Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024

Pennod 4: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Adran 66 – Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau etc.

174.Mae adran 66 yn diwygio Deddf 2013 drwy ychwanegu at y rhestr o’r rhai sydd wedi eu heithrio rhag bod yn aelodau o’r Comisiwn er mwyn sicrhau didueddrwydd. Y rhai sydd wedi eu hychwanegu at y rhestr yw aelodau o staff awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru, aelodau neu aelodau o staff cyd-bwyllgor corfforedig, ac aelodau neu aelodau o staff awdurdod tân ac achub. Mae’r diwygiad hefyd yn ei gwneud yn glir bod staff awdurdod lleol wedi eu heithrio.

Adran 67 - Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pwyllgor llywodraethu ac archwilio

175.Mae adran 67 yn diwygio adran 17 o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor llywodraethu ac archwilio. Mae hefyd yn rhoi swyddogaethau adolygu ac asesu ychwanegol i’r pwyllgor mewn perthynas â threfniadau archwilio mewnol ac allanol y Comisiwn, sut y mae’n ymdrin â chwynion, ac adolygu datganiadau ariannol ac adroddiadau. Gwneir darpariaeth hefyd sy’n galluogi’r Comisiwn i roi swyddogaethau addas pellach i’r pwyllgor. At hynny, mae’r adran yn diwygio adran 18 o Ddeddf 2013 i bennu uchafswm nifer yr aelodau o’r pwyllgor ac isafswm nifer yr aelodau lleyg o’r pwyllgor, ac i ddarparu bod rhaid i gadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy i’r cadeirydd ill dau fod yn aelodau lleyg o’r pwyllgor.

Adran 68 – Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pŵer i godi tâl

176.Mae adran 68 yn diwygio Deddf 2013 i fewnosod adran 11A, sy’n darparu pŵer i’r Comisiwn i godi tâl ar y sawl sy’n cael nwyddau neu hyfforddiant a ddarperir gan y Comisiwn mewn perthynas â’i swyddogaethau gweinyddu etholiadol, neu’r rhai sy’n ymwneud â swyddogaethau prif gyngor o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, pan fo’r derbynnydd wedi cytuno i gael y nwyddau neu’r hyfforddiant. Er enghraifft, gall y Comisiwn ddarparu sesiynau hyfforddi dewisol i’r gymuned etholiadol, a gallai osod tâl amdanynt ar fynychwyr er mwyn adennill y gost o ddarparu’r hyfforddiant.

Back to top

Options/Help