Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 27 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

  • s. 162(4)(ga) inserted by 2022 asc 1 Sch. 4 para. 30(2)(b)
  • s. 163(4A) inserted by 2014 c. 23 s. 75(10) (Effect inserting (4) not applied at s. 163 as it appears to relate to s. 194 in view of the title of the section as cited i.e. "ordinary residence". In s. 194 another (4), identically worded, is inserted on the same date by S.I. 2016/413, regs. 2(1), 316(a))

RHAN 1LL+CCYFLWYNIAD

TrosolwgLL+C

1Trosolwg ar y Ddeddf honLL+C

(1)Mae 11 Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)Mae’r Rhan hon yn darparu trosolwg ar y Ddeddf gyfan ac yn diffinio rhai termau allweddol.

(3)Mae Rhan 2 (dyletswyddau cyffredinol)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon geisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth (adran 5);

(b)yn pennu dyletswyddau hollgyffredinol ar bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phersonau y mae angen gofal a chymorth arnynt neu y gall fod angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr y mae angen cymorth arnynt neu y gall fod angen cymorth arnynt, neu bersonau y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad â hwy o dan Ran 6, er mwyn rhoi effaith i egwyddorion allweddol penodol (adran 6);

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad yn pennu’r canlyniadau llesiant sydd i’w sicrhau ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt a dyroddi cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau hynny (adrannau 8 i 13);

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu’r anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol yn eu hardaloedd hwy (adran 14);

(e)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ataliol (adran 15);

(f)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector wrth ddarparu gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr yn eu hardaloedd (adran 16);

(g)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr ac yn cynorthwyo i gael hyd i’r gwasanaeth hwnnw (adran 17);

(h)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol greu a chynnal cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill (adran 18).

(4)Mae Rhan 3 (asesu anghenion unigolion) yn darparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau hynny lle y mae’n rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth;

(b)sut y mae asesiadau i’w cynnal.

(5)Mae Rhan 4 (diwallu anghenion) yn darparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr;

(b)sut y mae anghenion i’w diwallu.

(6)Mae Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) yn darparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol godi ffi odanynt am ddarparu neu am drefnu gofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr;

(b)yr amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol godi ffi odanynt am wasanaethau ataliol ac am ddarparu cynhorthwy;

(c)sut y mae ffioedd o’r fath i’w pennu, i’w talu ac i’w gorfodi.

(7)Mae Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)—

(a)yn darparu ar gyfer dehongli’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (adran 74);

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—

(i)sicrhau digon o lety yn eu hardaloedd i’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adran 75), a

(ii)lletya plant heb rieni neu sydd ar goll neu wedi eu gadael neu sydd o dan amddiffyniad yr heddlu neu wedi eu cadw’n gaeth neu ar remánd (adrannau 76 a 77);

(c)yn darparu ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adrannau 75 i 103, 124 a 125);

(d)yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddarparu cymorth i bobl ifanc—

(i)sy’n gadael, neu sydd wedi gadael, gofal awdurdod lleol;

(ii)a oedd gynt yn cael eu lletya mewn sefydliadau penodol;

(iii)a oedd gynt yn cael eu maethu;

(iv)y mae neu yr oedd gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad â hwy;

(adrannau 104 i 118);

(e)yn darparu ar gyfer terfynau ar y defnydd o lety diogel i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol neu awdurdodau lleol yn Lloegr neu blant o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau (adran 119);

(f)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu awdurdodau addysg neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol a darparu ymweliadau a gwasanaethau i’r plant hynny (adrannau 120 i 123);

(g)yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynnal plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

(8)Mae Rhan 7 (diogelu)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymchwilio pan fyddant yn amau bod oedolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod (adran 126);

(b)yn darparu ar gyfer gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion er mwyn awdurdodi mynediad i fangre (drwy rym os oes angen) er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i asesu a yw oedolyn yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod ac, os ydyw, beth i’w wneud am y sefyllfa honno (adran 127);

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid perthnasol roi gwybod i’r awdurdod priodol pan fônt yn amau bod pobl efallai yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod (adrannau 128 a 130);

(d)yn datgymhwyso adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am orchymyn llys i symud pobl y mae angen gofal a sylw arnynt o’u cartrefi i ysbytai neu fannau eraill) (adran 129);

(e)yn sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i roi cymorth a chyngor er mwyn sicrhau effeithiolrwydd Byrddau Diogelu (adrannau 132 a 133);

(f)yn darparu ar gyfer Byrddau Diogelu i oedolion a phlant ac ar gyfer cyfuno byrddau o’r fath (adrannau 134 i 141).

(9)Mae Rhan 8 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)—

(a)yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n pennu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adran 143);

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn penodi cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adran 144);

[F1(ba)yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn llunio—

(i)adroddiadau blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a

(ii)adroddiadau ar sefydlogrwydd marchnadoedd lleol ar gyfer darparu gofal a chymorth,

(adrannau 144A a 144B);]

(c)yn darparu bod codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i’w gwneud gan Weinidogion Cymru (adrannau 145 i 149);

[F2(ca)yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adrannau 149A a 149B);]

(d)yn darparu ar gyfer ymyrraeth gan Weinidogion Cymru yn y modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol pan fo’n methu â’u harfer yn gywir (adrannau 150 i [F3160);

(da)yn caniatáu ar gyfer arolygu mangreoedd mewn cysylltiad ag adolygiadau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol neu arfer pwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny, ac i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o’r fath ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adrannau 161 i 161C).]

(10)Mae Rhan 9 (cydweithrediad a phartneriaeth)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad gyda’u partneriaid perthnasol ac eraill mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth, gofalwyr a phlant (adrannau 162 a 163);

(b)yn gosod dyletswydd ar y partneriaid perthnasol i gydweithredu â’r awdurdodau lleol, a darparu gwybodaeth iddynt, at ddiben eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (adran 164);

(c)yn gwneud darpariaeth ynghylch hyrwyddo’r broses o integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd (adran 165);

(d)yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cyflawni eu swyddogaethau (adrannau 166 i 169);

(e)yn grymuso Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol i ymrwymo i drefniadau ar y cyd er mwyn darparu gwasanaeth mabwysiadu (adran 170).

(11)Mae gan Ran 10 (cwynion, sylwadau a gwasanaethau eirioli) dair pennod.

(12)Mae Pennod 1 yn darparu ar gyfer cwynion a sylwadau am wasanaethau cymdeithasol sy’n cael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdodau lleol.

(13)Mae Pennod 2 yn darparu ar gyfer cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch gofal cymdeithasol a gofal lliniarol preifat.

(14)Mae Pennod 3 yn darparu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.

(15)Mae Rhan 11 (amrywiol a chyffredinol)—

(a)yn grymuso Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i wneud ymchwil, ac yn grymuso Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi, ynghylch materion sy’n gysylltiedig â swyddogaethau o dan y Ddeddf a materion cysylltiedig eraill (adran 184);

(b)yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i bersonau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc (adrannau 185 i 188);

(c)yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau i’w cymryd gan awdurdod lleol pan fo [F4darparwr gwasanaeth (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)] yn methu â diwallu anghenion yn ardal yr awdurdod oherwydd methiant busnes (adrannau 189 i 191);

(d)yn datgymhwyso adran 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n caniatáu i awdurdod lleol dalu treuliau a dynnir gan unrhyw un neu rai o’i swyddogion a benodir yn ddirprwy gan y Llys Gwarchod) (adran 192);

(e)yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill costau rhwng awdurdodau lleol o dan rai amgylchiadau (adran 193);

(f)yn darparu ar gyfer ateb cwestiynau ynghylch preswylfa arferol person at ddibenion y Ddeddf hon (adran 194);

(g)yn cynnwys y diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf hon yn gyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwyd (adran 197);

(h)yn cynnwys darpariaethau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.

(16)Mae darpariaethau hefyd ynghylch gwasanaethau cymdeithasol yn y Deddfau a’r Mesurau a restrir yn Atodlen 2.

Termau allweddolLL+C

2Ystyr “llesiant”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “llesiant”, o ran person, yw llesiant mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o’r canlynol—

(a)iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol;

(b)amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod;

(c)addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden;

(d)perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol;

(e)cyfraniad a wneir at y gymdeithas;

(f)sicrhau hawliau a hawlogaethau;

(g)llesiant cymdeithasol ac economaidd;

(h)addasrwydd llety preswyl.

(3)O ran plentyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys—

(a)datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol;

(b)“lles” fel y diffinnir y term Saesneg cyfatebol “welfare” at ddibenion Deddf Plant 1989.

(4)O ran oedolyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys—

(a)rheolaeth ar fywyd pob dydd;

(b)cymryd rhan mewn gwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

3Ystyr “oedolyn”, “plentyn”, “gofalwr”ac “anabl”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “oedolyn” yw person sy’n 18 oed neu drosodd.

(3)Ystyr “plentyn” [F5(ac eithrio yn adran 83(2C))] yw person dan 18 oed.

(4)Ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl; ond gweler is-adrannau (7) ac (8) ac adran 187(1).

(5)Mae person yn “anabl” os oes ganddo anabledd (“disability”) at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (6).

(6)Caiff rheoliadau ddarparu bod person sy’n dod o fewn categori penodedig i’w drin neu i beidio â chael ei drin fel un sy’n anabl at ddibenion y Ddeddf hon.

(7)Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal—

(a)o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu

(b)fel gwaith gwirfoddol.

(8)Ond caiff awdurdod lleol drin person fel gofalwr at ddibenion unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon os yw’r awdurdod o’r farn bod natur y berthynas rhwng y person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal a’r person y mae’r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu, neu i’w ddarparu, iddo yn golygu y byddai’n briodol i’r cyntaf gael ei drin fel gofalwr at ddibenion y swyddogaeth honno neu’r swyddogaethau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

4Ystyr “gofal a chymorth”LL+C

Mae unrhyw gyfeiriad at ofal a chymorth yn y Ddeddf hon i’w ddehongli fel cyfeiriad at—

(a)gofal;

(b)cymorth;

(c)gofal a chymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Dyletswyddau hollgyffredinolLL+C

5Dyletswydd llesiantLL+C

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon geisio hyrwyddo llesiant—

(a)pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a

(b)gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 5 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

6Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon—

(a)mewn perthynas ag unigolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth,

(b)mewn perthynas â gofalwr y mae arno anghenion am gymorth, neu y gall fod arno anghenion am gymorth, neu

(c)mewn perthynas ag unigolyn y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 6 (plant sy’n derbyn gofal etc),

gydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adran (2).

(2)Rhaid i’r person—

(a)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny,

(b)rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn,

(c)rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith), a

(d)rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm.

(3)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal, roi sylw i—

(a)pwysigrwydd dechrau gyda’r ragdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn, a

(b)pwysigrwydd hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pan fo’n bosibl.

(4)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal—

(a)rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(b)pan fo’r plentyn o dan 16 oed, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny—

(i)yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(ii)yn rhesymol ymarferol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 6 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

7Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd UnedigLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a) neu (b) roi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991.

(2)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a), (b) neu (c) roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno drwy benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

(3)At ddibenion is-adran (2), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i’w thrin fel pe bai’n cael effaith—

(a)fel a nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ond

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel a nodir am y tro yn Rhan 3 o’r Atodlen honno.

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i Weinidogion Cymru (gweler, yn lle hynny, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I10A. 7 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Canlyniadau llesiantLL+C

8Dyletswydd i ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau sydd i’w sicrhauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad sy’n ymwneud â llesiant—

(a)pobl yng Nghymru y mae arnynt angen gofal a chymorth, a

(b)gofalwyr yng Nghymru y mae arnynt angen cymorth.

(2)Rhaid dyroddi’r datganiad o fewn 3 blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Rhaid i’r datganiad bennu’r canlyniadau sydd i’w sicrhau, o ran llesiant y bobl a grybwyllwyd yn is-adran (1), drwy—

(a)gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) a ddarperir gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf hon, a

(b)gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) a ddarperir gan eraill sydd o fath y gellid eu darparu gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf hon.

(4)Rhaid i’r datganiad hefyd bennu mesurau y mae graddau sicrhau’r canlyniadau hynny i’w hasesu drwy gyfeirio atynt.

(5)Caiff y datganiad bennu gwahanol ganlyniadau neu fesurau ar gyfer gwahanol gategorïau o bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth).

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r datganiad yn gyson a chânt ddiwygio’r datganiad pa bryd bynnag y maent yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(7)Cyn dyroddi neu ddiwygio’r datganiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth ddyroddi neu ddiwygio’r datganiad—

(a)gosod copi o’r datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)cyhoeddi’r datganiad ar eu gwefan.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I12A. 8 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

9Pŵer i ddyroddi cod ar gyfer helpu i sicrhau’r canlyniadauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi, ac o bryd i’w gilydd ddiwygio, cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau a bennir yn y datganiad o dan adran 8.

(2)Caiff y cod—

(a)rhoi canllawiau i unrhyw berson sy’n darparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math sy’n cael ei ddisgrifio yn adran 8(3), a

(b)gosod gofynion ar awdurdodau lleol mewn perthynas â darpariaeth o’r fath honno.

(3)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r materion y gellir eu nodi yn y cod—

(a)safonau (“safonau ansawdd”) sydd i’w sicrhau wrth ddarparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(b)mesurau (“mesurau perfformiad”) y gellir asesu perfformiad o ran sicrhau’r safonau ansawdd hynny drwy gyfeirio atynt;

(c)targedau (“targedau perfformiad”) sydd i’w bodloni mewn perthynas â’r mesurau perfformiad hynny;

(d)camau sydd i’w cymryd mewn cysylltiad â’r safonau, y mesurau a’r targedau hynny.

(4)Caiff y cod bennu—

(a)gwahanol safonau ansawdd ar gyfer—

(i)gwahanol gategorïau o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(ii)gwahanol gategorïau o bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(b)gwahanol fesurau perfformiad neu dargedau perfformiad ar gyfer—

(i)gwahanol gategorïau o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(ii)gwahanol gategorïau o bobl sy’n darparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(c)gwahanol safonau ansawdd, mesurau perfformiad neu dargedau perfformiad i fod yn gymwys ar wahanol adegau.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi ar eu gwefan y cod sydd mewn grym am y tro, a

(b)peri i godau nad ydynt bellach mewn grym fod ar gael (ar eu gwefan neu fel arall) i’r cyhoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I14A. 9 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

10Awdurdodau lleol a’r codLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i awdurdod lleol—

(a)gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol a osodir arno gan god a ddyroddir o dan adran 9, a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod hwnnw.

F6(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I16A. 10 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

11Dyroddi’r cod, ei gymeradwyo a’i ddirymuLL+C

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 9, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig).

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

(5)O ran y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)bydd yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ni fydd yn cynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god (neu god diwygiedig) rhag cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Caniateir i Weinidogion Cymru ddirymu cod (neu god diwygiedig) a ddyroddir o dan yr adran hon mewn cod pellach neu drwy gyfarwyddyd.

(8)Rhaid gosod cyfarwyddyd o dan is-adran (7) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I18A. 11 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

12Pŵer i helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â gofynion y codLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ystyried y byddai’n debygol o helpu awdurdod lleol i gydymffurfio â gofynion sy’n cael eu gosod gan god o dan adran 9.

(2)Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i—

(a)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;

(b)cydweithredu ag unrhyw berson, neu hwyluso neu gyd-gysylltu gweithgareddau unrhyw berson;

(c)arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau;

(d)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.

(3)Oni bai bod Gweinidogion Cymru’n arfer y pŵer o dan is-adran (1) mewn ymateb i gais a wnaed o dan is-adran (4), rhaid iddynt, cyn arfer y pŵer hwnnw, ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol y maent yn bwriadu ei gynorthwyo drwy arfer y pŵer, a

(b)y personau hynny sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhanddeiliaid allweddol y byddai arfer y pŵer yn effeithio arnynt.

(4)Os yw awdurdod lleol yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried p’un ai i arfer eu pŵer o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I20A. 12 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

13Cyhoeddi gwybodaeth ac adroddiadauLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)gwybodaeth ynghylch y ddarpariaeth o ofal a chymorth (neu yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math a ddisgrifir yn adran 8(3), a

(b)adroddiadau ynghylch y cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol ac eraill tuag at sicrhau—

(i)y canlyniadau a bennir mewn datganiad o dan adran 8;

(ii)y safonau ansawdd a’r targedau perfformiad (os oes rhai) a bennir mewn cod o dan adran 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I22A. 13 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Trefniadau lleolLL+C

14Asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, asesu ar y cyd—

(a)i ba raddau y mae pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol;

(b)i ba raddau y mae yna ofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol y mae angen cymorth arnynt;

(c)i ba raddau y mae yna bobl yn ardal yr awdurdod lleol nad yw eu hanghenion am ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion am gymorth) yn cael eu diwallu (gan yr awdurdod, y Bwrdd neu fel arall);

(d)ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn ardal yr awdurdod lleol (gan gynnwys anghenion gofalwyr am gymorth);

(e)ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol) yn ardal yr awdurdod lleol;

(f)y camau y mae angen eu cymryd i ddarparu’r ystod a’r lefel o wasanaethau a nodir yn unol â pharagraffau (d) ac (e) drwy gyfrwng y Gymraeg.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddarparu ar gyfer amseru ac adolygu asesiadau.

F7(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F7(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I24A. 14 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F814ACynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14LL+C

(1)Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).

(2)Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—

(a)ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);

(b)yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);

(c)yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);

(d)sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;

(e)unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);

(f)manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;

(g)yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.

(3)Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 [F9, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.

(4)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).

(5)Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno [F10a daduno] byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).

(6)Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—

(a)unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;

(b)unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;

(b)ynghylch adolygu cynllun;

(c)ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;

(d)ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun.]

15Gwasanaethau ataliolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu ystod a lefel o wasanaethau a fydd yn ei farn ef yn sicrhau’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(2)Y dibenion yw—

(a)cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth;

(b)lleihau’r anghenion am ofal a chymorth i bobl y mae arnynt anghenion o’r fath;

(c)hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, pan fo hynny’n gyson â llesiant y plant;

(d)cadw i’r lleiaf posibl yr effaith sydd gan eu hanableddau ar bobl anabl;

(e)cyfrannu at atal pobl rhag dioddef gan gamdriniaeth neu esgeulustod;

(f)lleihau’r angen am—

(i)achosion cyfreithiol am orchmynion gofalu neu oruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989,

(ii)achosion troseddol yn erbyn plant,

(iii)unrhyw achosion teuluol neu achosion cyfreithiol eraill mewn perthynas â phlant a allai arwain at eu rhoi yng ngofal awdurdod lleol, neu

(iv)achosion cyfreithiol o dan awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn perthynas â phlant;

(g)annog plant i beidio â throseddu;

(h)osgoi’r angen i blant gael eu lleoli mewn llety diogel [F11o fewn yr ystyr a roddir yn adran 119 ac o fewn yr ystyr a roddir i “secure accommodation” yn adran 25 o Ddeddf Plant 1989];

(i)galluogi pobl i fyw eu bywydau mewn ffordd mor annibynnol â phosibl.

(3)Mae’r pethau y gellir eu darparu neu eu trefnu wrth gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn cynnwys gofal a chymorth (neu yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math y mae’n rhaid eu darparu neu y caniateir eu darparu o dan adrannau 35 i 45, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r gofal hwnnw a’r cymorth hwnnw.

(4)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau eraill, roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(5)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, wrth arfer ei swyddogaethau, roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(6)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)rhaid i awdurdod lleol nodi’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael yn ei ardal a all helpu i sicrhau’r dibenion yn is-adran (2) ac ystyried cynnwys neu ddefnyddio’r gwasanaethau hynny wrth gyflawni’r ddyletswydd;

(b)caiff awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth wasanaethau y mae’n barnu y gallai fod yn rhesymol i bersonau eraill eu darparu neu eu trefnu wrth iddo benderfynu beth y dylai ddarparu neu drefnu;

(c)rhaid i awdurdod lleol wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod ac yn benodol osgoi darpariaeth a allai beri gwariant anghymesur.

(7)Nid yw darpariaeth i’w hystyried yn un sy’n peri gwariant anghymesur ond oherwydd bod y ddarpariaeth honno’n ddrutach na darpariaeth gyffelyb.

(8)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol gyflawni’r ddyletswydd ar y cyd o dan is-adran (1) mewn perthynas â’u hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(9)Gweler adrannau 46 (eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo), 47 (eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd), 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc) a 49 (cyfyngiadau ar ddarparu taliadau) am eithriad i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) a chyfyngiadau ar y modd y caniateir i’r ddyletswydd gael ei chyflawni.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I26A. 15 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

16Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sectorLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo—

(a)datblygiad mentrau cymdeithasol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;

(b)datblygiad sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;

(c)ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno;

(d)argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn ei ardal gan sefydliadau trydydd sector (p’un a yw’r sefydliadau yn fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol ai peidio).

(2)Yn yr adran hon—

  • mae “gofal a chymorth” (“care and support”) yn cynnwys cymorth i ofalwyr;

  • ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol o’r farn y byddent yn sicrhau unrhyw un neu rai o’r dibenion yn adran 15(2);

  • mae “y gymdeithas” (“society”) yn cynnwys adran o’r gymdeithas;

  • ystyr “menter gymdeithasol” (“social enterprise”) yw sefydliad y mae ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn rhai y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau a gyflawnir er budd y gymdeithas (“ei amcanion cymdeithasol”), ac sydd—

    (a)

    yn creu’r rhan fwyaf o’i incwm drwy fusnes neu fasnach,

    (b)

    yn ailfuddsoddi’r rhan fwyaf o’i elw yn ei amcanion cymdeithasol,

    (c)

    yn annibynnol ar unrhyw awdurdod cyhoeddus, a

    (d)

    yn cael ei berchenogi, ei lywio a’i reoli mewn ffordd sy’n gyson â’i amcanion cymdeithasol;

  • ystyr “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.

(3)At ddibenion yr adran hon, caiff rheoliadau ddarparu—

(a)bod gweithgareddau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel gweithgareddau y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau sy’n cael eu cyflawni er budd y gymdeithas;

(b)bod sefydliadau neu drefniadau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel—

(i)mentrau cymdeithasol,

(ii)sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol, neu

(iii)sefydliadau trydydd sector;

(c)ar gyfer yr hyn sydd, neu’r hyn nad yw, neu a gaiff fod, yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I28A. 16 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

17Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwyLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir gwasanaeth i roi i bobl—

(a)gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth, a

(b)cynhorthwy i gael gafael ar ofal a chymorth.

(2)Yn is-adran (1)(a), mae “gwybodaeth” yn cynnwys gwybodaeth ariannol (gan gynnwys gwybodaeth am daliadau uniongyrchol), ond nid yw’n gyfyngedig i’r wybodaeth honno.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol geisio sicrhau bod y gwasanaeth—

(a)yn ddigonol i alluogi person i wneud cynlluniau ar gyfer diwallu anghenion am ofal a chymorth a allai godi, a

(b)yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i berson mewn modd sy’n hygyrch i’r person hwnnw.

(4)Rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, o leiaf, gyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y materion a ganlyn—

(a)y system y darperir ar ei chyfer gan y Ddeddf hon a’r modd y mae’r system yn gweithredu yn ardal yr awdurdod,

(b)y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael yn ardal yr awdurdod,

(c)sut i gael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd ar gael, a

(d)sut i leisio pryderon am lesiant person y mae’n ymddangos bod arno anghenion am ofal a chymorth.

(5)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau mewn ardal awdurdod lleol, at ddibenion yr adran hon, ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol hwnnw am y gofal a’r cymorth y mae’n eu darparu yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol sicrhau ar y cyd fod gwasanaeth yn cael ei ddarparu o dan yr adran hon i’w hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(7)Yn yr adran hon, mae “gofal a chymorth” yn cynnwys cymorth i ofalwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I30A. 17 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

18Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraillLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o’r bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac—

(a)sydd â nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg,

(b)sydd â nam ar eu clyw neu nam difrifol ar eu clyw, neu

(c)sydd â nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd.

(2)Rhaid i’r gofrestr nodi, mewn cysylltiad â phob person sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr—

(a)y paragraff yn is-adran (1) y mae’r person hwnnw yn dod o’i fewn, a

(b)amgylchiadau ieithyddol y person.

(3)Caiff rheoliadau bennu, at ddibenion is-adran (1), gategorïau o bobl sydd i’w trin, neu nad ydynt i’w trin, fel pe baent yn dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c) o’r is-adran honno.

(4)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o blant y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.

(5)Caiff awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o oedolion y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—

(a)sy’n anabl,

(b)nad yw’n anabl ond y mae ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain, neu y mae’r awdurdod yn barnu y gall yn y dyfodol arwain, at anghenion am ofal a chymorth, neu

(c)sy’n dod o fewn unrhyw gategori arall o bersonau y mae’r awdurdod yn barnu ei bod yn briodol ei gynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae arnynt, neu y mae’r awdurdod yn ystyried y gall fod arnynt yn y dyfodol, anghenion am ofal a chymorth.

(7)O ran awdurdod lleol—

(a)caiff gategoreiddio pobl sydd wedi eu cynnwys mewn cofrestr o dan is-adran (4) neu (5) fel y gwêl yn dda, a

(b)rhaid iddo nodi amgylchiadau ieithyddol y bobl hynny yn y gofrestr berthnasol.

(8)Caniateir i’r cofrestrau a lunnir ac a gedwir o dan yr adran hon gael eu defnyddio wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod; er enghraifft, er mwyn—

(a)cynllunio’r modd y mae’r awdurdod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr, a

(b)monitro newidiadau dros amser yn nifer y bobl yn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a’r mathau o anghenion sydd ganddynt hwy neu eu gofalwyr.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon oni bai—

(a)bod y person wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn y gofrestr, neu

(b)bod cais i’w gynnwys felly wedi ei wneud ar ran y person.

(10)Pan fo awdurdod lleol yn cynnwys person mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon—

(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys felly, a

(b)os gwneir cais gan y person neu ar ran y person, rhaid i’r awdurdod ddileu o’r gofrestr unrhyw ddata personol [F12(o fewn ystyr “ personal data ” yn Rhan 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(2) a (14) o'r Ddeddf honno))] sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I32A. 18 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

RHAN 3LL+CASESU ANGHENION UNIGOLION

Asesu oedolionLL+C

19Dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorthLL+C

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar oedolyn anghenion am ofal a chymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—

(a)a oes ar yr oedolyn anghenion am ofal a chymorth, a

(b)os oes, beth yw’r anghenion hynny.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—

(a)oedolyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a

(b)unrhyw oedolyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth yw barn yr awdurdod lleol ar—

(a)lefel anghenion yr oedolyn am ofal a chymorth, neu

(b)lefel adnoddau ariannol yr oedolyn.

(4)Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ceisio canfod y canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu sicrhau mewn bywyd o ddydd i ddydd,

(b)asesu a allai darparu—

(i)gofal a chymorth,

(ii)gwasanaethau ataliol, neu

(iii)gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac

(c)asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

(a)yr oedolyn, a

(b)pan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn.

(6)Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I34A. 19 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

20Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer oedolynLL+C

(1)Os yw oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o’i anghenion o dan adran 19, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion yr oedolyn yn gymwys.

(2)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 19 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—

    (a)

    nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond

    (b)

    bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—

    (a)

    nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

    (c)

    y byddai cael yr asesiad er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod yr oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(3)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 19 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r oedolyn wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(4)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran yr oedolyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I36A. 20 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Asesu plantLL+C

21Dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorthLL+C

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod angen gofal a chymorth ar blentyn yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn, rhaid i’r awdurdod asesu—

(a)a oes angen gofal a chymorth o’r math hwnnw ar y plentyn, a

(b)os oes, beth yw’r anghenion hynny.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—

(a)plentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a

(b)unrhyw blentyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod lleol—

(a)ar lefel anghenion y plentyn am ofal a chymorth, neu

(b)ar lefel adnoddau ariannol y plentyn [F13neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn].

(4)Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)asesu anghenion datblygiadol y plentyn,

(b)ceisio canfod y canlyniadau—

(i)y mae’r plentyn yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn,

(ii)y mae’r personau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(iii)y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn,

(c)asesu a allai darparu—

(i)gofal a chymorth,

(ii)gwasanaethau ataliol, neu

(iii)gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau,

(d)asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau, ac

(e)ystyried unrhyw amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar lesiant y plentyn.

(5)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

(a)y plentyn, a

(b)unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(6)Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

(7)At ddibenion is-adran (1) rhagdybir bod angen gofal a chymorth ar blentyn anabl yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn.

(8)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I38A. 21 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

22Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oedLL+C

(1)Os yw plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21 o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, a

(b)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan blentyn, nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y plentyn;

  • ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad,

(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), neu

(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(5)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y plentyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I40A. 22 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

23Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oedLL+C

(1)Os yw—

(a)plentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, a

(b)yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn—

    (a)

    bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad, a

    (b)

    nad yw’r plentyn yn cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y plentyn;

  • ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r plentyn yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad,

(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I42A. 23 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Asesu gofalwyrLL+C

24Dyletswydd i asesu anghenion gofalwr am gymorthLL+C

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar ofalwr anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—

(a)a oes ar y gofalwr anghenion am gymorth (neu a yw’n debygol y bydd arno anghenion am gymorth yn y dyfodol), a

(b)os oes, beth yw’r anghenion hynny (neu’r anghenion tebygol yn y dyfodol).

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran gofalwr sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal—

(a)i oedolyn neu blentyn anabl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, neu

(b)i unrhyw oedolyn arall neu blentyn anabl arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod—

(a)ar lefel anghenion y gofalwr am gymorth, neu

(b)ar lefel adnoddau ariannol y gofalwr neu’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(4)Wrth gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn gallu, ac y bydd yn parhau i allu, darparu gofal i’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo,

(b)asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn fodlon, ac y bydd yn parhau i fod yn fodlon, gwneud hynny,

(c)yn achos gofalwr sy’n oedolyn, ceisio canfod y canlyniadau y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau,

(d)yn achos gofalwr sy’n blentyn, ceisio canfod y canlyniadau—

(i)y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y gofalwr,

(ii)y mae’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y gofalwr, a

(iii)y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr,

(e)asesu a allai darparu—

(i)cymorth,

(ii)gwasanaethau ataliol, neu

(iii)gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac

(f)asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, roi sylw i’r materion a ganlyn—

(a)a yw’r gofalwr yn gweithio neu’n dymuno gwneud hynny,

(b)a yw’r gofalwr yn cymryd rhan, neu’n dymuno cymryd rhan, mewn gweithgareddau addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd hamdden, ac

(c)yn achos gofalwr sy’n blentyn—

(i)anghenion datblygiadol y plentyn, a

(ii)a yw’n briodol i’r plentyn ddarparu’r gofal (neu unrhyw ofal) yng ngoleuni’r anghenion hynny.

(6)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

(a)y gofalwr, a

(b)pan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(7)Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I44A. 24 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

25Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr sy’n oedolynLL+C

(1)Os yw gofalwr sy’n oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(2)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr—

    (a)

    nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond

    (b)

    bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr—

    (a)

    nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr, ac

    (c)

    y byddai cael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.

(3)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r gofalwr (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(4)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y gofalwr neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I46A. 25 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

26Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr sy’n 16 neu’n 17 oedLL+C

(1)Os yw gofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y gofalwr o dan adran 24 o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, a

(b)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr, nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r gofalwr (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad,

(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), neu

(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(5)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y gofalwr neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I48A. 26 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

27Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr o dan 16 oedLL+C

(1)Os yw—

(a)gofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, a

(b)yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y gofalwr o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr—

    (a)

    bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad, a

    (b)

    nad yw’r gofalwr yn cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y gofalwr.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad,

(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I50A. 27 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Materion atodolLL+C

28Cyfuno asesiadau o anghenion ar gyfer gofalwr a pherson y gofelir amdanoLL+C

(1)Pan fo gan berson, y mae’n ymddangos bod arno angen gofal a chymorth, ofalwr, caiff awdurdod lleol gyfuno—

(a)asesiad o anghenion y person o dan adran 19 neu 21, a

(b)asesiad o anghenion y gofalwr o dan adran 24,

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (4).

(2)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn (p’un ai o dan adran 19 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod yr oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys, neu

(b)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod y plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys,

(b)bod person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a gydsynia i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno, a

(ii)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, neu

(c)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(4)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod y plentyn neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys, neu

(b)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(5)Mae cydsyniad a roddir o dan is-adran (2), (3) neu (4) yn ddilys ac eithrio yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd i gydsynio i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan blentyn o dan 16 oed, nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed mewn perthynas ag asesiad o anghenion y plentyn—

    (a)

    bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a

    (b)

    nad yw’r plentyn yn cytuno â’r cydsyniad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant.

(6)Caiff awdurdod lleol hepgor y gofyniad i gael cydsyniad dilys yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion oedolyn—

    (a)

    nad oes unrhyw berson a gaiff roi cydsyniad dilys, a

    (b)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed—

    (a)

    nad oes gan y plentyn alluedd i roi cydsyniad dilys,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig a gaiff roi cydsyniad dilys ar ran y plentyn, ac

    (c)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf y plentyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn o dan 16 oed—

    (a)

    nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a

    (b)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion yn gyson â llesiant y plentyn.

(7)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn gyffredinol neu yn benodol) i benderfynu a gydsynia ar ran yr oedolyn neu’r plentyn i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I52A. 28 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

29Cyfuno asesiadau o anghenion ac asesiadau eraillLL+C

(1)Pan fo’n ymddangos bod gan berson y mae’n ymddangos bod arno angen cymorth fel gofalwr anghenion am ofal a chymorth yn ei hawl ei hun hefyd, caiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 24 ag asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 19 neu 21.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion ar gyfer person yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn gwneud asesiad arall o dan unrhyw ddeddfiad mewn perthynas â’r person hwnnw.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar ran y corff arall neu ar y cyd ag ef, neu

(b)os yw’r corff arall eisoes wedi trefnu i’r asesiad arall gael ei wneud ar y cyd â pherson arall, caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar y cyd â’r corff arall a’r person arall hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I54A. 29 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

30Rheoliadau ynghylch asesuLL+C

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth am wneud asesiadau o anghenion.

(2)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer adolygu asesiadau o anghenion, a chaniateir iddynt, er enghraifft, bennu—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o asesiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o asesiad, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd, er enghraifft, ddarparu ar gyfer—

(a)personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys wrth iddo wneud asesiad o dan adran 19, 21 neu 24;

(b)y ffordd y mae asesiad i’w wneud, a chan bwy a phryd;

(c)cofnodi canlyniadau asesiad;

(d)yr ystyriaethau y mae awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gyflawni asesiad;

(e)pwerau i ddarparu gwybodaeth at ddibenion asesu.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I56A. 30 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

31Rhan 3: dehongliLL+C

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y gellir eu darparu yn rhinwedd adran 15;

  • ystyr “gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy” (“information, advice or assistance”) yw gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy y gellir eu darparu yn rhinwedd adran 17.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I58A. 31 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Penderfynu beth i’w wneud ar ôl asesiad o anghenionLL+C

32Dyfarnu cymhwystra ac ystyried beth i’w wneud i ddiwallu anghenionLL+C

(1)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni, ar sail asesiad o anghenion, bod ar berson anghenion am ofal a chymorth neu, os gofalwr yw’r person, bod arno anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod—

(a)dyfarnu a oes unrhyw un neu rai o’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra;

(b)os nad yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, ddyfarnu a yw’n angenrheidiol diwallu’r anghenion, serch hynny, i amddiffyn y person—

(i)rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso (os oedolyn yw’r person);

(ii)rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall (os plentyn yw’r person);

(c)dyfarnu a yw’r anghenion yn galw am arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan y Ddeddf hon neu Rannau 4 neu 5 o Ddeddf Plant 1989, i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn berthnasol i’r person hwnnw;

(d)ystyried a fyddai darparu unrhyw beth y gellir ei ddarparu yn rhinwedd adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu 17 (gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) neu unrhyw beth arall a all fod ar gael yn y gymuned o fudd i’r person.

(2)Os yw awdurdod lleol yn dyfarnu bod rhaid i unrhyw anghenion gael eu diwallu, neu eu bod i’w diwallu, o dan adrannau 35 i 45, rhaid i’r awdurdod—

(a)ystyried yr hyn y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny;

(b)ystyried a fyddai’n gosod ffi am wneud y pethau hynny, ac os felly, dyfarnu swm y ffi honno (gweler Rhan 5).

(3)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch cyflawni’r ddyletswydd o dan is-adran (1)(a).

(4)Mae anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os ydynt—

(a)o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau, neu

(b)yn rhan o gyfuniad o anghenion o ddisgrifiad a bennir felly.

(5)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, ddisgrifio anghenion drwy gyfeirio at—

(a)yr effaith y mae’r anghenion yn ei chael ar y person o dan sylw;

(b)amgylchiadau’r person.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I60A. 32 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

33Y weithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 32LL+C

(1)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 32(3) neu (4), rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a ganlyn.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y rheoliadau drafft arfaethedig â’r canlynol—

(a)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos iddynt fod y rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt,

(b)unrhyw sefydliadau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y rheoliadau drafft arfaethedig,

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)O ran y rheoliadau drafft a osodir o dan is-adran (4)—

(a)rhaid iddynt fynd gyda datganiad gan Weinidogion Cymru yn rhoi manylion unrhyw wahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt o dan is-adran (2) a’r rheoliadau drafft a osodir o dan is-adran (4), a

(b)ni chaniateir iddynt gael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 196(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 60 niwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y rheoliadau drafft, ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I62A. 33 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

34Sut i ddiwallu anghenionLL+C

(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45—

(a)drwy drefnu bod person heblaw’r awdurdod yn darparu rhywbeth;

(b)drwy ddarparu rhywbeth ei hun;

(c)drwy ddarparu rhywbeth, neu drwy drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r person ag anghenion am ofal a chymorth (neu gymorth yn achos gofalwr).

(2)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45—

(a)llety mewn cartref gofal, cartref plant neu fangre o ryw fath arall;

(b)gofal a chymorth gartref neu yn y gymuned;

(c)gwasanaethau, nwyddau a chyfleusterau;

(d)gwybodaeth a chyngor;

(e)cwnsela ac eiriolaeth;

(f)gwaith cymdeithasol;

(g)taliadau (gan gynnwys taliadau uniongyrchol);

(h)cymhorthion ac addasiadau;

(i)therapi galwedigaethol.

(3)Pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion person o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drefnu gofal a chymorth yng nghartref y person, rhaid i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod unrhyw ymweliadau â chartref y person at y diben hwnnw yn ddigon hir i roi i’r person y gofal a’r cymorth sydd ei angen i ddiwallu’r anghenion dan sylw.

(4)Rhaid i gôd a ddyroddir o dan adran 145 gynnwys canllawiau ynghylch hyd ymweliadau â chartref person at y diben o roi gofal a chymorth.

(5)Gweler adrannau 47 (eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd), 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc) a 49 (cyfyngiadau ar ddarparu taliadau) ar gyfer cyfyngiadau ar yr hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth a’r ffordd y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2A. 34 cymhwyswyd (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(3), 127(1); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I64A. 34 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Diwallu anghenion gofal a chymorth oedolionLL+C

35Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolynLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a 3 wedi eu cyflawni (ond gweler is-adran (6)).

(2)Amod 1 yw—

(a)bod yr oedolyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)nad oes gan yr oedolyn breswylfa sefydlog a’i fod o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Amod 2 yw—

(a)bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, neu

(b)bod yr awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol diwallu’r anghenion er mwyn amddiffyn yr oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(4)Amod 3 yw—

(a)nad oes unrhyw ffi yn cael ei chodi am y gofal a’r cymorth y mae eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny, neu

(b)bod ffi yn cael ei chodi am y gofal a’r cymorth hwnnw ond—

(i)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol bod adnoddau ariannol yr oedolyn ar neu islaw’r terfyn ariannol,

(ii)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol bod adnoddau ariannol yr oedolyn uwchlaw’r terfyn ariannol ond bod yr oedolyn, serch hynny, yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu ei anghenion, neu

(iii)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn alluedd i drefnu ar gyfer darparu gofal a chymorth ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i wneud trefniadau o’r fath o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu sydd fel arall mewn sefyllfa i wneud hynny ar ran yr oedolyn.

(5)I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.

(6)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys i anghenion oedolyn i’r graddau y mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu gan ofalwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I66A. 35 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

36Pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolynLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth os yw’r oedolyn—

(a)yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal.

(2)Os yw awdurdod lleol yn diwallu o dan is-adran (1) anghenion oedolyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol arall, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r oedolyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal ei fod yn gwneud hynny.

(3)Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad o anghenion ai peidio yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I68A. 36 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Diwallu anghenion plant am ofal a chymorthLL+C

37Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentynLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1 a 2, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).

(2)Amod 1 yw bod y plentyn yn ardal yr awdurdod lleol.

(3)Amod 2 yw—

(a)bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, neu

(b)bod yr awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol diwallu’r anghenion er mwyn amddiffyn y plentyn—

(i)rhag cael, neu rhag risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu

(ii)rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall.

(4)Os yw’r awdurdod lleol wedi ei hysbysu am blentyn o dan adran 120(2)(a) [F14neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)], rhaid iddo drin y plentyn fel un sydd o fewn ei ardal at ddibenion yr adran hon.

(5)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys i anghenion plentyn i’r graddau y mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu gan deulu’r plentyn neu ofalwr.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I70A. 37 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

38Pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentynLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth os yw’r plentyn—

(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)yn preswylio fel arfer o fewn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal,

(ond gweler is-adran (4)).

(2)Os yw awdurdod lleol yn diwallu o dan is-adran (1) anghenion plentyn sy’n preswylio fel arfer o fewn ardal awdurdod lleol arall, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal ei fod yn gwneud hynny.

(3)Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad ai peidio o anghenion yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I72A. 38 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

39Dyletswydd i gadw cyswllt â’r teuluLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn—

(a)sydd o fewn ardal awdurdod lleol,

(b)y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod ganddo anghenion am ofal a chymorth yn ychwanegol at y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn,

(c)sy’n byw ar wahân i’w deulu, a

(d)nad yw’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

(2)Os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn hyrwyddo llesiant y plentyn, rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn—

(a)galluogi’r plentyn i fyw gyda’i deulu, neu

(b)hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i deulu.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I74A. 39 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Diwallu anghenion gofalwr am gymorthLL+C

40Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorthLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.

(2)Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—

(a)yn oedolyn—

(i)sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(ii)nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu

(b)yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Amod 2 yw bod anghenion y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

(4)Amod 3—

(a)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu cymorth i’r gofalwr—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(1) neu (2) yn gymwys;

(b)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (9) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(3) neu (4) yn gymwys;

(c)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (10) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys;

(d)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(12) neu (13) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I76A. 40 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

41Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth: materion atodolLL+C

(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol y gofalwr ar neu islaw’r terfyn ariannol.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol y gofalwr uwchlaw’r terfyn ariannol, a

(b)os yw’r gofalwr, serch hynny, yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu’r anghenion o dan sylw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ar neu islaw’r terfyn ariannol, a

(b)os yw is-adran (7), (8) neu (9) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano uwchlaw’r terfyn ariannol, a

(b)os yw is-adran (7), (8) neu (9) yn gymwys.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth, a

(b)naill ai—

(i)os yw is-adran (7), (8) neu (10) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)os yw is-adran (12) neu (13) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn—

(i)talu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth, neu

(ii)talu unrhyw swm arall am y gofal a’r cymorth,

(b)os nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu i’r gofal a’r cymorth gael eu darparu, ac

(c)naill ai—

(i)os yw is-adran (7), (8) neu (10) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)os yw is-adran (12) neu (13) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw, a

(b)os yw’r person yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(8)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw person awdurdodedig yn cytuno, ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(9)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn hwnnw,

(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

(c)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ei bod er lles pennaf yr oedolyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(10)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw,

(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, ac

(c)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(11)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (10)(c) os yw wedi ei fodloni na fyddai er lles pennaf y plentyn anabl.

(12)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)os yw’r plentyn yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(13)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(14)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (13)(b) os yw wedi ei fodloni na fyddai’n gyson â llesiant y plentyn anabl.

(15)Yn yr adran hon—

  • mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(16)I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I78A. 41 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

42Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorthLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a (pan fo’n gymwys) 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.

(2)Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—

(a)yn oedolyn—

(i)sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(ii)nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu

(b)yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Amod 2 yw bod anghenion y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

(4)Amod 3—

(a)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran [F1543(5)], (6) neu (7) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran [F1643(1)] neu (2) yn gymwys;

(b)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran [F1743(5)], (6) neu (8) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran [F1843(3)] neu (4) yn gymwys;

(c)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran [F1943(10)] neu (11) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran [F2043(3)] neu (4) yn gymwys.

43Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth: materion atodolLL+C

(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ar neu islaw’r terfyn ariannol, a

(b)os yw is-adran (5), (6) neu (7) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano yn uwch na’r terfyn ariannol, a

(b)os yw is-adran (5), (6) neu (7) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth, a

(b)naill ai—

(i)os yw is-adran (5), (6) neu (8) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)os yw is-adran (10) neu (11) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn—

(i)talu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth, neu

(ii)talu unrhyw swm arall am y gofal a’r cymorth,

(b)os nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu i’r gofal a’r cymorth gael eu darparu, ac

(c)naill ai—

(i)os yw is-adran (5), (6) neu (8) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)os yw is-adran (10) neu (11) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw, a

(b)os yw’r person yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw person awdurdodedig yn cytuno, ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn hwnnw,

(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

(c)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ei bod er lles pennaf yr oedolyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(8)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw,

(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, ac

(c)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(9)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (8)(c) os yw wedi ei fodloni na fyddai er lles pennaf y plentyn anabl.

(10)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)os yw’r plentyn yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(11)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(12)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (11)(b) os yw wedi ei fodloni na fyddai’n gyson â llesiant y plentyn anabl.

(13)Yn yr adran hon—

  • mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(14)I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I82A. 43 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

44Darpariaeth atodol ynghylch y dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofalwrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r dyletswyddau o dan adrannau 40 a 42.

(2)Caiff diwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth olygu darparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, hyd yn oed pan na fo unrhyw ddyletswydd i ddiwallu anghenion y person am y gofal a’r cymorth hwnnw o dan adran 35 neu 37.

(3)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol drwy adran 40 neu 42 ddiwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth, ond nad yw’n ddichonadwy iddo wneud hynny drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, rhaid iddo, i’r graddau y mae’n ddichonadwy iddo wneud hynny, ganfod rhyw fodd arall o wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I84A. 44 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

45Pŵer i ddiwallu anghenion gofalwr am gymorthLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth os yw’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal.

(2)Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad ai peidio o anghenion yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I86A. 45 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadauLL+C

46Eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudoLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) (gwahardd rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo a’r unig reswm y mae ei anghenion am ofal a chymorth wedi codi yw—

(a)oherwydd bod yr oedolyn yn ddiymgeledd, neu

(b)oherwydd effeithiau corfforol bod yn ddiymgeledd, neu oherwydd yr effeithiau o’r math hwnnw a ragwelir.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(2) i (7) o Ddeddf 1999 yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(4) a (5) o’r Ddeddf honno at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw.

(3)Ond, hyd nes cychwyn adran 44(6) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae is-adran (2) i gael effaith fel pe bai’n darllen fel a ganlyn—

(2)[F21At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(3) a (5) i (8) o Ddeddf 1999, a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi, yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(5) a (7) a’r paragraff hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw].

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth yn cynnwys cyfeiriad at wneud hynny er mwyn diwallu anghenion gofalwr am gymorth.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I88A. 46 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

47Eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechydLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gwasanaeth neu gyfleuster y mae’n ofynnol ei ddarparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig â gwneud rhywbeth arall i ddiwallu anghenion o dan yr adrannau hynny, neu’n ategol at wneud hynny.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau gwasanaethau neu gyfleusterau i berson o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny’n gysylltiedig â sicrhau, neu’n ategol at sicrhau, gwasanaeth neu gyfleuster arall i’r person hwnnw o dan yr adran honno.

(3)Caiff rheoliadau bennu—

(a)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau y caniateir, er gwaethaf is-adrannau (1) a (2), eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau y caniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;

(b)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau na chaniateir iddynt gael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau na chaniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;

(c)gwasanaethau neu gyfleusterau, neu ddull ar gyfer dyfarnu gwasanaethau neu gyfleusterau, y mae eu darparu i’w drin, neu i’w beidio â’i drin, fel pe bai’n gysylltiedig neu’n ategol at ddibenion is-adran (1) neu (2).

(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig.

(5)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15.

(6)Ond caiff awdurdod lleol, er gwaethaf is-adrannau (1), (2), (4) a (5), drefnu i lety ynghyd â gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig gael eu darparu—

(a)os yw’r awdurdod wedi cael cydsyniad i drefnu’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan—

(i)pa Fwrdd Iechyd Lleol bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, neu

(ii)pa gorff iechyd Seisnig bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yn Lloegr, neu

(b)mewn achos brys a lle bo’r trefniadau’n rhai dros dro.

(7)Mewn achos y mae is-adran (6)(b) yn gymwys iddo, rhaid i’r awdurdod lleol geisio cael y cydsyniad a grybwyllwyd yn is-adran (6)(a) cyn gynted ag y bo’n ddichonadwy ar ôl i’r trefniadau dros dro gael eu gwneud.

(8)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol—

(a)yn gwneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a chorff iechyd ynghylch p’un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster ai peidio o dan ddeddfiad iechyd;

(b)yn cymryd rhan yn y modd a bennir mewn prosesau ar gyfer asesu anghenion person am ofal iechyd a phenderfynu sut y dylid diwallu’r anghenion hynny.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar yr hyn y caiff awdurdod lleol ei wneud o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan gynnwys ymrwymo i drefniadau o dan reoliadau a wneir o dan adran 33 o’r Ddeddf honno (trefniadau â chyrff GIG).

(10)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff iechyd” (“health body”) yw—

    (a)

    Bwrdd Iechyd Lleol;

    (b)

    [F22bwrdd gofal integredig;]

    (c)

    [F23GIG Lloegr;]

    (d)

    Bwrdd Iechyd a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

    (e)

    Bwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan yr adran honno;

    (f)

    ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

  • ystyr “corff iechyd Seisnig” (“English health body”) yw—

    (a)

    [F24bwrdd gofal integredig;]

    (b)

    [F25GIG Lloegr;]

  • ystyr “deddfiad iechyd” (“health enactment”) yw—

    (a)

    Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

    (b)

    Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

    (c)

    Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

    (e)

    Deddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009;

  • ystyr “gofal nyrsio” (“nursing care”) yw gwasanaeth sy’n cynnwys naill ai darparu gofal neu gynllunio, goruchwylio neu ddirprwyo’r gwaith o ddarparu gofal, ond nid yw’n cynnwys gwasanaeth nad oes angen iddo, o ran ei natur a’r amgylchiadau y mae i’w ddarparu ynddynt, gael ei ddarparu gan nyrs gofrestredig.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I90A. 47 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

48Eithriad ar gyfer darparu tai etcLL+C

Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 na chyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15 drwy wneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol hwnnw neu awdurdod lleol arall ei wneud o dan—

(a)[F26Deddf Tai (Cymru) 2014], neu

(b)unrhyw ddeddfiad arall a bennir mewn rheoliadau.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I92A. 48 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

49Cyfyngiadau ar ddarparu taliadauLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth o dan adrannau 35 i 45 oni bai—

(a)bod y taliadau’n rhai uniongyrchol (gweler adrannau 50 i 53),

(b)bod yr awdurdod o’r farn—

(i)bod anghenion y person yn rhai brys, a

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol i ddiwallu’r anghenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,

(c)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu

(d)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15(1) oni bai—

(a)bod yr awdurdod o’r farn—

(i)y byddai’r taliadau’n sicrhau un neu fwy o’r dibenion a grybwyllwyd yn adran 15(2), a

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol sicrhau’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,

(b)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract, neu yn rhinwedd contract, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar gyfer ardal yr awdurdod, neu

(c)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I94A. 49 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Taliadau uniongyrcholLL+C

50Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolynLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth o dan adran 35 neu 36.

(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni chaiff amod 1 neu 2 ei fodloni.

(3)Amod 1 yw—

(a)bod y taliadau i’w gwneud i’r oedolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”),

(b)bod gan A, neu y mae’r awdurdod lleol yn credu bod gan A, alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,

(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A, a

(ii)bod gan A allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i A), a

(d)bod A wedi cydsynio i’r taliadau gael eu gwneud.

(4)Amod 2 yw—

(a)nad oes gan yr oedolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”), neu y mae’r awdurdod lleol yn credu nad oes ganddo, y galluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,

(b)bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) ar wahân i A,

(c)bod P yn berson addas,

(d)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)bod gwneud y taliadau’n ffordd briodol o ddiwallu anghenion A,

(ii)bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i P), a

(iii)y bydd P yn gweithredu er lles pennaf A wrth reoli’r taliadau, ac

(e)bod y cydsyniad angenrheidiol wedi ei gael i wneud y taliadau i P.

(5)At ddibenion is-adran (4)(c), mae P yn “berson addas”—

(a)os yw P wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth,

(b)lle nad yw P wedi ei awdurdodi fel a grybwyllwyd ym mharagraff (a), os yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn cytuno gyda’r awdurdod lleol fod P yn addas i gael taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu

(c)lle nad yw P wedi ei awdurdodi fel a grybwyllwyd ym mharagraff (a) ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi felly, os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod P yn addas i gael taliadau o’r math hwnnw.

(6)At ddibenion is-adran (4)(e), ystyr “cydsyniad angenrheidiol” yw—

(a)cydsyniad P, a

(b)pan fo P yn berson addas yn rhinwedd is-adran (5)(b), cydsyniad person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth.

(7)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I95A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I96A. 50 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

51Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentynLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth o dan adran 37, 38 neu 39.

(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni chaiff amodau 1 i 4 eu bodloni.

(3)Amod 1 yw bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) sydd—

(a)yn berson â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu

(b)yn blentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth.

(4)Amod 2 yw—

(a)pan fo P yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod gan P, neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P, alluedd i gydsynio bod y taliadau yn cael eu gwneud;

(b)pan fo P yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.

(5)Amod 3 yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y plentyn,

(b)y caiff llesiant y plentyn ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud, ac

(c)bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i P).

(6)Amod 4 yw bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.

(7)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I97A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I98A. 51 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

52Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth o dan adran 40, 42 neu 45.

(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i daliadau o’r fath gael eu gwneud neu ganiatáu iddynt gael eu gwneud oni chaiff amodau 1 i 4 eu cyflawni.

(3)Amod 1 yw bod y taliadau i’w gwneud i’r gofalwr y mae arno anghenion am gymorth (“C”).

(4)Amod 2 yw—

(a)pan fo C yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod gan C, neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod gan C, alluedd i gydsynio bod y taliadau yn cael eu gwneud;

(b)pan fo C yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan C ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.

(5)Amod 3 yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C, a

(b)bod gan C allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i C).

(6)Amod 4 yw bod C wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.

(7)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I99A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I100A. 52 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

53Taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 hefyd wneud darpariaeth ynghylch y materion canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)y dull y mae symiau’r taliadau uniongyrchol i’w dyfarnu;

(b)gwneud taliadau uniongyrchol fel taliadau gros neu fel arall fel taliadau net;

(c)dyfarnu—

(i)adnoddau ariannol personau penodedig, a

(ii)y swm (os oes un) a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r personau hynny ei dalu ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net);

(d)materion y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, roi sylw iddynt wrth wneud penderfyniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;

(e)amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu gosod a’r amodau na chaniateir iddo eu gosod, mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;

(f)camau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu cymryd cyn, neu ar ôl, gwneud dyfarniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;

(g)cymorth y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei ddarparu neu ei drefnu ar gyfer personau y mae’n gwneud taliadau uniongyrchol iddynt;

(h)achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol weithredu fel asiant ar ran person y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud iddo;

(i)amodau y disodlir odanynt ddyletswydd neu bŵer awdurdod lleol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, neu anghenion gofalwr am gymorth, drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y disodlir y ddyletswydd honno neu’r pŵer hwnnw;

(j)achosion neu amgylchiadau lle na chaiff awdurdod lleol wneud, neu lle y caniateir iddo beidio â gwneud, taliadau i berson neu mewn perthynas â pherson;

(k)achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid i berson, neu lle y caiff person, nad yw bellach heb alluedd, neu y mae’r awdurdod lleol yn credu nad yw’r oedolyn hwnnw bellach heb alluedd, i gydsynio bod taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud, gael ei drin, serch hynny, at ddibenion adrannau 50 i 52 fel pe na bai ganddo’r galluedd i wneud hynny;

(l)achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol adolygu’r arfer o wneud y taliadau hynny;

(m)achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol—

(i)terfynu’r arfer o wneud y taliadau hynny;

(ii)ei gwneud yn ofynnol i’r cyfan neu ran o daliad uniongyrchol gael ei ad-dalu;

(n)adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol mewn cysylltiad â gwneud taliadau uniongyrchol.

(2)Yn is-adran (1)(b) ac (c)—

  • ystyr “taliadau gros” yw taliadau uniongyrchol—

    (a)

    a wneir ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau bod y gofal a’r cymorth (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth), y mae’r taliadau’n cael eu gwneud mewn perthynas â hwy, yn cael eu darparu, ond

    (b)

    y caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i’r amod bod person a bennir mewn rheoliadau yn talu i’r awdurdod, ar ffurf ad-daliad, swm neu symiau a ddyfernir o dan y rheoliadau;

  • ystyr “taliadau net” yw taliadau uniongyrchol—

    (a)

    a wneir ar y sail y bydd person a bennir mewn rheoliadau yn talu swm neu symiau a bennir o dan y rheoliadau drwy gyfraniad tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth) y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy, a

    (b)

    a wneir yn unol â hynny ar raddfa islaw’r raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gofal a’r cymorth hwnnw (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth hwnnw) i adlewyrchu’r cyfraniad a wneir gan y person hwnnw.

(3)Caiff rheoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 wneud darpariaeth mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth a wneir gan, neu y caniateir ei gwneud o dan, adrannau 59 i 67 neu adran 73.

(4)At ddibenion is-adran (3), mae’r ddarpariaeth yn cyfateb i’r ddarpariaeth honno a wneir gan neu o dan adrannau 59 i 67 neu adran 73 os yw, mewn perthynas ag ad-daliadau neu gyfraniadau, yn gwneud darpariaeth sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cael effaith gyfatebol i’r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan yr adrannau hynny mewn perthynas â ffioedd ar gyfer darparu neu drefnu ar gyfer darparu gofal a chymorth (neu gymorth, yn achos gofalwyr) i ddiwallu anghenion person.

(5)Rhaid i reoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd camau penodedig i alluogi personau perthnasol i wneud dewisiadau deallus ynghylch y defnydd o daliadau uniongyrchol.

(6)Yn is-adran (5) ystyr “personau perthnasol” yw personau y mae rhaid cael eu cydsyniad i wneud taliadau uniongyrchol o dan reoliadau a wneir o dan adran 50, 51 neu 52.

(7)Rhaid i reoliadau o dan adran 51 bennu, pan fo taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud i berson sy’n cael budd-dal sy’n dod o fewn categori penodedig—

(a)bod rhaid i’r taliadau gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau bod y gofal a’r cymorth, y mae’r taliadau yn cael eu gwneud mewn cysylltiad â hwy, yn cael eu darparu, a

(b)na chaniateir iddynt gael eu gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson dalu unrhyw swm i’r awdurdod ar ffurf ad-daliad.

(8)Yn is-adran (7) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.

(9)Caiff person y mae awdurdod lleol yn gwneud taliad uniongyrchol iddo, yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 50, 51 neu 52, ddefnyddio’r taliad i brynu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) gan unrhyw berson (gan gynnwys, ymhlith eraill, yr awdurdod a wnaeth y taliad).

(10)Caiff awdurdod lleol osod ffi resymol am y ddarpariaeth o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) i ddiwallu anghenion y mae taliad uniongyrchol wedi ei wneud mewn cysylltiad â hwy.

[F27(11)Mae’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynnwys drwy wneud taliadau uniongyrchol; ac at y diben hwnnw mae Atodlen A1 (sy’n cynnwys addasiadau i adrannau 50 a 51 a’r adran hon) yn cael effaith.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I101A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I102A. 53 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

CynlluniauLL+C

54Cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorthLL+C

(1)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion person o dan adran 35 neu 37, rhaid iddo lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r person hwnnw.

(2)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr o dan adran 40 neu 42, rhaid iddo lunio a chynnal cynllun cymorth mewn perthynas â’r gofalwr hwnnw.

(3)Rhaid i awdurdod lleol adolygu’n gyson gynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r person y mae cynllun yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—

(a)gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a

(b)diwygio’r cynllun.

(5)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae cynlluniau o dan yr adran hon i gael eu llunio;

(b)yr hyn y mae cynllun i’w gynnwys;

(c)adolygu a diwygio cynlluniau.

(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(7)Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol gynnwys—

(a)yn achos cynllun gofal a chymorth sy’n ymwneud ag oedolyn, yr oedolyn a, phan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn;

(b)yn achos cynllun gofal a chymorth sy’n ymwneud â phlentyn, y plentyn ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(c)yn achos cynllun cymorth sy’n ymwneud â gofalwr, y gofalwr a, phan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(8)Caiff yr awdurdod lleol—

(a)llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y person o dan sylw, a

(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.

Gwybodaeth Cychwyn

I103A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I104A. 54 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

55Rheoliadau ynghylch cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorthLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 54(5), er enghraifft—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau fod ar ffurf benodedig;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau’n cynnwys pethau penodedig;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys yn y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(d)ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau gael eu llunio, eu hadolygu neu eu diwygio gan bersonau penodedig;

(e)rhoi swyddogaethau i bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad â llunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(f)pennu personau y mae’n rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun iddynt (gan gynnwys mewn achosion penodedig, darparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef);

(g)pennu amgylchiadau pellach y mae’n rhaid i gynlluniau gael eu hadolygu odanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I105A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I106A. 55 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Materion atodolLL+C

56Hygludedd gofal a chymorthLL+C

(1)Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod anfon”) yn cael ei hysbysu gan neu ar ran person y mae arno ddyletswydd o dan adran 35 neu 37 i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth mewn cysylltiad ag ef fod y person hwnnw’n mynd i symud i ardal awdurdod lleol arall (“yr awdurdod derbyn”), ac y mae’r awdurdod wedi ei fodloni bod y symud yn debyg o ddigwydd, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r awdurdod derbyn ei fod wedi ei fodloni felly, a

(b)darparu’r canlynol i’r awdurdod derbyn—

(i)copi o’r cynllun gofal a chymorth sydd wedi ei lunio ar gyfer y person, a

(ii)unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r person ac, os oes gan y person ofalwr, unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r gofalwr y bydd yr awdurdod derbyn yn gofyn amdani.

(2)Pan fo’r awdurdod derbyn yn cael ei hysbysu gan neu ar ran person y mae ar yr awdurdod anfon ddyletswydd o dan adran 35 neu 37 i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth mewn cysylltiad ag ef fod y person yn mynd i symud i ardal yr awdurdod derbyn, a bod yr awdurdod derbyn wedi ei fodloni bod y symud yn debyg o ddigwydd, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r awdurdod anfon ei fod wedi ei fodloni felly,

(b)darparu i’r person, ac os oes gan y person ofalwr, y gofalwr, unrhyw wybodaeth y mae’n barnu ei bod yn briodol,

(c)os plentyn yw’r person, darparu i’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn unrhyw wybodaeth sy’n briodol ym marn yr awdurdod, a

(d)asesu’r person o dan adran 19 (os yw’r person yn oedolyn) neu 21 (os yw’r person yn blentyn), gan roi sylw penodol i unrhyw newid yn anghenion y person am ofal a chymorth sy’n deillio o’r symud.

(3)Os yw’r awdurdod derbyn, ar y diwrnod y mae’r person yn symud i’w ardal, yn dal heb gyflawni’r asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), neu y mae wedi gwneud felly ond y mae’n dal heb gymryd y camau eraill sy’n ofynnol gan y Rhan hon neu Ran 5, rhaid iddo ddiwallu anghenion y person am ofal a chymorth yn unol â’r cynllun gofal a chymorth a luniwyd gan yr awdurdod anfon, i’r graddau y bydd hynny’n rhesymol ymarferol.

(4)Wrth gynnal yr asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), rhaid i’r awdurdod derbyn roi sylw i’r cynllun gofal a chymorth a ddarperir o dan is-adran (1)(b).

(5)Mae’r awdurdod derbyn yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (3) hyd nes y bydd wedi—

(a)cyflawni’r asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), a

(b)cymryd y camau eraill sy’n ofynnol o dan y Rhan hon neu Ran 5.

(6)Caiff rheoliadau—

(a)pennu camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i’w fodloni ei hun mewn cysylltiad â’r materion a grybwyllwyd yn is-adrannau (1) a (2);

(b)pennu materion y mae’n rhaid i awdurdod derbyn roi sylw iddynt wrth benderfynu sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan is-adran (3);

(c)pennu achosion pan na fo’r dyletswyddau o dan is-adran (1), (2) neu (3) yn gymwys iddynt.

(7)Mae cyfeiriad yn yr adran hon at symud i ardal yn gyfeiriad at symud i’r ardal honno gyda golwg ar breswylio fel arfer yno.

Gwybodaeth Cychwyn

I107A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I108A. 56 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

57Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodolLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)pan fo awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 neu adrannau 40 i 45 drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety o fath penodedig ar gyfer person,

(b)pan fo’r person o dan sylw, neu berson o ddisgrifiad penodedig, yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol o’r math hwnnw, ac

(c)pan fo amodau penodedig wedi eu bodloni,

bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y llety sy’n cael ei ffafrio.

(2)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r person o dan sylw neu berson o ddisgrifiad penodedig dalu rhywfaint neu’r cyfan o’r gost ychwanegol (os oes un) am y llety sy’n cael ei ffafrio mewn achosion neu amgylchiadau penodedig.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “cost ychwanegol” yw’r gwahaniaeth rhwng—

(a)y gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio, a

(b)y gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu wrth drefnu i ddarparu llety addas o’r math hwnnw i ddiwallu anghenion y person o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I109A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I110A. 57 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

58Gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo anghenion gofal a chymorth person yn cael eu diwallu o dan adran 35, 36, 37 neu 38 mewn ffordd sy’n cynnwys darparu llety [F28, pan fo’n cael ei dderbyn i ysbyty] (neu’r ddau), a

(b)pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol bod perygl o golli neu ddifrodi eiddo symudol y person yn ardal yr awdurdod—

(i)am nad yw’r person yn gallu (p’un ai’n barhaol neu dros dro) gwarchod yr eiddo na delio â’r eiddo, a

(ii)am nad oes trefniadau addas wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i atal neu i leihau’r golled neu’r difrod.

(3)At ddibenion cyflawni’r ddyletswydd honno, caiff yr awdurdod lleol—

(a)ar bob adeg resymol ac ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, fynd i mewn i unrhyw fangre yr oedd y person yn byw ynddi yn union cyn bod llety yn cael ei ddarparu iddo neu cyn iddo gael ei dderbyn i ysbyty, a

(b)cymryd unrhyw gamau eraill y mae’n barnu eu bod yn rhesymol angenrheidiol er mwyn atal neu leihau colled neu ddifrod.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni cyn cymryd unrhyw gamau o dan is-adran (3)(a) neu (b)—

  • ACHOS 1 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person—

    (a)

    yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed a chanddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd, neu

    (b)

    yn blentyn o dan 16 oed a chanddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch a gydsynia i’r camau gael eu cymryd,

    rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad y person i’r camau gael eu cymryd;

  • ACHOS 2 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn oedolyn nad oes ganddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd—

    (a)

    rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i roi cydsyniad ar ran yr oedolyn, os oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, neu

    (b)

    os nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni y byddai cymryd y camau er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 3 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd—

    (a)

    rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i roi cydsyniad ar ran y plentyn, os oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, neu

    (b)

    os nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, rhaid i’r awdurdod lleol gael cysyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

  • ACHOS 4 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn blentyn o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch a gydsynia i’r camau gael eu cymryd, rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(5)Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i gael unrhyw gydsyniad y gall fod ei angen o dan is-adran (4).

(6)Pan na all yr awdurdod lleol sicrhau bod y gofynion yn is-adran (4) wedi eu bodloni, mae dyletswydd yr awdurdod lleol o dan is-adran (2) yn peidio â bod yn gymwys.

(7)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (3)(a) neu (b), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.

(8)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (3)(a) neu (b)—

(a)yn cyflawni trosedd, a

(b)yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(9)Caiff awdurdod lleol adennill unrhyw dreuliau rhesymol y mae’n eu tynnu o dan yr adran hon mewn perthynas ag eiddo symudol oedolyn oddi wrth yr oedolyn hwnnw.

(10)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil swm y gellir ei adennill o dan is-adran (9) (ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’i adennill).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I111A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I112A. 58 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

RHAN 5LL+CCODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL

Codi ffioedd am ddiwallu anghenionLL+C

59Pŵer i osod ffioeddLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi i’r awdurdod am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) cymorth o dan adrannau 35 i 45 i ddiwallu anghenion person.

(2)Caiff ffi a osodir o dan is-adran (1) gwmpasu dim mwy na’r gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddynt.

(3)Ond pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion am fod adran 35(4)(b)(i), 36, 38, 41(2), (4) neu (6)(a)(i), 43(2) neu (4)(a)(i) neu 45 yn gymwys, caiff ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi i’r awdurdod (yn ychwanegol at unrhyw ffi a osodir o dan is-adran (1)) am sefydlu’r trefniadau ar gyfer diwallu’r anghenion hynny.

(4)Mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r canlynol—

(a)y ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes rhai), a

(b)dyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 a 67 (os ydynt yn gymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I113A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I114A. 59 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

60Personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnyntLL+C

(1)Mae’r adran hon yn disgrifio’r personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt o dan adran 59.

(2)Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion oedolyn, neu ar gyfer sefydlu’r trefniadau ar gyfer y gofal a’r cymorth hwnnw, gael ei gosod ar yr oedolyn hwnnw.

(3)Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion plentyn, neu ar gyfer sefydlu’r trefniadau ar gyfer y gofal a’r cymorth hwnnw, gael ei gosod—

(a)pan fo’r gofal a chymorth yn cael eu darparu i blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw;

(b)pan fo anghenion y plentyn am ofal a chymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu rhywbeth i oedolyn, ar yr oedolyn hwnnw.

(4)Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu cymorth i ddiwallu anghenion gofalwr, neu am sefydlu’r trefniadau ar gyfer y cymorth hwnnw, gael ei gosod—

(a)pan fo’r cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwr sy’n oedolyn, ar y gofalwr hwnnw;

(b)pan fo’r cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwr sy’n blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr hwnnw;

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Pan fo anghenion gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i berson y mae’r gofalwr yn darparu, neu’n bwriadu darparu, gofal iddo, nid yw is-adran (4) yn gymwys; caniateir i ffi am ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y cymorth hwnnw, neu am sefydlu’r trefniadau ar gyfer y cymorth hwnnw, gael ei gosod yn lle hynny—

(a)pan fo anghenion y gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i oedolyn, ar yr oedolyn hwnnw;

(b)pan fo anghenion y gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I115A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I116A. 60 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

61Rheoliadau ynghylch arfer pŵer i osod ffiLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad ag arfer pŵer i osod ffi o dan adran 59.

(2)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth am swm y ffi y caniateir ei gosod o dan adran 59(1); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) wneud hynny drwy, er enghraifft—

(a)pennu uchafswm y caniateir ei osod am ofal a chymorth, neu (yn achos gofalwyr) gymorth, o fath penodedig neu gyfuniad penodedig o bethau o’r fath, neu fformiwla neu ddull i ddyfarnu’r uchafswm hwnnw;

(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol bennu ffi am ofal a chymorth, neu (yn achos gofalwyr) gymorth, o fath penodedig neu gyfuniad penodedig o bethau o’r fath drwy gyfeirio at gyfnod amser penodedig;

(c)pennu, yn achos ffi y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (a), uchafswm y caniateir ei osod, neu fformiwla neu ddull i benderfynu’r uchafswm hwnnw.

(3)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth am swm y ffi y caniateir ei gosod o dan adran 59(3); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) wneud hynny, er enghraifft, drwy bennu uchafswm y caniateir ei osod am sefydlu trefniadau—

(a)mewn amgylchiadau penodedig, neu

(b)ar gyfer personau o ddisgrifiad penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I117A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I118A. 61 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

62Rheoliadau yn datgymhwyso pŵer i osod ffiLL+C

Caiff rheoliadau ddatgymhwyso pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan adran 59(1) neu (3) (ac felly cânt ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45 yn rhad ac am ddim); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud hynny, er enghraifft, pan fo’r gofal a’r cymorth, neu (yn achos gofalwyr) y cymorth—

(a)o fath penodedig;

(b)yn cael ei ddarparu neu ei drefnu o dan amgylchiadau penodedig;

(c)yn cael ei ddarparu i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu’n cael ei drefnu ar eu cyfer;

(d)yn cael ei ddarparu neu ei drefnu am gyfnod penodedig yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I119A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I120A. 62 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

63Dyletswydd i gynnal asesiad ariannolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â pherson y mae awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno o dan adran 59, pe bai’n diwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol asesu lefel adnoddau ariannol y person er mwyn dyfarnu a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person dalu’r ffi safonol (ond mae hynny’n ddarostyngedig i adran 65).

(3)Yn y Rhan hon ystyr “ffi safonol” yw’r swm y byddai awdurdod lleol yn ei godi o dan adran 59 pe na châi unrhyw ddyfarniad ei wneud o dan adran 66 ynghylch gallu person i dalu’r swm hwnnw.

(4)Cyfeirir at asesiad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “asesiad ariannol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I121A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I122A. 63 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

64Rheoliadau am asesiadau ariannolLL+C

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau ariannol ac mewn perthynas â’u cynnal.

(2)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cyfrifo incwm;

(b)cyfrifo cyfalaf.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth hefyd ar gyfer y materion canlynol (ymhlith materion eraill)—

(a)trin, neu beidio â thrin, symiau o fath penodedig fel incwm neu fel cyfalaf;

(b)achosion neu amgylchiadau lle y mae person i’w drin fel un a chanddo adnoddau ariannol sy’n uwch na lefel benodedig (a’r rhain yn achosion neu’n amgylchiadau a all gynnwys, er enghraifft, achosion lle y mae’r person sy’n cael ei asesu wedi methu â darparu i’r awdurdod lleol, pan ofynnwyd iddo wneud hynny, wybodaeth neu ddogfennau sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth);

(c)achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid neu y caniateir i asesiad ariannol newydd gael ei gynnal.

Gwybodaeth Cychwyn

I123A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I124A. 64 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

65Rheoliadau’n datgymhwyso’r ddyletswydd i gynnal asesiad ariannolLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth am amgylchiadau lle nad yw’n ofynnol i awdurdod lleol (er gwaethaf adran 63) gynnal asesiad ariannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I125A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I126A. 65 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

66Dyfarniad ynghylch gallu person i dalu ffiLL+C

(1)Pan fo awdurdod lleol wedi cynnal asesiad ariannol—

(a)rhaid i’r awdurdod ddyfarnu, yng ngoleuni’r asesiad, a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth neu (yn achos gofalwyr) y cymorth y byddai ffi’n cael ei gosod arno mewn cysylltiad â hwy neu ef, a

(b)os yw’r awdurdod yn dyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu’r ffi safonol, rhaid i’r awdurdod ddyfarnu’r swm (os oes un) y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw ei dalu am y gofal a’r cymorth hwnnw neu’r cymorth hwnnw.

(2)Yn yr adran hon ystyr “y person a aseswyd” yw’r person y mae ei adnoddau ariannol wedi eu hasesu o dan adran 63.

(3)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth am wneud dyfarniadau o dan is-adran (1).

(4)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benderfynu, mewn achos lle y mae adnoddau ariannol person (p’un ai incwm, cyfalaf, neu gyfuniad o’r ddau) yn uwch na lefel benodedig, y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw dalu’r ffi safonol.

(5)Cyfeirir at y lefel a bennir at ddibenion is-adran (4) yn y Ddeddf hon fel “y terfyn ariannol”.

(6)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth neu (yn achos gofalwyr) y cymorth a fyddai’n lleihau incwm neu gyfalaf y person islaw lefelau penodedig; a chaiff y rheoliadau, (gan ddibynnu ar adran 196(2)) bennu lefelau gwahanol—

(a)ar gyfer incwm ac ar gyfer cyfalaf,

(b)ar gyfer amgylchiadau gwahanol, ac

(c)ar gyfer disgrifiadau gwahanol o bersonau.

(7)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth hefyd (ymhlith pethau eraill) am achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid i awdurdod lleol, neu lle y caiff, ddisodli dyfarniad â dyfarniad newydd.

(8)Mae dyfarniad o dan is-adran (1) yn cael effaith o ddyddiad y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn rhesymol (a chaniateir iddo fod yn ddyddiad cyn yr un y gwnaed y dyfarniad arno); ond mae hynny’n ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan is-adran (9).

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynglŷn â’r dyddiad y mae dyfarniad o dan is-adran (1) i gael effaith ohono (a chaiff gynnwys darpariaeth i ddyfarniad gael effaith o ddyddiad cyn yr un pan gafodd ei wneud).

(10)Pan fo dyfarniad yn disodli dyfarniad sy’n bodoli eisoes, mae’r dyfarniad sy’n bodoli eisoes yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd y dyfarniad newydd yn cael effaith.

(11)At ddibenion is-adran (10), mae dyfarniad yn disodli dyfarniad sy’n bodoli eisoes os yw’n ymwneud â’r un person a’r un gofal a chymorth neu (yn achos gofalwyr) yr un cymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I127A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I128A. 66 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

67Dyletswydd i roi effaith i ddyfarniad ynghylch gallu i dalu ffiLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol roi effaith i ddyfarniad o dan adran 66 wrth osod ffioedd o dan adran 59.

(2)Ond caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch amgylchiadau lle nad yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I129A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I130A. 67 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

68Cytundebau ar daliadau gohiriedigLL+C

(1)Caiff rheoliadau bennu ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau neu amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid i awdurdod lleol, ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig gyda pherson y mae’n ofynnol iddo (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) dalu ffi o dan adran 59.

(2)Mae cytundeb ar daliad gohiriedig yn gytundeb—

(a)y mae’r awdurdod lleol yn cytuno odano i beidio â’i gwneud yn ofynnol i swm gofynnol y person gael ei dalu tan yr amser sy’n cael ei bennu yn y rheoliadau neu ei ddyfarnu’n unol â hwy, a

(b)y mae’r person yn cytuno odano i roi i’r awdurdod lleol arwystl dros fuddiant y person yn ei gartref i sicrhau bod swm gofynnol y person yn cael ei dalu.

(3)Swm gofynnol y person yw’r hyn o’r ffi y mae’n ofynnol i’r person (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) ei dalu o dan adran 59 ag a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.

(4)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i’r awdurdod lleol godi—

(a)llog ar swm gofynnol y person;

(b)unrhyw swm cysylltiedig â chostau gweinyddol yr awdurdod lleol a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy;

(c)llog ar swm a godir o dan baragraff (b).

(5)Caiff y rheoliadau ddarparu bod y llog y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(a) i’w godi drwy gyfrwng rhwymedigaeth yn y cytundeb ar daliad gohiriedig ac i’w drin yn yr un ffordd â swm gofynnol y person.

(6)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu costau sydd, neu nad ydynt, i’w hystyried yn gostau gweinyddol at ddibenion is-adran (4)(b);

(b)darparu bod swm y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(b) neu fod llog y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(c) i’w godi drwy gyfrwng rhwymedigaeth yn y cytundeb ar daliad gohiriedig ac i’w drin yn yr un ffordd â swm gofynnol y person.

(7)Ni chaiff yr awdurdod lleol godi llog o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (4) yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.

(8)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch hyd y cytundeb ac ar gyfer ei derfynu gan y naill barti neu’r llall; rhaid i’r rheoliadau, ymhlith pethau eraill, alluogi’r person i’w derfynu a therfynu’r arwystl y mae’n rhoi effaith iddo drwy—

(a)hysbysu’r awdurdod lleol, a

(b)talu i’r awdurdod y swm llawn y mae’r person yn atebol i’w dalu mewn cysylltiad â swm gofynnol y person ac unrhyw swm a godir o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4).

(9)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth am hawliau a rhwymedigaethau’r awdurdod lleol a’r person pan fo’r person yn gwaredu’r buddiant y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef ac yn caffael buddiant mewn eiddo arall yng Nghymru neu Loegr; caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)i’r awdurdod lleol beidio â’i gwneud yn ofynnol i’r symiau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (8)(b) gael eu talu tan yr amser a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy, a

(b)i’r person roi i’r awdurdod lleol arwystl dros ei fuddiant yn yr eiddo arall.

(10)Mae cyfeiriad at gartref person yn gyfeiriad at yr eiddo y mae’r person yn ei feddiannu fel ei unig neu brif breswylfa; ac mae cyfeiriad at fuddiant person mewn eiddo yn gyfeiriad at fuddiant cyfreithiol neu lesiannol y person yn yr eiddo hwnnw.

(11)Caiff rheoliadau gymhwyso’r adran hon, gydag addasiadau neu hebddynt, er mwyn galluogi person i gytuno i roi arwystl dros fuddiant y person mewn eiddo yng Nghymru neu Loegr yr oedd yn arfer ei ddefnyddio fel ei unig neu brif breswylfa.

Gwybodaeth Cychwyn

I131A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I132A. 68 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwyLL+C

69Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwyLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ffioedd—

(a)am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15;

(b)am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17.

(2)Ond ni chaniateir i’r rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)sy’n galluogi gosod ffi am wasanaethau neu gynhorthwy y mae ffi wedi ei gosod mewn cysylltiad â hwy o dan adran 59,

(b)sy’n galluogi ffi i gwmpasu unrhyw beth ac eithrio’r gost a dynnir wrth ddarparu’r gwasanaethau neu’r cynhorthwy y mae’r ffi yn ymwneud â hwy, neu

(c)sy’n galluogi gosod ffi ar blentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I133A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I134A. 69 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Gorfodi dyledionLL+C

70Adennill costau, llog etcLL+C

(1)Gellir adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol o dan y Rhan hon gan yr awdurdod fel dyled sy’n ddyledus iddo.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn achos lle y gellid ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig, yn unol â rheoliadau o dan adran 68, oni bai—

(a)bod yr awdurdod lleol wedi ceisio ymrwymo i gytundeb o’r fath â’r person y mae’r swm yn ddyledus ganddo, a

(b)bod y person hwnnw wedi gwrthod.

(3)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil swm y gellir ei adennill gan awdurdod lleol o dan is-adran (1) (ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’i adennill).

(4)Gellir adennill swm o dan yr adran hon o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y daw’r swm yn ddyledus i’r awdurdod lleol.

(5)Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (6) yn camliwio neu’n methu â datgelu (p’un ai’n dwyllodrus neu fel arall) i awdurdod lleol unrhyw ffaith o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon, mae’r symiau canlynol yn ddyledus i’r awdurdod gan y person hwnnw—

(a)unrhyw wariant a dynnir gan yr awdurdod o ganlyniad i’r camliwio neu’r methiant, a

(b)unrhyw swm y gellir ei adennill o dan yr adran hon ac nad yw’r awdurdod wedi ei adennill o ganlyniad i’r camliwio neu’r methiant.

(6)Y personau yw—

(a)oedolyn—

(i)y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol y mae arno anghenion am ofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) am gymorth o dan Ran 3, a

(ii)y mae ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon;

(b)oedolyn—

(i)y darperir rhywbeth iddo er mwyn diwallu anghenion person arall am ofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) am gymorth o dan Ran 3, a

(ii)y mae ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon;

(c)oedolyn o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â gofal a chymorth, neu (yn achos gofalwr) cymorth, ac y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol bod angen y gofal a’r cymorth hwnnw, neu’r cymorth hwnnw, ar—

(i)plentyn, neu

(ii)oedolyn nad oes ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon.

(7)Gellir adennill y costau rhesymol a dynnir gan awdurdod lleol wrth adennill neu wrth geisio ag adennill swm sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon gan yr awdurdod fel dyled sy’n ddyledus iddo; ac mae is-adran (3) yn gymwys i adennill y costau hynny fel petaent yn symiau y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt.

(8)Caiff rheoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarnu’r dyddiad y daw swm yn ddyledus i awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon;

(b)pennu achosion neu amgylchiadau lle na all awdurdod lleol adennill o dan yr adran hon swm sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon;

(c)pennu achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol godi llog ar swm (gan gynnwys unrhyw gostau y gellid eu hadennill o dan is-adran (7)) sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon;

(d)pan ellir codi llog, ddarparu—

(i)bod rhaid iddo gael ei godi yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy;

(ii)na chaniateir ei godi yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I135A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I136A. 70 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

71Creu arwystl dros fuddiant mewn tirLL+C

(1)Pan fo person—

(a)yn methu â thalu i awdurdod lleol swm y gallai’r awdurdod ei adennill o dan y Rhan hon, a

(b)yn meddu ar fuddiant cyfreithiol neu lesiannol mewn tir yng Nghymru neu Loegr,

caiff yr awdurdod lleol greu arwystl o blaid yr awdurdod hwnnw dros fuddiant y person yn y tir i sicrhau bod y swm hwnnw’n cael ei dalu.

(2)Pan fo gan y person fuddiannau mewn mwy nag un parsel o dir, caiff yr awdurdod lleol greu arwystl dros ba un bynnag o’r buddiannau hynny y mae’n ei ddewis.

(3)Caiff yr arwystl fod mewn cysylltiad ag unrhyw swm y gallai’r awdurdod lleol ei adennill o dan y Rhan hon; ond mae hynny’n ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Pan fo’r arwystl yn cael ei greu dros fuddiant cyd-denant ecwitïol mewn tir, ni chaniateir i swm yr arwystl fod yn fwy na gwerth y buddiant a fyddai gan y person yn y tir pe bai’r gyd-denantiaeth yn cael ei hollti (ond nid yw creu’r arwystl yn hollti’r gyd-denantiaeth).

(5)Pan fo cyd-denant ecwitïol mewn tir y mae ei fuddiant yn y tir yn ddarostyngedig i arwystl o dan yr adran hon yn marw, mae buddiant y personau canlynol mewn tir yn dod yn ddarostyngedig i arwystl—

(a)os oes unrhyw cyd-denantiaid sy’n goroesi, eu buddiannau yn y tir;

(b)os yw’r tir wedi ei freinio mewn un person, neu y mae hawl gan un person i gael y tir wedi ei freinio ynddo ef, buddiant y person hwnnw yn y tir.

(6)Ni chaniateir i swm yr arwystl sydd wedi ei greu o dan is-adran (5) fod yn fwy na swm yr arwystl yr oedd buddiant y cyd-denant ymadawedig yn ddarostyngedig iddo.

(7)Rhaid i arwystl o dan yr adran hon gael ei greu gan ddatganiad ysgrifenedig a wneir gan yr awdurdod lleol.

(8)Mae arwystl o dan yr adran hon, ac eithrio ffi dros fuddiant cyd-denant ecwitïol mewn tir—

(a)yn achos tir anghofrestredig, yn bridiant tir Dosbarth B o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972;

(b)yn achos tir cofrestredig, yn arwystl cofrestradwy sy’n dod yn weithredol fel arwystl drwy gyfrwng morgais cyfreithiol.

(9)Pan fo swm yn destun arwystl dros fuddiant person mewn tir o dan yr adran hon, caniateir codi llog ar y swm hwnnw o’r diwrnod y mae’r person a grybwyllwyd yn is-adran (1) yn marw.

(10)Cyfradd y llog y gellir ei godi o dan is-adran (9) yw—

(a)cyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy, neu

(b)os nad oes rheoliadau wedi eu gwneud, cyfradd a ddyfernir gan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I137A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I138A. 71 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

72Trosglwyddo asedau i osgoi ffioeddLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn achos pan fo anghenion person (“P”) wedi eu diwallu neu’n cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan adrannau 35 i 42 neu adran 45 a phan fo—

(a)person (“y trosglwyddwr”) (a gaiff fod yn P ond nid oes rhaid iddo) wedi trosglwyddo ased i berson arall (“trosglwyddai”),

(b)y trosglwyddiad wedi ei wneud gyda’r bwriad o osgoi ffioedd am ddiwallu anghenion P, ac

(c)naill ai’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad yn llai na gwerth yr ased neu na fo unrhyw gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad.

(2)Mae’r trosglwyddai yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng—

(a)y swm y byddai’r awdurdod wedi ei godi ar y trosglwyddwr pe na bai’r ased wedi ei drosglwyddo, a

(b)y swm a gododd ar y trosglwyddwr mewn gwirionedd.

(3)Ond nid yw’r trosglwyddai yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm sy’n fwy na’r budd a ddaw i’r trosglwyddai o’r trosglwyddiad.

(4)Pan fo ased wedi ei drosglwyddo i fwy nag un trosglwyddai, mae atebolrwydd pob trosglwyddai yn gymesur â’r budd a ddaw i’r trosglwyddai hwnnw o’r trosglwyddiad.

(5)Yn yr adran hon ystyr “ased” yw unrhyw beth y caniateir ei ystyried at ddibenion asesiad ariannol.

(6)Gwerth ased (ac eithrio arian parod) yw’r swm a geid pe bai’r ased wedi ei werthu ar y farchnad agored gan werthwr bodlon adeg y trosglwyddiad, gan ddidynnu ar gyfer—

(a)swm unrhyw lyffethair ar yr ased, a

(b)swm rhesymol mewn cysylltiad â threuliau’r gwerthiant.

(7)Caiff rheoliadau bennu achosion neu amgylchiadau pan na fo atebolrwydd o dan is-adran (2) yn codi.

Gwybodaeth Cychwyn

I139A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I140A. 72 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

AdolygiadauLL+C

73Adolygiadau sy’n ymwneud â chodi ffioeddLL+C

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adolygu, neu’n gysylltiedig ag adolygu—

(a)ffioedd a osodir o dan adran 59,

(b)dyfarniadau a wneir o dan adran 66, a

(c)penderfyniadau sy’n ymwneud ag atebolrwydd trosglwyddai i dalu swm i awdurdod lleol o dan adran 72.

(2)Caiff y rheoliadau wneud (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch y canlynol—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir gofyn am adolygiad;

(c)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid i gais gael ei wneud;

(d)y weithdrefn sydd i’w dilyn, a’r camau sydd i’w cymryd, mewn cysylltiad ag adolygiad;

(e)y disgrifiad o’r personau a gaiff wneud penderfyniad yn dilyn yr adolygiad;

(f)effaith penderfyniad o’r math hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I141A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I142A. 73 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

DehongliLL+C

74Plentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn—

(a)sydd yn ei ofal, neu

(b)y mae llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod wrth i’r awdurdod arfer unrhyw un neu rai o’r swyddogaethau sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau o dan adran 15, Rhan 4, neu adran 109, 114 neu 115.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “llety” yw llety a ddarperir am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr.

(3)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gyfeiriad at berson ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod tra bo’n blentyn neu at berson ifanc a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod tra oedd yn blentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I143A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I144A. 74 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Dyletswyddau lletyaLL+C

75Dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol i sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofalLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau sy’n sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ei fod yn gallu darparu i’r plant a grybwyllir yn is-adran (2) lety sydd—

(a)o fewn ardal yr awdurdod, a

(b)yn diwallu anghenion y plant hynny.

(2)Y plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw’r rhai—

(a)y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt,

(b)nad yw’r awdurdod yn gallu gwneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 81(2), ac

(c)y mae natur eu hamgylchiadau yn golygu y byddai’n gyson â llesiant y plant i lety sydd yn ardal yr awdurdod gael ei ddarparu iddynt.

(3)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i fantais cael—

(a)nifer o ddarparwyr llety yn ei ardal sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd, a

(b)ystod o lety yn ei ardal a allai ddiwallu anghenion gwahanol ac sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(4)Yn yr adran hon ystyr “darparwyr llety” yw—

(a)rhieni maeth awdurdod lleol, a

(b)cartrefi plant.

Gwybodaeth Cychwyn

I145A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I146A. 75 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

76Llety i blant sydd heb rieni, neu blant sydd ar goll neu sydd wedi eu gadael etcLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal yr ymddengys i’r awdurdod bod angen llety arno oherwydd—

(a)nad oes unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(b)bod y plentyn ar goll neu wedi cael ei adael, neu

(c)bod y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn yn cael ei atal (p’un ai yn barhaol ai peidio, ac am ba reswm bynnag) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan is-adran (1) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol arall, caiff yr awdurdod lleol arall hwnnw gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—

(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig bod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.

[F29(2A)Pan fo awdurdod lleol yn Lloegr yn darparu llety o dan adran 20(1) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety i blant: cyffredinol) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru, caiff yr awdurdod lleol hwnnw yng Nghymru gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—

(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig fod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.]

(3)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal sydd wedi cyrraedd 16 oed ac y byddai llesiant y plentyn hwnnw, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael ei andwyo’n ddifrifol os na fyddai’r awdurdod yn darparu llety iddo.

(4)Ni chaniateir i awdurdod lleol ddarparu llety o dan yr adran hon i unrhyw blentyn os bydd unrhyw berson yn gwrthwynebu a hwnnw—

(a)yn berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a

(b)yn fodlon ac yn gallu—

(i)darparu llety i’r plentyn, neu

(ii)trefnu bod llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn.

(5)Caiff unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn symud y plentyn ar unrhyw adeg o lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol o dan yr adran hon.

(6)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys tra bo unrhyw berson—

(a)y mae [F30gorchymyn trefniadau plentyn] o’i blaid ef mewn grym mewn cysylltiad â’r plentyn,

(b)sy’n warcheidwad arbennig i’r plentyn, neu

(c)sydd â gofal am y plentyn yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant,

yn cytuno bod y plentyn yn derbyn gofal mewn llety a ddarperir gan, neu ar ran, yr awdurdod lleol.

(7)Pan fo mwy nag un person o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (6), rhaid i bob un ohonynt fod yn gytûn.

(8)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys pan fo plentyn sydd wedi cyrraedd 16 oed yn cytuno bod llety’n cael ei ddarparu iddo o dan yr adran hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I147A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I148A. 76 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

77Llety i blant sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu, neu sydd o dan gadwad neu ar remánd etcLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth ar gyfer derbyn a rhoi llety i blant sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989.

(2)Rhaid i awdurdod lleol dderbyn plant, a darparu llety i blant—

(a)sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu ac y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;

(b)y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;

(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod dynodedig mewn cysylltiad â hwy a bod y plant hynny—

(i)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd [F31paragraff 5 o Atodlen 4 neu baragraff 7 o Atodlen 5 i'r Cod Dedfrydu] (torri etc gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion gwneud iawn);

(ii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd [F32paragraff 25 o Atodlen 7 i'r Cod hwnnw] (torri etc gorchmynion adsefydlu ieuenctid);

(iii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959 (torri gorchmynion o dan adran 1(2A) o’r Ddeddf honno);

(iv)yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu.

[F33(3)Yn is-adran (2)—

  • mae i “gofyniad preswylio awdurdod lleol” (“local authority residence requirement”) yr ystyr a roddir gan baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Cod Dedfrydu;

  • mae i “gorchymyn adsefydlu ieuenctid” (“youth rehabilitation order”) yr ystyr a roddir gan adran 173 o'r Cod hwnnw;

  • mae i “gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu” (“youth rehabilitation order with fostering”) yr ystyr a roddir gan adran 176 o'r Cod hwnnw.”]

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a) pan fo plentyn—

(i)wedi ei symud o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, neu

(ii)wedi ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a

(b)pan nad yw’r plentyn yn cael llety a ddarperir—

(i)gan awdurdod lleol [F34neu awdurdod lleol yn Lloegr], neu

(ii)mewn ysbyty a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu sydd fel arall wedi ei roi ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, [F35GIG Lloegr] neu [F36fwrdd gofal integredig] .

(5)Gellir adennill unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd wrth roi llety i’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol [F37neu’r awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofalLL+C

78Prif ddyletswydd awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofalLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am unrhyw blentyn—

(a)diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(b)defnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant, y mae eu rhieni eu hunain yn gofalu amdanynt, mewn modd sy’n ymddangos yn rhesymol i’r awdurdod yn achos y plentyn.

(2)Mae dyletswydd awdurdod lleol o dan is-adran (1)(a) i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt yn cynnwys, er enghraifft—

(a)dyletswydd i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol y plentyn;

(b)dyletswydd—

(i)i asesu, o bryd i’w gilydd, a oes gan y plentyn anghenion am ofal a chymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a nodwyd o dan adran 32, a

(ii)os oes ar y plentyn anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra, i ddiwallu, o leiaf, yr anghenion hynny.

(3)Cyn gwneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano, neu’n bwriadu gofalu amdano, rhaid i awdurdod lleol (yn ogystal â’r materion a nodir yn adrannau 6(2) a (4) a 7(2) (dyletswyddau hollgyffredinol eraill)), roi sylw i—

(a)barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod;

(b)argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

(4)Os yr ymddengys i awdurdod lleol ei bod yn angenrheidiol iddo, er mwyn amddiffyn aelodau o’r cyhoedd rhag niwed difrifol, arfer ei bwerau mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano mewn modd nad yw efallai yn gyson â’i ddyletswyddau o dan yr adran hon neu adran 6, caiff wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I151A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I152A. 78 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

79Darparu llety i blant mewn gofalLL+C

Pan fo plentyn yng ngofal awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod ddarparu llety i’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I153A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I154A. 79 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

80Cynnal plant sy’n derbyn gofalLL+C

Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn gynnal y plentyn mewn agweddau eraill ar wahân i ddarparu llety ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I155A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I156A. 80 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

81Y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnalLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”).

(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) ac (11).

(3)Mae person (“P”) yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os P yw rhiant C,

(b)os nad P yw rhiant C ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros C, neu

(c)mewn achos pan fo C yng ngofal yr awdurdod lleol ac yr oedd [F38gorchymyn trefniadau plentyn] mewn grym mewn cysylltiad ag C yn union cyn y gwnaed y gorchymyn gofal, os oedd P yn berson y gwnaed y [F38gorchymyn trefniadau plentyn] o’i blaid.

(4)Nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau o’r math a grybwyllwyd yn yr is-adran honno os byddai gwneud hynny—

(a)yn anghyson â llesiant C, neu

(b)yn gam na fyddai’n rhesymol ymarferol.

(5)Os nad yw awdurdod lleol yn gallu gwneud trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddo leoli C yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, yn ei farn ef (ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (11)).

(6)Yn is-adran (5) ystyr “lleoliad” yw—

(a)lleoliad gydag unigolyn sy’n berthynas, yn ffrind neu’n berson arall sy’n gysylltiedig ag C ac sydd hefyd yn rhiant maeth awdurdod lleol,

(b)lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn paragraff (a),

(c)lleoliad mewn cartref plant, neu

(d)yn ddarostyngedig i adran 82, lleoliad yn unol â threfniadau eraill sy’n cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon.

(7)Wrth benderfynu ar y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C o dan is-adran (5), rhaid i awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Rhan hon (yn enwedig, i’w ddyletswyddau o dan adran 78)—

(a)rhoi blaenoriaeth uwch i leoliad sy’n dod o fewn paragraff (a) o is-adran (6) na’r hyn a roddir i leoliadau sy’n dod o fewn paragraffau eraill yr is-adran honno,

(b)cydymffurfio â gofynion is-adran (8), i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol o dan holl amgylchiadau achos C, ac

(c)cydymffurfio ag is-adran (9) oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol.

(8)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod y lleoliad yn caniatáu i C fyw gerllaw cartref C;

(b)nad yw’r lleoliad yn amharu ar addysg na hyfforddiant C;

(c)os oes gan C frawd neu chwaer sydd hefyd yn derbyn llety gan yr awdurdod lleol, bod y lleoliad yn galluogi i C fyw gyda’r brawd neu’r chwaer;

(d)os yw C yn anabl, bod y llety a ddarperir yn addas i anghenion penodol C.

(9)Rhaid i’r lleoliad, o ran ei natur, olygu bod llety’n cael ei ddarparu i C o fewn ardal yr awdurdod lleol.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys pan—

(a)bo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylai C gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ac yn bwriadu lleoli C i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”),

(b)bo asiantaeth fabwysiadu wedi dyfarnu bod A yn addas i fabwysiadu plentyn, ac

(c)na fo’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu.

(11)Rhaid i’r awdurdod lleol leoli C gydag A oni bai y byddai’n fwy priodol yn ei farn—

(a)i wneud trefniadau er mwyn i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), neu

(b)i leoli C mewn lleoliad o ddisgrifiad a grybwyllwyd yn is-adran (6).

(12)At ddibenion is-adran (10)—

(a)mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” gan adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

(b)nid yw awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny o dan—

(i)adran 19 o’r Ddeddf honno (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant), neu

(ii)gorchymyn lleoli a wneir o dan adran 21 o’r Ddeddf honno.

(13)Caiff yr awdurdod lleol ddyfarnu—

(a)telerau unrhyw drefniadau y mae’n eu gwneud o dan is-adran (2) mewn perthynas ag C (gan gynnwys telerau o ran talu), a

(b)y telerau ar gyfer gosod C gyda rhiant maeth awdurdod lleol o dan is-adran (5) neu gyda darpar fabwysiadydd o dan is-adran (11) (gan gynnwys telerau o ran talu ond yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004).

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I157A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I158A. 81 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

82Adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran lletyLL+C

(1)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety i blentyn (“C”) ac eithrio yn unol â threfniadau sy’n dod o fewn adran 81(6)(d), ni chaniateir iddo wneud trefniadau o’r fath ar gyfer C oni bai ei fod wedi penderfynu gwneud hynny o ganlyniad i adolygiad o achos C a gwblhawyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 (adolygu achosion ac ymchwiliadau i sylwadau).

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn rhwystro awdurdod lleol rhag gwneud trefniadau ar gyfer C o dan adran 81(6)(d) os yw wedi ei fodloni bod angen, er mwyn diogelu llesiant C—

(a)gwneud trefniadau o’r fath, a

(b)gwneud hynny ar frys.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I159A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I160A. 82 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

83Cynlluniau gofal a chymorthLL+C

(1)Pan fo plentyn yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i unrhyw gynllun gofal a chymorth a lunnir o dan adran 54 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw gael—

(a)ei adolygu, a

(b)ei gynnal o dan yr adran hon.

(2)Pan fo plentyn nad oes ganddo gynllun gofal a chymorth o dan adran 54 yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

[F39(2A)Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).

(2B)Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.

(2C)Os—

(a)oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,

rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.

(2D)At ddibenion is-adran (2C)—

(a)ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));

(b)mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.]

(3)Rhaid i awdurdod lleol barhau i adolygu’n gyson [F40y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon] [F40gynllun gofal a chymorth].

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r plentyn y mae [F41cynllun] [F41cynllun gofal a chymorth] yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—

(a)gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a

(b)diwygio’r cynllun.

(5)[F42Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,] Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae [F43cynlluniau o dan yr adran hon] [F43cynlluniau gofal a chymorth] i’w paratoi;

(b)pa bethau y [F44mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys] [F44mae cynllun gofal a chymorth i’w cynnwys (gan gynnwys pa bethau y mae cynllun addysg personol i’w cynnwys)];

(c)adolygu a diwygio [F45cynlluniau] [F45cynlluniau gofal a chymorth].

(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(7)Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio [F46cynllun o dan yr adran hon] [F46cynllun gofal a chymorth], rhaid i awdurdod lleol gynnwys y plentyn y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(8)Caiff yr awdurdod lleol—

(a)llunio, adolygu neu ddiwygio [F47cynllun o dan yr adran hon] [F47cynllun gofal a chymorth] yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y plentyn o dan sylw, a

(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.

(9)Caniateir i unrhyw ran o [F48gynllun a gynhelir o dan yr adran hon] [F48gynllun gofal a chymorth] sy’n bodloni’r gofynion a osodir gan neu o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 gael ei thrin at ddibenion y Ddeddf honno fel cynllun a lunnir o dan adran 31A o’r Ddeddf honno.

[F49(10)Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.]

Diwygiadau Testunol

F39A. 83(2A)-(2D) wedi ei fewnosod (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(2), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F40Geiriau yn a. 83(3) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(3), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F41Geiriau yn a. 83(4) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(4), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F42Geiriau yn a. 83(5) wedi eu mewnosod (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(5)(a), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F43Geiriau yn a. 83(5)(a) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(5)(b), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F44Geiriau yn a. 83(5)(b) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(5)(c), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F45Geiriau yn a. 83(5)(c) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(5)(d), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F46Geiriau yn a. 83(7) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(6), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F47Geiriau yn a. 83(8)(a) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(7), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F48Geiriau yn a. 83(9) wedi eu hamnewid (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(8), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

F49A. 83(10) wedi ei fewnosod (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 16(9), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(a); O.S. 2021/373, ergl. 8(za) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(5)(a))

Gwybodaeth Cychwyn

I161A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I162A. 83 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

84Rheoliadau ynghylch cynlluniau gofal a chymorthLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 83, er enghraifft—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau ar ffurf benodedig;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau yn cynnwys pethau penodedig;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys yn y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(d)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau’n cael eu llunio, eu hadolygu neu eu diwygio gan bersonau penodedig;

(e)rhoi swyddogaethau i bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(f)pennu personau y mae’n rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun ar eu cyfer (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, darparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef);

(g)pennu’r amgylchiadau pellach y mae’n rhaid adolygu’r cynlluniau odanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I163A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I164A. 84 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

85Cyfraniadau tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofalLL+C

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I165A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I166A. 85 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F5186Cartrefi F50... sy’n cael eu darparu, eu cyfarparu a’u cynnal gan Weinidogion CymruLL+C

Pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn y mae’n gofalu amdano mewn cartref F50 ... y mae Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu, ei gyfarparu ac yn ei gynnal o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989, rhaid iddo wneud hynny ar y telerau a’r amodau a ddyfernir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I167A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I168A. 86 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofalLL+C

87Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofalLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I169A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I170A. 87 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

88Rheoliadau ynghylch amodau lle y caniateir i blentyn sydd mewn gofal fyw gyda rhiant etcLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion ar awdurdod lleol ynghylch—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad i ganiatáu i blentyn sydd yn ei ofal i fyw gydag unrhyw berson sy’n dod o fewn adran 81(3) (gan gynnwys gofynion o ran y rheini y mae’n rhaid ymgynghori â hwy cyn gwneud y penderfyniad a’r rheini y mae’n rhaid eu hysbysu pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud);

(b)goruchwylio neu gynnal ymchwiliad meddygol ar y plentyn o dan sylw;

(c)symud y plentyn, o dan y fath amgylchiadau a gaiff eu pennu mewn rheoliadau, o ofal y person y rhoddwyd caniatâd i’r plentyn fyw gydag ef;

(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I171A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I172A. 88 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

89Rheoliadau ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllir yn adran 81(6)(d)LL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllwyd yn adran 81(6)(d).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw drefniadau arfaethedig;

(b)y cyfleoedd y mae personau o’r fath i’w cael er mwyn cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r trefniadau arfaethedig;

(c)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau;

(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;

(e)goruchwyliaeth gan awdurdodau lleol ar unrhyw drefniadau a wneir.

Gwybodaeth Cychwyn

I173A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I174A. 89 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

90Rheoliadau ynghylch lleoliadau y tu allan i ardalLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy—

(a)cyn i blentyn sy’n derbyn gofal ganddynt dderbyn llety mewn man y tu allan i ardal yr awdurdod, neu

(b)os yw llesiant y plentyn yn gofyn bod llety o’r fath yn cael ei ddarparu’n syth, o fewn unrhyw gyfnod penodedig wedi i’r llety hwnnw gael ei ddarparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I175A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I176A. 90 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

91Rheoliadau ynghylch osgoi amharu ar addysgLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 osod, er enghraifft, gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â lleoliad plentyn [F52perthnasol] [F53os yw yng nghyfnod allweddol pedwar].

[F54(1A)Yn is-adran (1), ystyr “plentyn perthnasol” yw plentyn—

(a)sy’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir,

(b)sydd wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y plentyn 14 oed ynddi, ac

(c)sy’n dal i fod o’r oedran ysgol gorfodol.]

(2)[F55Mae plentyn “yng nghyfnod allweddol pedwar” os yw’n ddisgybl yng nghyfnod allweddol pedwar (“the fourth key stage”) at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (gweler adran 103 o’r Ddeddf honno).]

[F55Yn is-adran (1A)—

(a)mae i “disgybl”, “blwyddyn ysgol” ac “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “pupil”, “school year” a “compulsory school age” yn Neddf Addysg 1996;

(b)mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir gan adran 79 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

(c)ystyr “dosbarth y plentyn” yw—

(i)y grŵp addysgu yr addysgir y plentyn ynddo yn rheolaidd yn yr ysgol, neu

(ii)pan fo dau neu ragor o grwpiau o’r fath, y grŵp a ddynodir gan bennaeth ysgol y plentyn.]

Diwygiadau Testunol

F53Geiriau yn a. 91(1) wedi eu hepgor (1.9.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2023 at ddibenion penodedig) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/744), rhl. 1(3), Atod. 2 para. 17(2)(a)(ii)

Gwybodaeth Cychwyn

I177A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I178A. 91 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

92Rheoliadau ynghylch lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol a darpar fabwysiadwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)ynglŷn â llesiant plant a leolir gyda rhieni maeth awdurdod lleol neu ddarpar fabwysiadwyr;

(b)ynghylch y trefniadau sydd i’w gwneud gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag iechyd ac addysg plant o’r fath;

(c)ynghylch y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;

(d)i sicrhau, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, bod y rhiant maeth awdurdod lleol neu’r darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef—

(i)o’r un argyhoeddiad crefyddol â’r plentyn, neu

(ii)yn ymgymryd â magu’r plentyn yn unol â’r argyhoeddiad crefyddol hwnnw;

(e)i sicrhau y bydd y plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol neu ddarpar fabwysiadwyr, a’r mangreoedd lle y maent wedi eu lletya, yn cael eu goruchwylio a’u harolygu gan awdurdod lleol ac y bydd y plant yn cael eu symud o’r mangreoedd hynny os yw’n ymddangos bod hynny’n angenrheidiol i’w llesiant.

(2)Yn yr adran hon ystyr “darpar fabwysiadydd” yw person y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(11).

Gwybodaeth Cychwyn

I179A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I180A. 92 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

93Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleolLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft—

(a)ar gyfer sicrhau nad yw plentyn yn cael ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol [F56neu bersonau eraill] oni bai bod y person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo am y tro fel rhiant maeth awdurdod lleol gan yr awdurdod lleol a bennir;

(b)sy’n sefydlu gweithdrefn sy’n caniatáu i unrhyw berson, y gwnaed dyfarniad cymhwysol mewn cysylltiad ag ef, wneud cais o dan y weithdrefn honno am adolygiad o’r dyfarniad hwnnw gan banel a benodwyd gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae dyfarniad yn ddyfarniad cymhwysol—

(a)os yw’n ymwneud â chwestiwn ynghylch a ddylai person gael ei gymeradwyo, neu a ddylai barhau i gael ei gymeradwyo, fel rhiant maeth awdurdod lleol, a

(b)os yw o ddisgrifiad a bennir.

(3)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) gynnwys darpariaeth o ran—

(a)dyletswyddau a phwerau panel;

(b)gweinyddiaeth a gweithdrefnau panel;

(c)penodi aelodau panel (gan gynnwys nifer, neu unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir i’w penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer eu penodi);

(d)talu ffioedd i aelodau panel;

(e)dyletswyddau unrhyw berson mewn cysylltiad ag adolygiad a gynhelir o dan y rheoliadau;

(f)monitro unrhyw adolygiadau o’r fath.

(4)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (3)(e) osod dyletswydd i dalu i Weinidogion Cymru y cyfryw swm y mae Gweinidogion Cymru yn ei ddyfarnu; ond ni chaniateir gosod dyletswydd o’r fath ar berson sydd wedi gwneud cais i gael adolygiad o ddyfarniad cymhwysol.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw agregiad y symiau sy’n dod yn daladwy iddynt o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4) y tu hwnt i’r gost o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniant gyda sefydliad lle y bydd y sefydliad hwnnw’n cyflawni swyddogaethau adolygu annibynnol ar eu rhan.

(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud trefniant o’r fath gyda sefydliad, rhaid i’r sefydliad gyflawni ei swyddogaethau o dan y trefniant yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol neu arbennig a roddir gan Weinidogion Cymru.

(8)Caiff y trefniant gynnwys darpariaeth bod y sefydliad yn derbyn taliadau gan Weinidogion Cymru.

(9)Rhaid i daliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaeth o’r fath gael eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu (at ddiben is-adran (5)) y gost i Weinidogion Cymru o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.

(10)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (7)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

(11)Yn yr adran hon—

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • mae “sefydliad” (“organisation”) yn cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol, corff cyhoeddus a sefydliad preifat neu wirfoddol;

  • ystyr “swyddogaeth adolygu annibynnol” (“independent review function”) yw swyddogaeth a roddir neu a osodir ar Weinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(b).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I181A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I182A. 93 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

94Rheoliadau ynghylch trefniadau asiantaethLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft, o ran yr amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol wneud trefniadau bod dyletswyddau a osodwyd arno gan y rheoliadau yn cael eu cyflawni ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I183A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I184A. 94 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F57Rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletyaLL+C

94ARheoleiddio’r arferiad o swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletyaLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr arferiad gan awdurdodau lleol o swyddogaethau a roddir iddynt gan—

(a)adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal), neu

(b)rheoliadau a wneir o dan adran 87 (rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal) sy’n gwneud darpariaeth megis yr hyn a grybwyllir yn adran 92(1), 93 neu 94.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, gynnwys darpariaeth—

(a)o ran y personau sy’n addas i weithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,

(b)o ran addasrwydd y mangreoedd sydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol wrth arfer y swyddogaethau hynny,

(c)o ran rheoli’r arferiad o’r swyddogaethau hynny a’r rheolaeth ar arfer y swyddogaethau hynny,

(d)o ran nifer y personau, neu bersonau o fath penodol, sy’n gweithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,

(e)o ran rheoli a hyfforddi’r personau hynny, ac

(f)o ran y ffioedd neu’r treuliau y caniateir iddynt gael eu talu i bersonau sy’n helpu awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(a), yn benodol, wneud darpariaeth sy’n pennu nad yw person yn addas i weithio i awdurdod lleol mewn unrhyw swydd a bennir os nad yw’r person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol), neu mewn rhan benodol o’r gofrestr honno.

94BY drosedd o dorri rheoliadau o dan adran 94ALL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i berson dorri darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 94A neu fethu â chydymffurfio â darpariaeth o’r fath.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(3)Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.]

Cyswllt ac ymweliadauLL+C

95Hyrwyddo a chynnal cyswllt rhwng plentyn a theuluLL+C

(1)Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod, oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol neu yn gyson â llesiant y plentyn, hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a—

(a)rhieni’r plentyn,

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.

(2)Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod y personau canlynol yn cael eu hysbysu’n rheolaidd am y man lle y mae’r plentyn yn cael ei letya—

(a)rhieni’r plentyn;

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(3)Rhaid i bob person a grybwyllwyd yn is-adran (2)(a) neu (b) sicrhau bod yr awdurdod yn cael ei hysbysu’n rheolaidd am ei gyfeiriad.

(4)Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod derbyn”) yn cymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i blentyn [F58oddi wrth awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 76 (“yr awdurdod trosglwyddo”)]

(a)rhaid i’r awdurdod derbyn (pan fo hynny’n rhesymol ymarferol) hysbysu—

(i)rhieni’r plentyn, a

(ii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(b)mae is-adran (2) yn gymwys i’r awdurdod trosglwyddo, yn ogystal â’r awdurdod derbyn, hyd nes y bydd o leiaf un o’r personau a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) o’r is-adran honno wedi cael ei hysbysu am y newid, ac

(c)nid yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson hysbysu’r awdurdod derbyn am ei gyfeiriad hyd nes y bydd y person hwnnw wedi cael ei hysbysu o dan baragraff (a).

(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hysbysu person am y man lle y mae plentyn, ac eithrio plentyn o dan 16 oed sy’n cael ei letya o dan adran 76, os oes gan yr awdurdod sail resymol dros gredu y byddai hysbysu’r person yn peryglu llesiant y plentyn.

(6)Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio, heb esgus rhesymol, ag is-adran (3) yn euog o drosedd ac yn atebol o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I185A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I186A. 95 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

96Ymweliadau’r teulu â’r plant neu ymweliadau â’r teulu gan blant: treuliauLL+C

(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)pan fo’r amodau a grybwyllir yn is-adran (4) wedi eu bodloni.

(2)Caiff yr awdurdod wneud taliadau mewn perthynas â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y personau canlynol wrth ymweld â’r plentyn—

(a)rhiant i’r plentyn,

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.

(3)Caiff yr awdurdod wneud taliadau i’r plentyn, neu i unrhyw berson ar ran y plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y plentyn neu ar ei ran wrth iddo ymweld â’r personau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2).

(4)Yr amodau yw—

(a)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fyddai’n bosib cynnal yr ymweliad o dan sylw fel arall heb galedi ariannol gormodol, a

(b)bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I187A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I188A. 96 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

97Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau a chyswllt â phlant sy’n derbyn gofal a phlant eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(b)plentyn a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond nid yw bellach yn derbyn gofal gan yr awdurdod o ganlyniad i amgylchiadau a bennwyd mewn rheoliadau;

(c)plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(2)Rhaid i reoliadau sy’n pennu categori at ddiben is-adran (1)(c) hefyd bennu’r awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan neu o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn y categori penodedig.

(3)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod person sy’n cynrychioli’r awdurdod (“cynrychiolydd”) yn ymweld â phlentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(b)trefnu bod cyngor a chymorth arall priodol ar gael i blentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(4)O ran y dyletswyddau a osodwyd gan is-adran (3)—

(a)maent i’w cyflawni yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)maent yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad sy’n gymwys i’r man lle y mae’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei letya.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon at ddibenion is-adran (4)(a) wneud darpariaeth am—

(a)amlder yr ymweliadau;

(b)yr amgylchiadau pan fo’n rhaid i gynrychiolydd ymweld â’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(c)swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun bod gan y person a ddewiswyd y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I189A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I190A. 97 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

98Ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofalLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd ar gyfer y plentyn os—

(a)yw’r plentyn yn dod o fewn categori a bennwyd mewn rheoliadau, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, yr ymddengys i’r awdurdod y byddai gwneud hynny’n fuddiol i’r plentyn.

(2)Rhaid i berson a benodir o dan yr adran hon ymweld â’r plentyn, ymgyfeillio ag ef a’i gynghori.

(3)Y mae hawlogaeth gan berson a benodir o dan yr adran hon i adennill oddi wrth yr awdurdod penodi unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(4)Daw penodiad person fel ymwelydd yn unol â’r adran hon i ben—

(a)os yw’r plentyn bellach wedi peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol,

(b)os bydd y person yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod penodi, neu

(c)os bydd yr awdurdod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person ei fod wedi terfynu’r penodiad.

(5)Nid yw dod â phenodiad o’r fath i ben yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd o dan yr adran hon i wneud penodiad pellach.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn cynnig penodi ymwelydd ar gyfer plentyn o dan yr adran hon, ni chaniateir gwneud y penodiad—

(a)os yw’r plentyn yn ei wrthwynebu, a

(b)os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.

(7)Pan fo ymwelydd wedi cael ei benodi i’r plentyn o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol ddod â’r penodiad i ben—

(a)os yw’r plentyn yn gwrthwynebu bod y penodiad yn parhau, a

(b)os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.

(8)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi effaith i wrthwynebiad plentyn o dan is-adran (6) neu (7) a’r gwrthwynebiad yw bod unrhyw un yn cael ei benodi’n ymwelydd ar ei gyfer, nid oes yn rhaid i’r awdurdod gynnig penodi person arall o dan is-adran (1) hyd nes y bydd y gwrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl.

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y mae person i’w ystyried at ddibenion yr adran hon fel un sy’n annibynnol ar yr awdurdod penodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I191A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I192A. 98 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Adolygu achosionLL+C

99Penodi swyddog adolygu annibynnolLL+C

(1)Os yw awdurdod lleol yn gofalu am blentyn, rhaid iddo benodi unigolyn i fod yn swyddog adolygu annibynnol ar achos y plentyn hwnnw.

(2)Rhaid gwneud y penodiad cychwynnol o dan is-adran (1) cyn i achos y plentyn gael ei adolygu gyntaf yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102.

(3)Os yw swydd wag yn codi mewn perthynas ag achos plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol wneud penodiad arall o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)Rhaid i’r person a benodir ddod o fewn categori o bersonau a bennir mewn rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I193A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I194A. 99 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

100Swyddogaethau’r swyddog adolygu annibynnolLL+C

(1)Rhaid i’r swyddog adolygu annibynnol—

(a)monitro’r modd y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achos y plentyn;

(b)cymryd rhan, yn unol â rheoliadau, mewn unrhyw adolygiad ar achos y plentyn;

(c)sicrhau bod unrhyw ddymuniadau a theimladau canfyddedig y plentyn ynglŷn â’r achos yn cael eu hystyried yn briodol gan yr awdurdod lleol;

(d)cyflawni unrhyw swyddogaeth arall a bennir mewn rheoliadau.

(2)Rhaid i swyddogaethau swyddog adolygu annibynnol gael eu cyflawni—

(a)yn y modd a bennir mewn rheoliadau, a

(b)gan roi sylw i unrhyw ganllawiau y bydd yr awdurdod hwnnw yn ei gyhoeddi mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaethau hynny.

(3)Os bydd y swyddog adolygu annibynnol o’r farn ei bod hi’n briodol gwneud hynny, caniateir i achos y plentyn gael ei atgyfeirio gan y swyddog hwnnw at un o swyddogion achosion teuluol Cymru.

(4)Os nad yw’r swyddog adolygu annibynnol yn swyddog i’r awdurdod lleol, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod—

(a)i gydweithredu â’r unigolyn hwnnw, a

(b)i gymryd unrhyw gamau rhesymol y bydd ar yr unigolyn hwnnw eu hangen i alluogi swyddogaethau’r unigolyn hwnnw o dan yr adran hon i gael eu cyflawni yn foddhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I195A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I196A. 100 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

101Achosion a atgyfeirirLL+C

(1)Mewn perthynas â phlant yr atgyfeirir eu hachosion at swyddogion achosion teuluol Cymru o dan adran 100(3), caiff yr Arglwydd Ganghellor drwy reoliadau—

(a)estyn unrhyw swyddogaethau sydd gan swyddogion achosion teuluol Cymru mewn perthynas ag achosion teuluol (o fewn ystyr “family proceedings” yn adran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000) i achosion eraill;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw swyddogaethau sydd gan swyddogion achosion teuluol Cymru yn cael eu cyflawni yn y modd a bennir gan y rheoliadau.

(2)Nid yw’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I197A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I198A. 101 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

102Adolygu achosion ac ymchwilio i sylwadauLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i achos bob plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol gael ei adolygu yn unol â darpariaethau’r rheoliadau.

(2)Ymhlith pethau eraill, caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)y modd y mae pob achos i’w adolygu;

(b)yr ystyriaethau y mae hi’n ofynnol i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos;

(c)pryd y mae gofyn i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf a pha mor aml y bydd adolygiadau dilynol i’w cynnal;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, cyn iddo gynnal unrhyw adolygiad, geisio barn—

(i)y plentyn,

(ii)rhieni’r plentyn,

(iii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a

(iv)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol,

gan gynnwys, yn benodol, farn y personau hynny mewn perthynas ag unrhyw fater penodol sydd i’w ystyried yn ystod yr adolygiad;

(e)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, yn achos plentyn sydd o dan ei ofal—

(i)adolygu’n gyson y cynllun o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) ar gyfer y plentyn ac, os yw’r awdurdod o’r farn bod angen newid o ryw fath, i ddiwygio’r cynllun, neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a

(ii)ystyried a ddylid gwneud cais i ddiddymu’r gorchymyn gofal;

(f)ei gwneud yn ofynnol, yn achos plentyn mewn llety a ddarperir gan neu ar ran yr awdurdod—

(i)os nad oes cynllun ar gyfer gofal y plentyn yn y dyfodol, i’r awdurdod lunio un,

(ii)os oes cynllun o’r fath ar gyfer y plentyn, i’r awdurdod ei adolygu’n gyson ac, os yw o’r farn bod angen newid o ryw fath, iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a

(iii)ystyried a yw’r llety yn unol â gofynion y Rhan hon;

(g)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi gwybod i’r plentyn, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, am unrhyw gamau y caiff ef neu hi gymryd o dan y Ddeddf hon neu Ddeddf Plant 1989;

(h)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod wneud trefniadau, gan gynnwys trefniadau gydag unrhyw gyrff eraill sy’n darparu gwasanaethau ac y mae’n barnu bod y cyrff hynny yn briodol, i weithredu unrhyw benderfyniad y mae’n bwriadu ei wneud yn ystod yr adolygiad neu yn ganlyniad iddo;

(i)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod hysbysu’r canlynol am fanylion canlyniad yr adolygiad ac am unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i’r adolygiad—

(i)y plentyn,

(ii)rhieni’r plentyn,

(iii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a

(iv)unrhyw berson arall y dylid, yn ei farn ef, ei hysbysu;

(j)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod fonitro’r trefniadau a wnaed ganddo gyda golwg ar sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I199A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I200A. 102 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Gadael gofal, llety a maethuLL+C

103Ymgyfeillio â phlant sy’n derbyn gofal, eu cynghori a’u cynorthwyoLL+C

Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn ei gynghori a’i gynorthwyo ac ymgyfeillio ag ef gyda golwg ar hyrwyddo llesiant y plentyn pan fydd wedi peidio â gofalu amdano.

Gwybodaeth Cychwyn

I201A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I202A. 103 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

104Pobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115LL+C

(1)Mae gan y categorïau o berson ifanc a ddiffinnir yn is-adran (2) yr hawlogaeth i gael cymorth yn unol ag adrannau 105 i 115.

(2)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “person ifanc categori 1” yw plentyn—

    (a)

    sy’n 16 neu’n 17 oed,

    (b)

    sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, ac

    (c)

    sydd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr am gyfnod penodedig, neu gyfnodau sy’n cyfateb, gyda’i gilydd, i gyfnod penodedig, a ddechreuodd ar ôl i’r plentyn gyrraedd oedran penodedig, ac a ddaeth i ben ar ôl i’r plentyn gyrraedd 16 oed;

  • ystyr “person ifanc categori 2” yw plentyn—

    (a)

    sy’n 16 neu’n 17 oed,

    (b)

    nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, ac

    (c)

    a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1;

  • ystyr “person ifanc categori 3” yw person sy’n 18 oed neu drosodd—

    (a)

    sydd wedi bod yn berson ifanc categori 2 (ac a fyddai’n parhau i fod felly pe bai o dan 18 oed), neu

    (b)

    a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1;

  • ystyr “person ifanc categori 4” yw person—

    (a)

    sy’n berson ifanc categori 3 y mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106, 107(3) a (10) a 110 wedi peidio â bod yn gymwys iddo (gweler adran 111),

    (b)

    sydd wedi hysbysu’r awdurdod lleol cyfrifol ei fod yn dilyn, neu ei fod yn dymuno dilyn, rhaglen addysg neu hyfforddiant, ac

    (c)

    sydd heb gyrraedd 25 oed neu unrhyw oedran is a bennir;

  • ystyr “person ifanc categori 5” yw person—

    (a)

    sydd wedi cyrraedd 16 oed ond heb gyrraedd 21 oed eto,

    (b)

    y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad ag ef (neu os yw wedi cyrraedd 18 oed, yr oedd mewn grym pan gyrhaeddodd yr oedran hwnnw), ac

    (c)

    a oedd, yn union cyn gwneud y gorchymyn hwnnw, yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;

  • ystyr “person ifanc categori 6” yw person, ac eithrio person ifanc categori 5—

    (a)

    a oedd, ar unrhyw adeg ar ôl cyrraedd 16 oed ond tra oedd yn dal yn blentyn, yn derbyn gofal neu wedi ei letya neu ei faethu ond nad yw’n derbyn gofal nac yn cael ei letya na’i faethu mwyach,

    (b)

    os oedd wedi ei letya neu ei faethu felly, sydd bellach o fewn Cymru, ac

    (c)

    sydd heb gyrraedd 21 oed eto.

(3)Yn y diffiniad o “person ifanc categori 6”, ystyr “yn derbyn gofal, wedi ei letya neu ei faethu” yw—

(a)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (heb fod yn derbyn gofal wedyn gan awdurdod lleol yn Lloegr),

(b)wedi ei letya gan neu ar ran sefydliad gwirfoddol,

(c)wedi ei letya mewn cartref preifat i blant,

(d)wedi ei letya am gyfnod olynol o dri mis o leiaf—

(i)gan neu ar ran Bwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,

(ii)gan neu ar ran [F59bwrdd gofal integredig] neu [F60GIG Lloegr] ,

(iii)gan neu ar ran awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg,

(iv)gan neu ar ran awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg,

(v)mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu

(vi)mewn unrhyw lety a ddarperir gan neu ar ran Ymddiriedolaeth GIG neu gan neu ar ran Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, neu

(e)wedi ei faethu yn breifat (o fewn ystyr adran 66 o Ddeddf Plant 1989).

(4)Mae is-adran (3)(d) yn gymwys hyd yn oed os dechreuodd y cyfnod o dri mis a grybwyllwyd yno cyn i’r plentyn gyrraedd 16 oed.

(5)Yn y Ddeddf hon ystyr “awdurdod lleol cyfrifol” ac “awdurdod lleol sy’n gyfrifol”yw—

(a)mewn perthynas â pherson ifanc categori 1, yr awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;

(b)mewn perthynas â pherson ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4, yr awdurdod lleol a fu’n gofalu am y person hwnnw olaf;

(c)mewn perthynas â pherson ifanc categori 5, awdurdod lleol a ddyfernir yn unol â rheoliadau;

(d)mewn perthynas â pherson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd paragraff (a) o is-adran (3), yr awdurdod lleol a fu’n gofalu am y person hwnnw olaf;

(e)mewn perthynas â pherson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd unrhyw baragraff arall o’r is-adran honno, yr awdurdod lleol y mae’r person o fewn ei ardal.

(6)Caiff rheoliadau, at ddibenion unrhyw un neu rai o’r pwerau neu’r dyletswyddau o dan adrannau 105 i 115—

(a)pennu categorïau ychwanegol o bersonau;

(b)pennu categorïau o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai sy’n dod o fewn categori o berson ifanc a grybwyllwyd yn is-adran (1);

(c)gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarnu pa awdurdod lleol fydd yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol at ddibenion categori a bennwyd o dan baragraff (a).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I203A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I204A. 104 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

105Cadw mewn cysylltiadLL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 gymryd camau rhesymol i gadw mewn cysylltiad â’r person hwnnw p’un a yw’r person o fewn ei ardal ai peidio.

(2)Os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 wedi colli cyswllt â’r person hwnnw, rhaid iddo—

(a)ystyried sut i ailsefydlu’r cyswllt hwnnw, a

(b)cymryd camau rhesymol i wneud hynny.

(3)Yn achos person ifanc categori 2, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (2) heb unrhyw oedi a pharhau i gymryd camau rhesymol i ailsefydlu’r cyswllt hyd nes y bydd yn llwyddo.

(4)Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 111.

(5)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a) gymryd camau rhesymol i gysylltu â’r person ifanc ar yr adegau hynny y mae’n eu hystyried yn briodol gyda golwg ar gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 115.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I205A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I206A. 105 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

106Cynghorwyr personolLL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol drefnu bod gan berson a grybwyllir yn is-adran (2) gynghorydd personol.

(2)Y personau yw—

(a)person ifanc categori 1;

(b)person ifanc categori 2;

(c)person ifanc categori 3;

(d)person ifanc categori 4.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)yn achos person ifanc categori 3, yn ddarostyngedig i adran 111;

(b)yn achos person ifanc categori 4, yn ddarostyngedig i adran 113.

(4)Mae cynghorwyr personol a benodir o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon i gael unrhyw swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I207A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I208A. 106 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

107Asesiadau a chynlluniau llwybr: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon—

(a)tra bo’r awdurdod yn dal i ofalu amdano, a

(b)wedi iddo roi’r gorau i ofalu amdano.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.

(3)Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr a’i gynnal cyhyd ag y bydd y person ifanc yn dod o fewn categori 1, 2 neu 3 (ond gweler is-adran (12)).

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall (os oes cyngor a chymorth arall) y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.

(5)Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (4), caiff yr awdurdod lleol ystyried unrhyw ddyletswydd a all fod ganddo i wneud taliad i’r person ifanc o dan adran 112(2).

(6)Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (4), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr.

(7)Mae cynllun llwybr yn gynllun sy’n nodi—

(a)yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 1—

(i)y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon, tra bydd yn gofalu amdano ac wedi hynny, a

(ii)pryd y byddai, o bosibl, yn rhoi’r gorau i ofalu amdano;

(b)yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4, y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw faterion eraill (os oes rhai) a bennir mewn rheoliadau.

(8)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran asesiadau at ddibenion yr adran hon.

(9)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynglŷn â’r canlynol—

(a)y personau y dylid ymgynghori â hwy mewn perthynas ag asesiad;

(b)sut mae asesiad i’w gynnal, gan bwy a phryd;

(c)cofnodi canlyniadau asesiad;

(d)yr ystyriaethau y mae’r awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gynnal asesiad.

(10)Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun llwybr yn gyson (ond gweler is-adrannau (12) a (13)).

(11)Caiff yr awdurdod lleol gynnal asesiad neu adolygiad o dan yr adran hon ar yr un adeg ag unrhyw asesiad neu adolygiad arall o anghenion y person ifanc.

(12)Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (3) a (10) yn ddarostyngedig i adran 111.

(13)Yn achos person ifanc categori 4, mae’r ddyletswydd o dan is-adran (10) yn ddarostyngedig i adran 113.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I209A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I210A. 107 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

108Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18LL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) wrth—

(a)cynnal asesiad mewn perthynas â’r person ifanc o dan adran 107(1),

(b)llunio a chynnal cynllun llwybr ar gyfer y person ifanc o dan adran 107(3), neu

(c)adolygu cynllun llwybr y person ifanc o dan adran 107(10).

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ganfod a yw’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18.

(3)Mae “trefniant byw ôl-18” yn drefniant—

(a)pan fo person ifanc categori 3—

(i)sydd o dan 21 oed, a

(ii)a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1, a

(b)pan fo person (“cyn-riant maeth”) a oedd yn rhiant maeth awdurdod lleol i’r person ifanc yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben,

yn parhau i fyw gyda’i gilydd ar ôl i’r gofal a ddarparwyd i’r person ifanc ddod i ben.

(4)Pan fo’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddarparu cyngor a chymorth arall er mwyn hwyluso’r trefniant.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol cyfrifol o’r farn y byddai gwneud trefniant byw ôl-18 rhwng y person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn anghyson â llesiant y person ifanc.

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau y mae’n rhaid darparu gwybodaeth iddynt ynghylch trefniadau byw ôl-18;

(b)y modd y mae’n rhaid i’r wybodaeth honno gael ei darparu.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I211A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I212A. 108 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

109Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2LL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 ddiogelu a hyrwyddo llesiant y person hwnnw ac, oni chaiff ei fodloni nad yw’n ofynnol i lesiant y person, cynorthwyo’r person drwy—

(a)cynnal y person,

(b)darparu llety addas i’r person, neu ei gynnal mewn llety o’r fath, ac

(c)darparu cymorth o unrhyw ddisgrifiadau eraill a bennir mewn rheoliadau.

(2)Caiff cymorth o dan is-adran (1) fod ar ffurf da neu mewn arian parod.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyr “llety addas” ac yn benodol ynghylch addasrwydd landlordiaid neu ddarparwyr llety eraill.

(4)Mae adran 78(3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon fel y bo’n gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau y cyfeiriwyd atynt yn yr adran honno.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I213A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I214A. 109 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

110Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 3LL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw drwy—

(a)cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig;

(b)cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

(c)gwneud grant i’r person ifanc, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;

(d)gwneud unrhyw beth arall sy’n briodol yn ei farn ef, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc.

(2)Yn ogystal, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 sydd â threfniant byw ôl-18—

(a)monitro’r trefniant, a

(b)os yw’r awdurdod o’r farn bod y trefniant yn gyson â llesiant y person ifanc, ddarparu cyngor a chymorth arall i’r person ifanc a’r cyn-riant maeth gyda golwg ar gynnal y trefniant.

(3)Yn is-adran (2) mae i “trefniant byw ôl-18” yr ystyr a roddir iddo gan adran 108 ac mae i “cyn-riant maeth” yr un ystyr ag sydd iddo yn y diffiniad hwnnw.

(4)Gall y cymorth a roddir o dan is-adran (1)(d) a (2)(b) fod ar ffurf da neu mewn arian parod.

(5)Pan fo cymorth yn cael ei ddarparu i gyn-riant maeth o dan is-adran (2)(b), rhaid i’r cymorth gynnwys cymorth ariannol.

(6)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 sy’n dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr dalu’r swm perthnasol i’r person ifanc hwnnw.

(7)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (6) yn ychwanegol at ddyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan is-adran (1).

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 wedi ei fodloni—

(a)bod y person ifanc mewn addysg bellach neu uwch lawnamser,

(b)bod y person ifanc yn cael cymorth o dan is-adran (1)(b) neu (c) neu wedi cael taliad o dan is-adran (6), ac

(c)bod angen llety ar y person ifanc yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael.

(9)Rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)darparu llety addas i’r person ifanc yn ystod y gwyliau, neu

(b)talu digon i’r person ifanc i sicrhau llety o’r fath.

(10)Mae’r dyletswyddau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 111.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I215A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I216A. 110 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

111Dyletswyddau yn dod i ben mewn perthynas â phobl ifanc categori 3LL+C

(1)Mae dyletswyddau awdurdod lleol cyfrifol tuag at berson ifanc categori 3 yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 21 oed, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (2).

(2)Pan fo cynllun llwybr person ifanc categori 3 yn nodi rhaglen addysg neu hyfforddiant sy’n estyn y tu hwnt i’r dyddiad y bydd y person ifanc yn cyrraedd 21 oed—

(a)mae’r dyletswyddau o dan adran 110(1)(b) ac (c), (6) a (9) yn parhau hyd nes bod y person ifanc yn peidio â dilyn y rhaglen, a

(b)mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106 ac 107(3) a (10) yn parhau’n gydredol â’r dyletswyddau hynny ac yn dod i ben ar yr un pryd.

(3)At ddibenion is-adran (2)(a), rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I217A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I218A. 111 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

112Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4LL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw, i’r graddau y bo’n ofynnol i’w anghenion addysg neu hyfforddiant, drwy—

(a)cyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

(b)gwneud grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 sy’n dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr dalu’r swm perthnasol i’r person ifanc hwnnw.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (2)(a) yn ychwanegol at ddyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan is-adran (1).

(4)Pan fo awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 wedi ei fodloni bod y person ifanc mewn addysg bellach neu uwch lawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—

(a)darparu llety addas i’r person ifanc yn ystod y gwyliau, neu

(b)talu digon i’r person ifanc i sicrhau llety o’r fath.

(5)Caiff yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 ystyried ei ddyletswydd o dan is-adran (2) wrth asesu angen y person ifanc o dan adran 107(4) ac wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (4).

(6)Mae’r dyletswyddau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 113.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I219A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I220A. 112 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

113Dyletswyddau yn dod i ben mewn perthynas â phobl ifanc categori 4LL+C

(1)Mae dyletswyddau awdurdod lleol cyfrifol tuag at berson ifanc categori 4 yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr.

(2)At ddibenion is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol cyfrifol ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I221A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I222A. 113 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

114Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5LL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 5 ystyried a fodlonwyd yr amodau yn is-adran (2) mewn perthynas â’r person ifanc.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod ar y person angen cymorth o fath y gall yr awdurdod ei roi o dan yr adran hon, a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person yr oedd yn derbyn gofal ganddo y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef.

(3)Os yw’r amodau wedi eu bodloni rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef a chaiff roi cymorth i’r person hwnnw yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (4).

(4)Caiff y cymorth gael ei roi—

(a)ar ffurf da;

(b)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos at i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith;

(c)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos i’r lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

(d)drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;

(e)drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety o dan baragraffau (b) i (d);

(f)mewn arian parod.

(5)Caiff awdurdod lleol hefyd roi cymorth yn y modd a ddisgrifir ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (4) i berson ifanc—

(a)sydd o dan 25 oed, a

(b)a fyddai’n berson ifanc categori 5 pe bai o dan 21 oed.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (4)(c) neu (d) caiff ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(7)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod person ifanc y caiff ddarparu cymorth iddo o dan is-adran (4) neu (5) mewn addysg bellach neu uwch llawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—

(a)darparu llety addas i’r person yn ystod y gwyliau, neu

(b)talu digon i’r person i sicrhau llety o’r fath.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I223A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I224A. 114 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

115Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6LL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 ystyried a fodlonwyd yr amodau yn is-adran (2) mewn perthynas â’r person ifanc.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod ar y person angen cymorth o fath y gall yr awdurdod lleol ei roi o dan yr adran hon, a

(b)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(b) i (e), bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person yr oedd y person ifanc yn derbyn gofal ganddo, yn cael ei letya ganddo neu ei faethu ganddo (o fewn ystyr yr is-adran honno) y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef.

(3)Os yw’r amodau wedi eu bodloni—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef, os yw’r person hwnnw yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a) neu (b), a

(b)mewn unrhyw achos arall, caiff yr awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef.

(4)Pan fo awdurdod lleol, o ganlyniad i’r adran hon, o dan ddyletswydd neu wedi ei rymuso i gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef, caiff roi cymorth i’r person hwnnw yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5).

(5)Caiff y cymorth gael ei roi—

(a)ar ffurf da;

(b)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a)—

(i)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig;

(ii)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

(iii)drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;

(c)drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety o dan baragraff (b);

(d)mewn arian parod.

(6)Caiff awdurdod lleol hefyd roi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5)(b)(ii) a (iii) i berson ifanc—

(a)sydd o dan 25 oed, a

(b)a fyddai’n berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a), pe bai o dan 21 oed.

(7)Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5)(b)(ii) neu (iii) caiff ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod person ifanc y caiff ddarparu cymorth iddo o dan is-adran (4) neu (6) mewn addysg bellach neu uwch lawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—

(a)darparu llety addas i’r person yn ystod y gwyliau, neu

(b)talu digon i’r person i sicrhau llety o’r fath.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I225A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I226A. 115 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

116Darpariaeth atodol ynghylch cymorth ar gyfer pobl ifanc mewn addysg bellach neu uwchLL+C

(1)Caiff rheoliadau, at ddibenion adrannau 110(6) a 112(2)—

(a)pennu’r swm perthnasol;

(b)pennu ystyr “addysg uwch”;

(c)gwneud darpariaeth o ran talu’r swm perthnasol;

(d)gwneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y caniateir i’r swm perthnasol (neu unrhyw ran ohono) gael ei adennill gan awdurdod lleol oddi wrth berson ifanc y gwnaed taliad iddo o dan y darpariaethau hynny.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ystyr “addysg bellach” (“further education”), “addysg uwch” (“higher education”), “gwyliau” (“vacation”) a “llawnamser” (“full-time”) at ddibenion adrannau 110(8), 112(4), 114(7) a 115(8).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I227A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I228A. 116 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

117Codi ffi am ddarpariaeth o dan adrannau 109 i 115LL+C

(1)Caiff awdurdod lleol osod ffi am gymorth (ac eithrio cyngor) o dan adrannau 109 i 115.

(2)O ran ffi a osodir o dan adran (1)—

(a)dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddi;

(b)caniateir ei gosod—

(i)ar y person ifanc sy’n cael y cymorth, os yw’r person ifanc hwnnw wedi cyrraedd 18 oed;

(ii)ar berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y person ifanc sy’n cael y cymorth, os yw’r person ifanc o dan 18 oed.

(3)Nid yw person yn atebol am dalu ffi o dan yr adran hon yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sydd o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(4)Yn is-adran (3) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.

(5)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 61 neu 62 yn gymwys i ffioedd o dan yr adran hon mewn perthynas â chymorth fel y bo’n gymwys i ffioedd o dan adran 59 mewn perthynas â gofal a chymorth.

(6)Caiff rheoliadau gymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir yn neu o dan adrannau 63 i 68 neu adrannau 70 i 73 i godi ffioedd o dan yr adran hon gyda neu heb addasiadau penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I229A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I230A. 117 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

118GwybodaethLL+C

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol bod person ifanc—

(a)y mae ganddo ddyletswydd i gadw mewn cysylltiad ag ef o dan adran 105,

(b)y mae wedi bod yn cynghori ac yn cyfeillio o dan adran 114 neu 115, neu

(c)y mae wedi bod yn rhoi cymorth arall iddo o dan adran 114 neu 115,

yn bwriadu byw, neu yn byw, yn ardal awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.

(2)Pan fo plentyn sy’n cael ei letya yng Nghymru—

(a)gan sefydliad gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant,

(b)gan neu ar ran unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,

(c)gan neu ar ran [F61bwrdd gofal integredig] neu [F62GIG Lloegr] ,

(d)gan neu ar ran awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg,

(e)gan neu ar ran awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg,

(f)mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu

(g)mewn unrhyw lety a ddarperir gan neu ar ran Ymddiriedolaeth GIG neu gan neu ar ran Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG,

yn peidio â chael ei letya felly mwyach ar ôl cyrraedd 16 oed, rhaid i’r person y cafodd y plentyn ei letya ganddo neu ar ei ran neu sy’n rhedeg neu’n rheoli’r cartref neu’r ysbyty (yn ôl y digwydd) hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y mae’r plentyn yn bwriadu byw yn ei ardal.

(3)Dim ond os yw’r llety wedi cael ei ddarparu am gyfnod o dri mis yn olynol o leiaf y bydd is-adran (2) yn gymwys yn rhinwedd paragraffau (b) i (g).

(4)Mewn achos lle y cafodd plentyn ei letya gan neu ar ran awdurdod lleol, neu awdurdod lleol yn Lloegr, wrth arfer swyddogaethau addysg, nid yw is-adran (2) yn gymwys oni fo’r awdurdod a fu’n lletya’r plentyn yn wahanol i’r awdurdod y mae’r plentyn yn bwriadu byw yn ei ardal.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I231A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I232A. 118 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Llety diogelLL+C

119Defnyddio llety i gyfyngu ar ryddidLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon, ni chaniateir i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr gael ei leoli, ac os yw wedi ei leoli, ni chaniateir iddo gael ei gadw mewn llety yng Nghymru a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid (“llety diogel”) onid yw’n ymddangos—

(a)bod y plentyn—

(i)yn un sydd â hanes o ddianc a’i fod yn debyg o ddianc o lety o unrhyw ddisgrifiad arall, a

(ii)yn debyg o ddioddef gan niwed o bwys os yw’n dianc, neu

(b)bod y plentyn, os yw’n cael ei gadw mewn llety o unrhyw ddisgrifiad arall, yn debyg o anafu ei hun neu bersonau eraill.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)pennu—

(i)cyfnod na chaniateir i blentyn gael ei gadw y tu hwnt iddo mewn llety diogel yng Nghymru heb awdurdod y llys, a

(ii)y cyfnod hwyaf y caiff y llys awdurdodi bod plentyn yn cael ei gadw amdano mewn llety diogel yng Nghymru;

(b)rhoi pŵer i’r llys i awdurdodi o bryd i’w gilydd fod plentyn yn cael ei gadw mewn llety diogel yng Nghymru am unrhyw gyfnod pellach y bydd y rheoliadau yn ei bennu;

(c)darparu bod ceisiadau i’r llys o dan yr adran hon i’w gwneud gan awdurdod lleol [F63neu awdurdod lleol yn Lloegr] yn unig.

(3)Mae’n ddyletswydd ar lys sy’n gwrando cais o dan yr adran hon i ddyfarnu a yw unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cadw plentyn mewn llety diogel wedi eu bodloni yn achos y plentyn.

(4)Os bydd llys yn dyfarnu bod unrhyw feini prawf o’r fath wedi eu bodloni, rhaid iddo wneud gorchymyn yn awdurdodi bod y plentyn i’w gadw mewn llety diogel ac yn pennu’r cyfnod hwyaf ar gyfer cadw’r plentyn felly.

(5)Os caiff gwrandawiad cais o dan yr adran hon ei ohirio, caiff y llys wneud gorchymyn interim yn caniatáu i’r plentyn gael ei gadw mewn llety diogel yn ystod cyfnod y gohiriad.

(6)Ni chaiff unrhyw lys arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran hon mewn cysylltiad â phlentyn nad yw wedi ei gynrychioli’n gyfreithiol yn y llys hwnnw, oni bai ei fod, ar ôl cael ei hysbysu am ei hawl i wneud cais am [F64y ddarpariaeth o gynrychiolaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012] ac wedi cael cyfle i wneud hynny, wedi gwrthod neu wedi methu â gwneud cais.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—

(a)bod yr adran hon i’w chymhwyso neu nad yw i’w chymhwyso i unrhyw ddisgrifiad o blant a bennir yn y rheoliadau;

(b)bod yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â phlant o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau yn ddarostyngedig i addasiadau a bennir yn y rheoliadau;

(c)bod darpariaethau eraill a bennir yn y rheoliadau i gael effaith at ddibenion dyfarnu a ganiateir i blentyn o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gael ei leoli neu ei gadw mewn llety diogel yng Nghymru.

(8)Nid yw rhoi awdurdodiad o dan yr adran hon yn rhagfarnu unrhyw bŵer sydd gan unrhyw lys yn Lloegr a Chymru i roi cyfarwyddiadau ynglŷn â’r plentyn y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef.

(9)Nid yw rhoi awdurdodiad o dan yr adran hon yn rhagfarnu effaith unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan lys yn yr Alban ynglŷn â phlentyn y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef, i’r graddau y mae’r cyfarwyddyd yn cael effaith yng nghyfraith Lloegr a Chymru.

(10)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 76(5).

[F65(11)Bydd gorchymyn a wneir o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn, pe byddai fel arall yn parhau i fod mewn grym, yn peidio â chael effaith pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.]

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodolLL+C

120Asesu plant y mae llety’n cael ei ddarparu iddynt gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysgLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg (“yr awdurdod lletya”)—

(a)am gyfnod olynol o 3 mis o leiaf, neu

(b)gyda’r bwriad, ar ran yr awdurdod, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r awdurdod lletya hysbysu swyddog priodol yr awdurdod cyfrifol—

(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a

(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod cyfrifol” ac “yr awdurdod sy’n gyfrifol” yw—

(a)yr awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n ymddangos i’r awdurdod lletya mai’r awdurdod hwnnw yw’r un lle yr oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo gael ei letya, neu

(b)pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lletya nad oedd plentyn yn preswylio fel arfer o fewn ardal unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi.

(4)Yn yr adran hon ac yn adrannau 121 a 122 ystyr “swyddog priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag awdurdod lleol, ei gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, a

(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol yn Lloegr, ei gyfarwyddwr gwasanaethau plant.

(5)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon [F66, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg)], rhaid i’r awdurdod—

(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a

(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(6)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (5)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I235A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I236A. 120 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

121Asesu plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol—

(a)am gyfnod olynol o dri mis o leiaf, neu

(b)gyda’r bwriad, ar ran y person sy’n gwneud y penderfyniad i letya’r plentyn, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r person sy’n rhedeg y sefydliad o dan sylw hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae’r sefydliad yn cael ei redeg yn ei ardal—

(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a

(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

(3)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod—

(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a

(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(4)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (3)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

(5)Os yw person sy’n rhedeg cartref gofal neu ysbyty annibynnol yn methu, heb reswm resymol, â chydymffurfio â’r adran hon, bydd yn euog o drosedd.

(6)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol gael mynediad i gartref gofal neu ysbyty annibynnol o fewn ardal yr awdurdod at ddiben pennu a ydynt wedi cydymffurfio â gofynion yr adran hon.

(7)Rhaid i berson sy’n arfer pŵer mynediad, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos bod ganddo awdurdodiad i wneud hynny.

(8)Mae unrhyw berson sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad yn euog o drosedd.

(9)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon yn atebol ar gollfarn diannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I237A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I238A. 121 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

122Ymwelwyr â phlant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F67...LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw swyddog priodol i awdurdod lleol—

(a)wedi ei hysbysu mewn cysylltiad â phlentyn o dan adran 120(2)(a) neu 121(2)(a), [F68neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol),] a

(b)heb ei hysbysu mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw o dan adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b) [F69, neu o dan adran 85(2) o Ddeddf Plant 1989].

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau a wneir o dan yr adran hon, wneud trefniadau er mwyn i gynrychiolydd yr awdurdod (“cynrychiolydd”) fynd i ymweld â’r plentyn.

(3)Dyletswydd cynrychiolydd yw rhoi cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynghylch y modd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r plentyn.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch—

(a)amlder yr ymweliadau o dan drefniadau ymweld;

(b)amgylchiadau y mae’n rhaid i drefniadau ymweld odanynt ei gwneud yn ofynnol bod rhywun yn ymweld â’r plentyn;

(c)swyddogaethau ychwanegol cynrychiolydd.

(5)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun fod gan y person dewisol y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)Yn yr adran hon ystyr “trefniadau ymweld” yw’r trefniadau a wneir o dan is-adran (2).

123Gwasanaethau i blant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F70...LL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121 [F71, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)].

(2)Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.

(3)Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.

(4)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I241A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I242A. 123 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Symud plant sy’n derbyn gofal i fyw y tu allan i’r awdurdodaethLL+C

124Trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a ChymruLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol drefnu, neu helpu i drefnu, i blentyn yn ei ofal fyw y tu allan i Loegr a Chymru heb gymeradwyaeth y llys.

(2)Caiff awdurdod lleol, gyda chymeradwyaeth pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn drefnu, neu helpu i drefnu, i unrhyw blentyn arall sy’n derbyn gofal ganddo i fyw y tu allan i Loegr a Chymru.

(3)Ni chaiff y llys roi ei gymeradwyaeth i hyn o dan is-adran (1) oni chaiff ei fodloni—

(a)y byddai byw y tu allan i Loegr a Chymru er lles pennaf y plentyn,

(b)y gwnaed, neu y gwneir, trefniadau addas i dderbyn y plentyn a threfniadau addas er ei lesiant yn y wlad lle bydd yn byw,

(c)bod y plentyn wedi cydsynio i fyw yn y wlad honno, a

(d)bod pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wedi cydsynio bod y plentyn yn byw yn y wlad honno.

(4)Pan fo’r llys wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i gydsynio neu wrthod cydsynio, caiff anwybyddu is-adran (3)(c) a chymeradwyo os bydd y plentyn yn mynd i fyw yn y wlad sydd o dan sylw gyda rhiant, gwarcheidwad, gwarcheidwad arbennig, neu berson addas arall.

(5)Pan fo person y mae angen ei gydsyniad gan is-adran (3)(d) yn methu â chydsynio, caiff y llys hepgor cydsyniad y person hwnnw os yw wedi ei fodloni—

(a)nad oes modd dod o hyd i’r person neu nad oes gan y person alluedd i gydsynio, neu

(b)bod llesiant y plentyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cydsyniad gael ei hepgor.

(6)Nid yw adran 85 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (sy’n gosod cyfyngiadau ar fynd â phlant allan o’r Deyrnas Unedig) yn gymwys yn achos plentyn a fydd yn byw y tu allan i Loegr a Chymru gyda chymeradwyaeth y llys a roddir o dan yr adran hon.

(7)Pan fydd llys yn penderfynu rhoi ei gydsyniad o dan yr adran hon, caiff orchymyn nad yw ei benderfyniad i gael effaith yn ystod y cyfnod apelio.

(8)Yn is-adran (7) ystyr “y cyfnod apelio” yw—

(a)lle y gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, y cyfnod rhwng gwneud y penderfyniad a dyfarnu ar yr apêl, a

(b)fel arall, y cyfnod pryd y caniateir apelio yn erbyn y penderfyniad.

F72(9) Nid yw’r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sy’n lleoli plentyn i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr.

Diwygiadau Testunol

F72A. 124(9): testyn wedi'i ddiwygio (27.4.2017) gan Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 (c. 16), a. 70(1)(a), Atod. 1 para. 13

Gwybodaeth Cychwyn

I243A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I244A. 124 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofalLL+C

125Marwolaeth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleolLL+C

(1)Os yw plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn marw—

(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru,

(b)rhaid i’r awdurdod hysbysu, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, rieni’r plentyn a phob person nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(c)caiff yr awdurdod, gyda chydsyniad pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol i’w gael), drefnu i gorff y plentyn gael ei gladdu neu ei amlosgi, a

(d)caiff yr awdurdod, os bodlonir yr amodau a grybwyllir yn is-adran (2), wneud taliadau i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu unrhyw berthynas, gyfaill neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y person hwnnw wrth fod yn bresennol yn angladd y plentyn.

(2)Dyma’r amodau—

(a)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fedrai’r person o dan sylw fod yn bresennol yn angladd y plentyn fel arall heb galedi ariannol gormodol, a

(b)bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.

(3)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi amlosgi lle nad yw’n unol ag arfer argyhoeddiad crefyddol y plentyn.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi arfer ei bŵer o dan is-adran (1)(c) mewn cysylltiad â phlentyn a oedd o dan 16 oed pan fu farw, caiff adennill oddi wrth unrhyw un o rieni’r plentyn unrhyw dreuliau a dynnwyd ganddo.

(5)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil unrhyw symiau y mae modd eu hadennill yn y modd hwn, ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’u hadennill.

(6)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw ddeddfiad sy’n rheoleiddio neu’n awdurdodi claddu, amlosgi neu gynnal archwiliad anatomegol o gorff y person ymadawedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I245A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I246A. 125 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F73Awdurdodaeth a gweithdrefnLL+C

125A.Awdurdodaeth llysoeddLL+C

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “llys” (“court”) yw’r Uchel Lys neu lys teulu.

125B.Rheolau llysLL+C

(1)Caiff awdurdod sydd â’r pŵer i wneud rheolau llys wneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rhoi effaith i—

(a)y Rhan hon, neu

(b)darpariaethau unrhyw offeryn statudol a wneir o dan y Rhan hon,

yr ymddengys i’r awdurdod hwnnw ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.

(2)Mae adran 93 o Ddeddf Plant 1989 (rheolau llys) yn gymwys i reolau a wneir yn unol â’r adran hon fel y mae’n gymwys i reolau a wneir yn unol â’r adran honno.

Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)mewn cysylltiad â’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn unrhyw achos perthnasol (gan gynnwys y modd y mae unrhyw gais i gael ei wneud neu y mae achos arall i gael ei ddechrau);

(b)o ran y personau sydd â hawlogaeth i gymryd rhan mewn unrhyw achos perthnasol, p’un ai fel partïon i’r achos neu drwy gael y cyfle i gyflwyno sylwadau i’r llys;

(c)i blant gael eu cynrychioli ar wahân mewn achos perthnasol;

(d)o ran y dogfennau a’r wybodaeth sydd i’w darparu, a’r hysbysiadau sydd i’w rhoi, mewn cysylltiad ag unrhyw achos perthnasol;

(e)mewn cysylltiad â gwrandawiadau rhagarweiniol;

(f)sy’n galluogi’r llys, o dan unrhyw amgylchiad a ragnodir, i barhau ag unrhyw gais er nad yw hysbysiad o’r achos wedi ei roi i’r ymatebydd.

(3)Yn is-adran (2)—

  • ystyr “a ragnodir” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi gan y rheolau;

  • ystyr “achos perthnasol” (“relevant proceedings”) yw unrhyw gais a wneir, neu achos a ddygir, o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1) ac unrhyw ran o achos o’r fath; ac

  • ystyr “hysbysiad o achos” (“notice of proceedings”) yw gwŷs neu unrhyw hysbysiad arall o achos sy’n ofynnol; ac ystyr “rhoi” (“given”), mewn perthynas â gwŷs, yw “cyflwyno” (“served”).

(4)Nid yw’r adran hon nac unrhyw bŵer arall yn y Ddeddf hon i wneud rheolau llys i gael ei gymryd fel pe bai’n cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod o dan sylw i wneud rheolau llys.

(5)Wrth wneud unrhyw reolau o dan yr adran hon, bydd yr awdurdod yn ddarostyngedig i’r un gofyniad o ran ymgynghori (os oes un) ag sy’n gymwys pan fydd yr awdurdod yn gwneud rheolau o dan ei bŵer cyffredinol i wneud rheolau.

125C.Preifatrwydd i blant sy’n rhan o achosion o dan y Rhan honLL+C

Mae adran 97 o Ddeddf Plant 1989 (preifatrwydd i blant sy’n rhan o achosion penodol) yn gymwys mewn perthynas â phlant sy’n rhan o achosion o dan y Rhan hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â phlant sy’n rhan o unrhyw achos o dan y Ddeddf honno.

125D.(1)Rhaid i berson beidio â chyhoeddi i’r cyhoedd yn gyffredinol, nac i unrhyw ran o’r cyhoedd, unrhyw ddeunydd y bwriedir iddo sicrhau bod modd adnabod, neu sy’n debygol o olygu bod modd adnabod—LL+C

(a)unrhyw blentyn sy’n rhan o unrhyw achos gerbron yr Uchel Lys neu’r llys teulu y caiff unrhyw bŵer o dan y Ddeddf hon ei arfer ynddo gan y llys mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn; neu

(b)cyfeiriad neu ysgol fel un plentyn sy’n rhan o unrhyw achos o’r fath.

(2)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r sawl a gyhuddir brofi nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo unrhyw reswm dros amau, fod y deunydd a gyhoeddwyd wedi ei fwriadu i sicrhau bod modd adnabod y plentyn, neu’n debygol o olygu bod modd adnabod y plentyn.

(3)Caiff y llys neu’r Arglwydd Ganghellor, os yw wedi ei fodloni bod lles y plentyn yn gwneud hynny yn ofynnol ac, yn achos yr Arglwydd Ganghellor, os yw’r Arglwydd Brif Ustus yn cytuno, drwy orchymyn hepgor gofynion is-adran (1) i’r graddau hynny a bennir yn y gorchymyn.

(4)At ddibenion yr adran hon—

  • mae “cyhoeddi” (“publish”) yn cynnwys—

    (a)

    cynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni (o fewn yr ystyr a roddir i “programme service” yn Neddf Darlledu 1990);

    (b)

    achosi i’r deunydd gael ei gyhoeddi; ac

    mae “deunydd” (“material”) yn cynnwys unrhyw lun neu gynrychiolaeth.

(5)Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i’r adran hon yn euog o drosedd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(6)Caiff yr Arglwydd Brif Ustus enwebu deiliad swydd farnwrol (fel y diffinnir “judicial office holder” yn adran 109(4) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005) i arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3).]

RHAN 7LL+CDIOGELU

Oedolion sy’n wynebu risgLL+C

126Oedolion sy’n wynebu risgLL+C

(1)Mae “oedolyn sy’n wynebu risg”, at ddibenion y Rhan hon, yn oedolyn—

(a)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso,

(b)y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac

(c)nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(2)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal (p’un a yw’n preswylio fel arfer yno ai peidio) yn oedolyn sy’n wynebu risg, rhaid iddo—

(a)gwneud unrhyw ymholiadau (neu beri iddynt gael eu gwneud) y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol i’w alluogi i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau (p’un ai o dan y Ddeddf hon neu fel arall) ac, os felly, pa gamau a chan bwy, a

(b)penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau o’r fath.

(3)Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 54(5) (cynlluniau gofal a chymorth) gynnwys darpariaeth ynghylch cofnodi mewn cynllun gofal a chymorth ganlyniadau ymholiadau a wneir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I247A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I248A. 126 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

127Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolionLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig wneud cais i ynad heddwch am orchymyn (“gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn”) mewn perthynas â pherson sy’n byw mewn unrhyw fangre o fewn ardal awdurdod lleol.

(2)Dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn yw—

(a)galluogi’r swyddog awdurdodedig ac unrhyw berson arall sydd gyda’r swyddog i gael sgwrs breifat gyda’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg,

(b)galluogi’r swyddog awdurdodedig i ganfod a yw’r person hwnnw’n gwneud penderfyniadau o’i wirfodd, ac

(c)galluogi’r swyddog awdurdodedig i asesu’n iawn a yw’r person yn oedolyn sy’n wynebu risg ac i wneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.

(3)Pan fo gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn mewn grym, caiff y swyddog awdurdodedig, cwnstabl ac unrhyw berson penodedig arall sydd gyda’r swyddog hwnnw yn unol â’r gorchymyn, fynd i mewn i’r fangre a bennir yn y gorchymyn at y dibenion a nodir yn is-adran (2).

(4)Caiff yr ynad heddwch wneud gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn os yw wedi ei fodloni—

(a)bod gan y swyddog awdurdodedig sail resymol dros amau bod y person yn oedolyn sy’n wynebu risg,

(b)ei bod yn angenrheidiol i’r swyddog awdurdodedig gael gweld y person er mwyn asesu’n iawn a yw’r person hwnnw’n oedolyn sy’n wynebu risg a gwneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd,

(c)bod gwneud gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion a nodir yn is-adran (2), a

(d)na fydd arfer y pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn yn peri i’r oedolyn fod mewn mwy o berygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(5)Rhaid i orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn—

(a)pennu’r fangre y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi;

(b)darparu y caiff cwnstabl fod gyda’r swyddog awdurdodedig;

(c)pennu’r cyfnod pryd y bydd y gorchymyn mewn grym.

(6)Caniateir i amodau eraill gael eu gosod ar orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn, er enghraifft—

(a)pennu cyfyngiadau ar yr amser pan ganiateir i’r pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn gael ei arfer;

(b)darparu i berson penodedig arall fod gyda’r swyddog awdurdodedig;

(c)ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad am y gorchymyn gael ei roi i feddiannydd y fangre a’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg.

(7)Caiff cwnstabl sydd gyda’r swyddog awdurdodedig ddefnyddio grym rhesymol os yw’n angenrheidiol er mwyn cyflawni dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn fel a nodir yn is-adran (2).

(8)Wrth fynd i mewn i’r fangre yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn rhaid i’r swyddog awdurdodedig—

(a)datgan diben yr ymweliad,

(b)dangos tystiolaeth o’r awdurdodiad i fynd i mewn i’r fangre, ac

(c)rhoi esboniad i feddiannydd y fangre am sut i gwyno ynghylch sut y mae’r pŵer mynediad wedi cael ei arfer.

(9)Yn yr adran hon ystyr “swyddog awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon, ond caiff rheoliadau osod cyfyngiadau ar y personau neu’r categorïau o bersonau y caniateir eu hawdurdodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I249A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I250A. 127 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

128Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy’n wynebu risgLL+C

(1)Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person yn oedolyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y person hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.

(2)Os yw’n ymddangos bod y person, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y person hwnnw yn oedolyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.

(3)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn oedolyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw yn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.

(4)At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.

Gwybodaeth Cychwyn

I251A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I252A. 128 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

129Diddymu pŵer awdurdod lleol i symud personau y mae arnynt angen gofal a sylwLL+C

Nid yw adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am orchymyn llys i symud personau y mae arnynt angen gofal a sylw o’u cartrefi i ysbytai neu fannau eraill) bellach yn gymwys i bersonau yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I253A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I254A. 129 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Plant sy’n wynebu risgLL+C

130Dyletswydd i hysbysu am blant sy’n wynebu risgLL+C

(1)Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn yn blentyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y plentyn hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.

(2)Os yw’n ymddangos bod y plentyn, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y plentyn hwnnw yn blentyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.

(3)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn blentyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw o fewn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, “plentyn sy’n wynebu risg” yw plentyn—

(a)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, a

(b)y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio).

(5)At ddibenion yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn—

(a)person sy’n bartner perthnasol yr awdurdod lleol at ddibenion adran 162;

(b)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod.

(6)Am ddarpariaeth ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i ymchwilio i blant sy’n wynebu risg, gweler adran 47 o Ddeddf Plant 1989.

Gwybodaeth Cychwyn

I255A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I256A. 130 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

CanllawiauLL+C

131Canllawiau ynghylch oedolion sy’n wynebu risg a phlant sy’n wynebu risgLL+C

(1)Rhaid i’r canlynol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan adrannau 126 i 128 a 130, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru—

(a)awdurdod lleol;

(b)person sy’n swyddog awdurdodedig at ddibenion adran 127;

(c)cwnstabl neu berson penodedig arall sydd gyda swyddog awdurdodedig yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn a wneir o dan adran 127;

(d)person sy’n bartner perthnasol at ddibenion adran 128 neu 130.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I257A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I258A. 131 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Bwrdd Diogelu Annibynnol CenedlaetholLL+C

132Y Bwrdd Diogelu Annibynnol CenedlaetholLL+C

(1)Bydd bwrdd o’r enw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y Bwrdd Cenedlaethol”).

(2)Dyletswyddau’r Bwrdd Cenedlaethol yw—

(a)rhoi cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu gyda golwg ar sicrhau eu bod yn effeithiol,

(b)cyflwyno adroddiadau am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, ac

(c)gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny.

(3)O ran y Bwrdd Cenedlaethol—

(a)rhaid iddo gyflwyno adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru,

(b)rhaid iddo gyflwyno unrhyw adroddiadau eraill i Weinidogion Cymru y byddant yn eu mynnu, ac

(c)caiff gyflwyno unrhyw adroddiadau eraill y gwêl yn dda.

133Rheoliadau am y Bwrdd CenedlaetholLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y Bwrdd Cenedlaethol.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu, er enghraifft, ar gyfer y canlynol—

(a)cyfansoddiad ac aelodaeth y Bwrdd Cenedlaethol (gan gynnwys darpariaeth ynghylch telerau penodi, anghymhwyso, ymddiswyddo, atal neu symud aelodau o’u swydd);

(b)y tâl a’r lwfansau sydd i’w talu i aelodau;

(c)trafodion y Bwrdd Cenedlaethol;

(d)bod y Bwrdd Cenedlaethol yn ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt;

(e)ffurf, cynnwys ac amseriad adroddiadau’r Bwrdd Cenedlaethol;

(f)cyhoeddi adroddiadau’r Bwrdd Cenedlaethol.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu i Weinidog y Goron fod yn aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol.

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu OedolionLL+C

134Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu OedolionLL+C

(1)Rhaid i reoliadau nodi’r ardaloedd hynny yng Nghymru (“ardaloedd Byrddau Diogelu”) y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer.

(2)Mae pob un o’r canlynol yn bartner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal Bwrdd Diogelu—

(a)yr awdurdod lleol dros ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(b)prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(d)[F74Ymddiriedolaeth GIG] sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(e)yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;

(f)unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas â’r ardal Bwrdd Diogelu.

(3)Ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal, rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu—

(a)partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas â phlant, a

(b)partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas ag oedolion.

(4)Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas â phlant sefydlu Bwrdd Diogelu Plant ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

(5)Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion sefydlu Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

(6)Rhaid i Fwrdd Diogelu gynnwys—

(a)cynrychiolydd i bob partner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn is-adran (2) mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu, a

(b)cynrychiolydd unrhyw berson neu gynrychiolydd i gorff arall a bennir mewn rheoliadau fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu.

(7)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu person neu gorff fel partner Bwrdd Diogelu ond os yw’r person neu’r corff hwnnw yn arfer swyddogaethau o dan ddeddfiad mewn perthynas â phlant yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, oedolion yng Nghymru.

(8)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu un o Weinidogion y [F75 Goron,] llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu, yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr) [F76na phennaeth coleg diogel] fel partner Bwrdd Diogelu oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(9)Caiff Bwrdd Diogelu gynnwys cynrychiolwyr unrhyw bersonau neu gyrff eraill, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff a grybwyllir yn is-adran (10), y mae’r Bwrdd o’r farn y dylent gael eu cynrychioli arno.

(10)Mae’r personau neu’r cyrff hynny’n bersonau ac yn gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â phlant neu oedolion (yn ôl y digwydd) yn yr ardal Bwrdd Diogelu o dan sylw.

(11)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;

(b)mae i gyfeiriad at ganolfan hyfforddi ddiogel wedi ei chontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out secure training centre” gan adran 15 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994;

(c)mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I261A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I262A. 134 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

135Swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau DiogeluLL+C

(1)Amcanion Bwrdd Diogelu Plant yw—

(a)amddiffyn plant o fewn ei ardal sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu ddioddef mathau eraill o niwed, a

(b)atal plant o fewn ei ardal rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed.

(2)Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion yw—

(a)amddiffyn oedolion o fewn ei ardal—

(i)y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), a

(ii)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso, a

(b)atal yr oedolion hynny o fewn ei ardal y soniwyd amdanynt ym mharagraff (a)(i) rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

(3)Rhaid i Fwrdd Diogelu geisio sicrhau ei amcanion drwy gydgysylltu’r hyn a wneir gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd a gwneud yn siŵr ei fod yn effeithiol.

(4)Rhaid i reoliadau—

(a)darparu i Fwrdd Diogelu gael swyddogaethau sy’n ymwneud â’i amcanion (gan gynnwys, er enghraifft, swyddogaethau adolygu neu ymchwilio);

(b)gwneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Diogelu;

(c)pennu pryd a sut y mae’n rhaid i blant neu oedolion y mae swyddogaethau Bwrdd Diogelu yn effeithio arnynt, neu y gallent effeithio arnynt gael cyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

(5)Caiff Bwrdd Diogelu gydweithredu ag un neu fwy o Fyrddau Diogelu eraill.

(6)Caiff Bwrdd Diogelu weithredu ar y cyd ag un neu fwy o Fyrddau Diogelu eraill mewn perthynas â’u hardaloedd cyfun ac os byddant yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Fwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at y Byrddau sy’n gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal Bwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(7)Caiff y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ardal ffurfio cyd-fwrdd ar gyfer yr ardal, ac os ydynt yn gwneud hynny—

(a)mae’r cyd-fwrdd i gael yr amcanion yn is-adrannau (1) a (2), a

(b)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Fwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-fwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I263A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I264A. 135 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

136Byrddau Diogelu: cynlluniau ac adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi cynllun (ei “gynllun blynyddol”) yn nodi ei gynigion ar gyfer cyflawni ei amcanion yn y flwyddyn honno.

(2)Erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn fan bellaf, rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi adroddiad ynghylch—

(a)sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a

(b)i ba raddau y mae wedi gweithredu’r cynigion yn ei gynllun blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch gwneud cynlluniau a llunio adroddiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch eu ffurf a’u cynnwys a sut dylid eu cyhoeddi).

(4)Yn yr adran hon ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r deuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Gwybodaeth Cychwyn

I265A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I266A. 136 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

137Cyflenwi gwybodaeth ar gais Byrddau DiogeluLL+C

(1)Caiff Bwrdd Diogelu, at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r Bwrdd i gyflawni ei swyddogaethau, ofyn i berson neu gorff cymhwysol gyflenwi gwybodaeth benodedig y mae is-adran (2) neu (3) yn gymwys iddi—

(a)i’r Bwrdd, neu

(b)i berson neu gorff a bennir gan y Bwrdd.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)y person neu’r corff cymhwysol y gwneir cais iddo,

(b)swyddogaeth neu weithgaredd y person neu’r corff cymhwysol hwnnw, neu

(c)person y mae swyddogaeth yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef, neu weithgaredd yr ymgymerir ag ef, gan y person neu’r corff cymhwysol hwnnw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth—

(a)sydd wedi ei chyflenwi i’r person neu’r corff cymhwysol yn unol â chais arall o dan yr adran hon, neu

(b)sydd wedi ei deillio o wybodaeth a gyflenwyd yn y modd hwnnw.

(4)Rhaid i’r person neu’r corff cymhwysol y gwneir cais iddo o dan is-adran (1) gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person neu’r corff o’r farn y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person neu’r corff, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person neu’r corff.

(5)Rhaid i berson neu gorff cymhwysol sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi i’r Bwrdd Diogelu a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(6)Ni chaiff gwybodaeth a gyflenwir o dan yr adran hon gael ei defnyddio ond gan y Bwrdd neu berson neu gorff arall y caiff ei chyflenwi iddo at y diben a grybwyllwyd yn is-adran (1).

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn cais a wneir o dan is-adran (1);

  • ystyr “person neu gorff cymhwysol” (“qualifying person or body”) yw person neu gorff y mae ei swyddogaethau neu ei weithgareddau yn cael eu hystyried gan y Bwrdd yn rhai sy’n golygu bod y person neu’r corff yn debygol o feddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i arfer un o swyddogaethau’r Bwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I267A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I268A. 137 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

138Cyllido Byrddau DiogeluLL+C

(1)Caiff partner Bwrdd Diogelu wneud taliadau tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu, neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu, y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno—

(a)drwy wneud y taliadau’n uniongyrchol, neu

(b)drwy gyfrannu at gronfa y caniateir i’r taliadau gael eu gwneud ohoni.

(2)Caiff partner Bwrdd Diogelu ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno.

(3)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod taliadau’n cael eu gwneud gan bartner Bwrdd Diogelu tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu, neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu, y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno, a

(b)darparu ar gyfer sut y mae swm y taliadau hynny i’w ddyfarnu mewn cysylltiad â chyfnod penodedig.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) sy’n ei gwneud yn ofynnol bod taliadau yn cael eu gwneud gan bartner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn adran 134(2)(b), (e) neu (f).

Gwybodaeth Cychwyn

I269A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I270A. 138 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

139Byrddau Diogelu: materion atodolLL+C

(1)Rhaid i Fwrdd Diogelu gydweithredu â’r Bwrdd Cenedlaethol, a rhaid iddo gyflenwi i’r Bwrdd Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae’n gofyn amdani.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau partneriaid Byrddau Diogelu sy’n ymwneud â’r Byrddau Diogelu y mae’r partneriaid wedi eu cynrychioli arnynt.

(3)Rhaid i bartner Bwrdd Diogelu, wrth arfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud â Bwrdd Diogelu, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i bob partner Bwrdd Diogelu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y Bwrdd Diogelu y mae wedi ei gynrychioli arno’n gweithredu’n effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I271A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I272A. 139 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

140Byrddau Diogelu CyfunLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ym mhob ardal Bwrdd Diogelu i uno i greu un Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal (“Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion”).

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)diwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ganlyniad i greu un Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion ar gyfer pob ardal Bwrdd Diogelu, a

(b)gwneud darpariaethau canlyniadol eraill gan gynnwys diwygio unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y bydd wedi ei basio neu ei wneud).

Gwybodaeth Cychwyn

I273A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I274A. 140 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

141Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion o dan adran 140LL+C

(1)Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 140, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y gorchymyn drafft arfaethedig â’r canlynol—

(a)pob partner Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal Bwrdd Diogelu y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â hi,

(b)yr Ysgrifennydd Gwladol, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y gorchymyn drafft arfaethedig,

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl yr ymgynghoriad hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen i wneud gorchymyn o dan adran 140, rhaid iddynt osod gorchymyn drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)O ran gorchymyn drafft a osodir o dan is-adran (3)—

(a)rhaid iddo fynd gyda datganiad gan Weinidogion Cymru yn rhoi manylion unrhyw wahaniaethau rhwng y gorchymyn drafft yr ymgynghorwyd arno o dan is-adran (1) a’r gorchymyn drafft a osodir o dan is-adran (3), a

(b)ni chaniateir iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 196(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 60 niwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y gorchymyn drafft, ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I275A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I276A. 141 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

142Dehongli Rhan 7LL+C

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “ardal Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board area”) yw ardal a nodir mewn rheoliadau o dan adran 134(1);

  • ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Cenedlaethol Annibynnol Cenedlaethol y cyfeirir ato yn adran 132;

  • ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134 (ac mae cyfeiriadau at ardal Bwrdd Diogelu yn gyfeiriadau at yr ardal Bwrdd Diogelu y mae wedi ei sefydlu ar ei chyfer);

  • ystyr “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) yw person neu gorff a grybwyllir yn adran 134(2) neu mewn rheoliadau a wneir o dan adran 134(6)(b) (ac mae cyfeiriadau at ardal partner Bwrdd Diogelu yn gyfeiriadau at yr ardal Bwrdd Diogelu y mae’n bartner Bwrdd Diogelu iddo).

Gwybodaeth Cychwyn

I277A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I278A. 142 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

RHAN 8LL+CSWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Awdurdodau lleolLL+C

143Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleolLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yw ei swyddogaethau o dan y deddfiadau a grybwyllir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 2 i’r Ddeddf hon (sef y swyddogaethau a ddisgrifir yn gyffredinol yn ail golofn yr Atodlen honno).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)ychwanegu eitemau at y tabl;

(b)dileu eitemau o’r tabl;

(c)diwygio eitemau yn y tabl.

Gwybodaeth Cychwyn

I279A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I280A. 143 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

144Cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi swyddog, a elwir yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw.

(2)Ni chaniateir i awdurdod lleol benodi person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol iddo oni bai ei fod yn fodlon bod y person hwnnw wedi dangos y cymwyseddau a bennwyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cymwyseddau at ddiben is-adran (2) mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 neu mewn rheoliadau.

(4)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol, os ydynt o’r farn y gall yr un person gyflawni’n effeithiol, ar gyfer y ddau neu bob un ohonynt, swyddogaethau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, benodi un person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y ddau awdurdod hynny neu ar gyfer pob un ohonynt.

(5)Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi penodi, neu sydd wedi penodi ar y cyd, berson o dan yr adran hon sicrhau bod staff digonol yn cael eu darparu at ddibenion ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo’r cyfarwyddwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I281A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I282A. 144 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F77144AAdroddiadau blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)manylion am sut y mae’r awdurdod wedi arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol, gan gynnwys manylion am y graddau y mae’r awdurdod wedi—

(i)gweithredu yn unol â gofynion a osodir ar awdurdodau lleol gan god a ddyroddir o dan adran 9 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau mewn perthynas â llesiant),

(ii)gweithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 (codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), a

(iii)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol mewn cod a ddyroddir o dan adran 145, a

(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.

(3)Rhaid i’r manylion a ddarperir o dan is-adran (2)(a)(ii) ddatgan sut y mae’r awrdurdod wedi bodloni unrhyw ofynion a gynhwysir mewn cod sy’n ymwneud ag asesu anghenion unigolyn yn unol â Rhan 3 a diwallu anghenion o dan Ran 4.

(4)Rhaid i adroddiad blynyddol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Diwygiadau Testunol

F77Aau. 144A-144C wedi eu mewnosod (4.9.2017 er mewnosodiad a. 144A, 29.4.2019 er mewnosodiad a. 144C, 23.2.2021 er mewnosodiad a. 144B at ddibenion penodedig) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 56(1), 188(1); O.S. 2017/846, ergl. 2(a); O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(b); O.S. 2021/181, rhl. 2(a)

144BAdroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol ar unrhyw adegau a ragnodir drwy reoliadau.

(2)Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol gynnwys—

(a)asesiad o—

(i)digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir drwy reoliadau;

(ii)y graddau y darparwyd gwasanaethau rheoleiddiedig yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod rhagnodedig hwnnw gan ddarparwyr gwasanaethau y mae adran 61 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (asesu cynaliadwyedd ariannol darparwr gwasanaeth gan Weinidogion Cymru) yn gymwys iddynt;

(iii)unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig yn ardal yr awdurdod lleol a ragnodir drwy reoliadau;

(iv)effaith comisiynu unrhyw wasanaethau gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol ar arferiad y swyddogaethau hynny yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir drwy reoliadau;

(b)adroddiad ar unrhyw gamau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod a ragnodir o dan baragraff (a)(i) yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 189(2) (dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion yn achos methiant darparwr).

(3)Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.

(4)Wrth lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol, rhaid i awdurdod lleol—

(a)ystyried—

(i)yr asesiad y mae wedi ei gyhoeddi’n ddiweddaraf o dan adran 14 (asesiadau o anghenion), a

(ii)y cynllun y mae wedi ei gyhoeddi’n ddiweddaraf o dan adran 14A ar ôl yr asesiad, a

(b)ymgynghori â phob Bwrdd Iechyd Lleol y cynhaliodd yr asesiad gydag ef.

(5)Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2)(a)(iii) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

(8)Yn yr adran hon—

(a)mae i “darparwr gwasanaeth” yr ystyr a roddir gan adran o 3(1)(c) Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(b)mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan adran 2(1) o’r Ddeddf honno.

Diwygiadau Testunol

F77Aau. 144A-144C wedi eu mewnosod (4.9.2017 er mewnosodiad a. 144A, 29.4.2019 er mewnosodiad a. 144C, 23.2.2021 er mewnosodiad a. 144B at ddibenion penodedig) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 56(1), 188(1); O.S. 2017/846, ergl. 2(a); O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(b); O.S. 2021/181, rhl. 2(a)

Dyletswydd gyffredinol Gweinidogion CymruLL+C

144CDyletswydd gyffredinol Gweinidogion CymruLL+C

Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i Weinidogion Cymru geisio hyrwyddo a chynnal safonau uchel yn y ddarpariaeth o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.]

CodauLL+C

145Y pŵer i ddyroddi codauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi, a diwygio o bryd i’w gilydd, un neu fwy o godau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (“cod”).

(2)Caiff cod osod gofynion, a chaiff gynnwys canllawiau sy’n disgrifio nodau, amcanion a materion eraill.

(3)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol—

(a)gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod (yn ddarostyngedig i adran 147), a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.

(4)Caiff cod bennu nad yw adran 147 yn gymwys i ofyniad sydd wedi ei gynnwys yn y cod.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi ar eu gwefan bob cod sydd am y tro mewn grym, a

(b)trefnu bod y codau sydd wedi eu disodli neu eu dirymu (p’un a ydynt ar eu gwefan neu fel arall) ar gael i’r cyhoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I283A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I284A. 145 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

146Dyroddi, cymeradwyo a dirymu codauLL+C

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 145, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig).

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

(5)O ran y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)bydd yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ni fydd yn cynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god (neu god diwygiedig) rhag cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Caniateir i Weinidogion Cymru ddirymu cod (neu god diwygiedig) a ddyroddir o dan yr adran hon mewn cod pellach neu drwy gyfarwyddyd.

(8)Rhaid gosod cyfarwyddyd o dan is-adran (7) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I285A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I286A. 146 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

147Gwyro oddi wrth ofynion mewn codauLL+C

(1)Pan fo’r adran hon yn gymwys i ofyniad mewn cod (gweler adran 145(4)), caiff awdurdod lleol arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn ffordd nad yw’n cydymffurfio â’r gofyniad i’r graddau—

(a)y mae’r awdurdod yn credu bod rheswm da iddo beidio â chydymffurfio â’r gofyniad mewn categorïau penodol o achosion neu i beidio â gwneud hynny o gwbl,

(b)y mae’n penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phwnc y gofyniad, ac

(c)y mae datganiad polisi a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 148 yn weithredol.

(2)Pan fo paragraffau (a) i (c) yn is-adran (1) yn gymwys—

(a)rhaid i’r awdurdod ddilyn y llwybr sydd wedi ei nodi yn y datganiad polisi, a

(b)nid yw’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r gofyniad yn y cod ond i’r graddau nad yw pwnc y gofyniad wedi ei ddisodli gan y datganiad polisi.

(3)Nid yw’r ddyletswydd i gydymffurfio â gofyniad mewn cod ymarfer neu i ddilyn y llwybr a bennir mewn datganiad polisi yn gymwys i awdurdod lleol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y cod neu’r datganiad polisi mewn achos penodol neu gategori [F78penodol] o achos.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I287A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I288A. 147 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

148Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategolLL+C

(1)Rhaid i ddatganiadau polisi a ddyroddir o dan adran 147(1) nodi—

(a)sut mae’r awdurdod lleol yn cynnig y dylai swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gael eu harfer mewn ffordd sy’n wahanol i’r gofyniad yn y cod perthnasol, a

(b)rhesymau’r awdurdod neu’r corff dros gynnig y llwybr gwahanol hwnnw.

(2)Caiff awdurdod sydd wedi dyroddi datganiad polisi—

(a)dyroddi datganiad polisi diwygiedig;

(b)rhoi hysbysiad yn dirymu datganiad polisi.

(3)Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig) ddatgan—

(a)ei fod wedi ei ddyroddi o dan adran 147(1), a

(b)y dyddiad y bydd yn cael effaith.

(4)Rhaid i awdurdod sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig), neu sy’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—

(a)trefnu bod y datganiad neu hysbysiad yn cael ei gyhoeddi;

(b)anfon copi o’r datganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I289A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I290A. 148 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

149Cyfarwyddiadau i’w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â chodau ymarferLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn barnu, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddwyd gan awdurdod lleol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn gyfan gwbl neu yn rhannol) yn debygol o arwain at arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â safon ddigonol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer swyddogaethau yn unol â’r gofyniad perthnasol yn y cod perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I291A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I292A. 149 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F79AdolygiadauLL+C

149AAdolygiadau o astudiaethau ac ymchwilLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu—

(a)astudiaethau ac ymchwil a wneir gan eraill mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru,

(b)y dulliau a ddefnyddir mewn astudiaethau ac ymchwil o’r fath, ac

(c)dilysrwydd casgliadau astudiaethau ac ymchwil o’r fath.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)llunio a chyhoeddi adroddiad ar adolygiad a gynhelir o dan is-adran (1), a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

149BAdolygiadau o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol eu harfer.

(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)adolygu’r arferiad cyffredinol o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru;

(b)adolygu’r ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol penodol eu harfer;

(c)adolygu’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol o ddisgrifiad penodol (pa un a yw wedi ei harfer gan un awdurdod lleol neu gan ddau neu ragor o awdurdodau yn cydweithio);

(d)adolygu’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol gan berson neu bersonau penodol.

(3)Mae cyfeiriad yn is-adran (2) at arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol gan awdurdod lleol yn cynnwys cyfeiriad at gomisiynu unrhyw wasanaethau mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)llunio a chyhoeddi adroddiad ar adolygiad a gynhelir o dan is-adran (1), a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch graddau y caniateir iddynt gael eu rhoi mewn perthynas â’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol benodedig.

(6)Os gwneir rheoliadau o dan is-adran (5) mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)wrth gynnal adolygiad o’r arferiad o’r swyddogaeth honno, roi gradd yn unol â’r rheoliadau, a

(b)cynnwys y radd yn eu hadroddiad ar yr adolygiad.

(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (5) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(8)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

149CFfioeddLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i awdurdod lleol dalu ffi mewn cysylltiad ag adolygiad o dan adran 149B(1).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n pennu swm unrhyw ffi neu sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu ar swm unrhyw ffi (yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau neu ffactorau eraill a bennir yn y rheoliadau);

(b)sy’n pennu’r amser ar gyfer talu ffi neu sy’n pennu ffactorau y mae Gweinidogion Cymru i benderfynu ar yr amser hwnnw yn unol â hwy.

149DYstyriaethau cyffredinolLL+C

Wrth gynnal adolygiad o dan adran 149A neu 149B, rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol sy’n cael eu hadolygu, roi sylw i—

(a)argaeledd a hygyrchedd y gwasanaethau;

(b)ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau;

(c)y ffordd y caiff y gwasanaethau eu rheoli;

(d)darbodaeth ac effeithlonrwydd eu darpariaeth a’u gwerth am arian;

(e)argaeledd ac ansawdd yr wybodaeth a ddarperir i bobl yn ardal yr awdurdod lleol ynghylch y gwasanaethau;

(f)y dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 5 (dyletswydd i hyrwyddo llesiant), 6 (dyletswyddau hollgyffredinol eraill) a 7 (dyletswyddau sy’n ymwneud ag Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig) i’r graddau y bônt yn berthnasol i’r gwasanaethau ac effeithiolrwydd y camau a gymerir gan awdurdod lleol i gyflawni’r dyletswyddau hynny;

(g)effeithiolrwydd y camau a gymerir gan awdurdod lleol i sicrhau’r canlyniadau a bennir mewn datganiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 (datganiad o ganlyniadau sy’n ymwneud â llesiant) i’r graddau y bônt yn berthnasol i’r gwasanaethau;

(h)unrhyw fesurau perfformiad a thargedau perfformiad a nodir mewn cod a ddyroddir o dan adran 9 sy’n berthnasol yn eu barn hwy;

(i)unrhyw ofynion neu ganllawiau sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 sy’n berthnasol yn eu barn hwy;

(j)y graddau y mae awdurdod lleol wedi cynnwys pobl o ardal yr awdurdod lleol—

(i)mewn penderfyniadau ynghylch y ffordd y mae ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu harfer, a

(ii)wrth adolygu’r arferiad o’r swyddogaethau hynny.]

Ymyriadau gan y llywodraeth ganologLL+C

150Y seiliau dros ymyrrydLL+C

At ddibenion y Rhan hon, mae’r seiliau dros ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol fel a ganlyn—

  • SAIL 1 - mae’r awdurdod lleol wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â dyletswydd sy’n swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol;

  • SAIL 2 - mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu, yn afresymol wrth arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol;

  • SAIL 3 - mae’r awdurdod lleol yn methu, neu’n debygol o fethu, â chyflawni swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol yn unol â safon ddigonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I293A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I294A. 150 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

151Hysbysiad rhybuddioLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau gweithredu y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd i ddelio â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio o dan is-adran (1), rhaid iddynt—

(a)o fewn 21 diwrnod o roi’r hysbysiad, osod copi ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)o fewn 90 diwrnod o roi’r hysbysiad, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol mewn ymateb i’r hysbysiad rhybuddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I295A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I296A. 151 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

152Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrrydLL+C

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

(b)os yw awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—

(a)bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sy’n galw am ymyrraeth frys o dan y Rhan hon, neu

(b)ei bod yn annhebygol y byddai’r awdurdod lleol yn gallu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 90 diwrnod i’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd yn unol â’r ymyriad.

(5)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, rhaid iddynt adolygu’n gyson yr amgylchiadau sy’n rhoi cychwyn i’r pŵer.

(6)Os daw Gweinidogion Cymru i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi cael eu trin er boddhad iddynt neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Rhan hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu casgliad.

(7)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (6).

(8)Hyd nes y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bob 6 mis o’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd yn unol â’r ymyriad.

(9)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau gweithredu yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I297A. 152 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I298A. 152 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

153Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghoriLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu i’r awdurdod wasanaethau penodedig cynghorol eu natur.

(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)Yn yr adran hon ac adran 154 ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I299A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I300A. 153 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

154Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran yr awdurdodLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod lleol neu unrhyw un o’i swyddogion y maent yn credu ei fod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau hynny y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod gyda’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan y person penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I301A. 154 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I302A. 154 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

155Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebaiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt hwy.

(3)Os gwneir cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.

Gwybodaeth Cychwyn

I303A. 155 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I304A. 155 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

156Pŵer i gyfarwyddo bod swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn cael eu harferLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 154 neu 155 ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus bod cyfarwyddyd yn ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I305A. 156 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I306A. 156 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

157Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol er mwyn delio â’r seiliau dros ymyrryd, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod lleol neu unrhyw un neu rai o’i swyddogion, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I307A. 157 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I308A. 157 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

158Ymyrryd: dyletswydd i adroddLL+C

Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i roi cyfarwyddyd o dan adran 153, 154, 155 neu 157, rhaid iddynt—

(a)o fewn 21 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)o fewn 90 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I309A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I310A. 158 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

159CyfarwyddiadauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer swyddogaeth sy’n amodol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Rhan hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodol ar gais gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I311A. 159 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I312A. 159 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

160Dyletswydd i gydweithreduLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth ag y gall yr awdurdod lleol yn rhesymol ei roi mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan, neu yn rhinwedd, y Rhan hon.

(2)Y personau yw—

(a)unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr adran hon;

(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I313A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I314A. 160 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F80GorfodiLL+C

161Pwerau mynd i mewn ac arolyguLL+C

(1)Caiff person sy’n dod o fewn is-adran (2) awdurdodi arolygydd i fynd i mewn i fangre sy’n dod o fewn is-adran (3) a’i harolygu.

(2)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)Gweinidogion Cymru—

(i)pan fônt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion adolygiad a gynhelir o dan adran 149B(1), neu

(ii)yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 155;

(b)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 153 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth o bersonau, y person y mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo i’r contract neu’r trefniant arall ag ef sy’n ofynnol drwy’r cyfarwyddyd;

(c)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 154;

(d)person a enwebir mewn cyfarwyddyd o dan adran 155.

(3)Mae’r mangreoedd a ganlyn o dod o fewn yr is-adran hon—

(a)mangreoedd y mae awdurdod lleol yn berchen arnynt neu’n eu rheoli;

(b)mangreoedd—

(i)sy’n cael eu defnyddio, neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, neu

(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn credu’n rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio, neu y gallant gael eu defnyddio, at y diben hwnnw,

ond nid yw mangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat yn dod o fewn yr is-adran hon ond os yw meddiannydd y fangre yn cydsynio i’r arolygydd fynd i mewn a’i harolygu.

(4)Mae “mangre” yn cynnwys cerbyd.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.

(6)Wrth fynd i mewn i fangre, rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson yn y fangre, gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan is-adran (1).

(7)Caiff yr arolygydd—

(a)archwilio cyflwr y fangre a’r ffordd y caiff ei rheoli ac, os oes unrhyw bersonau yn cael eu lletya yn y fangre neu’n cael gofal a chymorth yno, archwilio’r driniaeth y mae’r personau hynny yn ei chael;

(b)ei gwneud yn ofynnol i reolwr y fangre neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd fod ganddo, neu ei fod yn atebol am, ddogfennau neu gofnodion a gedwir yn y fangre, gyflwyno unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn ystyried y gallant fod yn berthnasol i’r aferiad o swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y person a awdurdododd yr arolygydd;

(c)edrych ar unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn ystyried y gallant fod yn berthnasol i’r arferiad o swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y person a awdurdododd yr arolygydd a mynd â chopïau ohonynt;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi i’r arolygydd unrhyw gyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person y mae eu hangen er mwyn galluogi’r arolygydd i gynnal yr arolygiad;

(e)cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben cynnal yr arolygiad;

(f)cyf-weld yn breifat—

(i)â rheolwr y fangre neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre;

(ii)ag unrhyw berson sy’n gweithio yno;

(iii)ag unrhyw berson sy’n cydsynio i gael ei gyf-weld sy’n cael ei letya yno neu sy’n cael gofal a chymorth yno.

(8)Mae’r pwerau yn is-adran (7)(b) i (d) yn cynnwys y pŵer—

(a)i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu eu bod yn cael eu defnyddio (neu wedi cael eu ddefnyddio) mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig o’r fath, a

(b)i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.

(9)Mae is-adran (10) yn gymwys—

(a)pan fo personau yn cael eu lletya yn y fangre sy’n cael ei harolygu neu’n cael gofal a chymorth yno,

(b)pan fo’r arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig, ac

(c)pan fo gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu nad yw person sy’n cael ei letya yn y fangre neu sy’n cael gofal a chymorth yno yn cael (neu wedi cael) gofal a chymorth priodol.

(10)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff yr arolygydd gynnal archwiliad preifat o’r person ond dim ond os yw’r person yn rhoi cydsyniad i’r archwiliad.

(11)At ddibenion is-adrannau (7)(f) a (10), mae cyfweliad neu archwiliad i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal yn breifat er gwaethaf presenoldeb trydydd parti—

(a)os yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r arolygydd yn gwrthwynebu, neu

(b)os yw’r arolygydd yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol a bod y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn cydsynio.

(12)Pan fo arolygydd yn cynnal cyfweliad neu archwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan—

(a)y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono, neu

(b)unigolyn sy’n dod gyda’r person hwnnw,

gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd a roddir o dan is-adran (1) ac, yn achos archwiliad, ddogfen sy’n dangos bod yr arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig.

(13)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygydd orffen arolygiad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd anfon adroddiad ar yr arolygiad at y person a roddodd yr awdurdodiad o dan is-adran (1).

(14)Rhaid i’r person hwnnw anfon copi o adroddiad yr arolygydd—

(a)i’r awdurdod lleol sy’n cael ei adolygu neu sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd, a

(b)os nad Gweinidogion Cymru yw’r person, at Weinidogion Cymru.

(15)Yn yr adran hon ac yn adrannau 161A, 161B a 161C, ystyr “arolygydd” yw unigolyn sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1).

161ACod ymarfer ynghylch arolygiadauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch y modd y mae arolygiadau o fangreoedd o dan adran 161 i’w cynnal (gan gynnwys amlder arolygiadau o’r fath).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig.

(3)Rhaid i arolygydd roi sylw i’r cod diweddaraf a gyhoeddwyd wrth gynnal arolygiad o dan adran 161.

161BPŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparuLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dod o fewn is-adran (2) ddarparu iddynt—

(a)unrhyw ddogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol neu gofnodion personol eraill) neu wybodaeth arall⁠—

(i)sy’n ymwneud ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, a

(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus eu cael at ddibenion adolygiad o dan adran 149A neu 149B;

(b)esboniad am gynnwys—

(i)unrhyw ddogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall a ddarperir o dan baragraff (a), neu

(ii)unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 mewn cysylltiad ag adolygiad o dan adran 149B.

(2)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)awdurdod lleol;

(b)person sy’n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)ymddiriedolaeth GIG,

ond ni ellir ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG ddarparu esboniad am gynnwys unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161.

(3)Nid yw’n ofynnol i berson ddarparu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall o dan is-adran (1) os yw’r person wedi ei wahardd rhag eu darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Mae’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.

161CTroseddauLL+C

(1)Mae’n drosedd i berson—

(a)mynd ati’n fwriadol i rwystro cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 gan arolygydd, neu

(b)methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person gan arolygydd sy’n cynnal arolygiad o’r fath.

(2)Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir ar y person gan Weinidogion Cymru o dan adran 161B(1).

(3)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1)(b) neu (2) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r gofyniad.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(5)Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.”]

RHAN 9LL+CCYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH

CydweithrediadLL+C

162Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyrLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)pob un o bartneriaid perthnasol yr awdurdod wrth arfer—

(i)eu swyddogaethau sy’n ymwneud ag oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth neu ag oedolion sy’n ofalwyr, a

(ii)eu swyddogaethau eraill y mae eu harfer yn berthnasol i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (i), a

(c)unrhyw bersonau neu gyrff eraill y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’r canlynol—

(i)oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, neu

(ii)oedolion o fewn ardal yr awdurdod sy’n ofalwyr.

(2)Rhaid i awdurdod lleol hefyd wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng swyddogion yr awdurdod sy’n arfer ei swyddogaethau.

(3)Mae’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) i’w gwneud gyda golwg ar—

(a)gwella llesiant—

(i)oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, a

(ii)oedolion o fewn ardal yr awdurdod sy’n ofalwyr;

(b)gwella ansawdd y gofal a’r cymorth i oedolion, ac ansawdd y cymorth i oedolion sy’n ofalwyr, a ddarperir yn ardal yr awdurdod (gan gynnwys y canlyniadau a sicrheir drwy’r ddarpariaeth honno);

(c)amddiffyn oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth ac sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

(4)At ddibenion yr adran hon mae pob un o’r canlynol yn bartner perthnasol i awdurdod lleol—

(a)y corff plismona lleol a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod lleol;

(b)unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r awdurdod yn cytuno y byddai’n briodol cydweithredu ag ef o dan yr adran hon;

(c)yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;

(d)unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner perthnasol i’r awdurdod;

(e)Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod;

(f)[F81Ymddiriedolaeth GIG] sy’n darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod;

(g)Gweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn cyflawni swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

(h)unrhyw berson, neu berson o unrhyw ddisgrifiad, y bydd rheoliadau yn ei bennu.

(5)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (4)(h) bennu un o Weinidogion y Goron na llywodraethwr carchar (neu yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan, y cyfarwyddwr) oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(6)Rhaid i bartneriaid perthnasol awdurdod lleol gydweithredu â’r awdurdod wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon.

(7)Caiff awdurdod lleol ac unrhyw un neu rai o’i bartneriaid perthnasol, at ddibenion trefniadau o dan yr adran hon—

(a)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill;

(b)sefydlu a chynnal cronfa gyfun;

(c)rhannu gwybodaeth â’i gilydd.

(8)At ddibenion is-adran (7) mae cronfa gyfun yn gronfa—

(a)sydd wedi ei ffurfio o gyfraniadau gan yr awdurdod a’r partner neu’r partneriaid perthnasol o dan sylw, a

(b)y caniateir i daliadau gael eu gwneud ohoni tuag at wariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau’r awdurdod a swyddogaethau’r partner neu’r partneriaid perthnasol.

(9)Rhaid i awdurdod lleol a phob un o’i bartneriaid perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (9).

(11)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;

(b)mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I315A. 162 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I316A. 162 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

163Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: plantLL+C

(1)Mae adran 25 o Ddeddf Plant 2004 (cydweithrediad i wella llesiant: Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Each local authority in Wales must also make arrangements to promote co-operation between officers of the authority who exercise its functions.

(3)Yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)The arrangements under subsections (1) and (1A) are to be made with a view to—

(a)improving the well-being of children within the authority’s area, in particular those with needs for care and support;

(b)improving the quality of care and support for children provided in the authority’s area (including the outcomes that are achieved from such provision);

(c)protecting children who are experiencing, or are at risk of, abuse, neglect or other kinds of harm (within the meaning of the Children Act 1989).

(4)Yn is-adran (4)—

(a)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)any other local authority in Wales with which the authority agrees that it would be appropriate to co-operate under this section;;

(b)ym mharagraff (f) yn lle “Assembly” rhodder “Welsh Ministers” ac yn lle “it is” rhodder “they are”;

(c)ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)such a person, or a person of such description, as regulations made by the Welsh Ministers may specify.

(5)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Regulations under subsection (4)(g) may not specify a Minister of the Crown or the governor of a prison or secure training centre (or, in the case of a contracted out prison or secure training centre, its director) unless the Secretary of State consents.

(6)Yn is-adrannau (8) a (9) yn lle “Assembly” rhodder “Welsh Ministers”.

(7)Ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(11)In this section—

  • “care and support” means—

    (a)

    care;

    (b)

    support;

    (c)

    both care and support;

  • “well-being” means well-being in relation to any of the following—

    (a)

    physical and mental health and emotional well-being;

    (b)

    protection from abuse and neglect;

    (c)

    education, training and recreation;

    (d)

    domestic, family and personal relationships;

    (e)

    contribution made to society;

    (f)

    securing rights and entitlements;

    (g)

    social and economic well-being;

    (h)

    suitability of living accommodation;

    (i)

    physical, intellectual, emotional, social and behavioural development;

    and it includes “welfare” as that word is interpreted for the purposes of the Children Act 1989.

(8)O ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan is-adran (4)(b), yn adran 66 o Ddeddf Plant 2004 (rheoliadau a gorchmynion), yn is-adran (7), ar ôl “section” mewnosoder “25 or”.

Gwybodaeth Cychwyn

I317A. 163 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I318A. 163 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

164Dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasolLL+C

(1)Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(2)Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei angen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(4)Y personau yw—

(a)partner perthnasol i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais;

(b)awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu [F82Ymddiriedolaeth GIG] nad yw’n bartner perthnasol i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais;

(c)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cais.

(5)Rhaid i awdurdod lleol a phob un o’r personau hynny a grybwyllwyd yn is-adran (4), wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (5).

(7)At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I319A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I320A. 164 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F83164A.Dyletswydd personau eraill i gydweithredu a darparu gwybodaethLL+C

(1)Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer ei swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(2)Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei hangen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(4)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol yn Lloegr;

(b)awdurdod tai lleol yn Lloegr;

[F84(c)GIG Lloegr;]

(d)unrhyw [F85fwrdd gofal integredig] , Awdurdod Iechyd Arbennig, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, neu ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(e)unrhyw bersonau eraill—

(i)a bennir gan reoliadau, neu

(ii)o ddisgrifiad a bennir gan reoliadau.

(5)Y swyddogaethau yw—

(a)swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig);

(b)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc, yn benodol y rhai hynny y mae arnynt anghenion gofal a chymorth, a’u teuluoedd ac eraill;

(c)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya;

(d)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115.

(6)Ni chaniateir i reoliadau o dan is-adran (4)(e) bennu’r personau a ganlyn heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol—

(a)un o Weinidogion y Goron, na

(b)llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr).

(7)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod tai lleol” yw awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” yn Neddf Tai 1985.]

165Hyrwyddo integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd etcLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gyda golwg ar sicrhau bod darpariaeth gofal a chymorth yn cael ei hintegreiddio â darpariaeth iechyd a darpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd pan fo’n ystyried y byddai hyn yn—

(a)hyrwyddo llesiant—

(i)plant o fewn ardal yr awdurdod,

(ii)oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, neu

(iii)gofalwyr o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am gymorth,

(b)cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion gan blant neu oedolion o fewn ei ardal am ofal a chymorth neu ddatblygiad anghenion gan ofalwyr o fewn ei ardal am gymorth, neu

(c)gwella ansawdd y gofal a’r cymorth i blant ac oedolion, a’r cymorth i ofalwyr, a ddarperir yn ei ardal (gan gynnwys y canlyniadau sy’n cael eu sicrhau drwy ddarpariaeth o’r fath).

(2)Ystyr “darpariaeth gofal a chymorth” yw—

(a)darpariaeth i ddiwallu anghenion plant ac oedolion am ofal a chymorth, a

(b)darpariaeth i ddiwallu anghenion gofalwyr am gymorth.

(3)Ystyr “darpariaeth iechyd” yw darpariaeth o ran gwasanaethau iechyd fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

(4)Ystyr “darpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd” yw darpariaeth o ran gwasanaethau a allai effeithio ar iechyd unigolion ond nad ydynt—

(a)yn wasanaethau iechyd a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd, neu

(b)yn wasanaethau a ddarperir wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(5)Ystyr “gwasanaeth iechyd” yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I321A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I322A. 165 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Trefniadau partneriaethLL+C

166Trefniadau partneriaethLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth penodedig gael eu gwneud gan—

(a)dau neu fwy o awdurdodau lleol, neu

(b)un neu fwy o awdurdodau lleol ac un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol.

(2)Mae trefniadau partneriaeth yn drefniadau ar gyfer cyflawni—

(a)swyddogaethau awdurdod lleol a bennir mewn rheoliadau—

(i)sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, neu

(ii)sydd ym marn Gweinidogion Cymru, yn cael effaith ar, neu yr effeithir arnynt gan, swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, neu

(b)swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau—

(i)sy’n swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(ii)sy’n [F86Ymddiriedolaeth GIG].

(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)sy’n pennu’r awdurdodau lleol a’r Byrddau Iechyd Lleol sydd i gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth;

(b)ynghylch ffurf trefniadau partneriaeth;

(c)ynghylch cyfrifoldeb am drefniadau partneriaeth, a dull eu gweithredu a’u rheoli;

(d)ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng y canlynol—

(i)awdurdodau lleol;

(ii)Byrddau Iechyd Lleol;

(iii)unrhyw dimau neu bersonau sy’n cyflawni trefniadau partneriaeth yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4)(b);

(iv)unrhyw fyrddau partneriaeth a sefydlir o dan reoliadau o dan adran 168.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)i awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol gyflawni unrhyw un neu rai o’r swyddogaethau a bennwyd at ddibenion is-adran (2) at ddibenion trefniadau partneriaeth;

(b)ar gyfer sefydlu timau neu ar gyfer penodi personau i roi trefniadau partneriaeth ar waith ac ar gyfer neilltuo i’r timau neu’r personau hynny unrhyw un neu rai o’r swyddogaethau a bennwyd at ddibenion is-adran (2);

(c)sy’n pennu’r personau neu’r categorïau o bersonau y mae trefniadau partneriaeth i’w cyflawni er eu lles;

(d)ar gyfer atgyfeirio personau i wasanaethau a ddarperir yn unol â threfniadau partneriaeth.

(5)Mae’r ddarpariaeth a ganiateir ei gwneud o dan is-adran (3)(c) yn cynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau partneriaeth yn cael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth a sefydlwyd o dan reoliadau o dan adran 168;

(b)ynghylch adolygu achosion a atgyfeirir yn unol â threfniadau partneriaeth;

(c)ynghylch cwynion ac anghydfodau ynglŷn ag arfer swyddogaethau yn unol â threfniadau partneriaeth;

(d)ynghylch darparu gwybodaeth am drefniadau partneriaeth;

(e)ynghylch cyfrifon ac archwilio mewn cysylltiad â swyddogaethau a gyflawnir yn unol â threfniadau partneriaeth.

(6)Nid yw trefniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)atebolrwydd Bwrdd Iechyd Lleol am arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau,

(b)atebolrwydd awdurdod lleol am arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau, na

(c)unrhyw bŵer neu ddyletswydd i adennill ffioedd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir wrth arfer unrhyw swyddogaethau awdurdod lleol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I323A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I324A. 166 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

167Adnoddau ar gyfer trefniadau partneriaethLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol dalu tuag at y gwariant a dynnir at ddibenion trefniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166 neu a dynnir yn gysylltiedig â’r trefniadau hynny—

(a)drwy wneud taliadau’n uniongyrchol, neu

(b)drwy gyfrannu at gronfa gyfun.

(2)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill at ddibenion trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cyllido trefniadau partneriaeth, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol yn sefydlu ac yn cynnal cronfa gyfun;

(b)ar gyfer dyfarnu swm y cyfraniadau sydd i’w gwneud gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol i gronfa gyfun;

(c)ynghylch gwariant ar gyfer swyddi neu gategorïau o swyddi a sefydlir at ddiben trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny;

(d)ynghylch gwariant ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn unol â threfniadau partneriaeth;

(e)ynghylch gwariant ar gyfer gweinyddu trefniadau partneriaeth;

(f)ynghylch gwariant at unrhyw ddiben arall sy’n gysylltiedig â threfniadau partneriaeth.

(4)Yn yr adran hon ystyr “cronfa gyfun” yw cronfa a sefydlwyd ac a gynhaliwyd gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol, y caniateir i daliadau gael eu tynnu ohoni tuag at y gwariant a dynnir at ddibenion trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I325A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I326A. 167 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

168Byrddau partneriaethLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i fwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166 gael ei sefydlu gan—

(a)un neu fwy o awdurdodau lleol,

(b)un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol, neu

(c)un neu fwy o awdurdodau lleol ac un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y canlynol—

(a)aelodaeth byrddau partneriaeth;

(b)talu cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i aelodau byrddau partneriaeth;

(c)amcanion a swyddogaethau byrddau partneriaeth;

(d)y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan fyrddau partneriaeth;

(e)gwaith llunio adroddiadau gan fyrddau partneriaeth ac ynghylch eu ffurf, eu cynnwys, eu hamseru a’u cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I327A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I328A. 168 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

169Canllawiau ynghylch trefniadau partneriaethLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi, ac o bryd i’w gilydd ddiwygio, canllawiau ynghylch trefniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166.

(2)Wrth arfer swyddogaethau a roddir iddynt o dan neu yn rhinwedd adrannau 166 i 168 rhaid i’r canlynol roi sylw i’r canllawiau hynny ac i unrhyw ganlyniadau a bennir mewn ddatganiad a ddyroddir o dan adran8 —

(a)awdurdod lleol;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)tîm neu berson sy’n cyflawni trefniadau partneriaeth yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd adran 166(4)(b);

(d)bwrdd partneriaeth a sefydlwyd o dan reoliadau o dan adran 168.

Gwybodaeth Cychwyn

I329A. 169 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I330A. 169 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

MabwysiaduLL+C

170Gwasanaeth mabwysiadu: trefniadau ar y cydLL+C

Ar ôl adran 3 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 mewnosoder—

3AWales – joint arrangements

(1)The Welsh Ministers may direct two or more local authorities in Wales to enter into specified arrangements with each other in relation to the provision of specified services maintained under section 3(1).

(2)Before giving a direction under this section the Welsh Ministers must consult the local authorities to which it is to be given.

(3)Specified arrangements may include (among other things) arrangements—

(a)as to the establishment and maintenance of a pooled fund;

(b)as to the provision of staff, goods, services, accommodation or other resources;

(c)for determining the amount of payment or other contribution to be made towards relevant expenditure by the authorities which are parties to the arrangements;

(d)for working in conjunction with registered adoption societies;

(e)as to the responsibility for, and the operation and management of, the arrangements;

(f)as to the establishment and operation of a panel to make recommendations as to—

(i)whether a child should be placed for adoption;

(ii)whether a prospective adopter is suitable to adopt a child;

(iii)whether a particular child should be placed for adoption with a particular prospective adopter;

(g)for resolving complaints about services provided in accordance with the specified arrangements;

(h)as to the determination of disputes between the authorities which are parties to the arrangements.

(4)Where the Welsh Ministers exercise their power of direction under subsection (1) they must within 21 days of the giving of the direction—

(a)report to the National Assembly for Wales that the power has been exercised, and

(b)lay a copy of the direction before the National Assembly for Wales.

(5)In this section—

  • “a pooled fund” is a fund made up of contributions by two or more local authorities out of which payments may be made towards relevant expenditure;

  • “relevant expenditure” is expenditure incurred in connection with the provision of services provided in accordance with the specified arrangements;

  • “specified” means specified in a direction under this section.

Gwybodaeth Cychwyn

I331A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I332A. 170 mewn grym ar 1.11.2014 gan O.S. 2014/2718, ergl. 2(a)

RHAN 10LL+CCWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 1LL+CCWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL

171Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasolLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyried cwynion ynghylch—

(a)y modd y mae awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;

(b)y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny;

(c)y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdod lleol neu berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 mewn perthynas â swyddogaethau corff GIG (o fewn ystyr “NHS body” yn yr adran berthnasol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn yn cael ei hystyried gan un neu fwy o’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol y gwneir y gŵyn amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;

(b)panel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;

(c)unrhyw berson neu gorff arall ac eithrio un o Weinidogion y Goron.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn neu unrhyw fater arall a godir gan y gŵyn—

(a)yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r gŵyn neu’r mater o dan [F87Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019] (ac yn cael ei thrin neu ei drin fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan [F88adran 3(3)] o’r Ddeddf honno);

(b)yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff arall er mwyn i’r person neu’r corff hwnnw ystyried p’un a yw am gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai sydd i’w cymryd o dan y rheoliadau.

(4)Ond ni chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cwynion y gellir eu hystyried yn sylwadau o dan adran 174 neu 176.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I333A. 171 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I334A. 171 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

172Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol: materion atodolLL+C

(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau pellach o’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 171.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau a gaiff wneud cwyn;

(b)y cwynion y caniateir, neu na chaniateir, iddynt gael eu gwneud;

(c)y personau y caniateir gwneud cwynion iddynt;

(d)y cwynion nad oes angen iddynt gael eu hystyried;

(e)y cyfnod y mae’n rhaid gwneud unrhyw gwynion ynddo;

(f)y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud ac ystyried cwyn;

(g)materion sydd wedi eu heithrio rhag cael eu hystyried;

(h)llunio adroddiad neu argymhellion ynghylch cwyn;

(i)y camau gweithredu sydd i’w cymryd o ganlyniad i gŵyn.

(3)Caiff y rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson neu gorff y gwneir cwyn amdano i wneud taliad mewn perthynas ag ystyried y gŵyn o dan y rheoliadau,

(b)ei gwneud yn ofynnol bod taliad o’r math hwnnw—

(i)yn cael ei wneud i berson neu gorff a bennir yn y rheoliadau, a

(ii)yn swm a bennir yn y rheoliadau, neu a gyfrifir neu a ddyfernir o dan y rheoliadau, ac

(c)ei gwneud yn ofynnol i banel annibynnol adolygu’r swm y gellir ei godi o dan baragraff (a) mewn achos penodol ac, os yw hynny’n briodol ym marn y panel, rhoi swm llai yn ei le.

(4)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson neu gorff sy’n ystyried cwynion o dan y rheoliadau i roi cyhoeddusrwydd i’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn o dan y rheoliadau.

(5)Caiff y rheoliadau hefyd—

(a)darparu bod gwahanol rannau o gŵyn neu agweddau gwahanol arni yn cael eu trin yn wahanol;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth neu ddogfennau yn cael eu dangos er mwyn galluogi cwyn i gael ei hystyried yn briodol;

(c)awdurdodi bod gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i gŵyn yn cael eu datgelu i berson neu gorff sy’n ystyried cwyn o dan y rheoliadau neu y mae cwyn wedi ei chyfeirio ato (er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a fyddai, fel arall, yn gwahardd y datgeliad neu’n cyfyngu arno).

(6)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cwynion sy’n codi materion sydd i’w hystyried o dan y rheoliadau a materion sydd i’w hystyried o dan weithdrefnau cwyno statudol eraill; gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth i—

(a)galluogi cwyn o’r fath i gael ei gwneud o dan y rheoliadau, a

(b)sicrhau bod materion sydd i’w hystyried o dan weithdrefnau cwyno statudol eraill yn cael eu trin fel pe baent yn faterion a godwyd mewn cwyn a wnaed o dan y gweithdrefnau priodol.

(7)Yn is-adran (6) ystyr “gweithdrefnau cwyno statudol” yw gweithdrefnau a sefydlwyd gan neu o dan ddeddfiad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I335A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I336A. 172 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

173Cynhorthwy i achwynwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—

(a)gwneud trefniadau i roi cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau sy’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, cwyn o dan reoliadau a wnaed o dan adran 171, a

(b)rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.

(2)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau y mae’n rhaid darparu cynhorthwy iddynt;

(b)y math o gynhorthwy y mae’n rhaid ei ddarparu i’r personau hynny;

(c)y personau y caniateir i’r cynhorthwy hwnnw gael ei ddarparu ganddynt;

(d)y cam neu’r camau wrth ystyried cwyn y mae’n rhaid darparu cynhorthwy mewn perthynas ag ef neu hwy;

(e)y math o gyhoeddusrwydd y mae’n rhaid ei roi i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I337A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I338A. 173 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

174Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etcLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried y canlynol—

(a)sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (3) yn gymwys iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni swyddogaeth gymhwysol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal ganddo, neu blentyn nad yw’n derbyn gofal ganddo ond y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth;

(b)sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (4) yn gymwys iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni swyddogaethau o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig) sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau;

(c)sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (5) yn gymwys iddo ynghylch y modd mae’n cyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau.

(2)Mae’r canlynol yn swyddogaethau cymhwysol at ddibenion is-adran (1)(a)—

(a)swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Rannau 3 i 6 (ac eithrio swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn fel gofalwr);

(b)swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Ran 7;

(c)swyddogaethau o dan Ran 4 neu Ran 5 o Ddeddf Plant 1989 sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau.

(3)Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau ynghylch cyflawni swyddogaethau cymhwysol) yn gymwys i’r canlynol—

(a)y plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu’r plentyn nad yw’n derbyn gofal ganddo ond y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth;

(b)rhiant y plentyn;

(c)person nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(d)rhiant maeth awdurdod lleol y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(5);

(e)darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(11);

(f)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod ganddo ddiddordeb digonol yn lles y plentyn i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(4)Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau am gyflawni swyddogaethau penodedig o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989) yn gymwys i’r canlynol—

(a)plentyn y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn perthynas ag ef;

(b)gwarcheidwad arbennig neu riant y plentyn;

(c)person sydd wedi gwneud cais am asesiad o dan adran 14F(3) neu (4) o Ddeddf Plant 1989;

(d)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod ganddo ddiddordeb digonol yn lles y plentyn i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(5)Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau am y modd y mae swyddogaethau penodedig yn cael eu cyflawni o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002) yn gymwys i’r canlynol—

(a)person a grybwyllwyd yn adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (y personau hynny y gwneir darpariaeth ar gyfer eu hanghenion gan y Gwasanaeth Mabwysiadu) ac unrhyw berson arall y mae trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu (o fewn ystyr “adoption services” yn y Ddeddf honno) yn ei rychwantu;

(b)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn barnu bod ganddo ddiddordeb digonol mewn plentyn sydd wedi ei fabwysiadu neu a allai gael ei fabwysiadu i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(6)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau (yn ddarostyngedig i is-adran (8)) fod y weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon yn sicrhau bod o leiaf un person nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol nac yn swyddog iddo yn cymryd rhan yn y camau a ganlyn—

(a)ystyried unrhyw sylw y mae’r adran hon yn gymwys iddo, a

(b)unrhyw drafodaethau sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod am y camau sydd i’w cymryd, o ganlyniad i’r ystyried hwnnw, mewn perthynas â’r person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y weithdrefn y mae’n rhaid ei sefydlu at ddibenion yr adran hon.

(8)Caiff y rheoliadau ddarparu (ymhlith pethau eraill) nad yw is-adran (6) yn gymwys mewn perthynas ag ystyried neu drafod sy’n digwydd er mwyn datrys yn anffurfiol y materion a godwyd mewn sylw.

(9)Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I339A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I340A. 174 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

175Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc: darpariaeth bellachLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo roi ystyriaeth i sylwadau y mae adran 174 yn gymwys iddynt, gydymffurfio â gofynion a osodwyd gan neu o dan is-adrannau (6) i (8) o’r adran honno.

(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.

(3)Caiff rheoliadau osod terfynau amser ar gyflwyno sylwadau y mae adran 174 yn gymwys iddynt.

(4)Pan fo sylw wedi ei ystyried o dan weithdrefn a sefydlwyd at ddibenion adran 174, rhaid i awdurdod lleol—

(a)rhoi sylw i ganfyddiadau’r personau a roddodd ystyriaeth i’r sylw, a

(b)cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i hysbysu (yn ysgrifenedig) y personau a grybwyllir yn is-adran (5) am benderfyniad yr awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad hwnnw ac am unrhyw gamau gweithredu y mae wedi eu cymryd neu y mae’n bwriadu eu cymryd.

(5)Y personau hynny yw—

(a)y person a gyflwynodd y sylw,

(b)y person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef (os yw’n wahanol), ac

(c)unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i’r awdurdod yr effeithir arno yn ôl pob tebyg.

(6)Pan fo’r person a grybwyllir yn is-adran (5)(b) neu (c) yn blentyn, dim ond pan fo’r awdurdod lleol o’r farn bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol y mae’r ddyletswydd o dan is-adran (4)(b) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I341A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I342A. 175 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

176Sylwadau sy’n ymwneud â phlant a fu gynt yn derbyn gofal etcLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau (gan gynnwys cwynion) a gyflwynir iddo gan bersonau y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 mewn perthynas â’r personau hynny.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i—

(a)personau ifanc categori 2;

(b)personau ifanc categori 3;

(c)personau ifanc categori 4;

(d)personau ifanc categori 5;

(e)personau ifanc categori 6;

(f)personau o dan 25 oed, a fyddai, pe baent o dan 21 oed—

(i)yn bersonau ifanc categori 5, neu

(ii)yn bersonau ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a).

(3)Caiff rheoliadau osod—

(a)gofynion mewn perthynas â’r weithdrefn y mae’n rhaid ei sefydlu;

(b)terfynau amser ar gyfer cyflwyno sylwadau y mae’r weithdrefn yn gymwys iddynt.

(4)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon;

(b)cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodwyd o dan is-adran (3)(a) wrth roi ystyriaeth i sylwadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.

(5)Yn yr adran hon mae i “person ifanc categori 2”, “person ifanc categori 3”, “person ifanc categori 4”, “person ifanc categori 5” a “person ifanc categori 6” yr ystyr a roddir gan adran 104.

Gwybodaeth Cychwyn

I343A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I344A. 176 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

177Rhoi ystyriaeth bellach i sylwadauLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau (gan gynnwys cwynion) sy’n dod o fewn adran 174 neu 176.

(2)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylw gan banel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;

(b)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth roi ystyriaeth bellach i sylw;

(c)ar gyfer cyflwyno argymhellion ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;

(d)ynghylch llunio adroddiadau am roi ystyriaeth bellach i sylw;

(e)ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol o dan sylw o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;

(f)bod sylw yn cael ei gyfeirio yn ôl at yr awdurdod lleol o dan sylw er mwyn i’r awdurdod ei ailystyried.

(3)Caiff y rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod taliad yn cael ei wneud, mewn perthynas â’r ystyriaeth bellach a roddir i sylw, gan awdurdod lleol y mae’r sylw wedi ei wneud amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod y taliad—

(i)yn cael ei wneud i berson neu gorff a bennir yn y rheoliadau, a

(ii)yn swm a bennir yn y rheoliadau, neu’n un a gyfrifir neu a ddyfernir oddi tanynt;

(c)ei gwneud yn ofynnol i banel annibynnol adolygu’r swm y gellir ei godi o dan baragraff (a) mewn achos penodol a rhoi, os gwêl y panel yn dda, swm llai yn ei le;

(d)darparu bod gwahanol rannau o sylw neu agweddau gwahanol arno yn cael eu trin yn wahanol;

(e)ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth neu ddogfennau yn cael eu dangos er mwyn galluogi sylw i gael ei ystyried yn briodol;

(f)awdurdodi bod gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i sylw yn cael ei datgelu neu eu datgelu i berson neu gorff sy’n rhoi ystyriaeth bellach i sylw o dan y rheoliadau (er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a fyddai, fel arall, yn gwahardd y datgeliad neu’n cyfyngu arno).

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu hefyd bod sylw neu unrhyw fater a godir gan sylw—

(a)yn cael ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r sylw neu’r mater o dan [F89Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019] (ac yn cael ei drin gan yr Ombwdsmon fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan [F90adran 3(3)] o’r Ddeddf honno);

(b)yn cael ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff er mwyn i’r person hwnnw neu’r corff hwnnw ystyried p’un a ydynt yn mynd i gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai i’w cymryd o dan y rheoliadau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I345A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I346A. 177 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

178Cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy—

(a)i blant sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 174, a

(b)i bersonau sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 176.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn cynnwys dyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy pan fo’r sylwadau hynny yn cael eu hystyried ymhellach o dan adran 177.

(3)Rhaid i’r cynhorthwy a ddarperir o dan y trefniadau gynnwys cynhorthwy ar ffurf cynrychiolaeth.

(4)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â’r trefniadau.

(5)O ran y rheoliadau—

(a)rhaid iddynt ei gwneud yn ofynnol bod y trefniadau yn sicrhau nad yw personau penodedig neu gategorïau penodedig o bersonau yn darparu cynhorthwy, a

(b)caniateir iddynt osod gofynion eraill mewn perthynas â’r trefniadau.

(6)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion a osodir gan neu o dan yr adran hon.

(7)Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I347A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I348A. 178 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

PENNOD 2LL+CCWYNION AM OFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL PREIFAT

179Ymchwilio i gwynion am ofal cymdeithasol a gofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifatLL+C

Mae Atodlen 3 (sy’n mewnosod Rhannau 2A a 2B newydd yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 i roi i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau i ymchwilio i gwynion am fathau penodol o ofal cymdeithasol a gofal lliniarol ac sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I349A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I350A. 179 mewn grym ar 1.11.2014 gan O.S. 2014/2718, ergl. 2(b)

180Gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer cwynion am ofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifatLL+C

(1)Mae adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (gwasanaethau eirioli annibynnol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (a) yn lle “or independent provider” rhodder “, independent provider or independent palliative care provider”,

(b)ym mharagraff (c) hepgorer y geiriau “or the Public Services Ombudsman for Wales”, ac

(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)a complaint to the Public Services Ombudsman for Wales which relates to a health service body or independent palliative care provider,.

(3)Yn is-adran (3) mewnosoder yn y man priodol—

  • “independent palliative care provider” means a person who is an independent palliative care provider (within the meaning given by section 34T of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005),.

Gwybodaeth Cychwyn

I351A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I352A. 180 mewn grym ar 1.11.2014 gan O.S. 2014/2718, ergl. 2(c)

PENNOD 3LL+CGWASANAETHAU EIRIOLI

181Darparu gwasanaethau eirioliLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r anghenion hynny yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol ai peidio); mae hyn yn ddarostyngedig i adran 182.

(2)Mae “gwasanaethau eirioli” yn wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.

(3)Caiff y rheoliadau bennu—

(a)y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael iddynt;

(b)yr amgylchiadau y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael odanynt;

(c)y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y caniateir, neu na chaniateir, i wasanaethau eirioli gael eu darparu ganddynt.

(4)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer rhoi gwasanaethau eirioli ar gael.

Gwybodaeth Cychwyn

I353A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I354A. 181 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

182Darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadauLL+C

(1)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 181 ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i berson—

(a)at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 173;

(b)at y diben o gyflwyno sylwadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person o dan adran 178;

(c)at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i fod ar gael o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;

(d)at ddibenion y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran [69 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] neu baragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

(e)at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol i fod ar gael o dan adran 35 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005;

(f)at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(2)Pan—

(a)bo gwasanaethau eirioli yn cael eu darparu ar gyfer person o dan adran 15, 17, 35, 36, 37 neu 38, a

(b)byddai rheoliadau o dan adran 181 (ar wahân i’r is-adran hon) yn gosod gofyniad ar awdurdod lleol i roi gwasanaethau eirioli ar gael i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r un materion,

nid yw’r gofyniad hwnnw yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I355A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I356A. 182 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

F91183Rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli mewn cartrefi gofalLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 11LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

AmrywiolLL+C

184Ymchwil a darparu gwybodaethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

(a)â’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon,

(b)â’r swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12),

(c)â swyddogaethau’r Byrddau Iechyd Lleol o dan y Ddeddf hon, neu

(d)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

(a)ag unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), neu

(b)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

(3)Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

(a)â’r modd y mae’r awdurdod yn cyflawni unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), a

(b)â’r personau y mae’r awdurdod wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

(a)â’r modd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, a

(b)â’r personau y mae wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i bartner arweiniol Bwrdd Diogelu ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad â’r modd y mae’r Bwrdd hwnnw yn cyflawni ei swyddogaethau.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gwirfoddol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad ag oedolion sydd wedi eu lletya gan y sefydliad neu ar ei ran.

(8)Rhaid cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (4), (5), (6) neu (7) drwy ddarparu’r wybodaeth ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adeg sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(9)Caiff yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu o dan is-adran (4) gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â phlant unigol ac sy’n golygu bod modd adnabod plant unigol, ond dim ond os oes angen yr wybodaeth honno er mwyn llywio—

(a)y broses o adolygu a datblygu polisi ac arfer sy’n ymwneud â llesiant plant, neu

(b)y broses o wneud ymchwil sy’n ymwneud â llesiant plant.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob blwyddyn osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru grynodeb o’r wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adrannau (4), (5), (6) a (7), ond rhaid i’r crynodeb beidio â chynnwys gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod plentyn unigol neu sy’n caniatáu i blentyn unigol gael ei adnabod.

(11)Yn yr adran hon—

  • ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134, ac

  • ystyr “partner arweiniol Bwrdd Diogelu” (“the lead partner of a Safeguarding Board”) yw’r partner Bwrdd Diogelu a bennir fel y partner arweiniol mewn rheoliadau o dan adran 134.

(12)Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1), (2) a (4) yw—

(a)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon;

(b)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol fel partner iechyd meddwl lleol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I357A. 184 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I358A. 184 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

185Oedolion mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etcLL+C

(1)Wrth ei chymhwyso i oedolyn a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at gael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid yn yr ardal honno.

(2)Wrth ei chymhwyso i oedolyn sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at breswylio mewn mangre a gymeradwywyd yn yr ardal honno.

(3)Wrth ei chymhwyso i oedolyn sy’n preswylio mewn unrhyw fangre arall yng Nghymru am fod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar yr oedolyn fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at breswylio mewn mangre yn yr ardal honno am y rheswm hwnnw.

(4)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (5) yn gymwys yn achos oedolyn—

(a)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(5)Y darpariaethau yw—

(a)adran 110 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 3);

(b)adran 112 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4);

(c)adran 114 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5);

(d)adran 115 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6).

(6)Nid yw adran 127 (gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion) yn gymwys yn achos oedolyn a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid.

(7)Gweler hefyd adran 187 am addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn perthynas â’r canlynol—

(a)oedolion a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, a

(b)oedolion sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I359A. 185 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I360A. 185 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

186Plant mewn llety cadw ieuenctid, carchar neu lety mechnïaeth etcLL+C

(1)Yn is-adran (2), ystyr “plentyn perthnasol” yw plentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar,

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(c)yn preswylio mewn unrhyw fangre arall am fod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y plentyn fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol.

(2)Pan fo plentyn perthnasol, yn union cyn iddo gael ei gollfarnu o drosedd—

(a)ag anghenion am ofal a chymorth sy’n cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan Ran 4,

(b)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn rhinwedd cael llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod, neu

(c)yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol, ond na fo’n dod o fewn paragraff (a) neu (b),

mae’r plentyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw tra bo’n blentyn perthnasol (ac nid yw i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn ardal unrhyw awdurdod lleol arall neu fel pe bai o fewn yr ardal honno).

(3)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 79 (darparu llety i blant mewn gofal);

(b)adran 80 (cynnal plant sy’n derbyn gofal);

(c)adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal);

(d)adran 82 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety);

(e)adran 109 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2);

(f)adran 114 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5);

(g)adran 115 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6);

(h)paragraff 1 o Atodlen 1 (atebolrwydd am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal).

(5)Nid yw adran 119 (defnyddio llety i gyfyngu ar ryddid) yn gymwys—

(a)mewn perthynas â phlentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(i)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, na

(b)mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.

(6)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn—

(a)sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(i)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, a

(b)yr oedd llety’n cael ei ddarparu iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf Plant 1989 yn union cyn iddo gael ei gollfarnu.

(7)Y darpariaethau yw—

(a)adran 21 (dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth);

(b)adran 37 (dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn);

(c)adran 38 (pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn).

(8)Gweler hefyd adran 187 am addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn perthynas â’r canlynol—

(a)plant a gedwir yn gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, a

(b)plant sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I361A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I362A. 186 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

187Personau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etcLL+C

(1)Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’r person—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd, yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 50 neu 51 (taliadau uniongyrchol) ei gwneud yn ofynnol na chaniatáu i daliadau gael eu gwneud tuag at y gost o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth os yw’r person hwnnw, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(3)Ni chaniateir i’r pŵer o dan adran 57 (achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol) gael ei arfer yn achos person sydd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

ac eithrio at y diben o wneud darpariaeth mewn cysylltiad â llety i’r person wrth iddo gael ei ryddhau o’r carchar neu o’r llety cadw ieuenctid (gan gynnwys ei ryddhau dros dro), neu wrth i’r person beidio â phreswylio mwyach yn y fangre a gymeradwywyd.

(4)Nid yw adran 58 (gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi) yn gymwys yn achos person—

(a)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I363A. 187 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I364A. 187 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

188Dehongli adrannau 185 i 187LL+C

(1)Yn adrannau 185 i 187—

  • mae i “carchar” yr ystyr a roddir i “prison” yn Neddf Carchardai 1952 (gweler adran 53(1) o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) yw—

    (a)

    [F92gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016);]

    (b)

    canolfan hyfforddi ddiogel;

    (ba)

    [F93coleg diogel;]

    (c)

    sefydliad troseddwyr ifanc;

    (d)

    llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant;

    (e)

    llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro [F94drwy reoliadau o dan adran 248(1)(f) o'r Cod Dedfrydu] (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi);

  • mae i “mangre a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved premises” gan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007;

  • mae i “mechnïaeth mewn achos troseddol” yr ystyr a roddir i “bail in criminal proceedings” gan adran 1 o Ddeddf Mechnïaeth 1976.

(2)At ddibenion adrannau 185 i 187—

(a)mae person sy’n absennol dros dro o garchar neu lety cadw ieuenctid i’w drin fel pe bai’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid am gyfnod yr absenoldeb;

(b)mae person sy’n absennol dros dro o fangre a gymeradwywyd i’w drin fel pe bai’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd am gyfnod yr absenoldeb;

(c)mae person sy’n absennol dros dro o fangre arall y mae’n ofynnol i’r person breswylio ynddi fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol i’w drin fel pe bai’n preswylio yn y fangre am gyfnod yr absenoldeb.

Diwygiadau Testunol

F94Geiriau yn a. 188(1) wedi eu hamnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 304(2) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2

Gwybodaeth Cychwyn

I365A. 188 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I366A. 188 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

189Methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleolLL+C

[F95(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.]

(2)Rhaid i awdurdod lleol am ba hyd bynnag ag y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol (ac i’r graddau nad yw eisoes yn ofynnol iddo wneud hynny) ddiwallu—

(a)yr anghenion hynny sydd gan oedolyn am ofal a chymorth, a

(b)yr anghenion hynny sydd gan ofalwr perthnasol am gymorth,

a oedd, yn union cyn i’r [F96darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y darparwr gwasanaeth] (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 190).

(3)Mae’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) ni waeth—

(a)p’un a yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ei ardal ai peidio;

(b)p’un a yw’r awdurdod wedi cynnal asesiad o anghenion neu asesiad ariannol ai peidio;

(c)p’un a fyddai dyletswydd fel arall ar yr awdurdod i ddiwallu’r anghenion hynny o dan y Ddeddf hon ai peidio.

(4)Caniateir i awdurdod lleol osod ffi am ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) (ac eithrio i’r graddau y mae’r anghenion hynny yn cael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth neu gyngor).

(5)Caniateir i ffi o dan is-adran (4)—

(a)cael ei gosod dim ond mewn cysylltiad ag anghenion nad oeddent, yn union cyn i’r [F97darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig], yn cael eu diwallu—

(i)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40, neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, neu

(ii)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52;

(b)cynnwys dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny.

(6)Mae adrannau 60 i 67, 70, 71 a 73 yn gymwys i osod ffi o dan is-adran (4) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i osod ffi o dan adran 59, ac yn unol â hynny mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr is-adran honno yn ddarostyngedig—

(a)i’r ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes darpariaeth), a

(b)i ddyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 ac 67 (os ydynt yn gymwys).

(7)Os nad yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo ddiwallu anghenion o dan is-adran (2)—

(a)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol arall wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40 neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(b)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau y talwyd eu cost yn llwyr neu’n rhannol gan awdurdod lleol arall drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(c)caniateir i’r awdurdod adennill oddi wrth yr awdurdod lleol arall a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) y gost y mae’n ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny sydd gan yr oedolyn neu’r anghenion hynny sydd gan y gofalwr perthnasol y cyfeirir atynt yn y paragraff o dan sylw.

(8)Mae unrhyw anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso’r adran hon i’w ddyfarnu o dan adran 195 fel pe bai’n anghydfod o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) o’r adran honno.

(9)Yn yr adran hon a (lle y bo’n berthnasol) yn adran 190 a 191—

  • [F98“mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”]

  • ystyr “gofalwr perthnasol” (“relevant carer”) yw gofalwr—

    (a)

    sy’n oedolyn, a

    (b)

    sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal i oedolyn arall;

  • [F99“mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”]

  • F100...

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

    (a)

    mewn achos sy’n ymwneud ag anghenion oedolyn am ofal a chymorth, yr oedolyn hwnnw;

    (b)

    mewn achos sy’n ymwneud ag anghenion gofalwr perthnasol am gymorth, yr oedolyn y mae angen gofal arno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I367A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I368A. 189 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

190Methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros droLL+C

(1)Nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion a oedd, yn union cyn i’r [F101darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig], yn cael eu diwallu—

(a)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014;

(b)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn yr Alban wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 12 neu 13A o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 25 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003;

(c)o dan drefniadau a wnaed gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14)) neu adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002;

(d)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed—

F102(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F103(ia)by virtue of sections 31 to 33 of the Care Act 2014,]

(ii)o ganlyniad i’r dewis a wnaed gan yr oedolyn yn unol ag adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013, neu

(iii)yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002.

(2)Wrth ddisgwyl i Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014 gychwyn, mae is-adran (1)(a) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

(a)o dan drefniadau a wnaed neu drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarparwyd gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan—

(i)Rhan 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948,

(ii)adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968,

(iii)adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,

(iv)Atodlen 20 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, neu

(v)adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000;.

(3)Wrth ddisgwyl i adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013 gychwyn, mae is-adran (1)(d)(ii) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

(ii)o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, neu.

191Methiant darparwr: materion atodolLL+C

(1)Daw awdurdod lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 189(2) cyn gynted ag y daw’n ymwybodol o’r methiant busnes.

(2)Mae adran 34 (sut i ddiwallu anghenion) ac adrannau 46 i 49 (diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadau) yn gymwys i ddiwallu anghenion o dan adran 189 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45.

(3)Caiff reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y personau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu cynnwys mewn cysylltiad â diwallu anghenion o dan adran 189(2).

(4)Pan fo person y mae ei anghenion yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan adran 189(2) ac y mae gofal parhaus y GIG hefyd yn cael ei ddarparu iddo o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol nad yw unrhyw ran o’i ardal yn ardal yr awdurdod lleol, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i’w drin fel partner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adrannau 162 a 164.

(5)Yn is-adran (4) ystyr “gofal parhaus y GIG” yw gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir yn rhinwedd adrannau 3(1)(e) a 12 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben o gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 189(2), caiff ofyn i’r [F104darparwr gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â busnes y darparwr gwasanaeth] fel y bernir yn briodol ganddo, i ddarparu gwybodaeth iddo.

(7)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth at ddibenion adran 189 a’r adran hon ynglŷn â’r dehongliad o gyfeiriadau at fethiant busnes neu at fethu â gwneud rhywbeth oherwydd methiant busnes; a caiff y rheoliadau, yn benodol, bennu’r amgylchiadau hynny lle y mae person i’w drin fel rhywun sy’n methu â [F105darparu gwasanaeth rheoleiddiedig] oherwydd methiant busnes.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I371A. 191 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I372A. 191 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

192Diwygio Deddf Cymorth Gwladol 1948LL+C

Yn adran 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (treuliau swyddogion cyngor sy’n gweithredu fel derbynyddion), ar ôl “Act” mewnosoder “, other than one in Wales,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I373A. 192 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I374A. 192 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

AtodolLL+C

193Adennill costau rhwng awdurdodau lleolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i berson sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”), a

(b)pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu naill ai—

(i)i ddiwallu anghenion brys er mwyn diogelu llesiant y person, neu

(ii)gyda chydsyniad awdurdod B.

(2)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu neu drefnu’r gofal a’r cymorth.

(3)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan adran 76(1) i blentyn a oedd (yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn) yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F106neu awdurdod lleol yn Lloegr], caiff adennill oddi wrth yr awdurdod arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu llety o dan adran 77(1) neu (2)(a) neu (b) i blentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F107neu awdurdod lleol yn Lloegr] (“awdurdod B”) ac nad yw’n cynnal y plentyn mewn—

(a)cartref cymunedol a ddarparwyd gan awdurdod A,

(b)cartref cymunedol a reolir, neu

(c)ysbyty sydd wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu unrhyw ysbyty arall a roddwyd ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, [F108GIG Lloegr] neu [F109fwrdd gofal integredig] .

(5)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(6)Ac eithrio lle y bo [F110“is-adran (7) neu (8)] yn gymwys, pan fo awdurdod lleol yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) [F111, neu o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau),] mewn perthynas â pherson nad yw’n preswylio fel arfer yn ei ardal, caiff adennill unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo mewn cysylltiad â’r person hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol [F112neu awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(7)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) gan awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson ac awdurdod B yw’r awdurdod lleol cyfrifol o fewn ystyr adran 104 ar gyfer y person hwnnw, caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

[F113(8)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau) gan awdurdod lleol yn Lloegr (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson—

(a)ac awdurdod B yw ei awdurdod cyfrifol (o fewn ystyr Rhan 3 o’r Ddeddf honno) at ddibenion adran 23B neu 23C o’r Ddeddf honno, neu

(b)y mae awdurdod B yn ei gynghori neu’n ymgyfeillio ag ef neu y mae’n rhoi cynhorthwy iddo yn rhinwedd adran 24(5)(a) o’r Ddeddf honno,

caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 o’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â’r person hwnnw.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I375A. 193 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I376A. 193 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

194Preswylfa arferolLL+C

(1)Pan fo gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth nad oes modd eu diwallu ond os yw’n byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau a bod yr oedolyn yn byw mewn llety yng Nghymru o fath a bennir felly, mae’r oedolyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

(a)yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir felly, yn yr ardal lle’r oedd yr oedolyn yn bresennol bryd hynny.

(2)Pan fo oedolyn, cyn iddo ddechrau byw yn ei lety presennol, yn byw mewn llety o fath a bennir felly (p’un a yw’r llety o’r un fath â’r llety presennol ai peidio), mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y cyfnod y dechreuodd yr oedolyn fyw mewn llety o fath a bennir felly yn gyfeiriad at ddechrau’r cyfnod y mae’r oedolyn wedi bod yn byw mewn llety o un neu fwy o’r mathau a bennir am gyfnodau olynol.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i ddyfarnu at ddibenion is-adran (1) a oes gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth na ellir eu diwallu ond os yw’r oedolyn yn byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau.

(4)Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan ddeddfiad iechyd i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

(a)yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, neu

(b)os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, yn yr ardal lle’r oedd y person yn bresennol bryd hynny.

[F114(4A)Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y mae’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw o dan yr adran honno wedi ei gosod arno.]

(5)Yn is-adran (4) ystyr “deddfiad iechyd” yw—

(a)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(b)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(c)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

(d)Gorchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14));

(e)Deddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009.

(6)Wrth ddyfarnu preswylfa arferol plentyn at ddibenion y Ddeddf hon, mae preswylfa’r plentyn yn y mannau a ganlyn i’w ddiystyru—

(a)ysgol neu sefydliad arall;

(b)man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn goruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989;

(c)man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn adsefydlu ieuenctid [F115ym Mhennod 1 o Ran 9 o'r Cod Dedfrydu];

(d)llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr;

(e)man a bennir mewn rheoliadau.

(7)Gweler hefyd adrannau 185(1) i (3) a 186(2) am ddarpariaeth o ran preswylfa arferol personau sydd mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc.

[F116(8)Am ddarpariaeth ynghylch lleoliadau trawsffiniol i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gweler Atodlen 1 i Ddeddf Gofal 2014.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I377A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I378A. 194 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

195Anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorthLL+C

(1)Mae anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf hon, neu anghydfod rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn o dan adran 56 ynghylch cymhwyso’r adran honno mewn perthynas â pherson, i’w ddyfarnu arno gan—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru at y ddiben hwnnw (“person penodedig”).

[F117(1A)Pan fo anghydfod yn un y mae adran 30(2C) o Ddeddf Plant 1989 yn gymwys iddo (cwestiynau ynghylch pa un a yw plentyn yn preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr), yna nid yw is-adran (1) yn gymwys.]

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch datrys anghydfodau o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (1); caiff y rheoliadau wneud, er enghraifft—

(a)darpariaeth i sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu i berson tra bo anghydfod heb ei ddatrys;

(b)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol mewn anghydfod gymryd camau penodedig cyn cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

(c)darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

(d)darpariaeth ynghylch adolygu dyfarniad a wneir o dan is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I379A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I380A. 195 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F118195A.Troseddau a gyflawnir gan gyrff neu bartneriaethauLL+C

(1)Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Ddeddf hon, a phrofir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall yn y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

mae’r person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2)At ddibenion yr adran hon, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau yw aelod o’r corff corfforaethol.

(3)Mae achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni o dan y Ddeddf hon gan gorff anghorfforedig i gael ei ddwyn yn enw’r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un neu rai o’i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorfforaeth.

(4)Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig pan y’i collfernir o drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu allan o gronfeydd y corff hwnnw.

(5)Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd o dan y Ddeddf hon, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn cael effaith fel pe bai corfforaeth wedi ei chyhuddo.

(6)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o’r corff neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o’r fath neu unrhyw aelod o’r fath, mae’r person hwnnw yn ogystal â’r corff yn euog o drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(7)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan bartneriaeth neu bartneriaeth yn yr Alban wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.]

CyffredinolLL+C

196Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o achosion, ardaloedd gwahanol neu at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu’n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu ddim ond mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol o achos;

(c)i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchymyn y caniateir i lys neu ynad heddwch ei wneud.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt.

(6)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau neu’r gorchmynion canlynol (p’un ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd â darpariaeth arall) gael ei wneud onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 3(6), 16(3), 18(3), 32, 37(1), 40(1), 42(1), 119, 127(9), 135(4), [F119149B(5), 149C(1),] 166, 167(3), 168 neu 181;

(b)gorchymyn o dan adran 140 neu 143(2);

(c)rheoliadau o dan adran 198 sy’n diwygio neu ddiddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu mewn un o Fesurau neu Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

[F120(ca)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 83(2B);]

[F121(d)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 144A(2)(b);]

(gweler adrannau 33 a 141 am ofynion pellach mewn perthynas â gwneud rheoliadau o dan adran 32 a gorchmynion o dan adran 140).

(7)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan yr Arglwydd Ganghellor o dan adran 101 yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan y naill neu’r llall o ddau Dŷ’r Senedd.

197Dehongli cyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwydLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “anabl” (“disabled”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “ardal Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board area”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • mae i “asesiad ariannol” (“financial assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 63;

  • ystyr “asesiad o anghenion” (“needs assessment”) yw asesiad o dan Ran 3;

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

    (a)

    cyngor sir yn Lloegr,

    (b)

    cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr lle nad oes cyngor sir,

    (c)

    cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

    (d)

    Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

  • ystyr “awdurdod lleol yn yr Alban” (“local authority in Scotland”) yw cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994;

  • mae “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • ystyr “Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Commissioning Board”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • [F122“ystyr “bwrdd gofal integredig” (“integrated care board”) yw corff a sefydlir o dan adran 14Z25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;]

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “camdriniaeth” a “cam-drin” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys camdriniaeth sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall), ac mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys y canlynol—

    (a)

    bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;

    (b)

    bod person yn cael ei dwyllo;

    (c)

    bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;

    (d)

    bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

  • mae “carchar” (“prison”) wedi ei ddiffinio—

    (a)

    at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1),

    (b)

    at ddibenion adran 134, gan adran 134(11), ac

    (c)

    at ddibenion adran 162, gan adran 162(11);

  • mae i “cartref cymunedol” (“community home”) a “cartref cymunedol a reolir” (“controlled community home”) yr ystyron a roddir i “community home” a “controlled community home” gan adran 53 o Ddeddf Plant 1989;

  • [F123o ran “cartref gofal” (“care home”)—

    (a)

    mae iddo yr un ystyr â “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr; a

    (b)

    ei ystyr yw man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion;]

  • [F124ystyr “cartref plant” (“children’s home”) yw—

    (a)

    cartref plant yn Lloegr o fewn ystyr Deddf Safonau Gofal 2000 y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag ef; a

    (b)

    [F125man yng Nghymru y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn cysylltiad ag ef i ddarparu—

    (i)

    gwasanaeth cartref gofal (o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno) yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, neu

    (ii)

    gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno);]]

  • ystyr “cartref plant preifat” (“private children’s home”) yw cartref plant nad yw’n—

    (a)

    cartref cymunedol, na

    (b)

    cartref gwirfoddol (o fewn yr ystyr a roddir i “voluntary home” gan adran 60 o Ddeddf Plant 1989);

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” (“parental responsibility”) yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw—

    (a)

    ac eithrio yn adrannau 140(2)(b), 172(7) a 198(2)(b), darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu rai o’r canlynol (pa bryd bynnag y byddant wedi eu deddfu neu eu gwneud)—

    (i)

    Deddf Seneddol;

    (ii)

    Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (iii)

    Deddf Senedd yr Alban;

    (iv)

    deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn ystyr “Northern Ireland legislation” yn Neddf Dehongli 1978);

    (v)

    is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiad sy’n dod o fewn is-baragraffau (i) i (iv);

    (b)

    yn adrannau 140(2)(b), 172(7) a 198(2)(b), darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu rai o’r canlynol (pa bryd bynnag y byddant wedi eu deddfu neu eu gwneud)—

    (i)

    Deddf Seneddol;

    (ii)

    Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (iii)

    is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiad sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu (ii);

  • ystyr “esgeulustod” (“neglect”) yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person neu, yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn);

  • mae “ffi safonol” (“standard charge”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 5 gan adran 63(3);

  • mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) yr ystyr a roddir gan adran 4;

  • mae i “gofalwr” (“carer”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • [F126“ystyr “GIG Lloegr” (“NHS England”) yw’r corff a sefydlir o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;]

  • F127...

  • mae i “gwarcheidwad arbennig” (“special guardian”) a “gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig” (“special guardianship order”) yr ystyr a roddir i “special guardian” a “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989;

  • mae “gwasanaethau” (“services”) yn cynnwys cyfleusterau;

  • mae i “llesiant” (“well-being”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • mae “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • mae “magwraeth” (“upbringing”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys gofal dros y plentyn ond nid cynhaliaeth y plentyn;

  • mae “mangre a gymeradwywyd” (“approved premises”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • mae “mechnïaeth mewn achos troseddol” (“bail in criminal proceedings”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • ystyr “meini prawf cymhwystra” (“eligibility criteria”) yw meini prawf a osodir o dan adran 32;

  • ystyr “niwed” (“harm”), mewn perthynas â phlentyn, yw camdriniaeth neu nam ar—

    (a)

    iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu

    (b)

    datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol,

    a phan fo’r cwestiwn a yw’r niwed yn sylweddol yn troi ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, mae iechyd neu ddatblygiad y plentyn i’w gymharu â’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol gan blentyn tebyg;

  • mae i “oedolyn” (“adult”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • ystyr “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” (“specified”) ac ymadroddion cytras, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw penodedig mewn rheoliadau;

  • ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â phlentyn, yw llys-riant, tad-cu/taid, mam-gu/nain, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);

  • mae i “plentyn” (“child”) [F128, ac eithrio yn adran 83(2C),] yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”), ac eithrio mewn perthynas ag adran 101, yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • [F129ystyr “rhiant maeth awdurdod lleol” (“local authority foster parent”) yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd—

    (a)

    adrannau 87 a 93;

    (b)

    paragraff 12F o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol);]

  • ystyr “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff (ac eithrio corff cyhoeddus neu [F130awdurdod lleol]) nad yw ei weithgareddau’n cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;

  • mae i “swyddog achosion teuluol Cymru” (“Welsh family proceedings officer”) yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” gan adran 35 o Ddeddf Plant 2004;

  • ystyr “swyddogaeth” (“function”) yw pŵer neu ddyletswydd;

  • mae i “swyddogaethau addysg” (“education functions”) yr ystyr a roddir i “education functions” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “terfyn ariannol” (“financial limit”) yr ystyr a roddir gan adran 66(5);

  • mae “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac unrhyw berson arall y mae’r plentyn wedi bod yn byw gydag ef;

  • ystyr “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yw tîm a sefydlir o dan adran 39 o Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” (“NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care trust”) yw ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991 (O.S. 1991/194 (N.I. 1));

  • mae i “Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG” (“NHS Foundation Trust”) yr ystyr a roddir i “NHS Foundation Trust” gan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae i “ysbyty” (“hospital”) yr ystyr a roddir i “hospital” gan adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • mae i “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”)—

    (a)

    o ran Cymru, yr ystyr a roddir i “independent hospital” gan adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a

    (b)

    o ran Lloegr, yr ystyr a roddir i “hospital” fel y’i diffinnir gan adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 nad yw’n ysbyty gwasanaeth iechyd fel y diffinnir “health service hospital” gan yr adran honno.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr ystyr a roddir gan adran 74;

[F131(b)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yr ystyr a roddir i gyfeiriad yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989 at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr;]

(c)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn yr Alban yr un ystyr â chyfeiriad ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 at blentyn sy’n derbyn gofal (“looked after”) gan awdurdod lleol (gweler adran 17(6) o’r Ddeddf honno);

(d)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr un ystyr â chyfeiriad yng Ngorchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (O.S. 1995/755 (N.I. 2)) at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod (gweler erthygl 25 o’r Gorchymyn hwnnw).

(3)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn sydd o dan ei ofal yn rhinwedd gorchymyn gofal (o fewn yr ystyr a roddir i “care order” gan Neddf Plant 1989).

(4)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn gyfeiriad at lety a ddarperir felly wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod hwnnw neu unrhyw awdurdod lleol arall sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(5)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at y ffaith bod gan, neu nad oes gan, berson alluedd mewn perthynas â mater i’w ddehongli fel cyfeiriad at y ffaith bod gan, neu nad oes gan, berson alluedd o fewn ystyr “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn perthynas â’r mater hwnnw.

(6)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at gael awdurdodiad o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn gyfeiriad at gael awdurdodiad fel—

(a)rhoddai atwrneiaeth arhosol a grëwyd o dan y Ddeddf honno, neu

(b)dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o’r Ddeddf honno.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod Cyngor Ynysoedd Scilly i’w drin fel awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion y Ddeddf hon, neu at ddibenion darpariaethau penodol y Ddeddf hon, gydag unrhyw addasiadau a bennir.

Diwygiadau Testunol

F124Geiriau yn a. 197(1) wedi eu hamnewid (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 36(b); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag ergl. 6)

Gwybodaeth Cychwyn

I382A. 197 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

198Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etcLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill)—

(a)darparu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n dod i rym cyn bod unrhyw ddarpariaeth arall wedi dod i rym yn cael effaith, hyd nes y bydd y ddarpariaeth arall honno wedi dod i rym, gydag addasiadau penodedig;

(b)diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon) a basiwyd neu a wnaed ar neu cyn y dyddiad y caiff y Ddeddf hon ei phasio.

(3)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n cyfyngu’r pŵer yn rhinwedd adran 196(2) i gynnwys darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn gorchymyn o dan adran 199(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I383A. 198 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

199CychwynLL+C

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

  • Rhan 1;

  • adran 196;

  • adran 197;

  • adran 198;

  • yr adran hon;

  • adran 200.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(3)Caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (2) bennu gwahanol ddiwrnodau at wahanol ddibenion.

(4)Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (2) gychwyn y ddarpariaeth yn is-adrannau (1) a (2) o adran 32 cyn bod rheoliadau a wneir o dan is-adrannau (3) a (4) o’r adran honno wedi dod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I384A. 199 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

200Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I385A. 200 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open This Act without Schedules only

This Act without Schedules only you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open This Act without Schedules only as a PDF

This Act without Schedules only you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill