Newidiadau dros amser i: Adran 49D
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2025.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, Adran 49D yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 19 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.

Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[49DPenderfynu ar enwau etholaethau’r SeneddLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Rhaid i bob etholaeth Senedd gael enw unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg).
(2)Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler adran 49E) rhaid i’r Comisiwn, os yw’n bwriadu gwneud cynnig yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd—
(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
(b)ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
(3)Mae gofyniad o dan y Rhan hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—
(a)yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a
(b)yn fersiwn Saesneg yr adroddiad.]
Yn ôl i’r brig