Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

7Adolygiad o’r posibilrwydd o rannu swyddi sy’n ymwneud â’r SeneddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—

(a)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl‍ 7 Tachwedd 2025, a

(b)sut bynnag, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r cynnig—

(a)cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor at ddiben cynnal adolygiad o’r graddau—

(i)y dylai personau allu dal unrhyw swydd berthnasol ar y cyd;

(ii)y dylai person allu dal swydd berthnasol dros dro tra nad yw’r person a benodir i’r swydd honno neu a etholir i’r swydd honno ar gael, a

(b)cynnig bod y pwyllgor yn llunio adroddiad ar yr adolygiad, yn nodi ei argymhellion.

(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “swydd berthnasol” yw swydd—

(a)Aelod o’r Senedd;

(b)y Llywydd;

(c)Dirprwy Lywydd;

(d)aelod o Gomisiwn y Senedd (a benodir yn unol ag adran 27 o Ddeddf 2006);

(e)y Prif Weinidog;

(f)Gweinidog Cymru (a benodir o dan adran 48 o Ddeddf 2006);

(g)Dirprwy Weinidog Cymru (a benodir o dan adran 50 o Ddeddf 2006);

(h)y Cwnsler Cyffredinol.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os, yn dilyn adolygiad‍ o unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn is-adran (2)(a) gan bwyllgor a sefydlir yn unol â chynnig a gyflwynir yn unol ag is-adran (1), y gosodir adroddiad ar yr adolygiad gerbron y Senedd gan y pwyllgor.

(5)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy’n—

(a)nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran (4), a

(b)nodi pa gamau, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw argymhellion yn yr adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(a)