Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Cyflwyniad

1Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon –

(a)yn diwygio gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau yng Nghymru, gan gynnwys tynnu ymaith ofyniad am gadarnhau is-ddeddfau gan Weinidogion Cymru;

(b)yn galluogi i is-ddeddfau penodol gael eu gorfodi drwy hysbysiadau cosbau penodedig;

(c)yn ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw awdurdodau sy’n gwneud is-ddeddfau roi sylw i unrhyw ganllawiau ar weithdrefn a roddir gan Weinidogion Cymru;

(d)yn ailddatgan i Gymru pŵer cyffredinol i wneud is-ddeddfau.

Y pŵer i wneud is-ddeddfau

2Is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth ac atal niwsansau

(1)Caiff cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru wneud is-ddeddfau –

(a)ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth y cyfan neu unrhyw ran o’i ardal;

(b)ar gyfer rhwystro ac atal niwsansau yn ei ardal.

(2)Ond ni chaiff is-ddeddfau wneud darpariaeth –

(a)a wnaed gan Ddeddf Seneddol, Mesur neu Ddeddf y Cynulliad;

(b)a wnaed, neu a gellid ei wneud, gan is-ddeddfwriaeth (sy’n golygu deddfwriaeth a wneir gan offeryn statudol).

Dehongli

3Ystyr “awdurdod deddfu”

Mae pob un o’r canlynol yn awdurdod deddfu at ddibenion y Ddeddf hon –

(a)cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghmru;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Dirymu is-ddeddfau

4Dirymu gan awdurdod deddfu

(1)Caiff awdurdod deddfu wneud is-ddeddf i ddirymu is-ddeddf a wnaed yn flaenorol ganddo.

(2)Ond caniateir arfer y pŵer hwn dim ond pan nad oes pŵer arall gan yr awdurdod i ddiddymu is-ddeddf.

5Dirymu gan Weinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddirymu unrhyw is-ddeddf a wnaed gan awdurdod deddfu y maent wedi penderfynu ei bod yn anarferedig.

(2)Cyn gwneud gorchymyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned) y maent o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddo ddiddordeb yn nirymiad yr is-ddeddf neu a effeithir gan y dirymiad.

(3)Caiff gorchymyn wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer broydd gwahanol ac ar gyfer awdurdodau gwahanol.

Y weithdrefn ar gyfer is-ddeddfau

6Is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.

(2)Cyn iddo wneud is-ddeddf, rhaid i awdurdod –

(a)cyhoeddi datganiad ysgrifenedig cychwynnol ar wefan yr awdurdod sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gallai gwneud is-ddeddf fynd i’r afael ag ef;

(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo hynny’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n cael eu heffeithio ganddo.

(3)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.

(4)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –

(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;

(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;

(c)ei benderfyniad;

(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(5)O leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i wneud yr is-ddeddf –

(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;

(b)ar wefan yr awdurdod.

(6)Am o leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid i’r awdurdod sicrhau –

(a)bod drafft o’r is-ddeddf yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod;

(b)bod copi o’r drafft yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod;

(c)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;

(d)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf.

(7)Rhaid i’r awdurdod roi copi o’r is-ddeddf ar ffurf ddrafft i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(8)Ni chaiff awdurdod wneud is-ddeddf yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad yn is-adran (5).

7Is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ar wahân i’r rhai a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –

(a)gofyniad i gyflwyno is-ddeddfau ar gyfer cael cadarnhad;

(b)cyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud yr is-ddeddf;

(c)cyhoeddi’r is-ddeddf;

(d)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.

(3)Cyn iddo wneud is-ddeddf y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i awdurdod –

(a)cyhoeddi ar wefan yr awdurdod ddatganiad ysgrifenedig cychwynnol sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gellir mynd i’r afael ag ef drwy wneud is-ddeddf;

(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n gael ei effeithio ganddo.

(4)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.

(5)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –

(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;

(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;

(c)ei benderfyniad;

(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(6)Rhaid i is-ddeddfau a wnaed gan yr awdurdod deddfu gael eu cyflwyno i’r awdurdod cadarnhau ac nid ydynt yn cael effaith oni chânt a nes y cânt eu cadarnhau gan yr awdurdod cadarnhau.

(7)O leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid cyhoeddi hysbysiad o fwriad yr awdurdod deddfu i wneud hynny –

(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;

(b)ar wefan yr awdurdod.

(8)Am o leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno’r is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid i’r awdurdod deddfu sicrhau –

(a)bod yr is-ddeddf yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod;

(b)bod copi o’r is-ddeddf yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod (ac, yn achos is-ddeddf a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mewn man yn ardal pob cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal);

(c)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf;

(d)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.

(9)Rhaid i’r awdurdod deddfu roi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(10)Caiff yr awdurdod cadarnhau gadarnhau, neu wrthod cadarnhau, unrhyw is-ddeddf a gyflwynir iddo o dan yr adran hon.

(11)At ddibenion y Ddeddf hon, yr awdurdod cadarnhau yw –

(a)y person a bennir yn y deddfiad y gwneir yr is-ddeddfau odano fel y person sydd i gadarnhau’r is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir unrhyw berson, Gweinidogion Cymru.

(12)Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan is-adran (11)(b) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol.

8Materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –

(a)llofnodi’r is-ddeddf neu roi sêl arni;

(b)cyhoeddi’r is-ddeddf;

(c)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.

(3)Rhaid i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu gael eu gwneud o dan sêl gyffredin yr awdurdod, neu, yn achos is-ddeddfau a wneir gan gyngor cymuned nad oes sêl ganddo, wedi’i lofnodi gan ddau aelod o’r cyngor.

(4)Mae is-ddeddfau yn dod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir gan yr awdurdod deddfu, neu, os oes angen eu cadarnhau, y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cadarnhau. Os na phennir dyddiad, maent yn dod yn effeithiol ar ddiwedd un mis ar ôl y dyddiad y’u gwnaed (neu’r dyddiad y’u cadarnhawyd, fel y bo’n gymwys).

(5)Rhaid i’r awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddf –

(a)cyhoeddi’r is-ddeddf pan wnaed hi ar wefan yr awdurdod, neu os oes angen iddi gael ei chadarnhau, pan gafodd ei chadarnhau;

(b)adneuo copi o’r is-ddeddf mewn man yn ardal yr awdurdod;

(c)sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;

(d)rhoi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(6)Rhaid i swyddog priodol cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys iddi.

(7)Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod Parc Cenedlaethol, rhaid i swyddog priodol yr awdurdod anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –

(a)cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol;

(b)cyngor pob cymuned y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol.

(8)Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –

(a)cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal;

(b)cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal.

(9)Rhaid i swyddog priodol y cyngor cymuned –

(a)trefnu bod copi o’r is-ddeddf a anfonwyd at y swyddog yn cael ei adneuo gyda dogfennau cyhoeddus y gymuned;

(b)sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.

(10)Yn is-adrannau (6) i (9) y “swyddog priodol” yw’r swyddog a awdurdodwyd yn briodol at y diben hwnnw gan y corff hwnnw.

9Y pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 (isddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb iddynt gael eu cadarnhau.

Gorfodi is-ddeddfau

10Tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau

(1)Caiff is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ddarparu bod personau sy’n mynd yn groes i’r is-ddeddfau yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(2)Rhaid i’r ddirwy beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –

(a)y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir y swm felly, lefel 2 ar y raddfa safonol.

(3)Yn achos tramgwydd sy’n parhau, caiff yr is-ddeddfau ddarparu bod y tramgwyddwr yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy bellach.

(4)Rhaid i’r ddirwy bellach beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –

(a)y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir swm felly, y swm o £5 am bob diwrnod y mae’r tramgwydd yn parhau ar ôl collfarn am y tramgwydd hwnnw.

11Is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc

Caiff is-ddeddf a wnaed o dan adran 2 gynnwys darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad â’r canlynol –

(a)ymafael mewn unrhyw eiddo a’i gadw mewn cysylltiad ag unrhyw doriad o’r is-ddeddf, a

(b)fforffedu unrhyw eiddo o’r fath pan gaiff person ei gollfarnu o dramgwydd am dorri’r is-ddeddf.

Hysbysiadau cosbau penodedig

12Y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy).

(2)Pan fo gan swyddog a awdurdodwyd gan awdurdod deddfu reswm dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd yn erbyn is-ddeddf a wnaed gan yr awdurdod hwnnw, i’r swyddog roi hysbysiad i’r person hwnnw yn cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd drwy dalu cosb benodedig.

(3)Pan fo swyddog a awdurdodwyd gan gyngor cymuned reswm dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd yn ei ardal yn erbyn is-ddeddf a wnaed gan awdurdod deddfu heblaw’r cyngor cymuned, i’r swyddog roi hysbysiad i’r person hwnnw yn cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd drwy dalu cosb benodedig.

(4)Mae cosb benodedig o dan yr adran hon yn daladwy i awdurdod y swyddog a roddodd yr hysbysiad.

(5)Pan roddir hysbysiad i berson o dan yr adran hon mewn perthynas â thramgwydd –

(a)ni chaniateir cychwyn achos am y tramgwydd cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr hysbysiad, a

(b)ni chaniateir collfarnu’r person am y tramgwydd os bydd y person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(6)Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio tramgwydd fel sy’n angenrheidiol i esbonio paham fod tramgwydd wedi digwydd.

(7)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon hefyd ddatgan –

(a)o fewn pa gyfnod, yn rhinwedd is-adran (5), ni ddygir achos am y tramgwydd;

(b)swm y gosb benodedig;

(c)enw’r person y caniateir i’r gosb benodedig gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir iddi gael ei thalu.

(8)Heb ragfarnu taliad drwy unrhyw ddull arall, caniateir talu cosb benodedig drwy ragdaliad a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y cyfeirir ato yn yr hysbysiad yn y cyfeiriad a roddir ynddo.

(9)Os anfonir llythyr bernir bod taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddid yn traddodi’r llythyr hwnnw yn nhrefn arferol y post.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu ffurf hysbysiad o dan yr adran hon.

(11)Mewn unrhyw achos mae tystysgrif –

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran prif swyddog cyllid awdurdod, a

(b)sy’n datgan y daeth neu na ddaeth taliad o gosb benodedig i law erbyn y dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.

(12)Yn yr adran hon –

  • ystyr “swyddog awdurdodedig”, mewn perthynas ag awdurdod, yw –

    (a)

    cyflogai i’r awdurdod a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion rhoi hysbysiadau o dan yr adran hon,

    (b)

    unrhyw berson y mae ganddo, yn unol â threfniadau a wnaed gyda’r awdurdod, y swyddogaeth o roi hysbysiadau o’r fath ac sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod i gyflawni’r swyddogaeth, ac

    (c)

    unrhyw gyflogai i berson o’r fath sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion rhoi hysbysiadau o’r fath;

  • ystyr “prif swyddog cyllid”, mewn perthynas ag awdurdod, yw’r person sydd â’r cyfrifoldeb am faterion ariannol yr awdurdod.

(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r amodau sydd i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person yn ysgrifenedig at ddibenion rhoi hysbysiadau o dan yr adran hon.

13Swm cosb benodedig

(1)Caiff awdurdod deddfu –

(a)pennu swm y gosb benodedig sy’n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 12;

(b)pennu symiau gwahanol mewn perthynas ag is-ddeddfau gwahanol.

(2)Os na phennir unrhyw swm felly, swm y gosb benodedig yw £75.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r pwerau o dan is-adran (1).

(4)Caiff Rheoliadau o dan is-adran (3), yn benodol –

(a)ei gwneud yn ofynnol bod swm a bennir o dan is-adran (1)(a) yn dod o fewn ystod a ragnodir yn y rheoliadau;

(b)cyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan is-adran (1)(b) a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn roi swm arall yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

14Y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig

(1)Os bydd swyddog awdurdodedig yn bwriadu rhoi hysbysiad i berson o dan adran 12, caniateir i’r swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y person yn rhoi ei enw a’i gyfeiriad.

(2)Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw –

(a)heb esgus rhesymol yn methu â rhoi ei enw a’i gyfeiriad pan fo hynny’n ofynnol, neu

(b)os yw’n rhoi enw neu gyfeiriad anwir neu anghywir wrth ymateb i ofyniad o dan yr is-adran honno.

(3)Mae person sy’n euog o dramgwydd o dan is-adran (2) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Yn yr adran hon mae i “swyddog awdurdodedig” yr un ystyr ag sydd ganddo yn adran 12.

15Y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig

(1)Rhaid i’r awdurdod roi sylw i’r dymunoldeb o ddefnyddio ei dderbyniadau am gosbau penodedig at ddibenion mynd i’r afael ag unrhyw niwsans y gwnaed isddeddf gan yr awdurdod er mwyn ei atal.

(2)Ystyr “derbyniadau am gobau penodedig” yw symiau a dalwyd i awdurdod yn unol â hysbysiadau o dan adran 12.

16Y pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 (isddeddfau y caniateir dyroddi hysbysiadau cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff gynnig hysbysiadau cosbau penodedig.

17Swyddogion Cymorth Cymunedol etc

(1)Mae Deddf Diwygio’r Heddlu 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 4 (pwerau sy’n cael eu harfer gan heddlu sy’n sifiliaid) –

(a)ym mharagraff 1ZA(3) ar ôl “1972” mewnosoder “or under section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”;

(b)ym mharagraff 1ZA(5)(a) ar ôl “1972” mewnosoder “or to which section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 applies”.

(3)Yn Atodlen 5 (pwerau sy’n cael eu harfer gan bersonau achrededig) –

(a)ym mharagraff 1A(3) ar ôl “1972” mewnosoder “or under section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”;

(b)ym mharagraff 1A(5)(a) ar ôl “1972” mewnosoder “or to which section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”.

Amrywiol a chyffredinol

18Canllawiau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau deddfu ynghylch –

(a)gwneud is-ddeddfau y mae adran 6 neu 7 yn gymwys iddynt;

(b)y weithdrefn ar gyfer gwneud is-ddeddfau;

(c)gorfodi is-ddeddfau;

(d)unrhyw beth sy’n ymwneud â’r materion hyn gan gynnwys –

(i)gofynion ymgynghori a chyhoeddi;

(ii)y defnydd o gosbau penodedig.

(2)Rhaid i awdurdod deddfu roi sylw i’r canllawiau wrth wneud neu wrth orfodi isddeddfau.

19Tystiolaeth o is-ddeddfau

(1)Mae dangos copi ardystiedig o is-ddeddf sy’n honni iddi gael ei gwneud gan awdurdod deddfu, nes profir i’r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a ddatgenir yn y dystysgrif.

(2)At ddibenion yr adran hon, copi ardystiedig o is-ddeddf yw copi wedi ei argraffu o’r is-ddeddf a arnodwyd ynghyd â thystysgrif sy’n honni iddi gael ei llofnodi gan swyddog priodol awdurdod deddfu sy’n datgan –

(a)bod yr is-ddeddf wedi cael ei gwneud gan yr awdurdod;

(b)bod y copi yn gopi gwir o’r is-ddeddf;

(c)bod yr is-ddeddf wedi ei chadarnhau ar ddiwrnod penodedig gan yr awdurdod a enwir yn y dystysgrif neu, yn ôl y digwydd, wedi cael ei hanfon at yr awdurdod cadarnhau a heb gael ei gwrthod;

(d)y dyddiad, os oes un, a bennwyd gan yr awdurdod cadarnhau i’r is-ddeddf ddod yn effeithiol.

(3)Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (2) yn gymwys os nad oedd yr is-ddeddf yn ddarostyngedig i gadarnhad ar ôl iddi gael ei gwneud.

20Diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

21Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 22 (cychwyn)) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth atodol sy’n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(2)Yn achos y pŵer o dan adrannau 9 ac 16, mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu deddfiadau.

(3)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 9, 13(5) neu 16 gael ei wneud onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 22 (cychwyn), yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

22Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol –

(a)adran 18(1);

(b)adran 21;

(c)yr adran hon;

(d)adran 23.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) –

(a)penodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)cynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth arbed neu ddarpariaeth ddarfodol.

23Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill