeth leol yn “ddarpar ffin” ar ddyddiad yr adolygiad—

(a)os yw’r ffin, ar y dyddiad hwnnw, wedi ei phennu mewn darpariaeth mewn—

(i)deddfwriaeth sylfaenol, neu

(ii)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol, a

(b)os nad yw’r ddarpariaeth sy’n pennu’r ffin mewn grym hyd hynny at bob diben ar y dyddiad hwnnw.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

(b)Mesur a ddeddfwyd o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

49DPenderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd

(1)Rhaid i bob etholaeth Senedd gael‍ enw‍ unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg‍).

(2)Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler adran 49E) rhaid i’r Comisiwn, os yw’n bwriadu gwneud cynnig yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd—

(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(b)ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.

(3)Mae gofyniad o dan y Rhan hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—

(a)yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a

(b)yn fersiwn Saesneg yr adroddiad‍.

49EAdroddiad cychwynnol ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau

(1)Ar ôl cymryd y camau yn adrannau 49B(1) a 49D(2), rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol yn nodi—

(a)cynigion y Comisiwn ar gyfer newid i—

(i)ffiniau etholaethau’r Senedd;

(ii)enwau etholaethau’r Senedd, neu

(b)os nad yw’n ystyried bod unrhyw newid yn briodol, datganiad i’r perwyl hwnnw.

(2)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol,

(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,

(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a

(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau.

(3)Yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(4)Mae’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yn gyfnod o wyth wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol.

49FCyhoeddi sylwadau ac ymgynghori arnynt

(1)Ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dogfen yn nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr adroddiad cychwynnol a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan adran 49E(3)).

(2)Rhaid i’r Comisiwn hefyd—

(a)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),

(b)gwahodd sylwadau mewn cysylltiad â’r sylwadau a nodir yn y ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),

(c)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(d)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch yr amseroedd a’r lleoedd y cynhelir gwrandawiadau cyhoeddus o dan adran 49G a, phan fo gwrandawiadau i’w cynnal yn rhannol wyneb yn wyneb ac yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell, bennu cyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud sylwadau drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell.

(3)Mae’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn gyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir y ddogfen o dan is-adran (1).

(4)Yn is-adran (2)(d), ystyr “cyfleusterau o bell” yw unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi pobl nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i wneud sylwadau yn y gwrandawiad.

49GGwrandawiadau cyhoeddus

(1)Yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gynnal o leiaf ddau o wrandawiadau cyhoeddus, ond nid mwy na phump o’r gwrandawiadau cyhoeddus hynny, i alluogi gwneud sylwadau ynghylch ei gynigion.

(2)Rhaid i’r gwrandawiadau cyhoeddus rhyngddynt gwmpasu Cymru gyfan.

(3)Rhaid i wrandawiad cyhoeddus gael ei gwblhau o fewn dau ddiwrnod.

(4)Os yw gwrandawiad i’w gynnal yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 49F(4)), rhaid i’r cyfleusterau o bell alluogi’r bobl sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad ond nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i siarad ac i gael eu clywed gan (pa un a yw’n galluogi’r bobl hynny i weld ac i gael eu gweld ai peidio gan)—

(a)ei gilydd, a

(b)pobl yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad.

(5)Rhaid i’r Comisiwn benodi person i fod yn gadeirydd ar bob gwrandawiad (“y cadeirydd”).

(6)Rhaid i’r cadeirydd bennu’r weithdrefn sydd i lywodraethu’r gwrandawiad hwnnw.

(7)Rhaid i’r cadeirydd wneud trefniadau i wrandawiad cyhoeddus ddechrau gydag esboniad o—

(a)y cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy;

(b)sut y caniateir gwneud sylwadau ynghylch y cynigion.

(8)Rhaid i’r cadeirydd ganiatáu i sylwadau gael eu gwneud—

(a)gan bob plaid wleidyddol sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) ac sydd naill ai—

(i)ag o leiaf un Aelod o’r Senedd, neu

(ii)wedi cael o leiaf 10% o’r pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiad cyffredinol mwyaf diweddar;

(b)gan unrhyw berson arall y mae’r cadeirydd yn ystyried bod ganddo fuddiant yn unrhyw un neu ragor o’r cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy (yn ddarostyngedig i is-adran (9)(c)).

(9)Caiff y cadeirydd—

(a)pennu ym mha drefn y gwneir sylwadau;

(b)cyfyngu ar faint o amser a ganiateir ar gyfer sylwadau, ac nid oes angen iddo ganiatáu’r un faint o amser i bob person;

(c)os yw’n angenrheidiol oherwydd prinder amser, benderfynu pa rai o’r personau a grybwyllir yn is-adran (8)(b) nas caniateir iddynt wneud sylwadau.

(10)Caiff y cadeirydd holi cwestiynau i berson sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad, neu ganiatáu i gwestiynau cael eu holi i’r person hwnnw.

(11)Os caniateir holi cwestiynau, caiff y cadeirydd reoleiddio modd y cwestiynu neu gyfyngu ar nifer y cwestiynau y caiff person eu gofyn.

49HAil adroddiad ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau

(1)Ar ddiwedd yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau—

(a)rhaid i’r Comisiwn ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(b)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

(2)Ar ôl cymryd y camau yn is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn wneud ail adroddiad—‍

(a)yn nodi—

(i)cynigion y Comisiwn ar gyfer newid ffiniau ac enwau etholaethau’r Senedd, neu

(ii)os nad yw’r Comisiwn yn ystyried bod unrhyw newid yn briodol, ddatganiad i’r perwyl hwnnw;

(b)yn pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol, ac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r ail adroddiad,

(b)cyhoeddi dogfen—

(i)yn cynnwys cofnodion o’r gwrandawiadau cyhoeddus a gynhaliwyd o dan adran 49G, a

(ii)yn nodi unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau,

(c)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad a’r ddogfen a gyhoeddwyd o dan baragraff (b),

(d)gwahodd sylwadau—‍

(i)ar yr adroddiad‍,

(ii)mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod y gwrandawiadau cyhoeddus, a

(iii)mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a

(e)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau.

(4)Yn ystod y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.

(5)Mae’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnws unrhyw sylwadau wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg, pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan is-adran (4), ar yr ail adroddiad ac ar y sylwadau a grybwyllir yn is-adran (3)(d)(ii) a (iii)),

(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac

(c)os yw’r Comisiwn‍, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr ail adroddiad yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—

(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig‍.

49IAdroddiad terfynol ar adolygiad ffiniau

(1)Cyn 1 Rhagfyr 2028, a chyn 1 Rhagfyr bob wythfed flynedd ar ôl hynny, rhaid i’r Comisiwn—

(a)wneud adroddiad terfynol a’i gyhoeddi, a

(b)anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r adroddiad terfynol—

(a)naill ai—

(i)nodi manylion unrhyw newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, neu

(ii)datgan nad yw’n ofynnol gwneud unrhyw newid i etholaethau’r Senedd, a

(b)pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad, ac esbonio pam y gwnaed y newidiadau hynny.

(3)Os yw’n ofynnol gwneud newidiadau i ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r adroddiad terfynol nodi—

(a)ffiniau‍ yr holl etholaethau y dychwelir Aelodau o’r Senedd ar eu cyfer,

(b)enwau’r holl etholaethau hynny, ac

(c)a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.

(4)Os nad oes newid i’w wneud i ffiniau un o etholaethau’r Senedd ond bod angen newid y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—

(a)enw’r etholaeth;

(b)ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol,

rhaid i’r adroddiad terfynol nodi’r newid.

(5)Nid yw methiant gan y Comisiwn i gydymffurfio â therfyn amser yn is-adran (1) yn annilysu adroddiad terfynol.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael adroddiad terfynol, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.

49JGweithredu adroddiad terfynol gan Weinidogion Cymru

(1)Pan fo adroddiad terfynol yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, a

(b)sut bynnag, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o‍ bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad gerbron y Senedd.

(2)Pan na fo rheoliadau wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru yn nodi’r amgylchiadau eithriadol.

(3)Rhaid i ddatganiad o dan is-adran (2) gael ei osod cyn diwedd y cyfnod o‍ bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru.

(4)Rhaid i ddatganiadau pellach sy’n nodi’r amgylchiadau eithriadol gael eu gosod gerbron Senedd Cymru cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y datganiad blaenorol, hyd nes bo’r rheoliadau wedi eu gwneud.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer unrhyw faterion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddeilliadol i’r penderfyniadau yn yr adroddiad terfynol, neu’n ganlyniadol arnynt.

(6)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon gael eu gwneud drwy offeryn statudol.

(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud.

(8)Nid yw dod i rym y rheoliadau hyn yn effeithio ar ddychwelyd Aelod o’r Senedd i Senedd Cymru, na chyfansoddiad Senedd Cymru, hyd nes y diddymir y Senedd mewn cysylltiad ag‍‍—

(a)yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf, neu

(b)etholiad cyffredinol eithriadol, y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer—

(i)yn ystod y cyfnod o fis sy’n gorffen â’r diwrnod cyn y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno, neu

(ii)ar y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno.

49KAddasu adroddiad terfynol gan y Comisiwn

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru o dan adran 49I(6),

(b)pan fo’r adroddiad yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd,

(c)pan fo’r Comisiwn yn ystyried bod angen addasu’r adroddiad i gywiro gwall neu wallau mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir yn adran 49I(3) neu (4), a

(d)pan na fo’r rheoliadau wedi eu gwneud hyd hynny o dan adran‍ 49J.

(2)Caiff y Comisiwn anfon datganiad at Weinidogion Cymru yn pennu—

(a)yr addasiadau i’r adroddiad, a

(b)y rhesymau dros yr addasiadau hynny.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad a anfonir at Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael datganiad, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.

(5)Pan fo datganiad wedi ei anfon at Weinidogion Cymru, rhaid i’r rheoliadau a wneir o dan adran 49J roi effaith i’r adroddiad terfynol gyda’r addasiadau a bennir yn y datganiad.

49LDehongli’r Rhan

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “cyfleusterau o bell” (“remote facilities”) yr ystyr a roddir gan adran 49F(4);

  • mae i “dyddiad yr adolygiad” (“review date”) yr ystyr a roddir gan adran 49B(2);

  • ystyr “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) yw etholaeth y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 49J;

  • ystyr “etholiad cyffredinol” (“general election”) yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “ffiniau llywodraeth leol” (“local government boundaries”) yw ffiniau siroedd, ffiniau bwrdeistrefi sirol, ffiniau wardiau etholiadol, ffiniau cymunedau a ffiniau wardiau cymunedol yng Nghymru.

(2)Pan fo’r Rhan hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad, yr adroddiad neu ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)ar wefan y Comisiwn, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

Diwygiadau cysylltiedig

2(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio yn unol ag is-baragraffau (2) i (6).

(2)Yn adran 1 (trosolwg), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Mae Rhan 3A yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd a gynhelir gan y Comisiwn.

(3)Yn adran 13(1) (dirprwyo), yn lle’r geiriau o “Benodau 2” hyd at y diwedd rhodder

(a)Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);

(b)Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);

(c)Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),

fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.

(4)Yn adran 14 (cyfarwyddiadau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Nid yw’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn yn ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).

(5)Yn adran 71(4) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl “adran 45 neu 75” mewnosoder “, neu reoliadau a wneir o dan adran 49J”.

(6)Yn Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl ‍2—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Cyfleusterau o bell (Remote facilities)Adran 49F(4);
Dyddiad yr adolygiad (Review date)Adran 49B(2);
Etholaeth Senedd (Senedd constituency)Adran 49L(1);
Etholiad cyffredinol (General election)Adran 49L(1);
Ffiniau llywodraeth leol (Local government boundaries)Adran 49L(1);

(b)yn y cofnod ar gyfer “Etholwr llywodraeth leol (Local government elector)”, yn yr ail golofn, ar ôl “Adran 30” mewnosoder “at ddibenion Rhan 3 ac adran 49C(3) at ddibenion Rhan 3A”.

(7)Yn Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, hepgorer paragraff 13 (dirprwyo swyddogaethau o dan yr Atodlen honno).

Darpariaeth drosiannol

3(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, pa un a yw’r adroddiad terfynol ar yr adolygiad cyntaf o ffiniau a gynhaliwyd o dan Ran 3A o Ddeddf 2013 yn nodi newidiadau sy’n ofynnol i’r etholaethau y dychwelir Aelodau o’r Senedd ar eu cyfer ai peidio, wneud rheoliadau o dan adran 49J sy’n nodi, yn unol â’r penderfyniadau yn yr adroddiad hwnnw—

(a)ffiniau’r holl etholaethau hynny,

(b)enwau’r holl etholaethau hynny, ac

(c)a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol, ac

mae adran 49J(1) o Ddeddf 2013 i’w darllen yn unol â hynny.

(2)Hyd nes y mae’r rheoliadau‍ a grybwyllir yn is-baragraff (1) yn cymryd effaith, mae’r cyfeiriad yn y diffiniad o “etholaeth Senedd” yn adran 49L(1)‍ o Ddeddf 2013 at “adran 49J” i’w ddarllen fel cyfeiriad at “baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (dsc 4)”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources